Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gyfarfod 4, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Joan Butterfield,
Jeanette Chamberlain-Jones, Pat Jones a Peter Scott. Mynegodd y
pwyllgor ei gydymdeimlad tuag at y Cydlynydd Craffu a'r cyfieithydd o ganlyniad
i’w profedigaethau diweddar. Yn ogystal â chydymdeimlo dymunodd y pwyllgor
adferiad buan i’r Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitemau 5, 6, 7 ac 8 yn y
rhaglen gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 306 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2019
(copi ynghlwm). 10.05am – 10.10am Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019. Materion yn codi
- ·
Tudalen
8 – Codwyd mater Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a chyflogi Swyddog
Rhostir, nid oedd yna wybodaeth ychwanegol ar y mater. PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a
gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019 fel cofnod cywir. |
|
YSBYTY DINBYCH Cael cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn amlinellu’r
canlynol: (i)
y
cynnydd hyd yma mewn perthynas ag ail ddarparu gwasanaethau yn Inffyrmari
Dinbych a chynlluniau’r Bwrdd ar gyfer gwella gwasanaethau’r cyfleuster yn y
dyfodol; (ii)
gweledigaeth
y Bwrdd Iechyd a phartneriaid ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
y dyfodol yn ardal Dinbych 10.10am – 10.45am Cofnodion: Cyflwynodd Bethan
Jones, Cyfarwyddwr Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) y
cyflwyniad - Ysbyty Dinbych. Hefyd yn bresennol o BIPBC roedd Alison Kemp,
Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol, Gwasanaethau Cymunedol. Amlygodd y
cyflwyniad sawl maes yn ymwneud ag ysbyty Dinbych, hysbyswyd y pwyllgor fod 17
gwely i gleifion mewnol wedi eu hatal yn ward Lleweni, roedd y gostyngiad hwn
yn golygu fod 23 gwely yn parhau ar agor. Lliniarwyd effaith y gostyngiad mewn
gwelyau drwy leoli cleifion eraill yn Rhuthun a Threffynnon. Byddai ward
Lleweni yn costio tua £10-£12 miliwn i’w hail agor, roedd y ward wag yn cael ei
defnyddio dros dro i gartrefu’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn yr ardal. Y camau
nesaf ar gyfer yr ysbyty oedd prosiect iechyd, gofal cymdeithasol a thrydydd
sector ar y cyd a oedd wedi ei sefydlu a'i ariannu gan gyfalaf y Gronfa Gofal
Integredig. Roedd y tîm wedi drafftio manylion ar gyfer partner i alluogi
astudiaeth ddichonoldeb ar gyfleusterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Ninbych.
Byddai’r adolygiad yn cynnwys - ·
Cyfeiriad strategol wedi ei gadarnhau drwy gyd-gynhyrchu
gyda budd-ddeiliaid ·
Dadansoddiad
o’r modelau gofal presennol ac i ragweld yr angen yn y dyfodol ·
Datblygu
modelau lefel uchel ·
Ymgysylltu
ar fodelau gyda budd-ddeiliaid craidd, grwpiau gyda nodweddion a ddiogelir a
grwpiau anodd eu cyrraedd ·
Ymgysylltiad
ehangach gyda'r cyhoedd ar ddewisiadau ar y rhestr fer ·
Astudiaeth
ddichonoldeb a dewisiadau wedi'u pwysoli Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol: ·
Holwyd
ynglŷn â cholli’r gwelyau ac a oedd yna welyau ychwanegol ar gael mewn
ysbytai eraill. Hysbyswyd aelodau fod yna 5 gwely
ychwanegol ar gael yn Rhuthun, sicrhawyd aelodau fod y gwelyau yn cael eu
monitro’n ddyddiol. Nodwyd hefyd mai’r bwriad a’r targed oedd i sicrhau y
byddai iechyd cleifion yn gwella ac y gallant gael eu symud yn ôl i ofal nyrsio
neu eu cartrefi. ·
Codwyd
mater y mesurau ariannol arbennig yr oedd BIPBC wedi ei roi ynddynt ac amlygwyd
pryderon ynglŷn â chydweithredu o ganlyniad i’r trafferthion ariannol o fewn BIPBC. Hysbyswyd aelodau fod BIPBC yn parhau mewn
mesurau arbennig. Ond y byddai cydweithredu o fudd, gyda’r boblogaeth yn
heneiddio a’r pwysau parhaus, er mwyn sicrhau fod anghenion cleifion yn cael eu
bodloni. ·
Holodd
y pwyllgor ynglŷn â’r terfynau amser oedd yn cael eu dangos yn y
cyflwyniad ac eraill sydd wedi eu dangos yn ymwneud ag Ysbyty Dinbych, roedd y
terfynau amser yn wahanol. Hefyd amlinellwyd ei bod yn ymddangos nad
yw’r materion a nodwyd o fewn y terfynau amser fel pe baent wedi eu gweithredu.
Ymatebodd swyddogion y byddai’n ymddangos fod y gwaith yn dod yn ei flaen yn
araf, roedd hyn o ganlyniad i’r mesurau arbennig yr oedd BIPBC ynddynt ar hyn o
bryd, fe allai’r gwaith ymddangos fel ei fod yn dod yn ei flaen yn araf ond
byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau. ·
Holodd
y pwyllgor swyddogion o BIPBC a allai gwasanaethau ychwanegol, fel mân
anafiadau, gael eu cynyddu yn Ysbyty Dinbych a fyddai’n lleihau’r pwysau ar
Glan Clwyd. Dywedwyd wrth y pwyllgor fod yna gynnydd
eisoes wedi bod yn ysbyty Dinbych, roedd cefnogaeth pelydr x wedi ei gynyddu ac
roedd cynlluniau i agor ar y penwythnos yn cael eu trafod. ·
Amlygwyd
effaith carbon BIPBC ac a oedd yna gynlluniau i wneud eu hadeiladau’n fwy
carbon effeithiol. Hysbyswyd y pwyllgor fod yna gynlluniau i
BIPBC leihau’r effaith o ran carbon gan nifer o wasanaethau. PENDERFYNWYD fod
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn nodi'r cyflwyniad ar Ysbyty Dinbych. |
|
PROSIECT YSBYTY CYMUNEDOL GOGLEDD SIR DDINBYCH Cael cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y cynnydd a wnaed
hyd yma o ran darparu'r prosiect hwn 10.45am – 11.15am Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Bethan Jones,
y cyflwyniad ar Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych. Hefyd yn
bresennol o BIPBC roedd Alison Kemp, Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol,
Gwasanaethau Cymunedol. Atgoffwyd y
pwyllgor o gefndir y prosiect oedd yn anelu i foderneiddio Ysbyty Brenhinol Alexandra
a chynnwys gwasanaethau newydd yn yr ardal. Roedd y prosiect yn anelu i
adeiladu uned glinigol newydd ar y safle ochr yn ochr ag adnewyddu’r adeilad
rhestredig gradd II presennol. Y gwasanaethau newydd a fyddai’n cael eu darparu
fyddai: ·
Ward
i gleifion mewnol, ·
Gwasanaethau
ar yr un diwrnod ar gyfer mân anafiadau ac anhwylderau ·
Canolbwynt
lles yn ogystal â chaffi cymunedol. Hefyd amlinellwyd
y cynnydd gyda’r prosiect, a oedd fel a ganlyn: ·
Rhoddodd
Llywodraeth Cymru (LlC) gymeradwyaeth i fynd ymlaen i’r cymal achos Busnes
Llawn yn 2019. ·
Daethpwyd
â thîm prosiect ynghyd ochr yn ochr â Gleeds a Global Property and Construction
Consultants ·
Cyflwynodd
BIPBC a Gleeds ail dendr a chadarnhau Kier Construction fel y Partner Cadwyn
Gyflenwi ar gyfer y cynllun ·
Datblygwyd
model fforddiadwyedd diwygiedig yn unol â chais LlC. ·
Dyluniad
manwl, Cais Cynllunio a chwblhau’r Achos Busnes Terfynol yn 2020. Byddai’r amserlen
ar gyfer y prosiect yn profi’n anodd. Ond roedd y swyddogion yn credu bod modd
ei gyflawni, hysbyswyd y pwyllgor y byddai yna sawl her allweddol yn wynebu’r
prosiect. Ymhlith y rhain roedd darpariaeth barhaus a mynediad gan staff a
defnyddwyr gwasanaeth yn ystod yr adeiladu ac ymgysylltu gyda’r cyhoedd a’u
canfyddiad hwy o oedi. Y gobaith yw y byddai’r safle yn cael ei gwblhau ym
Mehefin 2023. Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth: ·
Rhoddwyd
sicrwydd i’r pwyllgor y byddai adeilad Brenhinol Alexandra ar ei ffurf
bresennol yn parhau a byddai’r prosiect newydd yn cael ei godi yng nghefn yr ysbyty.
·
Holwyd
ynglŷn â’r oedi gyda’r prosiect a pham roedd yn digwydd. Hysbyswyd aelodau fod BIPBC wedi bod drwy
amseroedd cythryblus ac nad oedd hynny wedi bod o gymorth gyda'r prosiect. Nid
oedd yr oedi wedi ei achosi gan LlC, roedd y prosiect fel unrhyw brosiect arall
ac roedd angen llawer o waith i sicrhau y byddai'n cael ei gyflawni. Diolchodd
swyddogion hefyd i’r Aelod Cynulliad lleol a oedd wedi bod yn gefnogol iawn i'r
prosiect. ·
Byddai’r
prosiect yn ystyried ei ôl troed carbon wrth adeiladu'r clinig newydd ac
adnewyddu adeilad presennol Ysbyty Brenhinol Alexandra. PENDERFYNWYD fod
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf ar Brosiect
Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych. Ar y pwynt hwn (11.30 am) roedd 10 munud o egwyl. Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.40 a.m. |
|
PROSIECTAU CYFALAF Y BWRDD IECHYD YN SIR DDINBYCH Cael cyflwyniad
gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i roi’r wybodaeth
ddiweddaraf i aelodau ar y cynnydd a wnaed hyd yma: (i)
o ran
darparu ystod o brosiectau Bwrdd Iechyd yn Sir Ddinbych; ac (ii)
o ran
datblygiad y Timau Adnoddau Cymunedol 11.30am – 12pm Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Bethan Jones,
y cyflwyniad ar Brosiectau Cyfalaf y Bwrdd Iechyd yn Sir Ddinbych. Hefyd yn
bresennol o BIPBC roedd Alison Kemp, Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol,
Gwasanaethau Cymunedol. Roedd y prosiect
sy’n mynd yn ei flaen ar hyn o bryd yn ymwneud ag adleoli gwasanaethau o Glinig
Mount Street a datblygu Ysbyty Cymunedol Rhuthun. Roedd cynnydd eisoes wedi ei
wneud o ran y prosiect a oedd wedi ei gymeradwyo gan BIPBC ar 5 Medi 2019.
Roedd wedyn wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru (LlC) ar 6 Medi ac roedd ar hyn
o bryd yn mynd drwy broses graffu LlC. Roedd disgwyl cadarnhad o'r broses gan LlC
erbyn dechrau 2020 ac roedd disgwyl i’r datblygiad gymryd 55 wythnos o’i
sefydlu a fyddai gobeithio yn golygu gorffen y prosiect yn 2021. Hysbyswyd aelodau
y byddai'r gwasanaethau ambiwlans oedd wedi eu lleoli yng Nghlinig Mount Street
yn cael eu hadleoli i’r orsaf dân yn Rhuthun. Canmolodd y
pwyllgor y prosiect a hefyd y swyddogion am fynychu'r cyfarfod i ateb
ymholiadau gan aelodau. PENDERFYNWYD fod
y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn nodi'r wybodaeth ddiweddaraf ar Brosiectau
Cyfalaf y Bwrdd Iechyd yn Sir Ddinbych. |
|
CYTUNDEB CYLLIDEBAU CYFUN AR GYFER LLETY CARTREFI GOFAL I BOBL HŶN 2019-20 PDF 220 KB Ystyried
adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Prif Gyfrifydd, a'r Pennaeth
Cydweithio Rhanbarthol (copi ynghlwm) sy'n ceisio sylwadau'r Pwyllgor ar y
cynnydd a wnaed yn rhanbarthol mewn perthynas â sefydlu cronfa gyfun ar gyfer
llety cartrefi gofal i bobl hŷn. 12pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad ar y Cytundeb Cyllidebau
Cyfun ar gyfer Llety Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn 2019-20 (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar nifer o feysydd
yn nhrefniadau’r cyllidebau cyfun. Atgoffwyd y
pwyllgor fod y Cabinet ym mis Gorffennaf 2019 wedi derbyn yr wybodaeth
ddiweddaraf ar sefydlu’r gronfa gyfun sengl ranbarthol heb risg a rennir ar
gyfer swyddogaethau llety cartrefi gofal. Cytunodd y Cabinet i Gyngor Sir
Ddinbych (CSDd) gynnal y swyddogaeth am gyfnod o dair blynedd. Hysbyswyd y
pwyllgor nad oedd yna risg ariannol ynghlwm â chynnal gan fod pob awdurdod yn
cyfrannu a bod cyllid grant hefyd yn cael ei ddefnyddio. Hysbyswyd y pwyllgor
fod oedi wedi bod yn ymwneud â’r broses gymeradwyo gyda'r Bwrdd Iechyd a oedd
wedi creu oedi o ran trosglwyddo’r cronfeydd. Ond cytunwyd ar y broses ers
hynny a byddai’r trosglwyddiad yn digwydd yn nhrydydd chwarter 2020. Nodwyd
hefyd y ceisiwyd cadarnhad a oedd angen trosglwyddiad cronfeydd ôl-weithredol
ar gyfer chwarteri 1 a 2. Canmolodd y
pwyllgor yr adroddiad a’r wybodaeth ond codwyd pryderon am natur
gydweithrediadol y cyllidebau cyfun yn arbennig gyda’r Bwrdd Iechyd gan eu bod
mewn mesurau ariannol arbennig, a cheisiwyd sicrwydd na fyddai yna unrhyw risg
i’r awdurdod fel awdurdod cynnal ar gyfer y cyllidebau cyfun. Rhoddwyd sicrwydd
i’r pwyllgor nad oedd yna unrhyw risgiau i CSDd fel yr awdurdod cynnal gan fod
yna fesurau priodol mewn grym er mwyn iddo allu amddiffyn ei hun rhag risgiau
ariannol a risg i'w enw da. PENDERFYNWYD fod Y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau yn nodi adroddiad y Cytundeb Cyllidebau Cyfun ar gyfer Llety
Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn 2019-20 |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 236 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol. 12.30 pm – 12.45 pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn
gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor, gan roi’r wybodaeth
ddiweddaraf ar faterion perthnasol. 13 Chwefror
2020 – Fod y Cynghorwyr Brian Jones a Tony Thomas yn cael eu gwahodd i fod yn
bresennol ar gyfer Polisïau Cynnal Llain Las a Gwrychoedd Priffyrdd a Chais am
Blaladdwyr y Cyngor a'r Asiantaeth Cefnffyrdd. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn Atodiad 1 i’r
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU Derbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y
Cyngor. Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i ben am 12:05 p.m. |