Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Penodi
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn
y cyngor 2015/16 Cofnodion: Esboniodd y Cydlynydd
Archwilio bod y newidiadau i Aelodaeth y Pwyllgor, sef penodi Is-Gadeirydd, yn
cael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf. PENDERFYNWYD – bod penodi Is-Gadeirydd y
Pwyllgor i gael ei ohirio tan y cyfarfod nesaf. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd T.M. Parry gysylltiad personol ag
eitemau 7 ac 8 ar yr agenda fel cynrychiolydd y Cyngor Sir ar yr AHNE. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol,
1972. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 205 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Mawrth, 2015
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau, 19 Mawrth
2014. Materion yn codi:- 3. Gwasanaethau
Llawdriniaethau Aciwt yn Ysbyty Glan Clwyd:-Cadarnhaodd y Cadeirydd fod llythyr
wedi ei anfon, fel y cytunwyd, at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr, yn gofyn am eglurder ynglŷn â’r mathau o lawdriniaethau a
fyddai'n cael eu cynnal yn Ysbyty Glan Clwyd yn y dyfodol. Eglurodd y Cydlynydd Archwilio bod copi o'r
llythyr a'r ymateb wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth gefndirol ar gyfer y
cyfarfod. 5. Cydlynu Ffrydiau
Cyllid Cymunedol: - Cyfeiriodd y Cynghorydd M.Ll. Davies at Gronfa Gymunedol
Gwynt y Môr, ac esboniodd fod yr is-orsaf y gwneir cyfeiriad ati mewn
gwirionedd ym mhlwyf Cefn Meiriadog ger Llanelwy. PENDERFYNWYD –
yn amodol ar yr uchod, i dderbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
YMGYSYLLTU Â’R GYMUNED, Y SECTOR GWIRFODDOL A’R TRYDYDD SECTOR YN SIR DDINBYCH PDF 629 KB Trafodaeth gyda
chynrychiolwyr o Bartneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych a Chyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych am eu rôl wrth hybu a chefnogi ymwneud cymunedol, a gan
y sector gwirfoddol a'r trydydd sector yn y sir. 9:35am – 10:45am
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolwyr o Bartneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych, o Bartneriaeth
Arfordirol y Rhyl ac o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych i'r cyfarfod
i roi cyflwyniad byr ynglŷn â’u sefydliadau a’u swyddogaeth wrth hyrwyddo
a chefnogi cyfranogiad cymunedol, y sector gwirfoddol a'r trydydd sector yn y
sir. Roedd copïau o sleidiau’r
cyflwyniad yn amlinellu gwaith y tri chorff a’r grwpiau sydd wedi elwa o
ganlyniad i’w gwaith wedi eu cyhoeddi fel rhan o bapurau’r Pwyllgor. Cafwyd trosolwg o’r gwaith y mae Partneriaeth
Arfordirol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl yn ei wneud i reoli a
gweinyddu'r arian cymunedol sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol RWE Innogy UK
Ltd. (arian Ffermydd Gwynt Gogledd Hoyle a Gwastadeddau’r Rhyl), gan gynnwys
cyhoeddusrwydd ynglŷn â’r gronfa, y broses o ymgeisio a dyfarnu, y sefydliadau
sydd wedi elwa o’r gronfa a'r mathau o brosiectau a ariennir. Aeth y Cynrychiolwyr ati, mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, i:- ·ddweud eu bod yn croesawu ceisiadau gan bob math o
brosiectau cymunedol ac ati a bod pob cais yn cael ei ystyried ar ei deilyngdod
ei hun yn ôl meini prawf penodol; ·amlinellu aelodaeth
Partneriaeth Arfordirol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl a dweud,
yn amodol ar wirio cyfansoddiad y sefydliad a thrafod y mater gydag aelodaeth
Partneriaeth Arfordirol y Rhyl, y byddai’r swyddogion yn ysgrifennu'n ffurfiol
at y Cyngor yn gofyn i’r Cyngor benodi Cynghorydd Sir i wasanaethu ar
Bartneriaeth Arfordirol y Rhyl; ·ddweud fod Partneriaeth
Arfordirol y Rhyl wedi dyfarnu arian i Asiantaeth Datblygu Cymunedol Sir
Ddinbych i’w chefnogi hyd nes y byddai’n cau ym mis Mawrth 2015, a’u bod o fis
Ebrill 2015 wedi sicrhau cytundeb gyda Chanolfan Wellington ar Ffordd
Wellington i alluogi lleoli’r offer a arferai fod wedi'i leoli yn yr Asiantaeth
Datblygu Cymunedol yn Stryd Bodfor i fod yn hygyrch i’r cyhoedd eu defnyddio
yng Nghanolfan Wellington. Er bob
trigolion bellach yn dod yn ymwybodol fod yr offer wedi symud lleoliad, roedd
Partneriaeth Arfordirol y Rhyl hefyd yn mynd ati i roi cyhoeddusrwydd i’r
lleoliad newydd; ·gadarnhau eu bod wedi
cysylltu â Chanolfan y Foryd mewn perthynas â chanfod cartref i hen offer yr
Asiantaeth Datblygu Cymunedol ac ati, ond na fu hynny'n llwyddiannus, a dyna
pam eu bod yn awr wedi eu lleoli yng Nghanolfan Wellington. Mynegodd Partneriaeth Arfordirol y Rhyl eu
diolch i Ganolfan Wellington am eu cymorth. Amlinellodd Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
beth yw swyddogaeth ei sefydliad.
Tynnodd sylw at yr ystod eang o sefydliadau sydd yn rhan o’r trydydd
sector yn y Sir, yn amrywio o sefydliadau mawr sector cyhoeddus megis
cymdeithasau tai i grwpiau bach lleol megis clybiau ar ôl ysgol annibynnol ac
ati. Yr hyn sydd ganddynt yn gyffredin yw mai’r hyn sydd yn eu hysgogi yw
anghenion y gymuned y maent yn ei gwasanaethu. Dywedwyd wrth yr Aelodau:- ·hyd at ddiwedd mis
Mawrth 2015 fod gan Gyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych 50 aelod o staff (rhan-amser a llawn amser) ac o
1 Ebrill, oherwydd toriadau yn y gyllideb, roedd nifer y staff wedi gostwng i
15 (neu i 7 cyfwerth ag amser llawn). O
blith y 7, câi 4 eu hariannu ar gyfer prosiectau penodol - un ohonynt gan Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hyn yn golygu mai dim ond 3 aelod o staff
cyfwerth ag amser llawn sy’n weddill i ymdrin â’r holl waith arall, gan gynnwys
gweinyddu a chefnogi grwpiau cymunedol i ganfod a gwneud ceisiadau am gyllid; ·roedd swyddog rhan-amser arall wedi ei ariannu'n rhannol gan y Cyngor at ddibenion prosiectau wedi eu hariannu gan ofal cymdeithasol. Roedd y swyddog hwn a’r swyddog ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) (copi
ynghlwm) sy'n amlinellu'r cynnydd a gyflawnwyd â llywodraethu’r AHNE a
phrosiectau cysylltiedig. 11am – 11:30am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Swyddog yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi ei
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Wrth gyflwyno’r adroddiad pwysleisiodd yr Aelod
Arweiniol dros Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig mai adroddiad
cynnydd oedd hwn ar waith yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, oddi fewn ac
oddi allan i'r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac ar waith y Cydbwyllgor
ers cyflwyno’r adroddiad cychwynnol yn y Pwyllgor ddeuddeg mis yn ôl. Manylodd yr Aelod Arweiniol a Swyddog yr Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol ar aelodaeth Cydbwyllgor yr Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol a Phartneriaeth yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a
fydd yn cynnal eu cyfarfod cyntaf drannoeth.
Buont hefyd yn amlinellu’r gwaith sy’n mynd rhagddo gyda’r Gwasanaeth
Cefn Gwlad mewn ymdrech i chwalu'r rhwystrau rhwng trigolion y dref a
thrigolion y wlad, a chyda canolfannau twristiaeth arbenigol megis y Canolfan
Ragoriaeth Beicio Gogledd Cymru.
Cadarnhawyd y dylai’r mentrau iechyd a lles sydd yn mynd rhagddynt
gefnogi agendâu ataliol y Cyngor a phartneriaid eraill ac arwain yn y tymor hir
at boblogaeth iachach. Wrth ymateb i gwestiynau’r Cynghorwyr dywedodd yr
Aelod Arweiniol a Swyddog yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol bod:- ·arian wedi ei neilltuo
i helpu i ariannu prosiectau a mentrau i ddarparu cludiant ar gyfer trigolion o
ardaloedd mwyaf difreintiedig y Sir i’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol er
mwyn iddynt elwa ar y gwasanaethau a'r amwynderau sydd ar gael yno; ·nid yw’r gwasanaeth bws
i Lyn Brennig wedi bod yn rhedeg ers peth amser; Eglurwyd bod cyfraniad pob awdurdod lleol tuag at
gyllideb yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wedi eu gosod gan ddefnyddio
fformiwla y cytunwyd arni. Dros y pum
mlynedd nesaf bydd y gyllideb, trwy drafodaeth, wedi ei rhannu’n deg rhwng y
tri Awdurdod (Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Roedd y Cynghorydd Stuart Davies o'r farn,
hyd nes bod pob awdurdod yn talu yr un faint â’i gilydd, na ddylai fod gan bob
Awdurdod yr un nifer o aelodau ar y Cydbwyllgor. Tra bo gan Aelodau'r Bartneriaeth ddyletswydd
i weithredu’n bennaf er budd y Bartneriaeth a’r Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol, maent wedi eu penodi fel aelodau o’r Bartneriaeth oherwydd eu
gwybodaeth o’r ardal a’u diddordeb yng ngwaith y sefydliad. Cyn dod â’r drafodaeth i ben, cytunodd y Pwyllgor y
dylid cynnal un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn ardal Llangollen i’r dyfodol i
alluogi aelodau lleol a Swyddog yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i
ddangos mannau o ddiddordeb i’r aelodau etholedig. Roedd anogaeth hefyd ar yr Aelodau i
fynychu’r nifer o ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn yr Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD –
bod y Pwyllgor, yn amodol ar y sylwadau uchod, yn cefnogi’r cynnydd a wnaed o
ran Llywodraethiant yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, a’r prosiectau a gyflawnwyd
yn ystod y deuddeg mis cyntaf. |
|
ADOLYGIAD O DIRWEDDAU DYNODEDIG YNG NGHYMRU PDF 99 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth (copi ynghlwm)
sy'n rhoi manylion ymgynghoriad Cam 2 ar yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yng
Nghymru. 11:30am – 12pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o'r
adroddiad gan Reolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth Sir Ddinbych wedi'u
dosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Wrth gyflwyno'r adroddiad pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol dros Hamdden,
Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig ei fod wedi gofyn i’r broses graffu
ystyried yr alwad hon am dystiolaeth oherwydd fod arno eisiau barn y Cyngor ar
yr argymhellion a nodir gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros Adnoddau Naturiol
yn dilyn Adolygiad Cam 1 o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru. Tynnodd sylw'r Aelodau yn benodol at y
paragraff yn llythyr y Gweinidog at Gadeirydd yr Adolygiad, yn cyfeirio at y
nifer presennol o Awdurdodau Cynllunio yng Nghymru. Roedd yr Aelod Arweiniol yn bryderus yn
benodol y gallai'r adolygiad hwn o bosibl arwain at sefyllfa lle byddai’r
Cyngor yn colli ei bwerau cynllunio drwy'r drws cefn. Roedd y Pwyllgor yn cytuno â barn yr Aelod
Arweiniol ynglŷn â hyn a gwnaethant gais i’r llythyr drafft, a welir yn
Atodiad 2, gael ei ddiwygio i adlewyrchu'r pwyntiau canlynol - a bod y pwynt
ynglŷn â’r posibilrwydd o golli pwerau cynllunio yn ymddangos yn gynnar yn
y llythyr, cyn ei gyflwyno ger bron y Cabinet am gymeradwyaeth. ·
Caiff datganiad y Gweinidog ynglŷn â dyfodol
Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol fel Awdurdodau Cynllunio a gostyngiad yn
nifer yr awdurdodau cynllunio yng Nghymru ei ddehongli fel ffordd
anuniongyrchol o gymryd y cyfrifoldeb dros gynllunio oddi wrth Gyngor Sir
Ddinbych. Tra bo cefnogaeth i system gynllunio fwy gwydn, sy’n meddu ar sgiliau
arbenigol, mae'r Pwyllgor yn credu mai’r lleoliad gorau ar gyfer y system yw’r
awdurdod lleol; · Roedd newid yr enw o 'Ardaloedd o
Harddwch Naturiol Eithriadol' i 'Tirweddau Cenedlaethol' yn ddiangen a byddai’n
arwain at ddryswch. Yn fwy na hynny, nid
yw’r enw newydd yn mynegi gwerthoedd disgrifiadol nac emosiynol y tirweddau.
Hefyd, ar y llwyfan Prydeinig, ni fyddai dynodiad mwyach yn cydorwedd gyda'r
teulu o Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Lloegr a Gogledd
Iwerddon. Cwestiynwyd hefyd y costau a
fyddai’n gysylltiedig â newid yr enw a’r isadeiledd sy'n gysylltiedig â’r newid
– yn benodol arwyddion a'r neges y byddai hynny yn ei anfon yn ystod adeg o
gynni; · Teimlai'r Aelodau fod enw presennol y
dynodiad, y drefn lywodraethu a strwythurau gweithredol eraill ar gyfer Ardal o
Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn fwy na digonol
ac y dylid cadw pethau fel y maent; · dylid gohirio unrhyw gynigion o ran
gwneud newidiadau i’r dynodiad hyd nes bod map newydd Llywodraeth Leol Cymru yn
wybyddus a bod y cynigion yn ymwneud â strwythurau llywodraeth leol yng Nghymru
i’r dyfodol yn gliriach. Er bod manteision posibl o gael un 'dynodiad' ar gyfer ardaloedd o harddwch
naturiol, yn enwedig os caiff yr arian sydd ar gael ar hyn o bryd i'r Parciau
Cenedlaethol ei ryddhau ar gyfer pob ardal o 'Dirwedd Cenedlaethol’ roedd yr
Aelodau’n gryf o'r farn nad rŵan yw’r amser priodol i weithredu newidiadau
o'r fath. Mae angen cytuno yn gyntaf ar
fap llywodraeth leol yng Nghymru i’r dyfodol a'r strwythurau i’w gefnogi. Yn dilyn trafodaeth fanwl:- PENDERFYNODD Y PWYLLGOR – yn amodol ar gynnwys y pwyntiau uchod yn yr ymateb
drafft, i argymell cymeradwyo ymateb swyddogol y Cyngor Sir Ddinbych i Gam 2 yr
Alwad am Dystiolaeth ar gyfer yr Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 108 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion
perthnasol. 12pm – 12:20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’ wedi ei chynnwys yn
Atodiad 2, roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn
Atodiad 3, ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor
a’r cynnydd a wnaed o ran eu gweithrediad wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i fersiwn ddrafft y
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a
chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 25 Mehefin 2015:- Cytunodd yr Aelodau bod yr
Aelodau Arweiniol perthnasol yn cael eu gwahodd i fynychu’r cyfarfod er mwyn
ystyried tair eitem o fusnes sydd wedi eu rhestru ar y rhaglen gwaith i’r
dyfodol. 30 Gorffennaf 2015:- Cyfeiriodd y Cynghorydd J. Butterfield at Adroddiad
Clwstwr Cymunedau yn Gyntaf Sir Ddinbych, a gofynnodd am gynnwys adroddiad
arbennig ar Faes Chwarae Antur y Rhyl. Awgrymodd y Cynghorydd Butterfield y dylid
darparu manylion mewn perthynas â:- ·
cyfranogiad y Cyngor i'r
prosiect. ·
y cyfrifoldeb am redeg, rheoli a chyllido’r cyfleuster. ·
nifer y staff cyflogedig a gwirfoddol sy’n cymryd rhan, a
chadarnhad bod gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol wedi'u cynnal. Cytunodd Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Cydlynydd Archwilio i fynd ar drywydd y
materion a godwyd a'r cwestiynau a ofynnwyd gan yr Aelodau ynghylch Maes
Chwarae Antur y Rhyl. Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio wedi cyfarfod ar
2 Ebrill. Mewn ymateb i'r ffurflen gais
gan swyddog cytunodd y Pwyllgor i gynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol, ar
gyfer mis Hydref 2015, eitem i ystyried adroddiad ar Gynllun Lleol Cefnogi Pobl
Sir Ddinbych 2016/19, Atodiad 1 yr adroddiad. Yn ystod cyfarfod mis Mawrth
2015 penderfynodd y Pwyllgor drefnu cyfarfod arbennig gyda chynrychiolwyr o
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach wedi
cadarnhau eu bod ar gael i fynychu cyfarfod ar 17 Medi 2015. Roedd y Pwyllgor wedi gwahodd
Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru i fynychu cyfarfod mis Gorffennaf i drafod
effaith ac effeithiolrwydd cyfraniad cynyddol y Cyngor at gyllideb flynyddol yr
Awdurdod Tân ac Achub. Fodd bynnag,
roeddent yn teimlo y byddai'n amhriodol iddynt fynychu ym mis Gorffennaf gan eu
bod yn ymgynghori ar eu Cynllun Lleihau
Risg yn ystod yr Hydref. O ganlyniad, mae’r eitem fusnes honno wedi ei
haildrefnu dros dro ar gyfer mis Tachwedd 2015. Yn dilyn cyfarfod blynyddol y Cyngor ar 12 Mai 2015 gofynnwyd i’r
Pwyllgorau Archwilio benodi/ail-benodi Aelodau i wasanaethu ar y Grwpiau Herio
Gwasanaethau. Yn Atodiad 5 mae rhestr
gyfredol o gynrychiolwyr y Pwyllgor. Nodwyd bod enwau rhai o’r gwasanaethau wedi newid yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Eglurodd aelodau o'r
Grŵp Llafur oherwydd ansicrwydd ynghylch dyfodol eu haelodaeth ar y
Pwyllgor na fyddent yn gallu cyflwyno enwebiadau. Cytunwyd ar yr enwebiadau canlynol:- ·
Y Cynghorydd T.M. Parry:-Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol. ·
Y Cynghorydd M.Ll. Davies:- Y Gyfraith, Adnoddau Dynol
a’r Gwasanaethau Democrataidd. ·
Y Cynghorydd J.R. Bartley:- Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD -
yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith fel y caiff ei hamlinellu yn
Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a
Grwpiau Cyngor Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr y pwyllgor. Daeth y Cyfarfod
i ben am 12.10pm. |