Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd fel un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies gysylltiad personol ag eitemau 8 a 9 ar y rhaglen.

 

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitemau 6 a 7 ar y rhaglen.

 

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 50 KB

Penodi Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar gyfer blwyddyn 2017/18 y Cyngor (disgrifiad o’r rôl wedi’i atodi).

 

 

Cofnodion:

Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau.

 

Enwebodd y Cynghorydd Huw Williams y Cynghorydd Emrys Wynne, eiliwyd gan y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies. 

 

 PENDERFYNWYD y byddai’r Cynghorydd Emrys Wynne yn cael ei benodi’n Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau am y flwyddyn i ddod.

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 374 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2017 (copi ynghlwm).

9.35 a.m. – 9.40 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2017.

 

Ar y pwynt yma, diolchodd y Cadeirydd i Weinyddwr y Pwyllgor am y cofnodion ardderchog. 

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2017 fel cofnod cywir.

 

 

6.

PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL – DIWEDDARIAD BLYNYDDOL 2016-2017 pdf eicon PDF 303 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm) a rhoi sylwadau ar weithgarwch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y Cyd yn 2016-2017 a'r Blaenoriaethau Lleol ar gyfer 2017-2018.

9.40 a.m. – 10.20 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Emrys Wynne yn datgan cysylltiad personol gan ei fod yn Ynad Heddwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

 

Cyn trafodaeth, hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau bod y Pwyllgor yn gweithredu fel Pwyllgor Trosedd ac Anhrefn penodedig y Cyngor yn unol ag adrannau 19 a 20 o'r Ddeddf Heddlu a Chyfiawnder 2006.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Safonau Corfforaethol yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn manylu gweithgaredd a pherfformiad Cyd Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn ystod 2016-17 ac amlinellodd flaenoriaethau’r Bartneriaeth ar gyfer 2017-18.  

 

Rhoddodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol grynodeb i’r Pwyllgor ar gefndir sefydlu partneriaethau diogelwch cymunedol ynghyd â’u rolau a chyfrifoldebau statudol.    Tynnodd sylw aelodau at y blaenoriaethau a osodwyd gan y PDC ar sail ranbarthol a’r blaenoriaethau lleol a osodwyd gan y cyd PDC ar gyfer cynnydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Roedd y cyfan wedi eu rhestru yn yr adroddiad.    Roedd Atodiad 1 gyda’r adroddiad yn cynnwys y camau a nodwyd gyda’r bwriad i gyflawni blaenoriaethau lleol a rhanbarthol, tra’r oedd Atodiad 2 yn manylu perfformiad y Bartneriaeth o ran eu cyflawni. 

 

Yn ystod ei chyflwyniad amlygodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol y pwyntiau canlynol:

  • y gostyngiad yn ystod y flwyddyn mewn trosedd meddiangar ac mewn cyfraddau aildroseddu ymhlith oedolion ac ieuenctid, y cyfan yn hynod gadarnhaol.  Roedd llywodraeth ganolog wedi darparu cyllid ar gyfer PDC i ganolbwyntio’n benodol ar y meysydd hyn, felly roedd yna gydgysylltiad rhwng y dull wedi’i dargedu a’r gostyngiad yn y ffigyrau. Bu cynnydd yn nifer yr achosion o drosedd yn erbyn pobl, fel ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB), yr adroddwyd arno yn ystod 2016-17.  Roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i’r ffaith bod y diffiniad o droseddu treisgar nawr yn cynnwys unigolyn yn gwthio unigolyn arall drosodd neu’n eu taro i lawr. 

·       yn anffodus, roedd nifer o ddigwyddiadau o drosedd treisgar wedi derbyn cyhoeddusrwydd yn Sir Ddinbych yn ystod y misoedd diweddar.   Rôl y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol pan oedd yna achosion o'r fath oedd canolbwyntio ar waith ar lefel isel o fewn y cymunedau e.e. gwella goleuadau, darparu negeseuon diogelwch ar sut i gadw’n ddiogel ac ati.   Roedd yr asiantaethau mwy, fel yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ymgymryd â’r gwaith ymchwiliol;

·       roedd yr holl gamau yn y cynllun gweithredu naill ai wedi eu cyflawni, neu ar y trywydd i gael eu cyflawni.  Roedd yna oedi o ran derbyn data gan y Gwasanaeth   Fodd bynnag, sicrhawyd y PDC bod y ddwy fenter wedi rhagori ar y targedau a osodwyd; Roedd gwaith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn cynnwys amrywiaeth eang o faterion trosedd ac anhrefn o ymddygiad gwrthgymdeithasol i drosedd amgylcheddol, trosedd gwledig i derfysgaeth ryngwladol, mân drosedd lefel isel i droseddau difrifol yn erbyn pobl ac eiddo.

  • mewn perthynas ag ymarfer dangosfwrdd Llywodraeth Cymru ynglŷn ag atal terfysgaeth, roedd yna un maes lle’r oedd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol angen ei gryfhau.   Roedd y maes hwnnw’n ymwneud ag addysgu’r cyhoedd i wybod sut i ymateb os oeddent wedi eu dal mewn digwyddiad terfysgol tra’r oeddynt adref neu i ffwrdd;
  • roedd y problemau oedd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ac o amgylch Gorsaf Reilffordd y Rhyl wedi gwella’n sylweddol ar ôl defnyddio cyllid Cefnogi Pobl.  Roedd y cyllid yn darparu gwasanaethau i unigolion oedd yn adnabyddus am achosi problemau yn yr ardal.  Mae’n debyg na fyddai’r broblem byth yn diflannu, ond roedd y sefyllfa wedi gwella yn y blynyddoedd diweddar;
  • roedd gwaith yn cael ei wneud gyda nifer o asiantaethau gyda’r bwriad o blethu gwasanaethau i fynd i’r afael â’r problemau a achoswyd gan gamddefnyddio sylweddau yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  Er bod y gwaith hwn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2016 – 31 MAWRTH 2017 pdf eicon PDF 391 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Diogelu Oedolion Diamddiffyn (copi ynghlwm) i roi trosolwg i'r Aelodau o effaith trefniadau ac arferion Diogelu Lleol ac adolygu’r cynnydd yn y maes gwaith allweddol hwn dros y deuddeg mis diwethaf.

10.20 a.m. – 10.50 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaeth Cefnogi Cymunedol Adroddiad Blynyddol y Cydlynydd Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA) ar Amddiffyn Oedolion yn Sir Ddinbych yn 2016-17 (dosbarthwyd yn flaenorol).   

 

Eglurodd fod cyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor, a oedd yn rhoi gorolwg o effaith trefniadau diogelu lleol, yn cyflawni gofynion statudol y Gwasanaeth i adrodd ar berfformiad yn  y maes hynod bwysig, sensitif a risg uchel hwn i aelodau.    Roedd yr adroddiad yn manylu’r nifer o weithgareddau gwarchod oedolion yn Sir Ddinbych, oedd, fel ardaloedd awdurdodau lleol eraill, yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn.    Yn ogystal, roedd yn manylu perfformiad y sir o ran diwallu’r dangosydd perfformiad cenedlaethol a datblygiadau yn ystod y flwyddyn i’r Tîm Diogelu, a oedd wedi cryfhau’n sylweddol.    Roedd hefyd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ynglŷn â cheisiadau Amddifadu o Ryddid.  

 

Yn ystod ei gyflwyniad dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth fod pob awdurdod lleol ar draws Cymru wedi derbyn llythyr gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ynglŷn â phryderon yr Arolygiaeth am waith diogelu oedolion.  Byddai cyfarfod gyda Phrif Arolygydd AGGCC a Phrif Weithredwr CSDd i drafod materion lleol i’w gynnal yn y dyfodol agos.  

 

Hysbyswyd yr Aelodau o’r cyfanswm o atgyfeiriadau POVA a dderbyniwyd yn ystod  flwyddyn, roedd dros 75% ohonynt heb gyrraedd y Trothwy Diogelu Oedolion i gyfiawnhau ymchwiliad pellach.    Roedd ansawdd atgyfeiriadau a’r trothwy a osodwyd yn mynd drwy broses sicrwydd ansawdd rheolaidd i sicrhau eu bod yn deg i bawb.    Roedd ysbytai hefyd yn ymwneud â’r gwaith hwn. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan yr aelodau, fe wnaeth Pennaeth y Gwasanaeth:

·       gadarnhau bod y cynnydd parhaus yn y nifer o atgyfeiriadau Diogelu Oedolion a cheisiadau Amddifadu o Ryddid yn rhoi pwysau ar y Gwasanaeth ac yn ei gwneud yn anodd iawn diwallu dyddiadau targed.   Y prif nod ar ôl derbyn unrhyw atgyfeiriadau oedd sicrhau diogelwch unigolion diamddiffyn, roedd diwallu targedau’n dod yn ail;

·       os ar unrhyw dro y byddai’n bryderus am allu’r Gwasanaeth i ddiogelu oedolion diamddiffyn byddai’n codi’r risg gyda’r Tîm Gweithredol Corfforaethol i geisio cymorth ariannol/adnoddau;

  • dywedodd er bod ystadegau yn dangos bod dros 50% o’r gamdriniaeth honedig wedi’i gyflawni gan ‘weithiwr cyflogedig’ ac wedi digwydd mewn lleoliad ‘cartref gofal’ roedd yn bwysig cofio mai ‘honiadau’ oedd y rhain.    Roedd hwn yn dueddiad cenedlaethol mewn perthynas ag ystadegau POVA.   Roedd hefyd yn bwysig cofio bod gweithwyr mewn lleoliad cartref gofal yn darparu gofal personol dwys iawn a gallai, felly fod yn fwy tueddol o dderbyn honiadau yn eu herbyn.    Roedd y nifer o honiadau a brofwyd yn dilyn ymchwiliad yn llawer llai;
  • disgrifio’r broses uwchgyfeirio a ddilynwyd ar ôl honiad, gan bwysleisio bod capasiti tîm monitro contract y Cyngor wedi’i gryfhau yn ystod y flwyddyn i gefnogi’r broses ymchwilio;

·       cadarnhaodd bod holl atgyfeiriadau diogelu oedolion angen eu cydnabod ac ymholiadau o fewn 7 diwrnod i’w derbyn.    Fodd bynnag, os oedd honiad o natur ddifrifol, a oedd yn rhoi diogelwch unigolyn mewn perygl, byddai’n derbyn sylw ar frys ar y diwrnod y cafodd ei dderbyn; cadarnhawyd bod hyfforddiant diogelu yn orfodol i’r holl staff oedd yn gwneud gwaith am dâl fel yn y sector gofal; 

·       cytunodd gyda’r aelodau bod codi ymwybyddiaeth yn ddiweddar am faterion diogelu oedolion mae’n debyg wedi cyfrannu at y cynnydd yn y nifer o atgyfeiriadau; 

·       Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cael ei ystyried fel canlyniad negyddol os oedd yn golygu bod holl bobl ddiamddiffyn yn cadw’n ddiogel;

·       a dywedodd fod gan y Gwasanaeth ddigon o adnoddau eleni i ddiwallu dyletswyddau POVA a’r galw Amddifadu o Ryddid.   Byddai pob aelod etholedig yn derbyn cyflwyniad yn ystod yr hydref ar y gyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol, ei ofynion ariannol i ddiwallu dyletswyddau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Ar y pwynt hwn (10.40am) cafwyd egwyl o 15 munud.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.55am.

 

 

 

8.

RHYDDHAU AMSEROL O’R YSBYTY pdf eicon PDF 138 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Reolwr, Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi ynghlwm) yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd hyd yma o ran datblygu trefniadau cymunedol i gefnogi rhyddhau amserol o’r ysbyty.

11.00 a.m. – 11.30 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol adroddiad gan y Prif Reolwr – Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol (dosbarthwyd yn flaenorol) a oedd yn rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar gynnydd a wnaed hyd yma i ddatblygu trefniadau cymunedol i gefnogi rhyddhau amserol o'r ysbyty yn Sir Ddinbych.   

 

Roedd yr adroddiad y gofynnodd y Pwyllgor amdano yn rhoi gwybodaeth ar:

·       Oedi wrth drosglwyddo gofal, Rhyddhau a Llif;

·       Clwstwr Camu i Lawr a Thîm Camu i Lawr;

·       Gweithio gyda a chefnogi Cartrefi Gofal;

·       Gweithgaredd cymunedol presennol i gefnogi rhyddhau amserol trwy atal;

·       Cynlluniau a pheilotau ar gyfer y dyfodol; a

·       Gwell cyfathrebu a hynny’n rheolaidd

 

Yn ystod ei gyflwyniad, hysbysodd y Pennaeth Gwasanaeth yn ystod chwarter cyntaf 2017-2018 y bu ond un achos o Oedi wrth Drosglwyddo Gofal yn Sir Ddinbych ar y ‘dyddiau cyfrifiad’ penodol.  Roedd sefydlu’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad a’r Clwstwr a’r Tîm Camu i Lawr wedi helpu i wella perfformiad yn y maes hwn, ond yn bwysicach i helpu unigolion i ddychwelyd gartref gyda chefnogaeth briodol ddigonol.    Gwasanaethau eraill oedd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at ostyngiad yn yr Oedi Cyn Trosglwyddo Gofal oedd argaeledd y Gwasanaeth Ymarferydd Nyrsio Uwch a Gwasanaeth Nyrsio Ardal 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.   Roedd yn galonogol adrodd bod yr awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithio’n barhaus gyda’i gilydd ar bob lefel i dynnu holl rwystrau ac ymdrechu i gael gwasanaethau di-dor gwell.  Fodd bynnag, roedd yna rai agweddau o waith iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau’n anodd i’w gorchfygu e.e. pwysau ar wasanaethau gofal yn y cartref yn ardal wledig yn ne’r sir.   Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gwasanaethau Therapi BIPBC fod gwaith ataliol yn allweddol i leddfu’r pwysau ar ysbytai a gwasanaethau dwys eraill.   

 

Yn ystod y drafodaeth, roedd aelodau’r Pwyllgor yn:

·       croesawu’r dull integredig gan y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol tuag at gefnogi rhyddhau cleifion o'r ysbyty a sicrhau bod gwasanaethau perthnasol eraill i'w cefnogi ar ôl cael eu rhyddhau, gan gynnwys dioddefwyr dementia; a

·       chroesawyd dyhead yr Asesiad o’r Effaith ar Les (WIA) i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol oedd yn diwallu Safonau’r Iaith Gymraeg.

 

Mewn ymateb i bwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor, roedd y swyddogion Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn:

·       cadarnhau eu bod wedi cael anawsterau yn recriwtio digon o siaradwyr Cymraeg mewn rhai disgyblaethau iechyd/gofal cymdeithasol i ddiwallu’r dyhead yn yr Asesiad o’r Effaith ar Les, roedd gofal cartref yn un o’r meysydd hyn;

·       dweud eu bod yn gweithio’n agos gydag ysgolion a cholegau lleol gyda’r bwriad o hybu gyrfaoedd o fewn gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

·        roedd datblygu’r gweithlu’n gwneud cynnydd ar sail ranbarthol o dan arweiniad Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd;

·       egluro mewn manylder y broses Camu i Lawr ar gyfer rhyddhau o’r ysbyty a chefnogi annibyniaeth unigolyn gartref; ac 

·       amlinellodd effeithiolrwydd y Tîm Adnoddau Cymunedol yn y Rhyl, a’u cynlluniau i gyflwyno’r dull gwasanaethau integredig hwn i rannau eraill o’r sir maes o law, gan gynnwys Dinbych, Prestatyn a Rhuthun. 

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:

 

(i)               Llongyfarch y Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y gwaith a wnaed hyd yma i gefnogi rhyddhau amserol o’r ysbyty; a 

(ii)             chefnogi cynlluniau a pheilotau yn y dyfodol, o fewn ysbytai ac yn y gymuned, a anelwyd at wella canlyniadau i’r unigolion. 

 

 

9.

CYLLIDEBAU CYFUN pdf eicon PDF 290 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi ynghlwm) i roi gwybodaeth i’r Aelodau o ran y trefniadau cyllidebau cyfun presennol ac yn y dyfodol rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

11.30 a.m. – 12.00 noon

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Gareth Lloyd Davies yn datgan cysylltiad personol gan ei fod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol).   Dywedodd bod yr adroddiad, oedd yn amlinellu profiad y Cyngor mewn perthynas â sefydlu a gweithredu trefniadau dwy 'gyllideb gyfun’ gyda’r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei gyflwyno i’r aelodau yn unol â’u cais.    Byddai hyn cyn y gofyniad i sefydlu a gweithredu ‘cyllideb gyfun’ rhwng y ddau ar gyfer comisiynu gwasanaethau gofal preswyl.   Roedd ‘cyllideb gyfun’ y gwasanaethau gofal preswyl’ angen cael ei sefydlu erbyn Ebrill 2018 yn unol â darpariaethau’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  

 

Roedd y trefniadau ‘cyllideb gyfun’ a amlinellwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â’r Gwasanaeth Offer Cymunedol (CESI) a’r Gwasanaeth Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol).   Roedd trefniadau ar gyfer y ddau wasanaeth wedi eu manylu yn yr adroddiad ynghyd â'r cefndir cyfreithiol perthnasol ar gyfer eu sefydlu.   Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar faterion ariannol, materion llywodraethu, barn budd-ddeiliaid ar effeithiolrwydd y trefniadau ‘cyllideb gyfun’ a gwersi a ddysgwyd gan y ddau wrth gynllunio ar gyfer trefniadau 'cyllideb gyfun' mwy yn y dyfodol. 

 

Ar ôl cyflwyno’r adroddiad, dywedodd Cyfarwyddwr Ardal Cynorthwyol Gwasanaethau Therapi BIPBC o safbwynt trefniadau CESI, roedd cleifion nawr yn derbyn gwasanaeth di-dor, oedd yn darparu’r offer iechyd a gofal cymdeithasol yr oeddent eu hangen i gefnogi eu hannibyniaeth yn brydlon.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, roedd y swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn:

·       dweud y byddai amrywiaeth ehangach o offer nawr ar gael gan CESI.   Pan gafodd y gwasanaeth ei sefydlu, nid oedd eitemau fel ‘matresi lliniaru gwasgedd’ a gyflenwyd gan y Gwasanaeth Iechyd bryd hynny ar gael.  Fodd bynnag, dros y blynyddoedd roedd y Gwasanaeth wedi esblygu ac roedd arian y Gwasanaeth Iechyd mewn amrywiol gyllidebau adrannol wedi eu rhyddhau i’r ‘gyllideb gyfun’.   Roedd hyn wedi cynorthwyo CESI i ehangu a chyflenwi pob math o offer iechyd a gofal cymdeithasol. 

·       rhoi trosolwg o brisiau rhai mathau o offer, a oedd yn amrywio’n fawr;

  • cadarnhawyd bod offer wedi’i ddefnyddio a ddychwelwyd i CESI yn cael ei asesu, ei wasanaethu a’i lanhau gan arbenigwyr cyn ei roi i unigolion eraill.    Roedd amnest hefyd wedi’i gynnal i alluogi pobl i ddychwelyd offer nad oeddent ei angen mwyach i’r gwasanaeth;
  • byddai anghenion pob unigolyn yn cael eu hasesu gan weithwyr proffesiynol iechyd/gofal cymdeithasol cyn penderfynu pa offer/gymorth fyddai’n cynorthwyo ac yn cefnogi eu gofal a’u hannibyniaeth; a

·       cadarnhawyd nad oedd arian a roddwyd yn y ‘cyllidebau cyfun’ presennol gan y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn arian ychwanegol a roddwyd iddynt ar gyfer y diben hwn.    Roedd yn arian a roddwyd i’r ddau wasanaeth fel rhan o’u cyllideb gyffredinol a glustnodwyd gan wasanaethau ar gyfer offer gwaith HSCSW.  Drwy gyfuno’r arian hwn roedd yn helpu’r Gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gynyddu eu pŵer ‘prynu/comisiynu’ ar gyfer offer a gwasanaethau.   Yn ogystal, gall arian grant sy’n weddill, os yn briodol gael ei gynnwys mewn cyllideb gyfun yn dibynnu ar ddiben gwreiddiol y grant.    

 

Roedd y Pwyllgor yn:

 

PENDERFYNU derbyn y wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas â sefydlu a gweithredu trefniadau ‘cyllideb gyfun’ presennol rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys gwersi a ddysgwyd o’r profiadau hynny wrth i’r Cyngor baratoi i ymuno â threfniadau ‘cyllideb gyfun’ gorfodol yn y dyfodol yn unol â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 

 

 

10.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12.00 noon – 12.15 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Gwaith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion perthnasol. 

 

Yn ystod y drafodaeth:

·       Cytunwyd i ychwanegu Strategaeth Digartrefedd Sir Ddinbych 2017-21 a’r Cynllun Atal Digartrefedd/Cefnogi Pobl 2018/19 i’r rhaglen waith ar gyfer y cyfarfod ar 2 Tachwedd

·       Cytunwyd i ohirio eitem Un Pwynt Mynediad ar gyfer y cyfarfod ar 14 Rhagfyr 2017

·       Cytunwyd i wahodd Aelodau Arweiniol perthnasol ar y Cabinet i gyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol ar gyfer eitemau sy'n berthnasol i'w portffolios.

·       Cytunwyd i gynnal cyfarfod briffio am 9.30am gyda’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau i ddechrau am 10.00am.  Byddai hyn yn cael ei dreialu o’r cyfarfod ym mis Tachwedd 2017.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y newidiadau yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cymeradwyo’r Rhaglen Waith fel y caiff ei manylu yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

12.15 p.m. – 12.20 p.m.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 a.m.