Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones gysylltiad personol gydag eitemau 4, 5 a
6. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Ar y pwynt hwn yn
y cyfarfod, cytunodd pawb a oedd yn bresennol y dylid amrywio trefn yr eitemau
ar y Rhaglen i gynorthwyo cynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,
gan fod dau ohonynt â chyfarfodydd eraill yn y prynhawn oedd wedi’u trefnu’n
flaenorol. |
|
Cynllun Tair Blynedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 2015-2018 Ystyried
adroddiad llafar ar y cynnydd hyd yma o ran gweithredu a darparu cynllun tair
blynedd y Bwrdd Iechyd. 9.35 am – 10.05 am Cofnodion: Cyflwynodd Mr
Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr, Cynllun Tair Blynedd 2015-18.
Eglurodd y
Cyfarwyddwr i’r aelodau y cafwyd trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru (LlC) cyn
gosod y Bwrdd Iechyd mewn Mesurau Arbennig. Yn
ystod y trafodaethau cytunwyd na fyddai’r Bwrdd yn llunio cynllun tair blynedd
i ddechrau o 2015. Byddai’r cynllun tair blynedd yn dechrau o flwyddyn ariannol
2016/17. Ar gyfer y flwyddyn gyfredol, byddai’r Bwrdd, fel
rhan o’i gynllun gwella, yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol: ·
Ailgysylltu
â’r cyhoedd, staff a chyfathrebu ·
Gwella
Iechyd Meddwl ·
Obstetreg
a Gynaecoleg ·
Llywodraethu
Corfforaethol, a ·
Gwasanaethau
Meddyg Teulu y tu hwnt i oriau arferol. Er mwyn gwella
cyfathrebu ac ailgysylltu â staff a budd-ddeiliaid, mae'r Bwrdd wedi mynychu
nifer o ddigwyddiadau, yn ystod misoedd yr haf. Roedd
y digwyddiadau yn cynnwys y rhai a drefnwyd gan y Bwrdd a’r sioeau a ffeiriau
eraill y mae’r cyhoedd yn ymweld â nhw yn rheolaidd. Pwrpas
mynychu digwyddiadau oedd ceisio ailgysylltu â phobl a chasglu eu safbwyntiau
ynglŷn â’r Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru o ran yr hyn sydd wedi bod
yn gweithio’n dda a pha feysydd sydd angen eu gwella. Byddai’r
adborth o’r digwyddiadau’n cael ei ddadansoddi a byddai’r prif gasgliadau a
chanfyddiadau’n cael eu darparu mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn y dyfodol i
benderfynu â ydynt yn cyd-fynd â safbwynt y cyhoedd yn gyffredinol, cyn eu
defnyddio i gynllunio newidiadau i’r gwasanaeth yn y dyfodol. Roedd yr
ymgynghoriad ynglŷn â newidiadau dros dro i’r gwasanaethau obstetreg a
gynaecoleg yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Byddai
ymgynghoriadau pellach ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl a’r Gwasanaeth
Meddyg Teulu y tu hwnt i oriau arferol hefyd yn cael eu cynnal yn fuan. Hysbysodd cynrychiolwyr
BIPBC yr aelodau o’r canlynol: ·
Roedd
y Bwrdd yn awr yn y broses o ddatblygu ei gynllun ariannol a blaenoriaethau ar
gyfer 2016/17. ·
Roedd
rhan o’r gwaith cynllunio yn cynnwys gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fapio
heriau iechyd a sut i wella iechyd yn gyffredinol, gan gynnwys y gwaith sydd ei
angen yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y rhanbarth. Byddai gwaith hefyd yn cael ei gyflawni
gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol i gydymffurfio â gofynion Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. ·
Roedd
cyfarfod y Bwrdd wedi’i drefnu ar gyfer yr ail wythnos ym mis Hydref i drafod
sut i gydbwyso eu blaenoriaethau nhw a blaenoriaethau’r gymuned. ·
Roedd
yn rhaid i’r Bwrdd gwblhau a chytuno ar ei Gynllun erbyn mis Ionawr 2016 er
mwyn ei alluogi i ddechrau trafodaethau ynglŷn â blaenoriaethau gyda LlC
rhwng mis Ionawr a Mawrth 2016. ·
Ar
lefel leol yng Nghonwy a Sir Ddinbych, roeddent yn awyddus i ailgysylltu â
chymunedau yn y ddwy sir i drafod blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol y
Bwrdd a’r gymuned ar lefel leol. Er
mwyn hwyluso hyn, roedd nifer o weithdai i'w trefnu ar gyfer mis Hydref 2015. ·
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr ei bod yn hanfodol llunio deialog dwy ffordd rhwng y Gwasanaethau
Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu
diwallu. Cadwyd trafodaeth
ac ymatebodd Swyddogion BIPBC i gwestiynau’r Aelodau fel a ganlyn: · Cadarnhaodd y byddai ailddatblygu Ysbyty Glan Clwyd yn brosiect mawr a chymhleth a oedd wedi achosi anghyfleustra i gleifion, staff ac ymwelwyr. Er mai’r nod wreiddiol oedd gwaredu asbestos o’r adeilad, roedd y Bwrdd wedi defnyddio'r prosiect fel cyfle i uwchraddio deunydd yr ysbyty a’i arfogi â’r cyfleusterau meddygol diweddaraf, h.y. wardiau o’r radd flaenaf, theatrau, Adran Argyfwng a Gofal Brys, Uned Gofal Critigol ac ati. Byddai buddion y rhaglen ailddatblygu yn haws eu gweld wrth agor y brif fynedfa newydd ym mis Hydref a phan agorwyd ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
NEWIDIADAU DROS DRO I WASANAETHAU MERCHED A MAMOLAETH YNG NGOGLEDD CYMRU PDF 568 KB Ystyried cynigion
y Bwrdd Iechyd ar gyfer newidiadau dros dro i wasanaethau merched a mamolaeth
yng ngogledd Cymru (adroddiad ynghlwm) a darparu barn y Pwyllgor i'r Bwrdd
Iechyd ar y cynigion fel rhan o'r ymgynghoriad 'Dweud eich Dweud'. 10.05 am – 10.45 am Cofnodion: Cyflwynodd
Gyfarwyddwr Cynorthwyol, Strategaeth ac Ymgysylltu, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr (BIPBC), Sally Baxter, y newidiadau dros dro i Wasanaethau
Merched a Mamolaeth yng Ngogledd Cymru.
‘Dweud eich Dweud’ Roedd copi o’r
fersiwn gryno wedi’i ddosbarthu i’r aelodau gyda phapurau’r pwyllgor. Yn
ei chyflwyniad, pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol bod y newidiadau
arfaethedig yn fesur dros dro nes y gellir sefydlogi’r sefyllfa staffio. Roedd
y cynigion yn ymwneud â newidiadau dros dro i leoliad gwasanaethau obstetreg,
gynaecoleg a llawfeddygaeth y fron dan arweiniad meddyg ymgynghorol. Byddai
gwasanaethau bydwragedd a newydd-anedig yn parhau ar y tri safle. Cydnabu’r
Bwrdd bod y cynigion yn achosi pryder mawr i breswylwyr ar draws y rhanbarth,
ond yn teimlo bod yn rhaid gwneud rhywbeth dros dro i leihau’r risg i famau
beichiog a’u babanod. Yr opsiwn a ffefrir gan y Bwrdd oedd
Opsiwn 4, newidiadau dros dro i wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, gan
eu bod yn credu mai dyma’r opsiwn â’r effaith lleiaf sylweddol ar deithio ac y
gellir rhoi gwasanaethau eraill ar waith yn gyflym. Roedd y Bwrdd yn agored i
awgrymiadau, ac roedd y 4 opsiwn yn destun ymgynghoriad tan 5 Hydref 2015.
Cynghorwyd yr Aelodau y gallant ymateb fel unigolion ac fel Pwyllgor i’r
ymgynghoriad. Gofynnwyd i'r Aelodau hefyd i annog trigolion yn
eu wardiau i ymateb. Cafwyd trafodaeth
ynglŷn â’r holl opsiynau ac ymatebodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol i
ymholiadau’r Aelodau fel a ganlyn: ·
Hysbysu’r
Aelodau bod digwyddiad ymgynghori cyhoeddus wedi’i drefnu ar gyfer 2 Hydref yn
Ninbych, gyda sesiynau’n cael eu cynnal am 2.00pm a 5.30pm. Gofynnodd
y Cyfarwyddwr Cynorthwyol bod yr Aelodau’n tynnu sylw’r preswylwyr at hyn. ·
Roedd
datblygiadau meddygol a thechnolegol wedi symud ymlaen yn sylweddol ers pan
adeiladwyd y tri ysbyty cyffredinol rhanbarthol, ynghyd â disgwyliadau’r
Ddeoniaeth a disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Roedd mwy o bwyslais ar
ganolfannau meddygol arbenigol â rhagoriaeth a symud cleifion o amgylchedd yr
ysbyty cyn gynted â'i bod yn ddiogel gwneud hynny. ·
Darparodd
sicrwydd i’r Aelodau y byddai gan y Bwrdd fesurau ar waith i symud mamau a oedd
angen gofal dan arweiniad meddyg ymgynghorol i’r safle priodol cyn gynted â
phosibl – os oedd yn enedigaeth a gynlluniwyd ymlaen llaw dan arweiniad meddyg
ymgynghorol, yna bydd trefniadau’n cael eu llunio ymlaen llaw iddynt allu mynd
i’w safle a ffefrir. Pe bai yn sefyllfa brys, byddai tîm
meddygol cyffredinol wrth law i sefydlogi’r claf tra gwneir trefniadau gyda’r
Gwasanaeth Ambiwlans i'w symud i’r safle agosaf sydd dan arweiniad meddyg
ymgynghorol. ·
Nifer y genedigaethau cesaraidd
brys yng Ngogledd Cymru bob blwyddyn oedd tua 1% o gyfanswm yr holl
enedigaethau. ·
Ail- gadarnhaodd bod y cynigion
yn fesur dros dro ac yn gysylltiedig â datblygu Canolfan Ofal Dwys
Newydd-anedig Isranbarthol yn Ysbyty Glan Clwyd fel canolfan ragoriaeth ar
gyfer babanod gydag anghenion sy’n fwy cymhleth - byddai’r uned hon dan
arweiniad meddyg ymgynghorol. ·
Pe
bai’n dod i’r amlwg nad oes modd datrys y problemau staffio a bod angen ymestyn
cyfnod y newidiadau dros dro, byddai’n rhaid i’r Bwrdd ail-ymgynghori ar y
cynigion gan nad oes modd eu hymestyn am gyfnod amhenodol. ·
Nododd
bod marwolaethau o bryd i’w gilydd hyd yn oed mewn unedau mamolaeth dan
arweiniad meddyg ymgynghorol. ·
Cadarnhaodd
nad oedd prinder bydwragedd yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd, a bod 27 o
fydwragedd wedi’u recriwtio’n ddiweddar. · Cadarnhaodd i’r aelodau nad oedd y newidiadau dros dro yn ymarfer arbed costau. Roeddent yn cael eu cynnig fel mesur i fynd i'r afael â phroblemau o ran lefelau staffio a allai beri risg i fenywod ac i'r Bwrdd. Ar ddiwedd yr ymarfer ymgynghori, byddai gweithredu unrhyw un o’r opsiynau yn golygu goblygiadau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn
(11.15 a.m.) cafwyd toriad am 15 munud Ailddechreuodd y
cyfarfod am 11.30am. |
|
BIPBC YNG NGHONWY A SIR DDINBYCH Ystyried
cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Ardal Ganol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
ar y cynnydd a wnaed ar ddatblygu strwythur ardal ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn
ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych. 11.00 am – 11:30 am Cofnodion: Cyflwynodd Gyfarwyddwr Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, Bethan Jones, gyflwyniad
BIPBC yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Croesawyd y
Cyfarwyddwr Ardal i'r cyfarfod ac aeth ymlaen i roi cyflwyniad ar y cynnydd a
wnaed hyd yn hyn i ddatblygu strwythur ardal is-ranbarthol ar gyfer gwaith y
Bwrdd Iechyd yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Eglurodd
y Cyfarwyddwr Ardal sut y byddai'r strwythur newydd yn ymgysylltu a
rhyngweithio gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid. Yn
ystod ei chyflwyniad rhoddodd y Cyfarwyddwr Ardal drosolwg o'r Tîm
Arweinyddiaeth a’r Strwythur Ardal a oedd yn gweithredu oddi tano. Amlinellodd y Gwasanaethau
Cymorth Corfforaethol sydd ar gael iddynt, egwyddorion gweithredu'r Strwythur
Ardal a'u blaenoriaethau allweddol ar gyfer y tair blynedd nesaf. Mewn ymateb i
gwestiynau’r aelodau: ·
Cadarnhaodd
bod y Bwrdd Iechyd wedi sefydlu tri strwythur “ardal newydd” ar gyfer Gogledd
Cymru, yn seiliedig yn ardaloedd awdurdodau lleol: Ø
Ynys Môn a Gwynedd Ø
Conwy
a Sir Ddinbych, a Ø
Sir y Fflint a Wrecsam Y safle ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych oedd Ysbyty Llandudno. ·
Cytunodd
bod cyfathrebu effeithiol ac amserol yn allweddol i ddarparu gwasanaethau o
ansawdd ac i ddatblygu ymddiriedaeth a hyder ar lefel uchel ymhlith y
trigolion. Roedd angen gwella’r diffygion o ran cyfathrebu
effeithiol ac amserol rhwng personél y gwasanaeth iechyd gan ei fod yn peri
risg i’r Bwrdd, yn achosi oedi gormodol yn nhriniaethau cleifion ar adegau ac
yn achosi costau ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. ·
Cadarnhaodd
y byddai cryn dipyn o waith yn cael ei gyflawni mewn perthynas â Gwasanaeth y
Tu Hwnt i Oriau Arferol ar draws Gogledd Cymru. Roedd
pryderon bod cleifion sy’n methu â chael apwyntiadau gyda’u Meddygon Teulu eu
hunain yn defnyddio’r Gwasanaeth y Tu Hwnt i Oriau Arferol ar y penwythnosau. ·
Cadarnhaodd
bod cytundebau Meddygon Teulu yn nodi nad oedd yn ofynnol iddynt weithio ar
benwythnosau ar hyn o bryd. ·
Hysbysodd
y Pwyllgor bod angen hyrwyddo argaeledd Unedau Mân Anafiadau yn yr ysbytai
cymunedol i breswylwyr, ynghyd â’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig er mwyn
lleihau’r pwysau ar Adrannau Argyfwng a Damweiniau yr ysbytai cyffredinol. Awgrymodd
yr Aelodau y gallai fod yn fanteisiol pe bai enw’r Unedau Mân Anafiadau’n newid
i Adrannau Mân Anafiadau ac Anhwylderau ·
Cadarnhaodd
bod angen cynorthwyo pobl i ddychwelyd i’w cartrefi yn gynt ar ôl cyfnod yn yr
ysbyty, yn enwedig pan mai dim ond mân addasiadau sydd eu hangen e.e. gosod
rheiliau ac ati. Byddai’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu trwy’r prosiect “Beth
sy’n bwysig”. ·
Cadarnhaodd
bod enghreifftiau o ymarfer da a drwg o ran cynlluniau gadael yr ysbyty ynghyd
â darparu offer arbenigol. ·
Cadarnhaodd
yn y blynyddoedd diwethaf, bod gofal sylfaenol wedi’i drefnu fesul clwstwr
gyda’r nod o gynyddu gwydnwch, yn enwedig mewn meysydd megis TG a chefnogaeth
ar gyfer meddygfeydd ag un meddyg teulu. ·
Cydnabod
nad oedd materion iechyd meddwl lefel isel wedi cael sylw gan Feddygon Teulu yn
flaenorol, roedd hyn wedi arwain at ymyrraeth lefel uwch wedi hynny. ·
Cynghorodd
bod materion iechyd meddwl yn rhan o’r sector gofal iechyd eilaidd ar hyn o
bryd. Fodd bynnag, roedd y Cyfarwyddwr Ardal o’r farn y
dylai ffurfio rhan o’r gwaith “ardal” yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried y
dystiolaeth y byddai dementia yn ffurfio cyfran fawr o waith y gwasanaeth
iechyd lleol yn y dyfodol. ·
Agwedd
arall a oedd angen ei wella oedd gofal lliniarol a’r angen i wella sgiliau’r
sector gofal i ddarparu gofal lliniarol yn hytrach nag achosi gofid diangen i’r
claf a’u teulu trwy eu symud i amgylchedd ysbyty cyffredinol i dderbyn gofal
diwedd oes. Cytunodd yr Aelodau â’r mater o ran gofal lliniarol a gofyn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 170 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd 30 Gorffennaf 2015 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau
30 Gorffennaf 2015. Materion yn
codi Tudalen 6, Eitem
6 – Arbedion TCC. Cadarnhaodd y Cynghorydd Arwel Roberts bod pob
Cyngor Tref yn cefnogi’r fenter. Byddai
gan Gyngor Tref y Rhyl gyllid ar gyfer dim ond 20 o gamerâu. Cadarnhaodd
y Cyng. Roberts nad fyddai Cyngor Tref Rhuddlan yn arwyddo cytundeb nes bo holl
gamerâu TCC Rhuddlan yn gweithio. PENDERFYNWYD cymeradwyo
a derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 30
Gorffennaf, 2015 fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 104 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11.30am – 11:50am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau. 8 Hydref 2015 –
Bydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau’n cael ei gynnal yn Neuadd y Dref
Llangollen. Cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio y byddai’n
cysylltu â’r Swyddogion i’w hatgoffa bod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn
Llangollen ac nid yn Rhuthun. Cytunwyd y dylid
gohirio gwahodd swyddogion BIPBC yn ôl i’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau
tan ar ôl cyfarfod Arbennig y Cyngor gyda BIPBC a fyddai’n cael ei gynnal ar 7
Hydref 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol
y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn diweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau
Cyngor. Cofnodion: Dim. |
|
Daeth y cyfarfod
i ben am 1.05pm. |