Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Jeanette Chamberlain Jones (Cadeirydd), Huw Irving a David Williams.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad personol na rhagfarnus.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 50 KB

Ethol Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2018/19 (gweler ynghlwm gopi o ddisgrifiad swydd ar gyfer Aelod Craffu a Chadeirydd / Is-Gadeirydd)

 

10am

 

 

 

Cofnodion:

Yn absenoldeb y cadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones, gofynnodd y Cydlynydd Craffu (SC) am enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd. Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne wedi datgan diddordeb mewn gwasanaethu fel Is-Gadeirydd y pwyllgor am dymor arall.  Roedd CV a baratowyd ganddo wedi ei gylchredeg i holl aelodau’r pwyllgor cyn y cyfarfod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Melvyn Mile y dylid penodi’r Cynghorydd Wynne yn is-gadeirydd y pwyllgor am y flwyddyn i ddod. Eiliodd y Cynghorydd Rhys Thomas y cynnig. Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill a daeth y pwyllgor i benderfyniad unfryd.

 

Penderfynwyd – penodi’r Cynghorydd Emrys Wynne yn is-gadeirydd y pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2018-19.

 

Yn dilyn ei benodiad, diolchodd y Cynghorydd Emrys Wynne i’r pwyllgor, gan ddymuno’n dda i’r cadeirydd presennol, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones a dweud ei fod yn gobeithio y byddai hi’n cadeirio cyfarfodydd eto cyn hir. Cadeiriodd y Cyng. Wynne weddill y cyfarfod.

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 482 KB

Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau (copïau ynghlwm):

 

(i)            13 Ebrill 2018

(ii)          3 Mai 2018

 

10.05am – 10.10am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 13 Ebrill a 3 Mai 2018.  Ni chodwyd unrhyw faterion yn ymwneud â chywirdeb.

 

PENDERFYNWYD: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Ebrill a 3 Mai fel cofnod cywir.

 

Materion yn codi:

 

Gan ymateb i bryderon y Cynghorydd Rhys Thomas ar y lleihad yn nifer y gwlâu yn Ysbyty Cymuned Dinbych, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wybod fod y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynglŷn â’r ysbyty wedi ei gylchredeg i aelodau’r pwyllgor.  Roedd cynrychiolwyr o’r Bwrdd wedi eu gwahodd i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol, pan fyddai gweledigaeth y Bwrdd ar ddyfodol yr ysbyty wedi ei gytuno arno.  Roedd y Pwyllgor ar hyn o bryd yn disgwyl cadarnhad ar bryd yr oedd y Bwrdd yn disgwyl i’r weledigaeth honno fod ar gael.

 

 

6.

CYLLIDEBAU CYFUN (IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL) pdf eicon PDF 286 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid (copi ynghlwm) sydd yn diweddaru’r Pwyllgor am gynnydd hyd yn hyn wrth ddatblygu a sefydlu cyllidebau cyfun ar draws gogledd Cymru yn unol â gofynion Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

10.10am – 10.45am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Annibyniaeth a llesiant adroddiad y Pennaeth Cyllid (a gylchredwyd eisoes) oedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith yr ymgymerwyd ag o hyd yn hyn i ddatblygu a sefydlu cyllidebau cyfun rhwng y Gwasanaeth Iechyd ac Awdurdodau Lleol ar gyfer darpariaeth rhai swyddogaethau penodol yn unol â gofynion Adran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ar draws Gogledd Cymru.  Roedd y gwaith hwn yn cynnwys sefydlu cyllideb gyfun ar gyfer 'arfer swyddogaethau llety cartref gofal’.

 

Er bod y cysyniad o gyllidebau cyfun at swyddogaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gymeradwy am mai eu nod oedd i gryfhau darpariaeth gwasanaeth trwy integreiddio gwasanaethau, cyngor yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion oedd fod y gwaith fyddai’n ofynnol i’w sefydlu yn unol â gofynion y Ddeddf yn gymhleth ac yn gofyn am gymryd lefel sylweddol o risg oherwydd y meintiau ariannol ynghlwm â’r broses.  Yn unol â gofynion y Ddeddf, roedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol neu Fwrdd Adran 9 wedi ei sefydlu i sicrhau cynnydd yn y maes gwaith yma.  Roedd peth amheuaeth yn dal i fod gan aelodau Bwrdd o’r Gwasanaeth Iechyd a’r Awdurdodau Lleol fel ei gilydd a fyddai gorfodaeth i sefydlu cyllidebau cyfun ar gyfer swyddogaethau penodol yn cyflenwi gwasanaethau di-dor gwell ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, gan mai tystiolaeth gyfyngedig oedd i gefnogi’r ddamcaniaeth hon yn bresennol.  Tra nad oedd y Ddeddf yn benodol am faint y ‘gronfa’, roedd Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru yn gynnar yn 2018 wedi cyfeirio at y ffaith y dylai pob ‘cronfa’ fod ar lefel ranbarthol yn hytrach nac is-ranbarthol h.y. i gydweddu â’r ardal Bwrdd Iechyd leol gyfan yn hytrach na’r ardaloedd a wasanaethir gan is-ranbarthau’r Bwrdd Iechyd, neu ‘gronfa’ rhwng pob Awdurdod Lleol unigol a’r Bwrdd Iechyd.  O ganlyniad, roedd Awdurdodau Lleol a byrddau iechyd ar draws holl ranbarthau Cymru wedi cytuno i ddatblygu cronfa 'rhannu heb risg’.  Roedd y dull hwn yn ddibynnol ar weithgaredd i gydgrynhoi gwybodaeth berthnasol ar wariant ar wasanaethau i hwyluso dadansoddiad manwl o wariant pob partner, a chynhyrchu adroddiadau i brofi ymarferoldeb sefydlu ‘cyllidebau cyfun’ ffurfiol yn y dyfodol.  Dylai’r gweithgaredd hwn helpu i adnabod gor/tanwariant posib pob partner yn y meysydd ‘cyllideb gyfun’ arfaethedig, fyddai’n galluogi mynd i’r afael â unrhyw risgiau’n deillio o’r rhain cyn sefydlu ‘cyllidebau cyfun’ ffurfiol.  Roedd manylder a fformat y data a oedd yn ofynnol gan bob partner yng Ngogledd Cymru wedi ei gytuno arno, ac roedd yn y broses o gael ei gasglu a’i ddadansoddi gan Gyngor Sir Ddinbych fel yr Awdurdod Arweiniol penodedig.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, hysbysodd yr Aelod Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol:  Cymunedau, y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol – Cydweithredfa Gwella Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru:

 

 

·         tra bod yna ddisgwyliad gan Lywodraeth Cymru y dylai ‘cyllidebau cyfun’ fod yn eu lle cyn Ebrill 2019, fod holl bartneriaid Gogledd Cymru – a rhanbarthau eraill yng Nghymru – o’r farn ei bod yn fuddiol ymgymryd â gweithgaredd i ychwanegu gwerth i wasanaethau presennol ar draws y rhanbarth trwy gynnal peilot ar rai prosiectau er mwyn asesu’r manteision, lleihau unrhyw risgiau, a bod yn fwy hyddysg wrth sefydlu cyllidebau cyfun i’r gwasanaethau hynny yn y dyfodol.

·         Er nad oedd hyn yn cyrraedd y targed o sefydlu cyllidebau cyfun ffurfiol, roedd yn ymddangos fod Llywodraeth Cymru yn derbyn y dull yma;

·         fod yr amcangyfrif diweddaraf fel y’i cafwyd ar ddiwedd 2017/18 ar gyfer ‘cyllideb gyfun’ i swyddogaethau llety cartref gofal oddeutu £115m.  Roedd y ffigwr yma yn amlygu graddfa bosib unrhyw ‘gyllideb gyfun’ ranbarthol ac yn atgyfnerthu barn yr holl bartneriaid ei bod yn well cymryd amser digonol i  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYD-BWYLLGOR CRAFFU AR GYFER Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS pdf eicon PDF 374 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (copi ynghlwm) sydd yn diweddaru’r aelodau am gynnydd tuag at sefydlu cydbwyllgor craffu ar gyfer Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych er mwyn craffu ar y cyd-fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.    Gofynnir i’r Pwyllgor hefyd ystyried y cylch gorchwyl drafft a'r rheolau gweithredu ar gyfer y cydbwyllgor craffu.

 

11am – 11.30am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei adroddiad gydag atodiadau (a gylchredwyd eisoes) oedd yn amlinellu’r cynnydd a wnaed mewn perthynas â chynnig i sefydlu Cydbwyllgor Craffu rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych ar gyfer craffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych. 

 

Yn ystod ei gyflwyniad, amlinellodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd gefndir y cynnig a’r cyfrifoldebau statudol a roddir ar Awdurdodau Lleol i graffu ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer eu hardal. Roedd gwybodaeth fanwl ar y rhain oll yn yr adroddiad.  Amlinellodd hefyd y siwrnai ddemocrataidd a gymerwyd hyd yn hyn o fewn Cynghorau Conwy a Sir Ddinbych a Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ei hun, ynghyd â chasgliadau’r trafodaethau ar y trefniadau arfaethedig o’r fforymau unigol.  Pe bai Pwyllgor Craffu Partneriaethau Sir Ddinbych yn y cyfarfod presennol, a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyllid ac Adnoddau Conwy yn eu cyfarfod ar 2 Gorffennaf yn gefnogol ill dau o'r trefniadau newydd arfaethedig, byddent yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pob Awdurdod er ystyriaeth cyn cael eu cyflwyno i Gyngor llawn y ddau Awdurdod ym mis Hydref i’w cymeradwyo er mwyn dechrau ar y gwaith o sefydlu Cydbwyllgor Craffu at bwrpas craffu ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, gwnaeth Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd

 

·         gadarnhau fod maint y Cydbwyllgor Craffu arfaethedig eto i’w bennu.  Roedd y cylch gorchwyl drafft yn cynnig y dylid cael pwyllgor o 12 aelod – chwech aelod yr un o’r cynghorau cyfansoddol.  Cynigiwyd cydbwyllgor 12 aelod gan y teimlid y byddai fforwm o’r maint yma yn gymorth i sicrhau dadlau a herio adeiladol ac effeithiol.  Gellid cael fod pwyllgor llawer mwy o ran maint yn anhwylus ac felly heb y gallu i gyflawni ei swyddogaeth wreiddiol.  Fodd bynnag, byddai’n bosib newid maint y Pwyllgor ar unrhyw adeg – gan gynnwys wedi ei sefydlu – pe bai'r ddau Gyngor yn cytuno i’r newid hwnnw;

·         hysbysu fod y Rheoliadau sy’n llywodraethu dros sefydliad pwyllgor ar y cyd yn nodi fod yn rhaid i unrhyw gydbwyllgor craffu gynnwys nifer hafal o gynrychiolwyr o bob Awdurdod Lleol sy’n rhan o’r cydbwyllgor.  Wrth benodi aelodau i’r cydbwyllgor, byddai’n ofynnol i bob Cyngor wneud hynny yn seiliedig ar gydbwysedd gwleidyddol yr Awdurdod;

·         esbonio fod y cynnig yn cael ei gyflwyno i nifer o bwyllgorau gwahanol o fewn y ddau Awdurdod cyn ceisio caniatâd y Cyngor Sir i sefydlu cydbwyllgor craffu. Roedd hyn am ei bod yn bwysig sicrhau cefnogaeth ehangach aelodau’r Cyngor i’r cynnig cyn ei gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w gymeradwyo;

·         hysbysu i’r awgrym gael ei wneud y dylid penodi cadeirydd am dymor o ddwy flynedd gan na fyddai’r cydbwyllgor – os sefydlid – yn debygol o gyfarfod yn amlach nac oddeutu dwywaith y flwyddyn yn ystod y blynyddoedd cyntaf.  Dim ond cynnig oedd hyn, ac roedd felly yn agored i’w drafod; ac

·         hysbysodd nad oedd penderfyniad wedi ei wneud hyd yma ar bwy fyddai’r Awdurdod Cynnal a fyddai’n gweinyddu'r Cydbwyllgor Craffu arfaethedig, neu a fyddai'r gwaith yn digwydd am yn ail rhwng y ddau gyngor.  Byddai trafodaethau o’r fath yn cychwyn wedi gofyn barn swyddogaethau craffu y ddau Gyngor.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth roedd aelodau’r Pwyllgor yn gadarn o’r farn mai cael Cydbwyllgor Craffu yn cynnwys 12 aelod – 6 o bob Cyngor – oedd y dewis ffafriedig i bwrpas craffu yn effeithiol ar Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus, ac y byddai’r Cydbwyllgor Craffu o bosib yn dymuno penderfynu ar dymor swydd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd wedi ei sefydlu.  O ganlyniad:

 

Penderfynwyd: - yng ngolau’r sylwadau uchod i -

 

(i)           gefnogi sefydliad Cydbwyllgor Craffu ffurfiol i graffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

11.30am – 11.45am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad (a gylchredwyd eisoes) a oedd yn cyflwyno i’r Pwyllgor ei raglen waith i’r dyfodol.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor fod cyflwyniad adroddiad ar effeithiolrwydd y bartneriaeth wedi ei ohirio nes y cyfarfod yn Ionawr 2019, am mai dim ond ers yn ddiweddar yr oedd y bartneriaeth newydd a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau Teledu Cylch Caeëdig yn weithredol. Cafodd aelodau wybod y byddent yn ymgynnull ar gyfer cyfarfod arbennig ym mis Hydref i drafod yr adroddiad Tawel Fan a chyflenwad gwasanaethau yn y dyfodol â chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd hyn am nad oedd cynrychiolwyr y Bwrdd ar gael i fynychu cyfarfod mis Medi.   

 

Amlinellwyd y rhaglen waith i’r dyfodol. Amlygwyd y ffaith mai dim ond un eitem oedd ar gyfer Tachwedd ar hyn o bryd, ond y gellid ychwanegu at hynny cyn y cyfarfod.  Tynnwyd sylw aelodau at y ‘Ffurflen Gynnig Aelod’ (Atodiad 2 yn yr adroddiad), a chawsant eu hatgoffa o’r angen i gwblhau un o’r ffurflenni hyn os oeddent yn dymuno i unrhyw beth gael ei ychwanegu at y rhaglen waith. Byddai’r ffurflen yn cael ei hanfon at y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu er mwyn penderfynu a oedd y pwnc yn bodloni’r meini prawf ar gyfer craffu.

 

Mewn ymateb i ymholiad ar y modd yr oedd y Cyngor yn monitro ansawdd y gofal a ddarperid i breswylwyr yn ei cartrefi eu hunain yn ogystal â chartrefi preswyl a nyrsio, hysbysodd y Cydlynydd Craffu y darperid adroddiad monitro chwarterol i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu er gwybodaeth.  Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor am i’r adroddiad yma gael ei gylchredeg i’r Pwyllgor er gwybodaeth hefyd.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

Penderfynwyd: yng ngolau’r sylwadau uchod -

 

(i)     cymeradwyo’r rhaglen waith fel y’i gwelir yn Atodiad 1 yr adroddiad; a

(ii)   gwnaethpwyd cais i gopi o’r adroddiad chwarterol ar fonitro ansawdd y darparwyr gofal allanol a ddarperir i'r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu hefyd gael ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor er gwybodaeth

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn diweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

11.45am – 12pm

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw adborth gan gynrychiolwyr pwyllgor

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11:35.