Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Christine Marston gysylltiad personol yn eitem 5 gan ei bod yn aelod o’r Bartneriaeth AHNE.

 

Datganodd y Cynghorydd Christine Marston gysylltiad personol yn eitem 5 gan ei bod yn Gefnogwr AHNE i Gyngor Tref Llangollen.

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol yn eitem rhif 6 oherwydd ei rôl fel Ynad.

 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

Mae’r Pwyllgor wedi gofyn i’r Cadeirydd i ddymuno dymuniadau gorau i’r Cynghorydd Joan Butterfield am wellhad buan.

 

 

4.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 434 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd, 2018 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd 8 Tachwedd 2018.

 

PENDERFYNWYD - derbyn a chadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYNLLUN RHEOLI ARDAL O HARDDWCH NATURIOL EITHRIADOL (AHNE) BRYNIAU CLWYD A DYFFRYN DYFRDWY A CHYNLLUNIAU AWDURDODAU LLEOL A'R WYBODAETH DDIWEDDARAF AM Y GWAITH AR Y CYD RHWNG AHNE CYMRU pdf eicon PDF 228 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (copi ynghlwm) i Aelodau archwilio cynllun rheoli tymor hir yr AHNE a sut mae’n cefnogi ac yn ategu cynlluniau’r Cyngor.

(10.10 a.m. – 10.55 a.m.)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Howard Sutcliffe (Rheolwr Gweithrediadau Cefn Gwlad) a Huw Rees (Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth) i'r cyfarfod am drafodaeth ar gynlluniau Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Dai, Rheoleiddio a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Tony Thomas, adroddiad ac atodiadau y swyddog AHNE (dosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn briffio’r Pwyllgor ar y berthynas rhwng Cynllun Rheoli AHNE a chynlluniau a strategaethau amrywiol y Cyngor.   Cynghorodd hefyd bod yr adroddiad yn diweddaru aelodau ar y trafodaethau wedi’u cynnal yn ddiweddar rhwng swyddogion y pump AHNE yng Nghymru, y Gymdeithas Genedlaethol o AHNE, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r wybodaeth ar adolygiad Lloegr o'r parciau cenedlaethol a AHNE. 

 

Hysbyswyd yr aelodau gan yr Aelod Arweiniol a'r Swyddog AHNE bod tri allan o’r pump o'r AHNE yng Nghymru i’w cael yng Ngogledd Cymru, ac mai AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy sydd â’r cyfanswm tir mwyaf yng Nghymru o’r holl AHNE.    Prif ddiben yr AHNE yw cadw a gwella tirwedd yr ardal yn unol â gofynion Adran 85 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Gan fod ardal ddaearyddol AHNE yn cynnwys Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, sefydlwyd Cydbwyllgor lle mae aelodau Cabinet o bob cyngor, er mwyn sicrhau fod y tri awdurdod lleol yn cydymffurfio â'u dyletswyddau statudol.  Mae tri o aelodau anweithredol pellach o bob cyngor yn rhan o’r grŵp Partneriaeth AHNE.     Er gwaetha’r ffaith bod y mwyafrif o’r ardal AHNE dynodedig i’w gael o fewn Sir Ddinbych mae pob un o’r tri awdurdod yn aelodau cyfartal o’r Cydbwyllgor ac yn cyfrannu cyfanswm cyfartal o arian i’w cyllideb i dalu am gostau staffio ac ati.  Mae Cynllun Rheoli AHNE, sydd wedi rhoi dyletswydd statudol i ddatblygu a rheoli, wedi cael ei gynhyrchu a’i gyhoeddi yn 2014.  

 

Cynghorwyd Aelodau fod swyddogion AHNE wedi gweithio’n agos gydag Adran Gynllunio’r Cyngor i sicrhau fod ceisiadau cynllunio yn cydymffurfio â rhwymedigaethau cadwraeth statudol.  Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda Gwasanaethau Cefn Gwlad y Cyngor a’i Wasanaethau Tai mewn perthynas â’r agenda iechyd a lles a hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach.   Dyma nhw’n pwysleisio bod nifer o gynlluniau AHNE yn cefnogi Cynllun Corfforaethol y Cyngor ac yn cefnogi'r gwaith o gyflawni nifer o flaenoriaethau corfforaethol - prosiectau y grugiar ddu, gylfinir, gwenoliaid bach a grug i gyd yn cefnogi’r gwaith i gyflawni'r flaenoriaeth gorfforaethol yn ymwneud â’r amgylchedd.   Tra bod cyllid yn ariannu'r gwaith i'w wneud ar brosiectau eraill, fel y sgwâr yn Llangollen, datblygu siop gymunedol yn yr hen ysgol yn Llandegla a gwaith tafarn gymunedol y Raven yn Llanarmon-yn-Iâl i gyd yn cyfrannu at wireddu blaenoriaethau cymunedau cysylltiedig â chymunedau cadarn.  Mae cyflawni’r prosiectau hyn yn dibynnu’n fawr ar staff a gwirfoddolwyr AHNE.

 

Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Cyfarwyddwr Corfforaethol:   Economi a Pharth Cyhoeddus, Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth a’r Swyddog AHNE:

·         sicrhau’r Gymuned fod Sir Ddinbych yn elwa o'r ffaith bod Llwybr Genedlaethol Clawdd Offa yn ymestyn hyd ardal gyfan AHNE o Brestatyn i'r Waun. 

Y ffaith bod yna orsaf drên ym Mhrestatyn, diwedd y Llwybr os yw'r daith yn dechrau o Gas-Gwent yn ei hun yn fonws gan ei fod yn golygu bod cludiant hygyrch ar gael ar ddiwedd eu taith.   Mae’r AHNE yn derbyn cyllid gan CNC i wneud gwaith cynnal a chadw ar y Llwybr ac i weithio gyda grwpiau eraill fel Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd ar fentrau yn ymwneud â thwristiaeth yn gysylltiedig â’r Llwybr h.y. cefnogi ceisiadau ar gyfer trosi beudai yn llety gwyliau ac ati, wrth sicrhau nad oes caniatâd yn cael ei roi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

I ystyried yr eitem busnes canlynol fe weithredodd y Pwyllgor yn ei gymhwysedd fel y Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn ddynodedig yn unol ag adrannau 19 a 20 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006

 

 

6.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL AR GYFER 2017-2018 pdf eicon PDF 221 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm) i roi gwybod i aelodau am weithgarwch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y Cyd (CSP) yn 2017-2018 a’r cynllun gweithredu Lleol/Rhanbarthol ar gyfer 2018/19.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Sian Taylor (Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol) i'r cyfarfod.

 

 Mae’r Aelod Arweiniol dros Safonau Corfforaethol wedi cyflwyno adroddiad ac atodiadau'r Rheolwr Diogelwch Cymunedol (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) oedd wedi cyflwyno’r Pwyllgor gyda Diweddariad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol i 2017-2018. Yn ystod ei gyflwyniad fe ddywedodd yr Aelod Arweiniol wrth y Pwyllgor fod y Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru yn gyfrifol am gytuno’r blaenoriaethau i’r rhanbarth a llunio cynllun gweithredu i bob Partneriaeth Diogelwch Cymunedol ei gyflawni.  Mae cyflawni’r cynlluniau hyn yn cael eu monitro yn rheolaidd gan Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru, gyda Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn dadansoddi ei berfformiad wrth gyflawni’r cynllun ar gyfer ei ardal a llunio ateb lleol i broblemau lleol.

 

Cynghorodd y Rheolwr PDC fod 2017-18 wedi bod yn flwyddyn ariannol heriol i PDC yn lleol, a bod ei berfformiad i gyflawni ei gynllun gweithredu yn ardal Sir Ddinbych wedi bod yn dda ar y cyfan.

 

Yn ymateb i gwestiynau'r aelodau, dywedodd yr Aelod Arweiniol, Cyfarwyddwr Corfforaethol:   Economi a Pharth Cyhoeddus a’r Rheolwr PDC: 

·         eu bod yn cytuno er bod y geiriad ar gyfer Blaenoriaeth 1 ar gyfer 2017-18 'Lleihau Trosedd ac Anhrefn yr yr Ardal’ yn ymddangos i fod yn amlinellu holl ddiben y PDC, roedd hi’n bwysig canolbwyntio ar y camau gweithredu o flaenoriaeth a nodwyd er mwyn gwireddu’r flaenoriaeth hon ar gyfer y flwyddyn benodol hynny.  

Lleihau trosedd ac anrhefn wastad yn uchelgais gan PDC a’i ddyhead sylfaenol;

·         cynghorwyd fod y nifer gostyngol o achosion trais domestig yn flaenoriaeth i’r PDC, yn ogystal â blaenoriaeth i LlC a Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer Gogledd Cymru. 

Roedd hefyd yn ymddangos yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor fel rhan o flaenoriaeth corfforaethol Cymunedau Cryf.  Roedd yn bwysig cofio ei bod yn hanfodol i droseddau gael eu riportio er mwyn gallu eu hymchwilio.  Mae llwyddiant ymdrechion a wnaed i annog pobl i riportio achosion o drosedd wedi cael effaith negyddol ar yr ystadegau gyda nifer o achosion yn cael eu riportio yn uwch mewn nifer o ardaloedd.  Fodd bynnag, er bod hynny’n ymddangos yn groes i’r graen roedd yn helpu swyddogion i adnabod patrymau neu dueddiadau a cheisio creu atebion posib i fynd i’r afael â gwraidd y broblem a cheisio atal unrhyw gynnydd yn y dyfodol;

·         cynghorwyd fod Barnardo's wedi ymgymryd â llawer o waith mewn perthynas ag addysgu pobl, yn enwedig pobl ifanc ar yr hyn sy’n dderbyniol/ ddim yn dderbyniol mewn perthynas, gyda’r nod o leihau trais domestig;

·          cynghorwyd bod y Strategaeth Cam-Drin Domestig Rhanbarthol ar gael i aelodau i’w ddarllen ar wefan y Cyngor. 

Mae holl staff y Cyngor wedi cyflawni modiwl hyfforddiant ar-lein ar drais domestig a’r gobaith oedd cyflwyno’r modiwl hwn i aelodau etholedig yn y flwyddyn newydd.  Mae dros 200 o bobl wedi mynychu digwyddiad yn Neuadd y Dref y Rhyl gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig yn ei nifer ffurfiau a sut y mae'r rheiny wedi'u heffeithio yn cael cymorth a help.  Roedd yr holl wasanaethau cam-drin domestig yn bresennol yn ogystal â Cyngor ar Bopeth (CAB).   Mae’r PDC yn awyddus i drefnu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol ond ar hyn o bryd ddim gyda'r cymhwysedd i’w cynnal nhw’n rheolaidd. Un dull posib ar gyfer digwyddiadau codi ymwybyddiaeth yn y dyfodol fyddai bod yn bresennol mewn cynadleddau/digwyddiadau wedi'u trefnu gan sefydliadau partner h.y. Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac ati;

·         cytunwyd i ddarparu aelodau gyda manylion o’r wybodaeth ystadegol sydd yn cyd-fynd ag adroddiad perfformiad blynyddol 2017-18;

·         cadarnhawyd fod cyngor wedi cael ei rannu gyda phreswylwyr ar sut i ddelio â sgiâm dros y ffôn ayb. mewn digwyddiadau ymgysylltu  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Waith Archwilio pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

14 Chwefror 2019

 

·         Dewisiadau Gorfodi Trosedd Amgylcheddol yn y Dyfodol

·         Partneriaeth Teledu Cylch Cyfyng

·         Cymorth i Ofalwyr Ifanc yn  Sir  Ddinbych

 

Cytunwyd i wahodd yr Aelodau Cabinet Arweiniol perthnasol i fynychu.

 

Atodiad 2 – Ffurflen Cynnig Aelodau.   Anogwyd aelodau i lenwi'r ffurflen ar gyfer unrhyw eitemau i'w cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu.  Ar ôl derbyn byddai'r cynnig yn cael ei drafod yn y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y gwelir yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

 

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, ar ei phresenoldeb yn yr Her Gwasanaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Marchnata.   Cadarnhawyd y byddai nodiadau’r cyfarfod yn cael eu dosbarthu i’r aelodau ar ôl eu derbyn nhw.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Christine Marston ei bod yn cymryd rhan yn Her Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod Y Cyhoedd.  Unwaith eto, cadarnhawyd y byddai nodiadau’r cyfarfod yn cael eu dosbarthu i’r aelodau ar ôl iddyn nhw gael eu hanfon atom.

 

CYTUNWYD - dylid nodi’r adroddiad llafar.

 

 

 

Ar ddiwedd y cyfarfod, fe ddymunodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Iach a Hapus i bawb.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30pm.