Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd cysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

4.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 197 KB

Derbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2017 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar 19 Ionawr 2017.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2017 fel cofnod cywir.

 

 

5.

DIWEDDARIAD AR WASANAETHAU MAMOLAETH A MERCHED/ UNED GOFAL DWYS NEWYDDANEDIG IS-RANBARTHOL YN YGC

Cael adroddiad llafar i amlinellu'r cynnydd hyd yma o ran datblygiad y gwasanaethau hyn yn Ysbyty Glan Clwyd a’r effaith ar breswylwyr Sir Ddinbych. 

9.35 a.m. – 10.15 p.m.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y cynrychiolwyr canlynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC); Alison Cowell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ardal Ganolog - Gwasanaethau Plant, Fiona Giraud, Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Bydwreigiaeth a Merched a Mandy Cook, Rheolwr y Gwasanaeth Newyddanedig i’r cyfarfod. Amlinellodd y cynrychiolwyr i’r Pwyllgor y cynnydd hyd yma o ran datblygiad y Gwasanaethau Mamolaeth, y Gwasanaethau Merched a’r Uned Gofal Dwys Newyddanedig Is-ranbarthol (SuRNNIC).

 

Yn ei chyflwyniad, diweddarodd Pennaeth y Gyfarwyddiaeth Bydwreigiaeth a Merched y Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed hyd yma gan y Gyfarwyddiaeth Bydwreigiaeth a Merched mewn perthynas â’r cynllun gwella mesurau arbennig, yn enwedig mewn perthynas â phedwar maes penodol:

 

·       Arweinyddiaeth: roedd y gwasanaethau bydwreigiaeth a merched bellach yn cael eu rheoli ledled Gogledd Cymru er mwyn cynorthwyo’r gwaith o fonitro’r gwasanaethau. Roedd gan y tri ysbyty cyffredinol unedau mamolaeth, gydag arweinydd clinigol wedi’i benodi i bob uned. Roedd y strwythur arweinyddiaeth sydd bellach ar waith yn cydymffurfio â gofynion Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynecolegwyr. Roedd Bydwraig Ymgynghorol newydd gael ei phenodi ar gyfer Ardal Bwrdd Iechyd BIPBC, a hynny yn Ysbyty Glan Clwyd;

·       Gweithlu: cafwyd problem staffio genedlaethol wrth gynnal rotâu meddygol gradd ganolig. Profodd BIPBC fodel newydd yn llwyddiannus a arweiniodd ato i allu recriwtio tair swydd ymgynghorol yn y Gyfarwyddiaeth. Yn ogystal, cryfhawyd cytundebau llywodraethu mewn perthynas â materion y gweithlu;

·       Diwylliant: yn dilyn penderfyniad i symud myfyrwyr hyfforddiant bydwreigiaeth y drydedd flwyddyn o safle Ysbyty Glan Clwyd, rhoddwyd cynllun cyflawni at ei gilydd gyda’r bwriad o wella’r amgylchedd dysgu ar y safle. Byddai’n cymryd hyd at 12 mis i roi’r cynllun ar waith yn llawn, ond roedd rhai o fyfyrwyr Prifysgol Bangor eisoes wedi dychwelyd i’r safle i barhau â’u hastudiaethau. Dynodwyd dau faes penodol ar gyfer gwelliant yn safle Ysbyty Glan Clwyd, eu bwriad oedd cynyddu nifer y mamau oedd yn bwydo’u plant ar y fron (nid oedd hyn yn unigryw i Ysbyty Glan Clwyd) a lleihau nifer y genedigaethau toriad Cesaraidd yn yr ysbyty (yn hanesyddol, roedd Ysbyty Glan Clwyd yn cyflawni mwy o enedigaethau Cesaraidd nag unedau mamolaeth cymharol eraill). Roedd angen i swyddogion roi gwybod am berfformiad yn erbyn y camau gwella hyn i’r Prif Swyddog Nyrsio ym mis Tachwedd bob blwyddyn;

·       Cydymffurfiaeth: cafwyd gwelliant nodedig yn y maes hwn. Roedd y Gwasanaeth bellach yn cael ei fonitro ledled Gogledd Cymru bob pedair awr. Yn ogystal, cyfarfu’r swyddogion gyda Llywodraeth Cymru bob pythefnos mewn perthynas â materion cydymffurfiaeth.

 

Wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau, dywedodd cynrychiolwyr BIPBC:

 

·       Roedd gan Ysbyty Glan Clwyd un theatr Obstetreg pwrpasol ac yn achos llawdriniaethau Cesaraidd mewn argyfwng, 30 munud oedd y targed, gyda phob achos yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i flaenoriaethu yn unol â hynny. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar y pryd i asesu gofynion adnoddau i’r dyfodol, gan gynnwys darpariaeth theatr ac anesthetydd ac ati;

·       Yn hanesyddol, Ysbyty Glan Clwyd oedd â’r cyfraddau genedigaethau Cesaraidd uchaf yng Ngogledd Cymru. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i hybu genedigaethau naturiol lle bo’n briodol ac i leihau nifer yr ymyriadau diangen. Byddai’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan y Fydwraig Ymgynghorol yn yr ysbyty;

·       Er na sefydlwyd cyswllt amlwg rhwng amddifadedd a chyfraddau’r genedigaethau Cesaraidd, roedd cyswllt rhwng gordewdra a genedigaethau Cesaraidd. O ganlyniad, gan fod gan ryw 25% o famau beichiog yng Ngogledd Cymru Indecs Màs y Corff (BMI) o 35 neu’n uwch, roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda’r bwriad o addysgu mamau beichiog ynghylch cynnal ffyrdd o fyw iach;

·       Roedd gwasanaethau merched, gan gynnwys y gwasanaethau canser, yn cael eu datblygu ledled Gogledd Cymru gyda’r bwriad o gydymffurfio â safonau Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a Gynecolegwyr. Roedd datblygiad yr  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

GWASANAETH TU ALLAN I ORIAU MEDDYGON TEULU

Cael adroddiad llafar gyda manylion y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu

10.15 a.m. – 11.00 a.m.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Sefton Brennan, Arweinydd Uwch Adran (Canolog), Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu Gogledd Cymru, i’r cyfarfod.

 

Rhoddodd Mr Brennan wybodaeth ystadegol fanwl oedd yn cynnwys:

·       Y ffaith yn ystod mis Ionawr 2017 fod 99.4% ac ym mis Chwefror 2017 fod 99.1% o oriau staffio’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu wedi’u llenwi, gyda dim ond 1 sifft heb ei llenwi ym mis Ionawr a 2 ym mis Chwefror. Roedd y rhain heb eu llenwi oherwydd salwch staff;

·       Yn hanesyddol, yn ystod y 12 mis cyn hynny, ar wahân i gyfnod y gwyliau, roedd yr oriau staff a lenwyd oddeutu’r 90% uchel;

·       Roedd gan y Gwasanaeth bellach 43 meddyg teulu’n gweithio iddo, o gymharu â 29 ym mis Mehefin 2015. Er nad oedd ambell i feddyg teulu oedd yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau’n perthyn i ymarfer meddyg teulu penodol, roedd yr holl feddygon teulu’n gweithio’n gyson yn ardal y Bwrdd Iechyd;

·       Ar gyfartaledd, deliodd y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu’r Uwch Adran Ganolog â rhyw 3,600 o gleifion y mis. Fodd bynnag, yn ystod mis Rhagfyr 2016, deliodd y Gwasanaeth â’i nifer uchaf o gleifion mewn un mis ers 4 blynedd;

·       Er gwaetha’r ffaith bod y Gwasanaeth ond ar gael am 70% o’r amser yr oedd Adrannau Argyfwng  yr ysbyty ar gael, deliodd â mwy o gleifion na’r Adrannau Argyfwng. Mae Gwasanaethau Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu ledled Gogledd Cymru’n delio â rhyw 10,000 o gleifion y mis.

·       Un maes yr oedd y Gwasanaeth yn tanberfformio ynddo oedd cwblhau dogfennau o fewn yr amserlen ddisgwyliedig, yn enwedig mewn achosion lle nad oedd angen ymyrraeth. Serch hynny, roedd perfformiad Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu’r Adran Ganolog yn gyson â pherfformiad cyfartalog Cymru gyfan;

·       Roedd meddyg teulu bellach yn gweithio yn yr Adran Argyfwng rhwng 10am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener gyda’r bwriad o leddfu’r pwysau ar yr Adran a’u rhyddhau nhw i ddelio â gwir argyfyngau. Teimlwyd bod y dull hwn o fantais gan fod angen rhyw fath o sylw neu ymyrraeth ar sefyllfa pob claf unigol, a gallai’r meddyg teulu yn yr Adran Argyfwng asesu cyflwr y claf i benderfynu a oedd yn deilwng o’i dderbyn fel achos argyfwng i’r ysbyty neu gam arall. Yn ogystal, calonogodd y cleifion oherwydd eu bod yn cael eu gweld a’u trin gan weithiwr meddygol proffesiynol;

·       Oddeutu 5% oedd y cyfraddau atgyfeirio gan Wasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu i Ysbytai Cyffredinol yr ardal, a olygai bod 95% o gleifion yn cael eu gweld gan y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu nad oedd angen eu derbyn i’r ysbyty fel mynediad argyfwng;

 

Roedd y Gwasanaeth yn ymdrechu’n gyson i wella’i wasanaethau i gleifion ac yn ymdrechu i gyflwyno profiad o wasanaeth iechyd mwy holistaidd a di-dor i’r claf. Roedd y gwasanaeth yn gweithio ar y cyd â darparwyr gwasanaeth iechyd a sefydliadau gwirfoddol eraill e.e. Adrannau Argyfwng, Ysbytai Ardal Cyffredinol, Fferyllwyr, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Gwasanaeth Nyrsio Marie Curie. Darparodd Mr Brennan enghreifftiau o’r gwaith hwnnw, er enghraifft gweithio i wella amserau ffonio’n ôl gan nyrsys brysbennu er mwyn calonogi’r cleifion ac atal ymweliadau diangen i adrannau argyfwng a gweithio gyda chleifion i’w helpu i ddewis y llwybr cywir i fodloni eu hanghenion iechyd a lles cymdeithasol, gan fod oddeutu 9% o faich gwaith Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu’n atgyfeiriadau o’r Adran Argyfwng neu WAST. Yn ogystal, roedd y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu wedi ailddechrau gweithio gyda’r Gwasanaeth Nyrsio Ardal, roedd 1 Nyrs Ardal  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

Cafwyd egwyl o 15 munud yn y fan hon (11.25am).

 

Ailalwyd y cyfarfod am 11.40am.

 

 

7.

LANSIO YMGYNGHORIAD AR ASESIAD LLES BGC CONWY A SIR DDINBYCH. pdf eicon PDF 246 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Rhanbarthol (copi ynghlwm) ar gyfer lansio ymgynghoriad ar Asesiad Lles Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy/ Sir Ddinbych, a luniwyd yn unol â’r Ddeddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

11.10 a.m. – 12.00 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) gan fod arweiniad statudol yn datgan bod rhaid gwneud ymgynghoriad ar ei gynnwys a bod Pwyllgor Archwilio’r Awdurdod Lleol yn ymgynghorai statudol. 

 

Disgrifiodd yr Arweinydd y broses a gyflawnwyd i lunio’r adroddiad, ei strwythur a’i argaeledd, ynghyd â’r broses barhaus ar gyfer cynnal a chadw. Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd yr Asesiad Lles a’r pwyslais cynyddol ar “les” a gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn lleol ac yn genedlaethol.

 

Rhoddodd Reolwr Tîm Cynllunio Strategol y Cyngor drosolwg o sut casglwyd y wybodaeth ynghyd ag arddangosiad o’r Asesiad Lles seiliedig ar y we.  Roedd hyn yn cynnwys y data yn yr asesiad ar lefel gymunedol, sirol ac ardal y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus. Rhoddodd wybod, yn y dyfodol, y byddai disgwyl i bob awdurdod cyhoeddus yn ardal y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus ddefnyddio’r wybodaeth yn yr asesiad lles wrth osod eu hamcanion lles ac wrth lunio cynlluniau a strategaethau ar gyfer gwasanaethau ac ar gyfer yr ardal. Roedd y swyddogion wrthi’n datblygu strategaeth gyfathrebu i lunio’r Asesiad a’i bwysigrwydd i sylw’r holl bobl a rhanddeiliaid perthnasol. Byddai’r Asesiad yn datblygu’n gyson ac yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, ond o’r herwydd, ni fyddai’n benthyg ei hun yn dda i gael ei gyhoeddi fel dogfen copi caled. Fodd bynnag, petai aelod eisiau manylder penodol o fewn yr Asesiad, gallai adrannau penodol gael eu hargraffu at y diben hwnnw, gyda chafeat eu bod yn destun newidiadau cyson.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, rhoddodd yr Arweinydd, y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol wybod:

 

·       Y byddai’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yn cyfarfod ar 27 Mawrth 2017 i drafod ymatebion yr ymgynghoriad, ac felly bydden nhw’n gwerthfawrogi cael arsylwadau’r aelodau ar yr Asesiad Lles erbyn 24 Mawrth 2017;

·       Yn y dyfodol, byddai’r Asesiad Lles yn ffurfio sail y Cyngor a gweithgareddau cynllunio strategol ei bartneriaid ac y byddai’n cael ei ddefnyddio i gefnogi datblygiad eu cynlluniau. Byddai’n gofyn am newid diwylliannol yn y ffordd yr oedd yr holl bartneriaid yn gweithio ac yn cydweithio at y diben o wneud y sir ac ardal y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus yn lle gwell, gyda darparwyr gwasanaeth yn anelu at gyflawni gwell canlyniadau i ddinasyddion;

·       O ganlyniad i’r uchod, roedd hi’n hanfodol i’r holl wasanaethau a grwpiau o fewn y Cyngor fod yn ymwybodol o fodolaeth yr Asesiad Lles ac yn cytuno ei egwyddorion;

·       Wedi cadarnhau bod angen rhagor o waith o ran proffiliau cymunedol unigol ar wefan yr Asesiad. Byddai’r maes hwn yn cael ei boblogi fel rhan o waith cynnal a chadw parhaus y wefan;

·       Byddai angen i’r Cyngor hefyd herio a monitro ymrwymiad sefydliadau partner eraill y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus i ddefnyddio’r wybodaeth yn yr Asesiad Lles wrth lunio’u cynlluniau strategol ac ati.

 

Mewn ymateb i’r pwynt olaf rhoddodd y Cydlynydd Archwilio wybod fod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu sefydliad allanol i ddatblygu arweiniad ar sut i archwilio cyflawniad y Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus o ofynion nodau lles Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn effeithiol. Roedd disgwyl i’r arweiniad drafft gael ei gylchredeg i Swyddogion Archwilio yng Nghymru am ymgynghoriad yn y dyfodol agos. Roedd disgwyl i Swyddogion Archwilio Gogledd Cymru gyfarfod ar ddiwedd mis Mawrth i ystyried yr arweiniad drafft a darparu eu harsylwadau ar ei gynnwys.

 

Gofynnodd yr Arweinydd fod y Pwyllgor, fel y pwyllgor dynodedig ar gyfer Archwilio’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus, yn monitro’n agos ymrwymiad partneriaid y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus i ddefnyddio’r Asesiad Lles ar gyfer eu gwaith cynllunio strategol.

 

Cyn cloi’r drafodaeth, gofynnodd yr Aelodau bod sesiwn hyfforddiant yn cael ei chynnal i bob cynghorydd ar ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015,  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Rhaglen Waith Archwilio pdf eicon PDF 107 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r newyddion diweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

12.00 p.m. – 12.20 p.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dosbarthwyd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a ofynnodd i’r Pwyllgor adolygu a chytuno’i Flaenraglen Waith ac a ddarparodd ddiweddariad ar y materion perthnasol, gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cafodd copi o dempled “ffurflen gynnig yr Aelod” ei gynnwys yn Atodiad 2, cafodd Blaenraglen Waith y Cabinet ei gynnwys yn Atodiad 3, ac mae tabl yn crynhoi atebion diweddar y Pwyllgor ac yn rhoi cyngor ar gynnydd o ran eu gweithrediad ynghlwm yn Atodiad 4.

 

Ni chyfeiriwyd unrhyw eitemau at y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio.

 

Byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 6 Ebrill a byddai’r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Bobby Feeley yn cael ei wahodd i fynychu.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, bod y Blaenraglen Waith yn cael ei gymeradwyo.

 

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

12.20 p.m. – 12.25 p.m.

 

Cofnodion:

Cadarnhaodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler iddi fynychu’r Her Gwasanaeth Cyllid.

 

Croesawodd yr Aelodau’r cadarnhad gan y Prif Weithredwr y byddai’r broses her gwasanaeth yn parhau yn ystod tymor y Cyngor newydd.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.30 p.m.