Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Joan Butterfield, Jeanette Chamberlain-Jones (Cadeirydd) a Pat Jones.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un I’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitemau 5, 6 a 7 gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 534 KB

Cael cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd, 2017 (copi ynghlwm).

10.05 a.m. – 10.10 a.m.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2017.

 

Materion yn codi – tudalen 7 (ail bwynt bwled) – holodd y Cadeirydd a oedd unrhyw ymateb i’r mater hwn wedi dod i law.  Cadarnhawyd bod y Strategaeth wedi’i chyflwyno gerbron y Cabinet yn gynharach yn yr wythnos ac wedi’i chymeradwyo.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau y byddai’n gwneud ymholiadau ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar y diffyg rheolaeth ymddangosiadol a oedd gan awdurdodau lleol o ran darparu cymorth digartrefedd statudol, oherwydd bod y diffiniad o’r term ‘cysylltiad lleol’ fel yr oedd yn ymwneud â’r ddeddfwriaeth yn eithriadol o amwys ac yn ymddangos fel pe bai o blaid unrhyw un a oedd eisiau mynediad at y gwasanaeth yn yr ardal.  

 

Cododd y Cadeirydd y pwynt hefyd ei fod wedi gofyn am wybodaeth yn y cyfarfod am y gost gyfartalog fesul uned pan fyddai teuluoedd yn cael eu rhoi mewn llety gwely a brecwast dros dro, a thra bod ffigurau ar gyfer cyfanswm y gost wedi’u rhoi, nid oedd costau cyfartalog fesul uned deuluol wedi’u rhoi.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYNLLUN LLES BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2018-2022 pdf eicon PDF 226 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) i’r Pwyllgor dderbyn a chytuno ar yr adroddiad ac ymateb fel ymgynghorai statudol.

10.10 a.m. – 10.50 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a Chynllun Lles drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych 2018-2022 (a gylchredwyd yn flaenorol) gan y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, gan ddirprwyo ar ran yr Arweinydd a oedd i ffwrdd ar apwyntiad arall.  Yn ystod ei gyflwyniad, rhoddodd friff i’r Pwyllgor ar gefndir sefydliad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, ei aelodau, pwrpas a chylch gwaith, cyn cyflwyno’r Cynllun Lles drafft i aelodau.  Rhoddodd wybod i’r Pwyllgor bod y Cynllun drafft, a oedd wedi’i ddatblygu’n defnyddio dull tebyg i Gynllun Corfforaethol y Cyngor ei hun, wedi’i gyhoeddi yn ddiweddar ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, a bod y Pwyllgor yn un o'r ymgyngoreion statudol, yr oedd yn ofynnol i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ymgynghori ag ef ar ei gynlluniau arfaethedig, a dyna pam roedd y Bwrdd yn ceisio ei safbwyntiau ar y saith cwestiwn ymgynghoriad a restrwyd yn yr adroddiad a’r Cynllun drafft. Byddai’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn rhedeg am gyfnod o ddeuddeg wythnos, ac ar y diwedd byddai pob sefydliad partner yn mynd â’u Cynllun drwy eu cyrff gwneud penderfyniadau dynodedig.  Yn Sir Ddinbych, byddai’r Cyngor llawn yn ystyried ac yn cymeradwyo’r Cynllun terfynol gobeithio yn Chwefror 2018.

 

Yn ystod y cyflwyniad, dywedodd y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol fod Cyngor Sir Ddinbych yn cael ei annog gan y cysylltiadau rhwng y chwe blaenoriaeth yng Nghynllun Lles drafft y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus 2018-2022 a’r pum blaenoriaeth yng Nghynllun Corfforaethol 2017-2022 y Cyngor ei hun. Gan ymateb i gwestiynau aelodau, rhoddodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion wybod:

  • bod y Cynllun ei hun yn ddogfen strategol lefel uchel sy’n nodi amcanion a dyheadau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus am y pum mlynedd nesaf.  Byddai’n cael ei ategu gan gynlluniau darparu traws-sefydliadol manwl ar gyfer sut y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cyflawni;
  • tra nad oedd y flaenoriaeth sy’n ymwneud â ‘Hyrwyddo Gwytnwch mewn Pobl Hŷn’ yn crybwyll lles corfforol yn benodol, byddai’r nod o adeiladu gwytnwch ymhlith pobl hŷn yn cynnwys lles corfforol a meddyliol, a sicrhau eu bod wedi'u cysylltu'n gymdeithasol ac nid yn dioddef o arwahanrwydd.   Roedd yn rhan o’r ‘agenda atal’ cyffredinol;
  • yn yr un modd, mewn ymgais i leihau gordewdra, yn enwedig gordewdra mewn plant, roedd addysg ac atal yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf yn cael ei ystyried yn allweddol er mwyn meithrin arferion da am oes;
  • roedd atal yn nodwedd allweddol ar gyfer Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gyda’r ddwy yn pwysleisio’r angen i bob unigolyn gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u lles eu hunain;
  • er bod pobl yn rhydd i wneud eu dewisiadau bywyd eu hunain, er mwyn diogelu digon o adnoddau i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, roedd angen llunio strategaeth gyfathrebu effeithiol i ‘werthu’ buddion dewisiadau bywyd synhwyrol a’r dull atal i breswylwyr.   Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi ar hyn o bryd i gysylltu â’r gwaith a wnaed gan Brifysgol Bangor ar gyfraddau ymddygiadol a sut i newid ffocws cyfathrebiadau corfforaethol o bwysleisio effaith negyddol ymddygiad, i dynnu sylw at yr effeithiau cadarnhaol a chyflawniadau ymddygiad ac arferion newidiol h.y. faint roedd preswylwyr wedi’u cyflawni drwy ailgylchu mwy o wastraff ac ati;
  • roedd angen annog ymarferwyr meddygol i hyrwyddo argaeledd gweithgareddau corfforol neu gymdeithasol sy’n digwydd yn eu hardal, boed a ydynt wedi'u rhedeg gan yr awdurdod lleol, yn breifat neu gan wirfoddolwyr, fel ffordd ddi-feddygol o wella gwytnwch a lles;
  • tra bod casgliad Asesiad o Effaith ar Les ar effaith y Cynllun drafft yn  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD CYNNYDD - STRATEGAETH GOFALWYR SIR DDINBYCH 2016-19 pdf eicon PDF 407 KB

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu ar gyfer y Gwasanaeth Gofalwyr (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth ynghylch cynnydd ar ddatblygu’r Strategaeth.

10.50 a.m. – 11.30 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol), a roddodd ddiweddariad i aelodau ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i ddarparu’r strategaeth tair blynedd, a rhoddodd wybod i’r Pwyllgor am ddatblygiadau sylweddol eraill yn ymwneud â gwasanaethau gofalwyr.   Yn ystod ei chyflwyniad, dywedodd yr Aelod Arweiniol y daethpwyd â ffaith i’w sylw mewn cynhadledd genedlaethol ddiweddar, lle nodwyd bod yna 370,000 o ofalwyr di-dâl wedi’u hamcangyfrif yng Nghymru’n unig.  Roedd y gofalwyr hyn yn arbed miliynau o bunnoedd i Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o'r naill flwyddyn i'r llall, felly roedd yn allweddol eu bod yn cael cymaint o gefnogaeth â phosibl yn eu swyddogaethau fel gofalwyr. 

 

Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol sylw'r aelodau at y fersiwn wedi'i ddiweddaru o Gynllun Gweithredu Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych, a oedd yn amgaeedig yn Atodiad 1 o’r adroddiad, gan roi gwybod bod y mwyafrif o gamau gweithredu a restrwyd wedi’u dyfarnu â statws COG Gwyrdd, a oedd yn golygu eu bod naill ai wedi’u cyflawni neu ar y trywydd cywir i gael eu cyflawni, roedd gan rai statws COG melyn a oedd yn golygu eu bod yn dal ar y gweill, tra bod un gyda statws COG ‘coch’.  Roedd yr un diwethaf yn ymwneud â chynnig i archwilio'r buddion o ddatblygu 'model cynhadledd deuluol' i ddelio â sefyllfaoedd mewn Gwasanaethau Oedolion, yn debyg i’r model gweithredu llwyddiannus yng Ngwasanaethau Plant.  Er bod y Gwasanaeth yn dal yn cynllunio i archwilio’r posibilrwydd o ddatblygu’r model hwn, roedd y gwaith wedi’i ohirio ar hyn o bryd oherwydd bod angen blaenoriaethu gofynion eraill a gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth wybod bod darpariaeth gyffredinol o’r Strategaeth yn mynd yn dda, er nad oedd unrhyw arian newydd neu ychwanegol i ddatblygu gwasanaethau gofalwyr.  Roedd yna deimlad cyffredinol ymhlith gofalwyr, a’r rhai roeddent yn gofalu amdanynt, eu bod yn cael gwell cefnogaeth nawr nag yn y gorffennol, ac yn gallu cael mynediad at wasanaethau neu gymorth os oeddent eu hangen. 

 

Yn Atodiad 2 yr adroddiad, roedd crynodeb o ganfyddiadau astudiaeth ddiweddar o gynnydd a wnaed yn genedlaethol i weithredu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gan eu bod yn ymwneud â gwasanaethau Gofalwyr, yn cynnwys sefyllfa gyfredol Sir Ddinbych mewn perthynas â phob ‘canfyddiad’.  Roedd yr Atodiad hwn hefyd yn amlinellu materion eraill a oedd yn ymwneud â Gofalwyr, yr oedd gofyn i'r Cyngor eu hystyried a'u harchwilio ymhellach.

 

Gan ymateb i gwestiynau aelodau, rhoddodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Gwasanaeth a Swyddog Comisiynu Gwasanaethau Gofalwyr roi gwybod bod:

  • anghenion gofalwyr ifanc yn y Gwasanaeth Addysg bellach yn cael mwy o sylw, gyda chamau gweithredu a oedd yn cael eu nodi fel rhan o Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Gofalwyr mewn perthynas â gofalwyr ifanc yn cael eu hymgorffori yng nghylch gwaith nifer o weithgorau iechyd ac addysg;
  • roedd y gwaith i hyrwyddo a chyflawni modiwlau e-ddysgu ynghylch goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 o ran gofalwyr i staff Bwrdd Iechyd yn mynd rhagddo, a byddai’n parhau, gan fod gan y Gwasanaeth gyfradd trosiant staff uchel, ac o ganlyniad, byddai angen hyfforddiant parhaus;
  • er bod cynrychiolydd o fenter gymdeithasol Mary Dei yn parhau i fod yn y Grŵp Strategaeth Gofalwyr, roedd y fenter ei hun yn dal i ystyried ei chyfeiriad yn y dyfodol, er ei bod yn dal i ragweld gwaith i gefnogi gofalwyr;
  • er ei bod yn cael ei ystyried yn fuddiol  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

 

Ar y pwynt hwn (11.30 a.m.) cafwyd egwyl o 10 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.40 a.m.

 

 

 

7.

ADOLYGU'R UN PWYNT MYNEDIAD (SPOA) pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth, Ardaloedd (copi ynghlwm) i ddarparu diweddariad ar berfformiad Un Pwynt Mynediad Sir Ddinbych ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Iechyd Cymunedol.

11.40 a.m. – 12.15 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Gan gyflwyno’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd yn flaenorol), rhoddodd yr Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth wybodaeth ei bod yn gefnogwr brwd o'r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad, gan ei bod yn teimlo ei fod yn cyfrannu at y rhaglen gwytnwch cymunedol.  Roedd copi o’r adroddiad adolygu, a oedd yn rhoi manylion ynghylch y dull adolygu a’r meysydd gwasanaeth a ystyriwyd fel rhan ohono, yn amgaeedig fel Atodiad 1 o’r adroddiad.  Roedd amcan yr adolygiad wedi bod yn ddeublyg – i asesu pa mor effeithiol ac effeithlon oedd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad wrth gyflawni ei wasanaethau ac wrth wella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth, ac i sefydlu a oedd y model darparu gwasanaeth yn addas ar gyfer y dyfodol.

 

Roedd ystadegau yn yr adroddiad yn dangos y galw ar y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn ystod Chwarteri 1 a 2 ar gyfer y tair blynedd diwethaf, roedd y rhain yn dangos cynnydd parhaus mewn cyswllt â'r Gwasanaeth, ac atgyfeiriadau ato.  Mewn ymateb i ymholiadau a ddaeth i law, rhoddodd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad gyngor am wasanaethau neu asiantaethau a allai gynorthwyo’r rhai hynny a oedd angen cymorth.  Roedd y Gwasanaeth hefyd yn ysgogi atgyfeiriadau i wasanaethau ymyrryd, gyda’r bwriad o gefnogi unigolion i fyw’n annibynnol am gyn hired â phosibl, ac felly lleihau’r galw a’r pwysau ar wasanaethau mwy dwys.  Roedd yr Adolygiad wedi dod i gasgliad bod y cysyniad Un Pwynt Mynediad yn cael ei werthfawrogi gan bob budd-ddeiliad a’r rhai a ddefnyddiodd y gwasanaethau.  Er bod y Gwasanaeth yn cael ei ystyried yn addas at y diben, cafodd ei gydnabod, wrth i Dimau Adnoddau Cymunedol gael eu datblygu, y byddai angen i’r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad esblygu ac addasu i ategu at y gwasanaethau a roddwyd ganddynt.  Roedd nifer o feysydd ar gyfer gwella a datblygu yn y dyfodol wedi’u nodi, roedd y rhain yn cynnwys:

 

·         yr angen i sefydlu a gweithredu fframwaith sicrwydd ansawdd cadarn, a fyddai’n mesur, sgiliau, gwybodaeth a hyder, ymhlith pethau eraill, y Tîm Un Pwynt Mynediad i ddarparu Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth;

·         gwella gwaith rhyngwyneb gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mewn ysbytai ac yn y gymuned;

·         yr angen i adolygu ac ailddiffinio swyddogaethau a sgiliau cyfun yn y Gwasanaeth;

·         gwneud Un Pwynt Mynediad yn fwy hygyrch i gefnogi meddygfeydd Meddygon Teulu ac iddo hyrwyddo mwy o negeseuon iechyd cyhoeddus;

·         defnyddio Un Pwynt Mynediad i gefnogi’r datblygiad o Bwyntiau Siarad a’r Gwasanaethau Llywiwr Cymunedol; ac

·         archwilio cyfleoedd cyd-weithio posibl gyda Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Yn ystod y cyflwyniad, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth (Ardaloedd) fanylion ynghylch nifer o astudiaethau achos sy’n dangos llwyddiant y Gwasanaeth yn ystod y sgwrs “Beth sy’n Bwysig”, y cyswllt cychwynnol; roedd gan y cyhoedd gyda'r Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad, lle'r oedd cyngor perthnasol ac ati wedi'i roi ar yr adeg gywir, ac o ganlyniad, arweiniodd hynny at oddeutu 35% i 40% o’r rhai hynny a gysylltodd â’r Gwasanaeth, nad oedd angen cefnogaeth mwy dwys a drud gan y Gwasanaethau Cymdeithasol mwyach.  Rhoddodd wybod, fel rhan o’r sgwrs “Beth sy’n Bwysig”, bod trafodaethau wedi digwydd ynghylch y math o gefnogaeth neu wasanaethau a oedd yn ofynnol gan yr unigolyn er mwyn cynnal eu hannibyniaeth, a’u gallu i ariannu’r gwasanaethau hynny.   Yn ei hanfod, roedd y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn wasanaeth cynghori a oedd yn cyfeirio pobl at wasanaethau a all fod ar gael iddynt, wrth weithredu fel gwasanaeth atal hefyd drwy gyfeirio unigolion at wasanaethau iechyd cymunedol, gyda’r bwriad o gynnal eu lles cyffredinol.  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. 

 

Byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal 22 Ionawr 2018 lle’r oedd cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau eu presenoldeb.

 

Roedd Aelodau wedi gofyn i’r Cydlynydd Archwilio i archwilio’r posibilrwydd o newid dyddiad cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 1 Mawrth 2018 i ddyddiad ddiwedd Mawrth, neu ddechrau Ebrill, gyda’r bwriad o dderbyn adroddiadau Tawelfan yn gynt na’r cyfarfod ym Mehefin fel y trefnwyd yn wreiddiol.  Roeddent yn teimlo y byddai cyfarfod Mehefin ychydig yn hwyr i'r Pwyllgor roi sylwadau ar eu canfyddiadau.

 

Byddai Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio’n cyfarfod 18 Ionawr 2018. Os oedd gan Aelodau unrhyw eitemau roeddent yn dymuno eu hystyried ar gyfer cyfarfodydd Archwilio yn y dyfodol, gofynnwyd iddynt lenwi ffurflen gynnig a oedd yn y pecyn.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Melvyn Mile wedi mynd i’r Her Gwella Busnes a Moderneiddio Gwasanaeth.  Rhoddodd ddiweddariad i aelodau ar y pwyntiau a godwyd yn ystod y cyfarfod Her Gwasanaeth, a oedd yn cynnwys:

 

·         pa mor hyderus oedd y Gwasanaeth bod y Cyngor yn archwilio’r ‘pethau cywir’?;

·          archwilio’r potensial ar gyfer cydweithredu rhanbarthol a gwaith trawsawdurdod ym maes TGCh, os oedd y Cyngor am wireddu ei uchelgais i fod yn Gyngor cwbl ddigidol erbyn 2022; a

·         meysydd posibl i gynhyrchu incwm yn y dyfodol? h.y. o werthu gwasanaethau i gynghorau eraill

 

Roedd y camau gweithredu allweddol a nodwyd yn ystod y broses Her Gwasanaeth, i’r Gwasanaeth eu datblygu yn ystod y flwyddyn i ddod, wedi’u manylu yn y nodiadau a gylchredwyd i aelodau Pwyllgor yn y ddogfen Briff Gwybodaeth cyn cyfarfod y Pwyllgor.

 

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 p.m.