Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun LL15 1YN
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf PDF 246 KB Derbyn Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2016
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Hydref
2016. Materion yn
Codi:- Tudalen 9 – Eitem
5 – cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio bod y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-gadeiryddion Archwilio wedi gwahodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i
fynychu’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau ar 2 Chwefror 2017. Roedd Comisiynydd yr
Heddlu a Throsedd wedi derbyn y gwahoddiad. PENDERFYNWYD, yn amodol ar
yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
YSBYTY CYMUNED GOGLEDD SIR DDINBYCH – PROSIECT CYFLEUSTER IECHYD Derbyn cyflwyniad
ar lafar. 9.40 a.m. – 10.30 a.m. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones, Gareth
Evans, y Cyfarwyddwr Prosiect a Stephanie O’Donnell, y Rheolwr Prosiect, o
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod i roi'r newyddion diweddaraf
i’r Pwyllgor am y cynnydd hyd yma o ran datblygu cyfleuster iechyd/ysbyty
cymuned ar gyfer ardal gogledd Sir Ddinbych, ar safle blaenorol Ysbyty
Brenhinol Alexandra, y Rhyl. Cafodd yr aelodau wybodaeth, drwy gyflwyniad PowerPoint, am hanes y prosiect
a’r camau y mae’r Bwrdd Iechyd wedi’u cymryd hyd yma i gyrraedd ei sefyllfa
bresennol, sef gweithio ar gwblhau’r Achos Busnes Amlinellol (ABA) i’w gyflwyno
i Lywodraeth Cymru (LlC) ddechrau 2017. Yn ystod y cyflwyniad, amlinellodd y
cynrychiolwyr y model gwasanaeth arfaethedig fyddai’n cael ei ddatblygu ar y
safle. Byddai’r model dan ystyriaeth yn canolbwyntio ar ofal brys ac undydd,
gwasanaethau cleifion allanol ger cartrefi defnyddwyr y gwasanaeth a
gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol integredig i bobl hŷn, a byddai’n
cynnwys mynediad at wasanaethau atal i wella lles y trigolion lleol. Roedd y
Gwasanaeth Iechyd yn bwriadu darparu’r gwasanaethau atal hyn mewn partneriaeth
â’r awdurdod lleol, y gymuned a sefydliadau trydydd sector. Rhoddwyd manylion am gwmpas y gwasanaethau arfaethedig yn y cyfleuster
newydd, fyddai’n cynnwys: ·
Canolfan gofal undydd (gan
gynnwys uned mân anafiadau (UMA) ac amrediad o wasanaethau i gefnogi gofal
sylfaenol lleol); ·
Clinigau cleifion allanol; ·
Gwelyau cleifion mewnol; ·
Unedau therapi ac asesu; ·
Ystafelloedd therapi
mewnwythiennol; ·
Diagnosteg; ·
Gwasanaethau therapi; ·
Gwasanaethau Deintyddol
Cymunedol; ·
Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Plant a Phobl Ifanc (CAMHS); ·
Gwasanaethau Iechyd
Rhywiol; ·
Gwasanaeth Cleifion
Allanol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn; ·
Un
Pwynt Mynediad (UPM) / safle gweithio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig; ·
Canolbwynt Cymunedol
(fyddai’n cynnwys caffi, mynediad at y sector gwirfoddol, ystafelloedd cyfarfod
ac ati). Dangoswyd map o’r awyr o’r safle (y
Campws) i’r aelodau ynghyd â chynlluniau llawr arfaethedig pob un o dri llawr
yr adeilad newydd, fyddai wedi'i leoli ar safle'r adeilad Ward Glantraeth
presennol. Disgwylir i’r amrediad o wasanaethau fyddai ar gael yn y cyfleuster
newydd, ynghyd â’r ymagwedd ragweithiol tuag at ddarparu’r gwasanaethau
ymyrraeth: ·
leihau’r effaith ar Uned
Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) Ysbyty Glan Clwyd; ·
lleihau’r straen ar
wardiau yn Ysbyty Glan Clwyd ac ysbytai cymuned yr ardal ehangach, sydd ar hyn
o bryd yn cynnwys trigolion ardal arfordirol Sir Ddinbych cyn eu rhyddhau; ·
creu gwasanaeth undydd
cynaliadwy fyddai’n lleihau’r galw yn
lleol am ofal sylfaenol; ·
gwella’r modd y mae
anghenion iechyd a lles yn cael eu hunan reoli trwy addysg, gwybodaeth a
gwasanaethau atal, ar y cyd â’r awdurdod lleol a darparwyr trydydd sector; ·
darparu
cyfleusterau fyddai’n galluogi gofalwyr i aros ar y safle a helpu gyda phroses
adsefydlu’r claf; ·
cwtogi cyfnodau hir yn yr
ysbyty i gleifion mewnol trwy adsefydlu, e.e. datblygu hyder y claf o ran
cyflawni tasgau dydd i ddydd; ·
darparu amrediad o
wasanaethau i gleifion allanol mor lleol ag y bo modd a lleihau’r angen i
gleifion allanol deithio ymhellach i gael apwyntiadau ac ati; ·
gwneud y defnydd gorau o adnoddau
gwerthfawr trwy ymgyfuno timau amlasiantaeth ac ati; a ·
gwella cyfraddau recriwtio
a chadw staff trwy’r ffaith y byddent wedi’u lleoli mewn cyfleuster modern,
newydd sy’n darparu gwasanaethau iechyd arloesol. Dyma ymateb cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i gwestiynau’r aelodau: ·
hysbyswyd
mai trydydd cam y broses, sef y cam terfynol, ar ôl i LlC gymeradwyo’r ABA,
fyddai mynd ati i ddatblygu’r Achos Busnes Llawn (Abl) a chyflawni’r prosiect; ·
cadarnhawyd bod pob
partner wedi ymrwymo i gyflawni’r prosiect; ·
hysbyswyd
y byddai’r cyfleuster yn cynnwys darpariaeth ar gyfer uned â 28 gwely i
gleifion mewnol (fydd yn cynnwys 22 ystafell sengl gydag ystafell ymolchi
gysylltiedig, a 6 gwely arhosiad byrrach er dibenion ail-alluogi/asesu); · eglurwyd y byddai canolfan ragoriaeth ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Yn y fan hon,
cytunwyd amrywio trefn y Rhaglen er mwyn Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y
Cynghorydd David Smith, oedd yn gorfod gadael y cyfarfod i fynychu cyfarfod
arall oedd wedi’i drefnu’n flaenorol. |
|
PARTNERIAETH TELEDU CYLCH CAEËDIG PDF 87 KB Ystyried adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd/Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi
ynghlwm) i roi diweddariad i'r Aelodau ar y Bartneriaeth Teledu Cylch Caeëdig,
y trefniadau llywodraethu ar waith ar gyfer y Bartneriaeth, a'i effeithiolrwydd
wrth gyflwyno gwasanaeth ers ei ffurfio ar 1 Ebrill 2016. 11.45 a.m. – 12.15 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, yr
adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw), yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r
aelodau am y trefniadau llywodraethu
sydd wedi’u sefydlu ar gyfer y bartneriaeth ac yn amlinellu ei effeithiolrwydd
o ran darparu’r gwasanaeth teledu cylch caeedig ers ei ffurfio fis Ebrill 2016. Yn ei gyflwyniad, amlinellodd y rhesymau y tu ôl i benderfyniad y Cyngor i
dynnu’n ôl o ddarparu’r gwasanaeth anstatudol hwn. Pwysleisiodd y rôl yr oedd wedi’i chwarae o
ran hwyluso sefydliad y bartneriaeth a chefnogi ei gwaith wrth ddarparu
gwasanaeth a ystyriwyd yn un gwerthfawr gan drigolion a busnesau fel ei gilydd. Rhoddodd yr adroddiad
fanylion graddau darpariaeth y gwasanaeth, gan gynnwys ystadegau ar y defnydd a
wnaed o'r hyn a ffilmiwyd gan yr Heddlu i geisio trechu trosedd ac ymddygiad
gwrthgymdeithasol, gyda 50% o’r ffilm a adferwyd yn cael ei ddefnyddio i
sicrhau erlyniadau. Er i’r adborth a gafwyd hyd yma fod yn gadarnhaol, cafwyd
cydnabyddiaeth hefyd bod gorddibyniaeth ar Sir Ddinbych fel Partner Arweiniol a
chyflogwr y Cydlynydd Teledu Cylch Caeëdig. Roedd yr orddibyniaeth hon yn anghynaladwy yn
y tymor hir. Felly gweithiwyd yn ddiweddar ar archwilio nifer o fodelau
gwasanaeth posib, yn fodelau sector cyhoeddus a sector preifat, ac mae manylion
y rhain i’w gweld yn yr adroddiad. Bydd y Bwrdd Partneriaeth Teledu Cylch
Caeëdig yn ystyried amrywiaeth o opsiynau posib ar gyfer darparu’r gwasanaeth
yn y dyfodol yn ei gyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr 2016. Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, nododd yr Aelod Arweiniol a Rheolwr
Gwarchod y Cyhoedd y canlynol: ·
er bod y gwasanaeth a ddarperir ar hyn o bryd
yn wasanaeth gostyngol, gan nad yw’n cael ei fonitro ar sail 24 awr, roedd pob
aelod yn ei ystyried yn wasanaeth gwerthfawr i’r tair tref yr oedd yn ei
wasanaethu; ·
roedd gwasanaeth Heddlu
Gogledd Cymru, a gyfrannodd £16k tuag at y Gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig (sef
ei gyfraniad safonol i bob awdurdod lleol am wasanaethau Teledu Cylch Caeëdig),
o’r farn na fu cynnydd gweladwy yn nifer yr achosion o drosedd ac anrhefn yn yr
ardal ers cyflwyno'r gwasanaeth 'gostyngol'; ·
gellid archwilio
trefniadau cydweithio gyda busnesau preifat neu drefniadau refeniw posib gyda
datblygwyr mawr sy’n ceisio ceisiadau cynllunio, er diben cyllido a chynnal
gwasanaeth ar gyfer y dyfodol; ·
pe gellid sicrhau ffrydiau
cyllido, a chyda thechnolegau newydd yn dod i’r amlwg yn rheolaidd, gallai’r
Bwrdd archwilio potensial cyflwyno’r gwasanaeth fesul cam i ardaloedd eraill y
sir, e.e. Dinbych, Rhuthun, Llangollen; ·
yn y dyfodol, gellid archwilio potensial cael
system Teledu Cylch Caeëdig ‘diwifr’. Mae’n debyg y
byddai’r opsiwn hwn yn fwy cost effeithiol nag opsiwn Ffibr Optig, yn enwedig
mewn ardaloedd gwledig; ·
roedd gan Heddlu Gogledd
Cymru gamerâu Teledu Cylch Caeëdig symudol y gellid eu symud i ardaloedd
gwledig i geisio trechu troseddau gwledig. Ar ddiwedd y drafodaeth, bu i’r Pwyllgor: BENDERFYNU: (i)
yn
amodol ar y sylwadau uchod, cefnogi rôl y Cyngor o fewn y bartneriaeth a
chadw’r Bartneriaeth; ac (ii)
y
dylid cyflwyno adroddiad o gynnydd i’r Pwyllgor, yn ei gyfarfod ym mis Mawrth
2017, ar y mesurau a gymerwyd i sicrhau dyfodol hirdymor y Gwasanaeth, gan
gynnwys yr opsiynau posib o ran cyflwyno'r gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig
fesul cam i ardaloedd eraill yn y sir. |
|
STRATEGAETH CEFNOGI ANNIBYNIAETH YN SIR DDINBYCH PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth – Ardal y Gogledd (copi ynghlwm) i ddarparu
gwybodaeth ynglŷn â Chefnogi Annibyniaeth yn Strategaeth Sir Ddinbych a'r
gwahanol fentrau sydd wedi eu datblygu. 10.30 a.m. – 11.00 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant ac
Oedolion), y Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw)
yn rhoi manylion ymagwedd gorfforaethol y Cyngor tuag at alluogi trigolion y
sir i gynnal eu hannibyniaeth a’u lles yn eu cartrefi eu hunain. Roedd copïau o’r strategaeth ddrafft a’r Asesiad o’r Effaith ar Les (AEL)
ar y Strategaeth ynghlwm wrth yr adroddiad er sylw’r aelodau. Eglurodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol pam fod gofyn am ymagwedd gorfforaethol tuag
at ddarparu’r strategaeth a gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
(Cymru) 2014. Dyma ymateb Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r Rheolwr
Gwasanaeth - Datblygu Strategol wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau: ·
eglurwyd amcan y prosiect
‘Pwyntiau Siarad’ a’i fanteision posib i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Roedd
hi’n dal yn ddyddiau cynnar ar y prosiect
ar y pryd, ond wrth iddo ddatblygu ac ymsefydlu, rhagwelwyd mai’r sector
gwirfoddol fyddai'n cymryd perchenogaeth o'r gwaith; ·
hysbyswyd
y Pwyllgor y sefydlwyd y gwasanaeth allgymorth cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn Y
Waen ger Llanelwy, rai blynyddoedd yn ôl a bod parch mawr tuag ato ymysg y rheini
oedd yn mynychu a’u gofalwyr. Rhoddodd y Gwasanaethau
Cymorth Cymunedol gyfraniad ariannol i gynnal y prosiect hwn, er na wnaeth
gomisiynu gwasanaethau yn uniongyrchol gan y sefydliad nac atgyfeirio unigolion
yn uniongyrchol yno. Er hynny, gallai gweithwyr cymdeithasol unigol gyfeirio
unigolion at y gwasanaethau oedd ar gael yno. Bu i Gomisiynydd Pobl Hŷn
Cymru ymweld â’r ganolfan y llynedd a chasglu bod y gwasanaethau a ddarparwyd
yno yn cyd-fynd â’r dyletswyddau atal newydd a roddwyd ar awdurdodau lleol dan
y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant; ·
cadarnhawyd bod y
Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad (UPM) yn cyflogi aelodau gyda sgiliau Cymraeg.
Llenwyd pob swydd wag o fewn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn unol â’r
Polisi Recriwtio Corfforaethol, oedd yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddi yr
ystyrir bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol ar eu cyfer; ·
eglurwyd mai rhan o’r
gwaith gyda’r prosiect Cyfeirio Cymunedol oedd ceisio canfod, trwy gyrff
sefydledig fel cynghorau cymuned, pa grwpiau neu sefydliadau oedd yn gweithredu
o fewn eu cymunedau. Byddai
hyn yn galluogi’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i gyfeirio unigolion at y
grwpiau hynny ar gyfer gweithgareddau i wella eu hiechyd a’u lles, a lleihau’r
perygl o arwahanrwydd ac unigrwydd; ·
amlinellwyd rôl a
chyfrifoldebau ‘Ymarferydd Gofal Cymdeithasol’ a sut y gallai ymarferydd helpu
i ailalluogi unigolyn a gwella eu hunanhyder yn eu galluoedd eu hunain i
ymgymryd â thasgau dydd i ddydd unwaith eto; ·
pwysleisiwyd yr angen i
symud oddi wrth sefyllfa sy’n dibynnu ar fudd-daliadau tuag at sefyllfa sy’n
galluogi pobl drwy fagu eu hyder a mynd i'r afael ag arwahanrwydd ac unigrwydd; ·
cadarnhawyd bod y ddogfen
Strategaeth yn ddogfen i swyddogion mewnol yn bennaf; bydd dogfen fwy cryno,
haws ei darllen yn cael ei chynhyrchu er gwybodaeth i’r trigolion maes o law; ·
eglurwyd y pedwar amod y
mae’n rhaid i unigolyn eu cyflawni i fod yn gymwys i gael y gofal a’r
gefnogaeth i gyflawni deilliannau personol, a’r broses ar gyfer asesu’r amodau.
Eglurwyd bod Proses Apêl i unigolion oedd yn anghytuno â’u hasesiad, ac y
defnyddir asesydd gwahanol i ymgymryd â’r broses honno; a · hysbyswyd y Pwyllgor bod rhaid ystyried gallu defnyddwyr gwasanaeth (gan gynnwys eu gallu ariannol) i gyflawni eu deilliannau gofal cymdeithasol pan oeddent yn gwneud cais am y gwasanaethau. Fodd bynnag, roedd LlC wedi capio’r gyfradd y gallai awdurdodau lleol ei godi am ofal a chefnogaeth a reolir ar £60 yr wythnos. Cynhwyswyd budd-daliadau megis Lwfans Gweini (LG) a Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) fel adnoddau ar gael i’r unigolyn i gyflawni eu deilliannau, gan y telir y budd-daliadau hynny er mwyn ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CYNLLUN COMISIYNU LLEOL – CEFNOGI POBL SIR DDINBYCH 2017-18 PDF 130 KB Ystyried adroddiad
gan y Swyddog Comisiynu a Thendro (copi ynghlwm) sy'n rhoi manylion y Cynllun
Comisiynu Lleol 2017-18 ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yn Sir Ddinbych. 11.15 a.m. – 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant ac
Oedolion), y Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad a Chynllun Comisiynu Lleol
drafft 2017-18, ynghyd â’r AEL (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Hysbysodd yr Aelod Arweiniol bod y Grant Cefnogi Pobl (CP), a glustnodwyd
gan LlC ar gyfer darparu gwasanaethau CP, wedi gweld toriadau yn y blynyddoedd
diwethaf. Llwyddodd yr arian grant CP i gyflawni nifer o ofynion Deddf Tai
(Cymru) 2014, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Hysbyswyd y Pwyllgor bod y
mynegiannau diweddaraf gan LlC yn awgrymu bod y Grant CP ar gyfer 2017-18
wedi’i warchod rhag toriadau pellach. Fodd bynnag, ar ôl llunio’r Cynllun
drafft, rhagwelwyd toriad o 5% o leiaf ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, felly
mae tudalennau 19 i 31 y Cynllun drafft yn amlinellu datblygiadau arfaethedig
i’r gwasanaeth a chynigion i ddatgomisiynu ac ailfodelu ar sail y toriadau a
ragwelir. Pe bai’r grant yn cael ei gynnal ar ei lefel bresennol, ni fyddai
angen gweithredu’r cynigion datgomisiynu/ailfodelu hyn oni fyddai hynny er budd
defnyddwyr y gwasanaeth. Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, hysbysodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth
y Gwasanaeth a Rheolwr Tîm Cefnogi Pobl: ·
bod y term ‘darpariaeth
wlyb’ yn cyfeirio at amgylchedd diogel i unigolion sy’n ddifrifol ddibynnol ar
gyffuriau neu alcohol ‘gymryd’ eu sylwedd caethiwus hyd at lefel goddefiant a
reolir. Ar hyn o bryd, nid yw gwasanaethau’r awdurdod lleol yn gymwys i ddelio
ag unigolion sy’n dioddef o ddibyniaeth ddifrifol; ·
bod y Grant CP yn grant
‘annibynnol’ ar wahân, wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau CP; nid yw’n rhan
o Grant Cynnal Refeniw (GCR) y Cyngor ac felly nid oedd gan y Cyngor unrhyw
reolaeth dros doriadau i’r grant gan lywodraeth ganolog. Yr
unig beth y gallai’r Cyngor ei wneud oedd rheoli effaith y toriadau hynny ar y
gwasanaethau CP; ·
bod y cynigion datblygu
gwasanaeth, datgomisiynu ac ailfodelu arfaethedig yng Nghynllun Comisiynu Lleol
CP yno fel mesurau wrth gefn yn barod am doriad o tua 5% i’r grant ar gyfer
2017-18. Os na newidir y dyraniad grant, ni fyddai angen gweithredu’r
newidiadau, ond byddai gwelliannau cost negyddol i’r gwasanaeth yn cael eu
hystyried, yn naturiol; ·
bod y broses ar gyfer
darparu ac archwilio grantiau i ddarparwyr y sector gwirfoddol (trydydd sector)
yn hynod drylwyr a chadarn; ac ·
nad oedd unrhyw
dystiolaeth i Sir Ddinbych ddioddef er gwaeth o fwy o unigolion yr ystyriwyd
nad oedd ganddynt “... unrhyw gysylltiad lleol...” yn cyflwyno eu hangen am
gymorth CP nag ardaloedd eraill. Mae gan yr awdurdod
broses archwilio well bellach, a gofynnwyd y cwestiwn am gysylltiad lleol i bob
unigolyn oedd yn cysylltu â’r Cyngor am gymorth. Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor: ·
am restr o ddarparwyr
trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau CP yn Sir Ddinbych; ac ·
am graff a’r niferoedd
perthnasol ym mhob categori i gyd-fynd â'r graffigyn eglurhaol sy’n ymwneud â
‘Phroblem Gudd Digartrefedd’ ar dudalennau 8 a 9 y cynllun comisiynu drafft
(tudalennau 104 a 105 y pecyn rhaglen); Ar ddiwedd trafodaeth drylwyr, bu i’r Pwyllgor: BENDERFYNU: (i) Rhoi gwybod i’r Cabinet am farn y pwyllgor
Archwilio ei fod, ar ôl adolygu Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2017-18,
yn dymuno nodi ei bryderon bod y Grant Cefnogi Pobl wedi gweld toriadau
flwyddyn ar ôl blwyddyn gan Lywodraeth Cymru ers nifer o flynyddoedd; ac (ii) er y cydnabyddir y gwnaed cynlluniau wrth gefn o
fewn Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2107-18 i ddarparu ar gyfer toriadau
pellach, pe bai arian y grant Cefnogi Pobl yn aros ar y lefel bresennol, y bydd
y cyllid yn aros o fewn y gwasanaethau Cefnogi Pobl er mwyn cynnal y
gwasanaethau a ddarperir. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 108 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion
perthnasol. 12.15 p.m. – 12.30 p.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a
chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o
dempled ‘ffurflen cynnig Aelodau” wedi’i gynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i
gynnwys fel Atodiad 3, ac roedd tabl yn crynhoi datrysiadau diweddar y Pwyllgor
ac yn cynghori am gynnydd wrth eu
gweithredu wedi’i atodi yn Atodiad 4. Ystyriodd y
Pwyllgor ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol drafft ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol. 19 Ionawr 2017 Ni fydd yr
ymweliad i Swyddfeydd Cymunedau’n Gyntaf yn Marsh Road, y Rhyl yn cael ei
gynnal mwyach. Cytunwyd i wahodd
yr Aelodau Arweiniol. 2 Mawrth 2017 Cynnwys
diweddariad am y gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig ar y rhaglen waith. 6 Ebrill 2017 Gwneud ymholiadau
ynglŷn â’r posibilrwydd o ddarparu diweddariad gyda BIPBC ar y cynnydd
gydag ymchwiliad Tawelfan. PENDERFYNWYD,
yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol uchod. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 12.30 p.m. – 12.40 p.m. Cofnodion: Dim adborth |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm |