Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1A, Neuadd Y Sir, Ruthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

Penodi Is-gadeirydd pdf eicon PDF 50 KB

Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20 (gweler ynghlwm gopi o ddisgrifiad swydd ar gyfer Aelod Craffu a Chadeirydd / Is-gadeirydd)

 

Cofnodion:

Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau.

 

Enwebodd y Cynghorydd Rhys Thomas y Cynghorydd Emrys Wynne, eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

 PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Emrys Wynne yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau am y flwyddyn i ddod.

 

 

3.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 211 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

5.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 461 KB

Derbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2019 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu. Partneriaethau a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2019.

 

Materion yn codi – Tudalen 10, Eitem 5 Ysbyty Dinbych -awgrymodd y Cadeirydd y dylid gwahanu'r wyth dewis a gyflwynir i sicrhau nad oes dryswch a bod y rhain yn wyth dewis ar wahân.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Emrys Wynne y dylid diwygio rhan o'r cyfieithiad gan fod y geiriad yn anghywir.   Er eglurder, yn y cofnodion Cymraeg, dylai gair olaf yr ail baragraff ‘sef’ ffurfio rhan olaf y frawddeg flaenorol "...gwasanaethau yn yr Ysbyty, sef:"

 

Tudalen 11- Eitem 5- Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y bydd cyfarfod rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Grŵp Cynefin yn cael ei gynnal o fewn yr 14 diwrnod nesaf i drafod gweledigaeth ar gyfer darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn Ninbych yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2019 fel cofnod cywir.

 

 

6.

DIOGELU A DIWALLU ANGHENION POBL DDIGARTREF pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Prif Reolwr a’r Rheolwr Gwasanaeth:  Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi ynghlwm) yn gofyn am farn y Pwyllgor a chefnogaeth i ddull corfforaethol y Cyngor tuag at atal digartrefedd

 

10.10am – 10.45am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gyda'r nod o amlinellu’r cynnydd a wnaed hyd yma gyda’r dull corfforaethol newydd o ddelio gyda digartrefedd yn y sir.   Roedd yr adroddiad yn cynnwys Cynllun Gweithredu Digartrefedd Corfforaethol drafft ynghyd â manylion ailstrwythuro’r Tîm Atal Digartrefedd a oedd yn rhan o Wasanaethau Cymorth Cymunedol y Cyngor.   Hefyd roedd yr adroddiad yn nodi dull corfforaethol y Cyngor ar gyfer atal digartrefedd, darparu llety argyfwng / dros dro i unigolion a theuluoedd sy'n rhoi gwybod eu bod yn ddigartref, a sut mae'r Cyngor yn gweithio i symud y rhai mewn llety argyfwng / dros dro i ddatrysiadau tai cynaliadwy a hirdymor.   Yn ystod ei chyflwyniad, pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol bod digartrefedd yn broblem gynyddol ar draws Cymru ac o ganlyniad roedd Llywodraeth Cymru (LlC), yn debyg i Sir Ddinbych ac awdurdodau lleol eraill, wedi nodi y dylid mynd i'r afael â'r mater fel blaenoriaeth.  

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol mai rhan o ddatrysiad Sir Ddinbych er mwyn mynd i’r afael â materion digartrefedd yn y sir oedd sefydlu partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i dreialu prosiect peilot ar draws y ddwy sir o’r enw Tai yn Gyntaf.   Roedd manylion y prosiect yn Atodiad 6 yr adroddiad.   Roedd cyllid grant o gronfa Arloesi Tai yn Gyntaf LlC, cyfanswm o £330mil, wedi’i ddyfarnu i’r prosiect peilot a oedd wedi arwain at sefydlu tîm newydd i gynorthwyo pobl ddigartref sydd ag anghenion uchel a chymhleth.   Nod y Tîm oedd sicrhau bod pobl yn setlo cyn gynted â phosibl yn eu cartrefi eu hunain ac yn derbyn cefnogaeth berthnasol.   Byddai cefnogaeth ar gael iddynt cyn belled ag y bo ei angen arnynt er mwyn iddynt allu cynnal eu tenantiaeth.   Roedd tystiolaeth a gasglwyd ar draws y DU a rhannau eraill o’r byd yn nodi bod gan y math hwn o ddull arloesol y potensial i ddarparu dull cynaliadwy allan o ddigartrefedd, gwella iechyd a lles a galluogi integreiddio cymdeithasol.   Disgwylir i Dai yn Gyntaf Conwy a Sir Ddinbych groesawu eu tenantiaid cyntaf cyn diwedd Gorffennaf 2019.  

 

Roedd penderfyniad Sir Ddinbych i fabwysiadu dull corfforaethol o fynd i’r afael â digartrefedd a phenodi Cyfarwyddwr Corfforaethol i arwain y gwaith yn tanlinellu ein hymrwymiad i leihau nifer yr unigolion a'r teuluoedd sy'n nodi eu bod yn ddigartref yn y sir.   Yn y dyfodol byddai darpariaeth Cynllun Gweithredu Strategaeth Digartrefedd yn cael ei arwain gan Grŵp Strategaeth Tai.   Canolbwynt y Cynllun Gweithredu oedd ymyrraeth gynnar ac atal.  Roedd cyflwyno Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) wedi cynorthwyo’r awdurdod a’r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSL) i flaenoriaethu ymgeiswyr ar gyfer tai cymdeithasol, ond, roedd mwyafrif yr aelwydydd digartref ym Mand 2 ar hyn o bryd ac nid oeddent yn y band blaenoriaeth uchel.   Roedd yr awdurdod lleol a’r RSLau yn y broses o gydlynu adeiladu a phrynu oddeutu 370 o unedau tai fforddiadwy / cymdeithasol. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Brian Blakeley i’r Pwyllgor, yn ei gapasiti fel Hyrwyddwr Digartrefedd y Cyngor, roedd wedi gweld gwaith rhagorol y Tîm Digartrefedd mewn amgylchiadau anodd iawn ar adegau gyda’i lygaid ei hun, ac roedd yn hyderus bod y Cyngor yn symud ymlaen yn ei nodau o fynd i’r afael â materion digartrefedd y sir.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Economi a'r Parth Cyhoeddus, Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r Prif Reolwr: Gwasanaethau Cynnal i gwestiynau yr Aelodau fel a ganlyn:

·         darparu eglurder o ran pwy oedd yn cael eu cyfrif fel ‘digartref’ – roedd gan Sir Ddinbych nifer cyfyngedig iawn o bobl oedd yn cysgu allan.  

Roedd mwyafrif yr unigolion a’r teuluoedd ‘digartref’ yn: 

Ø  aros gyda ffrindiau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYNLLUN CYFLAWNI DYLETSWYDD BIOAMRYWIAETH pdf eicon PDF 273 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Ecoleg (copi ynghlwm) yn gofyn i’r Pwyllgor archwilio a gwneud argymhellion mewn perthynas â Chynllun Cyflawni’r Ddyletswydd Bioamrywiaeth cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ei ardystio a’i fabwysiadu.

 

10.45am – 11.15am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol ar gyfer Tai a Chymunedau, cyflwynodd Pennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd adroddiad y Swyddog Ecoleg a Chynllun Cyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth drafft ac Asesiad o Effaith ar Les y Cyngor (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r Pwyllgor.   Eglurodd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor i geisio safbwyntiau’r aelodau ar y Cynllun a’i gynnwys cyn ceisio cymeradwyaeth yr Aelod Arweiniol ar gyfer y cynllun drwy'r broses o wneud penderfyniadau dirprwyol.   Eglurodd Pennaeth y Gwasanaeth bod Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod lleol yn ymgorffori'r ystyriaeth o fioamrywiaeth ac ecosystemau yn eu hystyriaethau cynnar a chynllunio busnes ac i gyhoeddi cynllun o ran sut y maent yn bwriadu cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwydnwch ecosystem.   Eglurodd i’r Pwyllgor bod llunio’r Cynllun, nodi camau allweddol a dangosyddion perfformiad, wedi cynnwys ymgysylltiad ac ymgynghori helaeth gyda swyddogion ar draws holl wasanaethau’r Cyngor, oherwydd os yw’r Cynllun am gael ei gyflawni mae angen i'r holl wasanaethau ymgysylltu a bod yn barod i gyflawni eu rhan nhw ohono.   Roedd y Cynllun ei hun ac adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu ynddo angen eu cyhoeddi erbyn diwedd 2019.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i Bennaeth Priffyrdd a’r Amgylchedd a'r Swyddog Ecoleg:

·         gadarnhau bod cost darparu’r Cynllun a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn seiliedig ar gyllideb bresennol y Gwasanaeth, gan wneud newidiadau bychan i arferion gwaith ac ati ac argaeledd cyllid grant allanol yr oedd gan y Gwasanaeth gofnod da yn y gorffennol o’i sicrhau.  Fodd bynnag, o ganlyniad i Rybudd o Gynnig i'r Cyngor yn ddiweddar ar Argyfwng Newid Hinsawdd, yn dibynnu ar argymhellion y gweithgor arfaethedig, efallai y bydd angen adnoddau ychwanegol ar gyfer gwaith bioamrywiaeth yn y dyfodol ac efallai y bydd angen ailddrafftio'r Cynllun;

·         Cadarnhau bod y Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (NRW) ar nifer o brosiectau, drwy’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE);  

·         cynghori bod y Gwasanaeth yn defnyddio gwirfoddolwyr ar gyfer amryw o brosiectau, gan gynnwys monitro nythfeydd y Fôr-Wennol Fechan 

Roedd Prifysgol Bangor hefyd yn ymwneud â phrosiect y Fôr-Wennol fechan ac yn astudio ymddygiad y nythfeydd; 

·         cynghori bod amryw o wasanaethau'r Cyngor yn cefnogi a chyfrannu tuag at ddarpariaeth mentrau bioamrywiaeth fel rhan o'u diwrnodau meithrin tîm yn y Gwasanaethau.

·         cadarnhau bod gwelliannau ecolegol ar gyfer ceisiadau cynllunio wedi newid ac yn awr roedd y Gwasanaeth yn cyfrannu'n rheolaidd at y gwaith o ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ac yn darparu arsylwadau ecolegol ar geisiadau cynllunio unigol;

·         egluro bod y gwylanod yn rywogaeth a warchodir a bod gan y Cyngor gynllun gweithredu ar wahân o ran sut i reoli gwylanod a lleihau'r niwsans y maent yn ei achosi.   Roedd Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi archwilio effeithiolrwydd y cynllun hwn yn eu cyfarfod yr wythnos flaenorol;   

·         egluro mai polisi'r Cyngor o ran cynnal a chadw ymylon glaswellt ar briffyrdd, ym marn y Cyngor, oedd y gorau yng Nghymru o ran hyrwyddo a chefnogi bioamrywiaeth;

·         cyfeirio at nifer y prosiectau bioamrywiaeth dolydd blodau gwyllt yr oedd y Cyngor yn cyfrannu atynt a sut yr oeddent yn canfod hadau a phlanhigion cynhenid ar gyfer y dolydd hyn mewn ymgais i sicrhau eu cynaliadwyedd;

·         cynghori bod gwaith ar y gweill gyda Gwasanaeth Cyfleusterau, Asedau a Thai’r Cyngor i lunio cynlluniau bioamrywiaeth ar gyfer ardaloedd gwyrdd o fewn ystadau tai’r Cyngor;

·         cadarnhau y gwnaed pob ymdrech gyda chynghorau dinas, tref a chymuned yn y sir i hyrwyddo nodau bioamrywiaeth y Cyngor a'r rhesymau sy'n tanategu eu polisïau cynnal a chadw priffyrdd a glaswellt.   Fodd bynnag, roedd rhai grwpiau cymunedol wedi dangos rhywfaint o  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHEOLAETH DIM GALW DIWAHODDIAD YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan Reolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd a’r Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor archwilio a chefnogi cynigion ar gyfer cyflwyno ‘Parthau Dim Galw Diwahoddiad’ yn y sir yn y dyfodol

 

11.30am – 12pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Chymunedau Diogelach yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn amlinellu sut yr oedd y Parthau Dim Galw Diwahoddiad yn y sir yn cael eu gweinyddu ar hyn o bryd.   Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio safbwyntiau ar gynigion newydd ar gyfer y broses o gyflwyno parthau o'r fath yn y dyfodol.

 

 Yn ystod ei gyflwyniad pwysleisiodd Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd nad oedd yr Awdurdod yn cynnig gwaredu ‘parthau dim galw diwahoddiad' na gwahardd dynodi 'parthau dim galw diwahoddiad' newydd, ond oherwydd y pwysau a achoswyd oherwydd bod llai o adnoddau ariannol nid oedd gan Heddlu Gogledd Cymru'r capasiti i gynnal ymgysylltiad ac ymgynghoriad cyhoeddus i sefydlu parthau newydd neu i gefnogi ail-rymuso parthau sefydledig.  Byddent, fodd  bynnag, yn parhau i ymateb i gwynion mewn perthynas â galw diwahoddiad.   Gyda'r nod o hwyluso parhad y parthau presennol ac er mwyn galluogi sefydlu parthau newydd roedd y Cyngor yn cynnig y byddai disgwyl i breswylwyr / cymunedau sy’n dymuno sefydlu ‘parthau dim galw diwahoddiad’ yn y dyfodol yn trefnu’r ymgysylltiad cyhoeddus a’r ymarfer ymgynghori eu hunain ac y byddai'n rhaid i'r unigolion neu'r grwpiau cymunedol sy'n trefnu'r cais dalu am gostau yr arwyddion ac ati.  Byddai’r Cyngor, fodd bynnag, yn eu cynorthwyo gyda'r broses ac yn darparu pecyn gwaith hunangymorth, a fyddai’n cynnwys dogfennau templed ar gyfer ymgynghori, pleidleisio, lansio’r parth a gwerthuso ei effeithlonrwydd.   Byddai’r Cyngor hefyd yn fodlon nodi busnesau lleol a allai fod yn fodlon cynorthwyo gyda chostau’r arwyddion ac ati, tra bo Heddlu Gogledd Cymru yn barod i barhau i gyflenwi sticeri ffenestr, codi ymwybyddiaeth mewn digwyddiadau cymunedol ac ar gyfryngau cymdeithasol.    Rhwng 2007 a 2016 sefydlwyd oddeutu 355 'parth dim galw diwahoddiad' yn Sir Ddinbych.   Roedd yr holl barthau wedi’u sefydlu ar gais y preswylwyr a / neu’r Heddlu.   Yn 2017 roedd adolygiad rhannol o effeithiolrwydd y parthau wedi’i gyflawni, a'r canlyniad oedd bod rhai preswylwyr nad oeddent yn sylweddoli eu bod yn byw mewn 'parth dim galw diwahoddiad'.   Fodd bynnag, roedd mwyafrif y rhai a holwyd yn credu bod ymyraethau fel 'parthau dim galw diwahoddiad' yn ddefnyddiol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, bu i'r Aelod Arweiniol, Rheolwr yr Amgylchedd Adeiledig a Gwarchod y Cyhoedd, a Swyddog Gwarchod y Cyhoedd (Safonau Masnach):

·         gynghori bod y prisiau a ddarparwyd yn yr adroddiad ar gyfer arwyddion allanol yn rhoi gwybod i bobl eu bod mewn 'parth dim galw diwahoddiad' yn costio oddeutu £200 fesul arwydd.  

Dyma’r pris yr oedd y Cyngor wedi’i dalu i’r Siop Arwyddion yn y Cyngor, cyn iddo gau.   Roedd wedi ennill y contract ar y pryd yn dilyn proses dendro;

·         cadarnhau bod y Cyngor yn fodlon ymgysylltu ag unrhyw asiantaeth neu sefydliadau oedd eisiau cefnogi gwaith yn ymwneud â ‘pharthau dim galw diwahoddiad' h.y.   OWL ( a weithredir gan Heddlu Gogledd Cymru);

·         cynghori nad oedd gan y Cyngor unrhyw gontract ffurfiol na chytundeb lefel gwasanaeth (SLA) mewn perthynas â ‘Pharth Dim Galw Diwahoddiad';

·         cadarnhau bod masnachwyr yn agored i erlyniad pe baent yn ymweld heb wahoddiad ag eiddo mewn ‘parth dim galw diwahoddiad’.  Fodd bynnag, roedd Gwasanaeth Safonau Masnach y Cyngor yn ffafrio cynnal gwaith atal gan gynnwys dosbarthu taflenni i bob cartref yn yr ardal gyda'r nod o ddiogelu preswylwyr, yn enwedig preswylwyr diamddiffyn, rhag ymwelwyr diwahoddiad a thwyllwyr;

·         cynghori y byddai unigolion a grwpiau sydd eisiau sefydlu ‘parth dim galw diwahoddiad’ yn meddu ar fuddiant breintiedig mewn sefydlu’r parth.  

Ar ôl cymryd camau i sefydlu parth byddai swyddogion Safonau Masnach yn gwirio y cymerwyd yr holl fesurau gofynnol er mwyn ei sefydlu’r ffurfiol o fewn chwe mis  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

Rhaglen Waith Craffu pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

12pm – 12.20pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. 

 

Yn ystod y drafodaeth -

·         Nodwyd bod y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 23 Mai 2019 wedi’i ganslo oherwydd Etholiadau Senedd Ewrop.

·         Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu i’r aelodau a oedd yn bresennol y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal ar 16 Medi 2019, a fyddai’n cael ei gynnal yn Nhŷ Russell, y Rhyl.

·         Byddai Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH) yn cael ei symud o gyfarfod 16 Medi 2019 i gyfarfod 7 Tachwedd 2019.

·         Byddai cyfarfod nesaf Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu yn cael ei gynnal ar 31 Gorffennaf 2019.

 

 PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel y mae yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45 p.m.