Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Y Cynghorydd
Melvyn Mile Yr Aelod Cabinet
Arweiniol – y Cynghorydd Bobby Feeley. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd yn un i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd
unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu. |
|
Penodi
Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar gyfer blwyddyn 2017/18 y Cyngor
(disgrifiad o’r rôl wedi’i atodi). Cofnodion: O ystyried nad oedd aelodaeth y Cabinet yn derfynol
eto ac y byddai'n debygol o gael goblygiadau o ran aelodaeth pwyllgorau
archwilio, awgrymwyd gohirio penodi Is-Gadeirydd. PENDERFYNWYD – gohirio
penodi Is Gadeirydd y Pwyllgor tan y cyfarfod nesaf. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 451 KB Derbyn Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Ebrill 2017
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Ebrill
2017. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Ebrill, 2017 fel cofnod
cywir. |
|
PARTNERIAETH TELEDU CYLCH CAEËDIG SIR DDINBYCH PDF 208 KB Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) sy’n
rhoi diweddariad i’r aelodau am y Bartneriaeth Teledu Cylch Caeëdig a cheisio
cefnogaeth i’w chadw. 9.40 a.m. – 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
Aelod Arweiniol Perfformiad Cyllid ac Asedau Strategol yr adroddiad ac atodiad
cyfrinachol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) a brifiodd y Pwyllgor ynghylch y
cefndir i benderfyniad y Cyngor i dynnu’n ôl o ddarparu ei wasanaeth TCC a
throsglwyddo darpariaeth y gwasanaeth i Bartneriaeth TCC Sir Ddinbych. Cadarnhaodd y Cynghorydd Thompson-Hill - ·
er bod y Cydlynydd TCC llawn
amser yn cael ei gyflogi gan y Cyngor, roedd y swydd yn cael ei hariannu gan y
Bartneriaeth ·
er
gwaetha’r ffaith nad oedd y delweddau’n cael eu monitro 24 awr y dydd, ni fu cynnydd
amlwg mewn achosion o drosedd ac anrhefn. ·
tra
bo’r Bwrdd Partneriaeth TCC, a oedd yn goruchwylio gwaith y Bartneriaeth wrth
ddarparu’r gwasanaeth TCC, yn fodlon gyda'r gwasanaeth a ddarparwyd, cydnabu
nad oedd y trefniadau ar gyfer darparu’r gwasanaeth cyfredol yn gynaliadwy yn y
tymor hir oherwydd oed y gweinydd TGCh a’r gofynion cynnal a chadw camera. ·
roedd
y Bwrdd wedi archwilio nifer o fodelau darparu posibl ar gyfer y gwasanaeth. Ar ôl ystyried sawl opsiwn gwahanol,
cytunwyd dechrau gweithio gyda Chyngor Gorllewin Sir Gaer a Chaer er mwyn iddyn
nhw ymgymryd â’r gwaith o reoli’r gwasanaeth o ddydd i ddydd yn y dyfodol. Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, bu i'r Aelod
Arweiniol, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a'r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd
- ·
amlinellu cost y gwasanaeth TCC
pan oedd y Cyngor yn ei weithredu a’r penderfyniad a gymerwyd fel rhan o’r
ymarfer cyllideb Rhyddid a Hyblygrwydd i dynnu yn ôl o’i ddarparu gan nad oedd
yn wasanaeth statudol. ·
Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth ac felly
cytunwyd gweithio gyda’r holl bartneriaid a oedd yn fodlon cydweithio i
ddarparu gwasanaeth TCC. Cynghorwyd er nad oedd Cyngor Sir Ddinbych bellach yn
cyfrannu’n gorfforaethol tuag at gost y Gwasanaeth TCC, nid oedd gwasanaethau
penodol o fewn y Cyngor yn cyfrannu swm ariannol e.e. Gwasanaethau Parcio,
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. ·
cadarnhaodd
bod y Bartneriaeth TCC yn darparu gwasanaeth camera TCC gofod cyhoeddus
sefydlog i drefi Prestatyn, Rhuddlan a’r Rhyl. Roedd gan drefi sirol eraill eu trefniadau preifat
eu hunain ar gyfer gwasanaethau TCC ·
cynghorwyd
fod gan yr Heddlu TCC symudol a oedd yn cael eu defnyddio mewn mannau lle mae
trosedd ac anrhefn yn fynych. Roedd gan y Cyngor hefyd gamera symudol a allai gofnodi delweddau, ond nid
oedd yn bwydo’r llun i’r ystafell reoli ·
eglurwyd
y fformwla arfaethedig ar gyfer pob un o’r tair tref (yn yr atodiad
cyfrinachol) ar gyfer darparu Gwasanaeth TCC oddi wrth y Bartneriaeth a oedd yn
cynnwys isafswm sicr o gamerâu ar gyfer pob un o'r trefi. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y
cytundeb cynnal a chadw arfaethedig ar gyfer y camerâu a oedd eisoes yn eu lle
a’r camau a fyddai’n cael eu cymryd pan fyddai unrhyw gamera’n diffygio neu’n
dod i ben ei fywyd trwsiadwy. ·
pwysleisiwyd
o dan y cytundeb newydd y byddai sicrwydd ar yr isafswm o gamerâu ym mhob tref
ar unrhyw un adeg, er y byddai’r nifer o gamerâu sy’n effro ym Mhrestatyn a’r
Rhyl yn sylweddol uwch na'r isafswm sicr. Byddai swm a gyfrannwyd gan bob cyngor tref yn
sicrhau'r isafswm o gamerâu gweithredol ·
bod
Heddlu Gogledd Cymru yn cyfrannu £16k at y gwasanaethau TCC sir gyfan ar draws
y rhanbarth · cadarnhawyd bod y Bwrdd Partneriaeth TCC wedi ystyried pump gweithredwr posibl ar gyfer darparu gwasanaeth, gan gynnwys awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, ar ôl gwerthuso’r bidiau ac ymweld â holl ystafelloedd rheoli’r gweithredwyr er mwyn asesu’r math o wasanaeth y gellid ei ddarparu, daeth i’r amlwg bod y gwasanaeth y gallai CWCC ei gynnig yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
STRATEGAETH GOFLAWYR SIR DDINBYCH 2016-19 PDF 303 KB Ystyried
adroddiad gan Swyddog Comisiynu Gwasanaethau Gofalwyr (copi wedi'i amgáu) sy’n
rhoi diweddariad ar Strategaeth Gofalwyr Sir Ddinbych a cheisio barn a
chefnogaeth yr aelodau arni ac ar ei chyfer. 10.10 a.m. – 10.40 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth
Gymunedol a’r Swyddog Comisiynu ar gyfer Gofalwyr yr adroddiad, Cynllun
Gweithredu a’r Asesiad Effaith Lles (a ddosbarthwyd yn flaenorol). Yn eu cyflwyniad dywedont wrth aelodau bod
Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) wedi cael
hysbysiad yn ddiweddar eu bod wedi bod yn llwyddiannus yn eu bid am arian
Loteri. Roedd hyn yn newyddion da ar gyfer gofalwyr yn Sir Ddinbych gan y byddai
NEWCIS yn gallu cynnig seibiant ar gyfer gofalwyr yng nghynllun tai gofal
ychwanegol y sir. Mewn perthynas â chamau a oedd yn cofrestru fel ‘coch’ o hyd ar y cynllun
gweithredu, roedd cais llwyddiannus NEWCIS yn cynnwys ariannu ar gyfer elfen
gwasanaethau cwnsela ar gyfer gofalwyr, tra byddai trafodaethau ar fabwysiadu'r
model Cynhadledd Teulu ar gyfer sefyllfaoedd o fewn y gwasanaethau oedolion
bellach yn dechrau ym mis Ionawr 2018. Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd
y swyddogion:- ·
roedd
swyddogion a phartneriaid yn gwneud eu gorau i hyrwyddo'r gwasanaethau sydd ar
gael i’r holl ofalwyr o fewn y sir h.y. cafodd staff Pwynt Mynediad Sengl a
Pwynt Siarad hyfforddiant i nodi problemau ac anghenion gofalwyr ac i godi eu
hymwybyddiaeth o’r gwasanaethau sydd ar gael i’w cefnogi, sefydliadau trydydd
sector a gomisiynwyd gan y Cyngor ac ymwelodd y Bwrdd Iechyd â gwahanol
allfeydd gan gynnwys archfarchnadoedd a meddygfeydd ac ati i godi ymwybyddiaeth
a hyrwyddo gwasanaethau ar gyfer gofalwyr
·
tynnwyd
sylw'r aelodau at sioeau teithiol i ofalwyr a digwyddiadau hyrwyddo yn
rheolaidd a byddent yn parhau i gael eu cyhoeddi felly, gan fod croeso i
gynghorwyr fynychu ·
nid
yw bob unigolyn yn gweld eu hunain fel gofalwyr, yn enwedig o fewn sefyllfaoedd
teuluol. Maent yn tueddu i weld dyletswyddau gofalu fel rhan annatod o’u perthnasau. ·
mae
gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 ffocws penodol ar
ofalwyr, hyrwyddo annibyniaeth a sut byddai awdurdodau lleol yn cefnogi
gwasanaethau a anelir ar fagu gwytnwch ymysg cymunedau ·
roedd
y Cyngor yn ymwybodol bod yna tua 3000 o ofalwyr yn gofyn cymorth yn Sir
Ddinbych. Fodd bynnag, rhagamcanwyd i’r ffigwr hwn fod tua traean o wir nifer y
gofalwyr yn y sir ·
rhagamcanwyd
bod tua 8% o blant dan 18 mlwydd oed yn Sir Ddinbych yn ofalwyr ·
nid
oedd yr holl ofalwyr eisiau cymorth ffurfiol oddi wrth y Cyngor na sefydliadau
eraill Er enghraifft, roedd gofalwyr mewn ardaloedd gwledig yn tueddu i fod yn
wydn iawn ac yn cael cefnogaeth oddi wrth eu cymunedau ·
roedd
budd-daliadau heb eu hawlio yn faes cymhleth, tra bo gwerth ariannol
‘budd-daliadau heb eu hawlio’ yn Sir Ddinbych, fel yr adroddwyd yn y cyfryngau,
yn ymddangos yn gymharol uchel. Roedd y rheolau yn ymwneud â hawliadau
aelwydydd a budd-daliadau gorgyffyrddol yn golygu na allai unigolion hawlio’r
holl fudd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt. Roedd Cyngor Ar Bopeth Sir Ddinbych wedi darparu cyngor budd-daliadau ar
ran y Cyngor ac wedi datblygu agwedd gyfannol tuag at y cyngor budd-daliadau,
gyda'r bwriad o sicrhau gallai aelwydydd hawlio'r uchafswm hawliad a ganiateir.
·
roedd y Gwasanaeth Pwynt Mynediad
Sengl a’r CAB yn hynod ragweithiol wrth gyfeirio gofalwyr at wasanaethau a
allai fod ar gael iddynt; gan gynnwys atgyfeirio ar gyfer gwiriadau budd-dal ·
roedd
y sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ a gafodd staff gofal cymdeithasol gyda defnyddwyr
gwasanaeth hefyd yn erfyn defnyddiol i adnabod gofalwyr a’u cyfeirio at y
gefnogaeth bosibl sydd ar gael · roedd peth o’r gwaith estyn allan a wnaed i gefnogi gofalwyr ifanc ar draws y sir yn cynnwys mynd â grŵp ohonynt i ddefnyddio’r cyfleusterau Gwasanaethau Hamdden. Ymgymerodd y Swyddog Comisiynu ar gyfer Gwasanaethau Gofalwyr i drafod gyda’r Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaethau Hamdden ynghylch dichonolrwydd cyflwyno cardiau Canolfan Hamdden ar ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2016/17 PDF 211 KB Ystyried
adroddiad gan y Pen Reolwr: Gwasanaethau Cymorth (copi wedi’i amgáu) sy'n
cyflwyno drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
2016/17 er mwyn ei archwilio cyn ei gyflwyno i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru. 11.00 a.m. 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, yn ei rhinwedd fel Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau
Cymdeithasol y Cyngor Adroddiad Blynyddol 2016-17 drafft y Cyfarwyddwr. Soniodd
bod yr adroddiad, a oedd yn crynhoi ei gwerthusiad o effeithlonrwydd y
Gwasanaethau yn ystod y flwyddyn flaenorol ac yn amlygu’r blaenoriaethau ar
gyfer gwella yn ystod y flwyddyn gyfredol, yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar
gyfer ei sylwadau ar ei gynnwys cyn ei gyflwyno i'r rheoleiddiwr, Arolygiaeth
Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru erbyn y terfyn amser statudol. Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y
Cyfarwyddwr wrth aelodau'r Pwyllgor yn dilyn ei gwerthusiad o'r gwasanaethau a
ddarparwyd gan y gwasanaethau oedolion a gofal cymdeithasol, ei bod wedi dod
i’r canlyniad bod y gwasanaethau a ddarparwyd yn effeithiol yn y ddau sector. Fodd bynnag, byddai yna wastad lle ar
gyfer gwelliant a byddai yna wastad heriau newydd i’w taclo, felly ni fyddai
lle i fod yn foddog. Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau ar gynnwys yr
adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr - ·
bod y mater o ddigartrefedd yn
cael ei drin o dan ddeddfwriaeth benodol tra bo tai, gan gynnwys tai
cymdeithasol yn cael ei lywodraethu gan wahanol fframweithiau deddfwriaethol. ·
Roedd swyddogion yn gobeithio dod â’r Strategaeth Digartrefedd newydd
gerbron aelodau pan fyddai ar gael, a chadarnhawyd bod y gwasanaeth Pwynt
Mynediad Sengl gan mwyaf yn wasanaeth cyfeirio dros y ffôn ar gyfer
gwasanaethau eraill. Darparwyd gwasanaethau wyneb yn wyneb trwy'r fenter Pwyntiau Siarad. Roedd
y gwasanaethau Pwyntiau Siarad ar gael mewn gwahanol leoliadau o gwmpas y sir
ac roeddent yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor ac mewn lleoliadau
cymunedol. Os nad oedd person yn gallu mynychu digwyddiad Pwynt Siarad, gellid trefnu
ymweliad, ond yn anffodus nid oedd gan y Cyngor ddigon o adnoddau i drefnu
ymweliadau cartref fel mater o raid ·
Roedd
Pwyntiau Siarad yn ffordd effeithiol o gyfathrebu gyda phreswylwyr a thynnu
gwasanaethau i’w sylw gan fod ganddynt fynediad at ystod eang o arbenigwyr
proffesiynol i gynorthwyo gyda’r sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ gyda phreswylwyr ·
gwnaed
penderfyniadau ynghylch cynnal ymweliadau cartref â defnyddwyr gwasanaeth neu
ddarpar ddefnyddwyr gwasanaeth yn seiliedig ar farn arbenigol broffesiynol. Estynnodd y Pwyllgor eu llongyfarchiadau i’r
Cyfarwyddwr a’r Gwasanaeth ar eu hymateb cadarnhaol a rhagweithiol i’r Safonau
Cymraeg newydd a’r fframwaith Mwy Na Geiriau. Roedd yr aelodau o’r farn y dylid canmol
mabwysiadu'r ymagwedd 'Cynnig Gweithredol'. Canmolodd yr aelodau hefyd ansawdd y ddarpariaeth
gwasanaeth gofal cymdeithasol ar gyfer plant yn y sir. Yn dilyn ystyried yr adroddiad a’r ymatebion a
gafwyd i’r cwestiynau a ofynnwyd yn y Pwyllgor - PENDERFYNWYD – (a) Fod yn rhoi
disgrifiad clir o berfformiad y Gwasanaeth yn 2016/17, a; (b) Bod sesiwn
briffio’r Cyngor yn cael ei drefnu ar gyfer yr holl gynghorwyr sir ynghylch
materion tai, yr un llwybr mynediad at dai (SARTH), digartref a digartrefedd. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 226 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar
faterion perthnasol. 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor a rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Yn ystod y
drafodaeth a ddilynodd - ·
mewn ymateb i awgrymiadau ar
gyfer eitemau posibl i’w harchwilio yn y dyfodol, eglurodd y Cydlynydd
Archwilio'r broses gyfredol a thynnodd sylw at y ffurflen cynnig aelodau i’w
llenwi a’i chyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion. ·
Cytunwyd
gwahodd yr Aelodau Cabinet Arweiniol perthnasol i gyfarfodydd pwyllgor yn y
dyfodol i drafod eitemau busnes sy’n berthnasol i’w portffolios ·
ystyriwyd
a thrafodwyd enwebiadau ar gyfer penodi i'r Grwpiau Herio Gwasanaeth a'r
Grŵp Buddsoddi Strategol. PENDERFYNWYD – (a)
Yn amodol ar ychwanegu’r eitemau y
cytunwyd arnynt yn ystod y cyfarfod, cymeradwyo’r rhaglen waith i’r dyfodol fel
y manylir yn Atodiad 1 yr adroddiad; (b) penodi’r aelodau canlynol fel cynrychiolwyr y
pwyllgor ar y Grwpiau Herio Gwasanaeth - Gwasanaethau Addysg a Phlant – y
Cynghorydd Rhys Thomas Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol -
Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd – Y
Cynghorydd Christine Marston, a (c) Bod y Cydlynydd Archwilio yn e-bostio holl
aelodau’r pwyllgor yn gofyn am ddatganiadau o ddiddordeb am y swyddi gwag sy’n
weddill ac i roi ystyriaeth bellach i’r mater yn y cyfarfod nesaf. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.40pm. |