Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGANIADAU O GYSYLLTIAD

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 340 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Medi  2019 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019.

 

Ar y pwynt hwn, canmolodd y Cadeirydd safon y cofnodion gan ddiolch i staff y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

 

5.

AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 766 KB

Ystyried dogfen ymgynghori gyhoeddus (copi ynghlwm) i roi cyfle i'r Pwyllgor gyfrannu syniadau tuag at ddatblygiad Strategaeth Amgylcheddol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

10.05 a.m. – 10.45 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cynorthwyol, Shân Morris, y cyflwyniad - Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru - Strategaeth yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd (dosbarthwyd yn flaenorol).  Hefyd yn bresennol o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (yr Awdurdod) oedd Kevin Roberts, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, a Pippa Hardwick, Rheolwr Cynllunio Corfforaethol.

 

Eleni, roedd yr Awdurdod wedi bod yn gofyn i awdurdodau lleol am ddatblygu Strategaeth yr Amgylchedd a Chynaliadwy hirdymor.  Beth ddylai’r Strategaeth ei chynnwys?  Beth ddylai fod yn flaenoriaeth i’r Awdurdod o ran cynllunio ar gyfer yr 20 neu 30 mlynedd nesaf?  Pa syniadau sydd gan y Pwyllgor Craffu ar gyfer y gwasanaethau a allai eu darparu yn y degawdau nesaf?

 

Yn ystod y drafodaeth codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Cadarnhawyd bod yr Awdurdod wedi gweithio’n agos gydag adrannau gofal cymdeithasol cynghorau, sectorau iechyd a thrydydd sectorau i allu cysylltu â dinasyddion mwyaf diamddiffyn yr ardal. 

Cafodd 20,000 o wiriadau cartref eu cynnal a nifer y galwadau i fynd allan wedi lleihau o 50% dros y 10 mlynedd diwethaf.  Yn ystod gwiriadau cartref, cafodd problemau megis diogelwch a cham-drin domestig eu hatgyfeirio i'r cyngor.

 

Cynhaliwyd trafodaethau rhwng yr Awdurdod a Gofal a Thrwsio.  Mae Gofal a Thrwsio yn elusen sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.  Maen nhw’n cynnig cymorth ymarferol, o ddarparu addasiadau mawr i'r bobl fwyaf anghenus i gynnig cyngor ac argymhellion i bobl sydd angen gweithwyr proffesiynol dibynadwy i wneud gwaith.  Byddai cyfranogiad Gofal a Thrwsio yn galluogi i un sefydliad gynnal nifer o swyddi, a fyddai’n well ar gyfer unigolion diamddiffyn yn ogystal â’r amgylchedd.

 

·         Tynnwyd sylw at gyflogaeth Swyddog Rhostiroedd. 

Cadarnhawyd y byddai Sir Ddinbych yn debygol o fod yn barod i gynnal y swydd gyda thrafodaethau yn digwydd ar hyn o bryd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ynghylch cyllid.  Hyd yma, doedd dim mwy o wybodaeth o ran pryd y byddai'r swydd Swyddog Rhostiroedd yn cael ei gadarnhau.

 

·         Esboniodd y Prif Weithredwr Bolisi Trydan yn Gyntaf Sir Ddinbych. 

Pe bai cerbyd ar fin cael ei newid, byddai cerbyd trydan yn dod yn ei le lle bynnag y bo hynny'n bosibl.  Cadarnhaodd Shân Morris nad oedd Polisi o’r fath ar waith yn yr Awdurdod.  Cytunwyd y dylid rhannu’r Polisi Trydan yn Gyntaf gyda'r Awdurdod i helpu.

 

·         Trefnwyd yr ymateb brys o amgylch 44 o orsafoedd tân ledled Gogledd Cymru gyda fflyd o 54 o beiriannau tân a 35 o offer eraill gan gynnwys unedau diogelu'r amgylchedd, llwyfannau ysgolion awyr, cerbydau mynediad cul, cludwyr ewyn, cychod, achub technegol ac unedau gorchymyn digwyddiadau. 

Cynhaliodd fflyd “gwyn” o dros 100 o gerbydau ar gyfer gwaith nad yw o natur frys hefyd.  Gellid newid y fflyd o gerbydau “gwyn” am gerbydau trydan mewn amser, ond ni ellid gwneud yr un fath gyda’r cerbydau “coch”.

 

·         Roedd 71% o gyllideb yr Awdurdod ar gyfer costau gweithwyr. 

20% yn gostau di-dâl. 10% ar gyllid cyfalaf a chyfwerth ag 1% yn dod drwy incwm.

 

·         Sut y  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYLLIDEBAU CEFNOGAETH AR GYFER POBL AG ANGHENION CYMORTH A GOFAL CYMWYS pdf eicon PDF 432 KB

Ystyried adroddiad gan yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi ynghlwm) yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd a wnaed o ran datblygu, hyrwyddo a lledaenu cyllidebau cymorth i bobl sy’n gymwys i’w derbyn.

10.45 a.m. – 11.30 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Les ac Annibyniaeth, y Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad Cyllidebau Cymorth i Bobl ag Anghenion Gofal a Chefnogaeth Cymwys (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi sicrwydd o gyflawniad yn erbyn blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor sy'n ymwneud â chreu cymunedau cryf a chyflawni amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.

 

Roedd cyllidebau cymorth yn  rhan o newid sylfaenol ym mholisi ac ymarfer gofal cymdeithasol, yn gofyn am  newid arwyddocaol i systemau, prosesau, diwylliant ac ymarfer ym maes gofal cymdeithasol oedolion. 

 

Roedd Cyllidebau Cymorth yn galluogi i ddinasyddion ddeall faint yw cost eu gofal, gan ganiatáu iddynt weithio gydag awdurdodau lleol i gytuno ar y defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o adnoddau.

 

Ar ôl cytuno ar y deilliannau cymwys, bydd yr asesydd a'r dinesydd yn defnyddio'r Olwyn Adnoddau - proses lle maen nhw’n cytuno pa ofal a chymorth oedd ar gael drwy'r asedau ar gael iddynt e.e. eu teulu, yr eglwys, ffrindiau, grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol.

 

Yn ystod trafodaethau manwl, codwyd y pwyntiau canlynol:

·         Cadarnhawyd bod pob sefyllfa wedi'i hasesu yn ôl ei haeddiant ei hun.

·         Byddai gwaith monitro'r cynllun gofal a reolir yn cael ei wneud trwy adolygiadau rheolaidd.

·         O ran bod y system yn fwy cost effeithiol, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol nad oedd y cyllidebau wedi'u gwahanu ar hyn o bryd, ond byddai'n cysylltu â’r adran gyllid i ddarganfod a ellid hwyluso dadansoddiad.

·         Roedd llyw-wyr cymunedol yn gyswllt â'r gwasanaethau cymdeithasol ac roedd disgwyl hefyd i staff Sir Ddinbych sy'n gweithio yn y gymuned sianelu a nodi unrhyw bobl sydd angen cymorth.

·         Mae gan Sir Ddinbych berthynas waith dda gyda CAB, sy’n is-gontractio i’r Siop Cyngor Budd-daliadau. 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn cydnabod y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygu, hyrwyddo a lledaenu cyllidebau cymorth i bobl sy’n gymwys i’w cael.

 

 

Ar y pwynt hwn (11.30 am) cafwyd egwyl o 10 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.40am.

 

 

7.

UN LLWYBR MYNEDIAD AT DAI (SARTH) pdf eicon PDF 212 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Swyddog Arweiniol, Tai Cymunedol, a’r Prif Weithredwr, Cymdeithas Tai Clwyd Alyn (copi ynghlwm) ar effeithiolrwydd y bartneriaeth newydd o ran helpu pobl i gael llety o fewn amser resymol.

11.45 a.m. – 12.30 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau yr adroddiad Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i fanylu ar weithrediad SARTH sy’n delio â sut caiff ceisiadau am dai cymdeithasol eu rheoli.

 

SARTH yw “Un Llwybr Mynediad at Dai”, sef yr enw a roddir ar y polisi Dyrannu Tai Cyffredin rhwng cynghorau Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Chonwy, ynghyd â’r Cymdeithasau Tai (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) sydd yn gweithredu yn y siroedd hyn.

 

Roedd y polisi yn sicrhau bod dyraniadau tai cymdeithasol yn cael eu darparu yn unol â’r ddeddfwriaeth tai (Deddf Tai 1996, Tai (Cymru) 2014) a Chod Canllawiau ar gyfer Dyrannu Llety.  Roedd hyn yn angenrheidiol i liniaru’r risg o her gyfreithiol ond hefyd i sicrhau y dyrannwyd tai i’r rhai sydd â'r angen fwyaf.

 

Cafodd gweithrediad cyffredinol y polisi ei fonitro gan Grŵp Llywio Rhanbarthol a oedd yn cynnwys Cyngor Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.   

 

Tra roedd y polisi yn bartneriaeth ar y cyd rhwng y 3 sir, roedd darparu’r gofrestr tai cyffredin yn gyfrifoldeb unigol i bob sir.  Yn Sir Ddinbych, roedd un cofrestr ar gyfer yr holl dai cymdeithasol sy’n cael eu gosod gan y cyngor, a’r 6 Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sydd yn gweithredu o fewn Sir Ddinbych. 

 

O ran darpariaeth weithredol cofrestr gyffredin Sir Ddinbych, gwnaed penderfyniad ym mis Medi 2016 i fynd mewn partneriaeth â Chyngor Sir y Fflint, gan eu bod eisoes yn darparu’r gwasanaeth ac wedi bod drwy’r broses o newid sylweddol i sicrhau gweithrediad didrafferth o’r gwasanaeth.

 

Roedd y gwasanaeth yn cynnwys ymdrin â dros 300 o alwadau yr wythnos.  Cafodd achosion eu cyfeirio’n aml at wasanaethau eraill megis Atal Digartrefedd, Gorfodi Tai, Tai Teg a gwasanaethau cynnal hefyd.  Roedd ymdrin â galwadau a gohebiaeth ysgrifenedig yn cynnwys brand Sir Ddinbych a nid oedd cwsmeriaid yn ymwybodol o leoliad y staff. 

 

Roedd cost cyflwyno'r bartneriaeth yn llai na'r gost i ddarparu'r gwasanaeth yn unig.  Y gost flynyddol gyfredol i Sir Ddinbych oedd £52k.

 

Cafodd perfformiad a'r weithred o gytundeb partneriaeth gyda Sir y Fflint ei fonitro i sicrhau bod safonau gwasanaeth yn cael eu darparu a’u cynnal gan gynnwys perfformiad ateb galwadau.

 

Cadarnhaodd Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Clwyd Alyn, Clare Budden fod llety yn brin a bod diffyg llety yn arbennig ar gyfer pobl ifanc sengl.  Roedd Clwyd Alyn wedi derbyn cyllid adfywio gan Lywodraeth Cymru ac roeddent yn y broses o wagio cartrefi yn Stryd Edward Henry, Y Rhyl, yn barod ar gyfer dymchwel ac adeiladu eiddo newydd.

 

Rhoddwyd crynodeb byr o'r prosiectau yr oedd Clwyd Alyn wedi'u cynnal mewn gwahanol feysydd yn ddiweddar.

 

Cadarnhawyd bod y cais am dai yn wasanaeth ffôn a oedd yn broses haws i ymgeiswyr.  Atebwyd y rhif ffôn ar gyfer SARTH gan bobl a oedd yn arbenigwyr technegol ac, felly, hwn oedd y rhif gorau i bobl ei ffonio i siarad ynghylch opsiynau ar gyfer tai.

 

Os oedd gan unrhyw un ddiddordeb mewn cydberchnogaeth, Tai Teg oedd y sefydliad i gysylltu ag o.  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion perthnasol.

12.30 p.m. – 12.40 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor, gan roi diweddariad ar faterion perthnasol. 

 

19 Rhagfyr 2019 - Aelod Arweiniol, gwahodd y Cynghorydd Bobby Feeley i fynychu.

 

Cadarnhaodd pawb a oedd yn bresennol y cynrychiolwyr ar y Grwpiau Her Gwasanaeth.

 

PENDERFYNWYD:

(i)            cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn Atodiad 1 i’r adroddiad;

(ii)          Cadarnhaodd y Pwyllgor Craffu Partneriaeth y cynrychiolwyr ar y Grwpiau Her Gwasanaeth

 

 

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

12.40 p.m. – 12.45 p.m.

 

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cynghorydd Peter Scott ei fod wedi mynychu cyfarfod Grŵp Monitro Safonau Ysgolion yn Ysgol St. Brigid’s yn Ninbych, a aeth yn dda iawn.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:50 p.m.

 

 

 

 
Yn ôl i'r brig