Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorydd Emrys Wynne a’r Cynghorydd Joan Butterfield gysylltiad personol yn eitem rhif 5 ar y rhaglen – Adroddiad blynyddol diogelu oedolion yn Sir Ddinbych 1 Ebrill 2017 – 31 Mawrth 2018.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 456 KB

Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2018 (copi ynghlwm).

 

10:00 a.m. – 10:05 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd 28 Mehefin 2018.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo a derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 28 Mehefin, 2018 fel cofnod cywir.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2017 - 31 MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan Rheolwr Tîm Diogelu Oedolion Diamddiffyn (copi ynghlwm) i roi trosolwg o effaith trefniadau ac arferion Diogelu Lleol ac adolygu’r cynnydd yn y maes gwaith allweddol hwn dros y deuddeg mis diwethaf.

 

10:05 a.m. – 10:50 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth, cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Tîm: Diogelu ar Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych am y cyfnod 1 Ebrill 2017 hyd at 31 Mawrth 2018, yr oedd copïau ohono wedi’i gyhoeddi a’i ddosbarthu cyn cyfarfod y Pwyllgor. 

 

Yn ystod ei gyflwyniad hysbysodd y Pennaeth Gwasanaeth yr aelodau fod yr adroddiad, ei fformat wedi'i ddiwygio yn unol ag awgrymiadau blaenorol a wnaed gan y Pwyllgor, yn amlinellu'r gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â diogelu, y gwelliannau a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn mewn perthynas â chysondeb ac ansawdd y gwaith diogelu a'r prosesau sydd ar waith i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon diogelu a ddygwyd i sylw'r Cyngor, ynghyd â manylion nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd yn y sir yn ystod 2017-18. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, ac yn unol â'r duedd genedlaethol, roedd nifer yr atgyfeiriadau amddiffyn oedolion wedi cynyddu yn ystod 2017-18. Serch hynny, roedd y cynnydd o 8% yn 2017-18 o'i gymharu â 2016-17 yn sylweddol is na'r cynnydd o 48% a gofnodwyd yn 2016-17 o'i gymharu â 2015-16. Manylodd y Pennaeth Gwasanaeth ar y 'penawdau diogelu ar gyfer 2017-18' a restrwyd yn yr adroddiad yn cynghori aelodau, mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) ar ansawdd cofnodion cyfarfodydd strategaeth a'u potensial i ddarparu llwybr archwilio digonol, bod gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud mewn perthynas â'r agwedd hon o'r gwaith, gyda chofnodion nawr yn cynnwys tystiolaeth o ganlyniadau ffurfiol a chynlluniau gweithredu gyda'r amserlenni cytunedig ar gyfer eu cwblhau.

 

Sicrhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgor nad oedd perfformiad y Cyngor yn erbyn yr unig ddangosydd perfformiad cenedlaethol (DP) yn ymwneud â diogelu oedolion - y nifer o ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith - a oedd yn 67% oedd y perfformiad 'gorau' na 'gwaethaf' yng Nghymru. Pwysleisiodd fod y dangosydd hwn yn cwmpasu pob agwedd ar ddelio â'r ymholiad, gan gynnwys casgliad yr holl dasgau gweinyddol a oedd yn dibynnu i raddau ar sefydliadau partner yn cwblhau eu gwaith papur a'u cyflwyno i'r Cyngor ar amser. Roedd yn bwysig deall hynny, er nad oedd perfformiad y Cyngor mewn perthynas â'r DP yn ymddangos yn dda, blaenoriaeth y Cyngor oedd sicrhau diogelwch yr unigolyn diamddiffyn. Pe bai tystiolaeth i awgrymu bod unigolyn mewn perygl o unrhyw fath o niwed, byddai camau'n cael eu cymryd ar y diwrnod y daeth y dystiolaeth i'r amlwg. Cyn ymateb i gwestiynau'r aelodau, eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth y gofynion o ran y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) a goblygiadau posib y diwygiad a gynigiwyd ym Mesur newydd Galluedd Meddyliol y DU (Diwygiad) (MCA Bill) ar DoLS, a fydd yn eu gweld yn cael eu disodli gan gynllun o’r enw Trefniadau Diogelu Rhyddid. Roedd perfformiad Sir Ddinbych mewn perthynas â gweithgarwch DoLS yn ystod 2017-18 yn unol ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Ymhelaethodd hefyd ar amcanion allweddol y Cyngor mewn perthynas â diogelu oedolion ar gyfer y flwyddyn adrodd gyfredol.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Pwyllgor, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth a'r Rheolwr Tîm: Diogelu y canlynol:

·         cadarnhawyd bod cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a'i phrosesau cysylltiedig mewn perthynas â diogelu wedi cyfrannu at y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau diogelu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Derbyniwyd yn eang hefyd fod gwybodaeth gyhoeddus a chanfyddiad o'r hyn a oedd yn ymyrru ar fywyd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

Yn y fan hon (10.35 a.m.) cafwyd seibiant o 10 munud

Cafodd y cyfarfod ei ailymgynnull am 10.45 a.m.

 

6.

DARPARIAETH GOFAL SEIBIANT AR DRAWS SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu – Gwasanaethau Gofalwyr (copi ynghlwm) yn darparu gwybodaeth am ddarpariaeth ac argaeledd seibiant i drigolion Sir Ddinbych sydd ag anghenion gofal a chymorth, sydd yn eu tro yn darparu seibiant i’w teulu sy’n Ofalwyr.

 

11:05 a.m. – 11:50 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol adroddiad y Swyddog Comisiynu: Gwasanaethau Gofalwyr (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Roedd yr adroddiad, a ddarparwyd mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor, yn amlinellu darpariaeth ac argaeledd gwasanaethau seibiant i ddinasyddion Sir Ddinbych a oedd ag anghenion gofal a chymorth i alluogi eu gofalwyr i dderbyn cyfnodau o seibiant. Fel rhan o’u cyflwyniad bu i’r Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a'r Swyddog Comisiynu: Gwasanaethau Gofalwyr:

 

·         egluro’r diffiniad o 'seibiant' yng nghyd-destun gofal cymdeithasol oedolion;

·         rhoi trosolwg o'r ddarpariaeth seibiant sydd ar gael i oedolion 18 oed a throsodd, a oedd yn cynnwys pobl hŷn a phobl ag anghenion corfforol a / neu ddysgu cymhleth;

·         amlygu'r pwyslais a roddir ar ofalwyr ac anghenion gofalwyr yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 (Deddf GCLl (Cymru)) a'r cyfrifoldebau a roddir ar unigolion ac awdurdodau lleol o dan y Ddeddf i ddiwallu anghenion gofalwyr;

·         amlinellu dull Sir Ddinbych tuag at fodloni gofynion y Ddeddf a chadw at ei ethos mewn perthynas â gwasanaethau gofalwyr; a

·         rhoi trosolwg o'r heriau demograffig a chomisiynu a wynebir gan y Cyngor mewn ymgais i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, ynghyd â gwybodaeth am y gwaith sydd ar y gweill yn rhanbarthol mewn ymgais i ateb yr anghenion hynny trwy wasanaethau integredig cynaliadwy ledled Gogledd Cymru.

 

Roedd Sir Ddinbych wedi ymrwymo'n llwyr tuag at gynorthwyo gofalwyr yn y sir hyd eithaf ei allu. Atgyfnerthwyd yr ymrwymiad hwn trwy ei gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol, o dan y flaenoriaeth Cymunedau Gwydn, o uchelgais i "sicrhau bod pob gofalwr yn Sir Ddinbych yn cael cefnogaeth dda". Gyda’r bwriad o gyflawni'r nod hwn, lluniwyd Strategaeth Gofalwyr a chynllun gweithredu traws-wasanaeth i sicrhau bod yr holl wasanaethau yn gallu adnabod gofalwyr a chefnogi eu hanghenion fel rhan o'u busnes bob dydd. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r swyddogion:

·         cynghorodd y swyddogion yr amcangyfrifwyd bod tua 11,600 o ofalwyr (o bob oed) ar draws y sir;

·         cynghorodd y swyddogion nad oedd pob 'gofalwr' yn ystyried eu bod yn 'ofalwr', a bod nifer sylweddol o'r farn ei fod yn 'ddyletswydd' i ofalu am aelod o'r teulu. Nid oedd rhai o'r unigolion hyn am gael 'asesiad gofalwr' wedi'i wneud, ac roedd y Ddeddf yn glir na ddylai neb gael ei orfodi i gael asesiad gofalwr. Dyletswydd y Cyngor oedd gwneud darpariaeth ar gyfer asesiadau o'r fath ar gyfer y rhai a oedd am eu cael ac i hyrwyddo eu hargaeledd, argaeledd gwasanaethau gofalwyr ac ethos y Ddeddf i breswylwyr;

·         cydnabuwyd gan y swyddogion nad oedd pob gofalwr yn fodlon ar y gwasanaethau sydd ar gael iddynt, er gwaethaf hyn roedd nifer yn hynod o amharod i hysbysu'r Cyngor ynghylch y mathau o wasanaethau y byddent yn ddefnyddiol iddynt;

·         pwysleisiodd y swyddogion nad oedd 'asesiadau gofalwyr' yn ymarferion llenwi ffurflenni mwyach, maent bellach yn canolbwyntio ar sgwrs 'Beth sy'n Bwysig' gyda'r gofalwr gyda'r bwriad o archwilio pa ganlyniadau a ddymunir ganddynt a'r ffordd orau o gyflawni'r canlyniadau hynny;

·         cynghorodd y swyddogion nad oedd darpariaeth seibiant wedi'i gyfyngu i'r person 'sy'n derbyn gofal' yn gorfod mynd i gartref preswyl neu nyrsio am gyfnod penodol o amser, y gellid gofalu amdanynt mewn nifer o leoliadau gwahanol, gan gynnwys yn eu cartrefi eu hunain, darpariaeth gofal ychwanegol, gwasanaethau eistedd, gwasanaethau dydd. Rhestrodd Atodiad 3 yr adroddiad y modelau cyfredol o wasanaethau gofal seibiant sydd ar gael ledled Sir Ddinbych. Mae'r mathau o ddarpariaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael, gan gynnwys gwasanaethau hyblyg, wedi newid yn rheolaidd er mwyn bodloni dewisiadau a gofynion unigol;

·         Cadarnhaodd y swyddogion bod grŵp rhanbarthol o swyddogion a rhanddeiliaid yn edrych ar hyn o  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

11:50 a.m. – 12:05 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn am adolygiad yr Aelodau o raglen waith y Pwyllgor a darparu diweddariad ar faterion perthnasol.

Roedd copi o "ffurflen gynnig yr Aelodau" wedi'i gynnwys yn Atodiad 2. Gofynnodd y Cydlynydd Craffu bod unrhyw gynigion yn cael eu cyflwyno iddi hi. Roedd Rhaglen Waith I’r Dyfodol y Cabinet wedi'i gynnwys fel Atodiad 3, roedd y tabl yn crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor, gan gynghori ar y cynnydd a wnaed gyda'u gweithredu, ynghlwm fel Atodiad 4.

Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod cyfarfod pwyllgor arbennig wedi'i drefnu ar gyfer 1 Hydref 2018. Atgoffwyd yr aelodau y byddai cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn bresennol i ateb cwestiynau yn ymwneud â'r adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar Ward Tawel Fan. Gofynnodd yr aelodau am i ddolen gyswllt i’r adroddiadau blaenorol gael ei hanfon atynt cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Waith i'r Dyfodol yn amodol ar yr uchod.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

12:05 p.m. – 12:10 p.m.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw adborth gan gynrychiolwyr pwyllgorau.

 

Cymerodd y Cynghorydd Emrys Wynne y cyfle i groesawu'r Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones yn ôl fel Cadeirydd yn dilyn ei habsenoldeb.

Diolchodd y Cadeirydd i'r holl aelodau am eu dymuniadau a diolchodd i'r Cynghorydd Emrys Wynne am oruchwylio rôl y Cadeirydd yn ystod y misoedd diwethaf.


Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m.