Agenda and draft minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Roedd y cysylltiadau canlynol wedi eu nodi yn eitemau busnes i gael eu
hystyried yn y cyfarfod. Eitem 5 ar y Rhaglen: Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych / Prosiect
Cyfleuster Iechyd, ac Eitem 6 ar y Rhaglen: Prosiect Gofal Iechyd Sylfaenol
Prestatyn a Rhuddlan Iach – Datganwyd cysylltiad personol gan y Cynghorydd J.
Chamberlain-Jones gyda’r ddwy eitem ar y rhaglen. Y rheswm dros y
datganiadau oedd bod perthynas i’r Aelod priodol o'r Pwyllgor yn cael ei gyflogi
gan BIPBC. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol,
1972. Cafodd trefn y busnes ei
hamrywio yn y fan hon er mwyn derbyn y cyflwyniadau gan swyddogion Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Croesawyd Mr Geoff Lang (Cyfarwyddwr Strategaeth), Mr
Gareth Evans (Cyfarwyddwr Ardal Gwasanaethau Clinigol – Ardal ganolog) a Dr. Chris Stockport, Cyfarwyddwr
Meddygol (Ardal Ganolog) - i'r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar eitemau busnes
y Gwasanaeth Iechyd. |
|
YSBYTY CYMUNED GOGLEDD SIR DDINBYCH – PROSIECT CYFLEUSTER IECHYD Ystyried diweddariad
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y cynnydd
gyda’r Prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych / Cyfleuster Iechyd. 9.35 a.m. – 10.10 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd Mr
Gareth Evans yr eitem hon yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr y
Prosiect. Trwy gyflwyniad PowerPoint, rhoddodd fanylion ar y gwahanol
gamau gofynnol yn y broses achos busnes i wireddu’r prosiect, gan esbonio eu
bod bellach yn y cam Achos Busnes Amlinellol. Byddai’r gwaith o
baratoi'r Achos Busnes Amlinellol, a fyddai'n cynnwys nodi dewisiadau dylunio a
datblygu'r safle a chynhyrchu’r achos busnes ei hun, yn parhau drwy gydol yr
haf i'r hydref yn barod i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn hwyr yn 2016 neu'n
gynnar yn 2017 am gymeradwyaeth i symud ymlaen i'r cam Achos Busnes
Llawn. Yn ystod y cyflwyniad pwysleisiodd fod BIPBC wedi’i ymrwymo i gyflawni'r
prosiect. Roedd cwmpas y prosiect wedi cael ei adolygu yn dilyn
ymgynghoriad eang a byddai bellach yn cynnwys, ynghyd â gwasanaethau eraill, y
ddarpariaeth ar gyfer mân anafiadau mewn uned a allai helpu i gefnogi
gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ehangach yn yr ardal, Gwasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) a gwasanaethau iechyd rhywiol ar safle hen
Ysbyty Brenhinol Alexandra y Rhyl. Rhagwelwyd hefyd
y byddai Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl yn cael ei leoli ar y safle yn ogystal
â Gwasanaeth Cleifion Allanol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn. Fodd bynnag,
er byddai 28 o welyau i gleifion mewnol ar y safle, ni fyddai unrhyw un o'r
rhain ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl tymor hir. Roedd BIPBC
wedi ymrwymo i gyflawni'r Prosiect ar safle hen Ysbyty Brenhinol Alexandra, er
gwaethaf y cymhlethdodau o ailddatblygu adeilad rhestredig a'r premiwm cost
sy'n gysylltiedig â'r gwaith, gan mai hwn oedd yr unig safle addas yn yr
ardal. Y cysyniad y tu
ôl i'r prosiect oedd datblygu cyfleuster gwasanaeth iechyd modern a oedd yn
gallu delio ag anghenion iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn, darparu
gofal undydd brys lle bo angen, darparu gofal hygyrch ar gyfer cleifion allanol
yn agosach i gartref y claf a lle’r oedd ystod o bartneriaid sy'n ymwneud ag
iechyd a lles dinasyddion yn gweithio’n ddi-dor gyda'i gilydd er lles y claf,
wrth ddarparu mynediad hefyd at wybodaeth am les ac atal. Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd swyddogion BIPBC: ·
Byddai'r
Achos Busnes Amlinellol yn cynnwys manylion ar sut y bwriada’r Bwrdd Iechyd
gyflawni'r prosiect a'r amserlenni a ragwelir unwaith byddai’r Achos Busnes
Llawn yn cael ei gymeradwyo; ·
Byddai
uned cleifion mewnol 28 gwely yn cael ei chynnwys yn yr Achos Busnes
Amlinellol, fodd bynnag, nid oedd penderfyniad wedi'i wneud eto ar gyfluniad yr
uned cleifion mewnol; ·
Byddai
cyfleusterau parcio ceir a threfniadau cludiant cyhoeddus i'r cyfleuster i gyd
yn cael eu cynnwys yn yr Achos Busnes Amlinellol; ·
Roedd
Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol ym mis Medi 2013 ac
roedd yn dal yn awyddus i weld y prosiect yn dwyn ffrwyth. Roedd £24 miliwn wedi’i ymrwymo gan
Lywodraeth Cymru tuag at y prosiect ar y pryd. Oherwydd y treigl amser a
newidiadau i frîff y prosiect yn dilyn ymgynghori gyda'r cyhoedd a
rhanddeiliaid, byddai angen mireinio’r cyllid ar gyfer y prosiect hwn
rhywfaint; ·
Roedd
strategaeth ymgysylltu yn y broses o gael ei llunio ar gyfer y diben o hysbysu
preswylwyr a rhanddeiliaid ar gynnydd y prosiect; ·
Byddai
rhai rhanddeiliaid yn cymryd rhan yn y broses o lunio'r Achos Busnes
Amlinellol; ·
Byddent
yn croesawu unrhyw syniadau gan gynghorwyr o ran cyfathrebu ac ymgysylltu â
phreswylwyr ar gynlluniau’r cyfleuster; ·
Unwaith
y bydd y cyfleuster newydd yn weithredol, byddai gwybodaeth am y gwasanaethau
sydd ar gael yn cael ei rhannu yn eang gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid; · Byddai staff sydd eisoes yn gweithio yn rhywle arall yn y gwasanaethau a fydd yn y pen draw ar gael yn ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
PROSIECT GOFAL IECHYD SYLFAENOL PRESTATYN A RHUDDLAN IACH Ystyried
adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar
y cynnydd gyda’r Prosiect Gofal Iechyd Sylfaenol Prestatyn a Rhuddlan Iach. 10.10 a.m. – 10.45 a.m. Cofnodion: Cyflwynodd Dr.
Chris Stockport yr eitem a thrwy gyflwyniad PowerPoint rhoddodd ddarlun o’r
ardal ddaearyddol a gwmpesir gan y gwasanaeth newydd. Eglurodd fod y
gwasanaeth yn darparu ystod o wasanaethau gofal iechyd i gleifion sydd wedi
cofrestru mewn 5 meddygfa yn ardal Rhuddlan a Phrestatyn, ac yn darparu
gwasanaethau i'w cleifion, yr oedd rhai ohonynt yn byw yn Sir Ddinbych ac
eraill yn Sir y Fflint. Roedd BIPBC wedi bod yn cynllunio ar gyfer
cyflwyno'r math hwn o gyfleuster gofal iechyd cyfannol yng Ngogledd Cymru ers
peth amser. Serch hynny, roedd yn rhaid brysio i’w gyflwyno yn dilyn tri
ymddiswyddiad contract meddygon teulu yn ardaloedd Prestatyn a Rhuddlan yn hwyr
yn 2015, ddechrau 2016. O ganlyniad i'r
ymddiswyddiadau hyn, sefydlodd y Bwrdd Iechyd y prosiect Prestatyn a Rhuddlan
Iach. Oherwydd cyfyngiadau amser a chyfyngiadau ymarferol, nid oedd pob
agwedd ar y prosiect yn gwbl weithredol eto, ond o 1 Ebrill 2016 roedd
gwasanaethau craidd wedi bod ar gael. Dywedodd Dr Stockport fod: ·
5 o'r
partneriaid meddyg teulu blaenorol wedi cofrestru ar gyfer y prosiect ar sail
barhaol a 5 o feddygon teulu eraill wedi ymuno â'r fenter. Roedd bob meddyg
teulu bellach yn gyflogedig gan y Bwrdd Iechyd yn hytrach na phartneriaid yn y
feddygfa; ·
Yn
ogystal, roedd aelodau eraill o staff naill ai wedi cael eu trosglwyddo i'r
Prosiect neu wedi ymuno ag ef o rywle arall, roedd y rhain yn cynnwys Cydlynwyr
Tîm (a wnaeth y gwaith gweinyddol a sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol yn y
lle cywir ar yr adeg gywir), ymarferwyr nyrsio, therapyddion galwedigaethol,
fferyllwyr clinigol, ffisiotherapyddion ac awdiolegydd. Roedd cael ystod
o sgiliau ar gael yn y prosiect wedi hwyluso’r gwaith o adlinio sgiliau a
lleddfu pwysau ar feddygon teulu, fel y gallent nawr atgyfeirio cleifion at
weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill â chymwysterau priodol yn ôl yr
angen; ·
Pwysleisiodd
nad oedd yr holl atebion i ofal iechyd sylfaenol llwyddiannus yn gorwedd o fewn
y GIG, roedd y Prosiect hwn wedi profi hyn ac roedd ei lwyddiant hyd yma o
ganlyniad i'r dull partneriaeth effeithiol a fabwysiadwyd gan yr holl
sefydliadau sector cyhoeddus a gwirfoddol a oedd yn ymwneud ag ef; ·
Nid yw'r
model sydd bellach yn gweithredu yn ardal Prestatyn a Rhuddlan yn fodel
meddygol o ofal sylfaenol, ond yn hytrach yn fodel seicogymdeithasol lle’r oedd
cleifion yn cael sicrhau apwyntiad ar y diwrnod y maent yn gwneud cyswllt
cychwynnol â'r gwasanaeth, cyn belled â bod y cyswllt wedi'i wneud cyn
4pm. Roedd ffocws y gwasanaeth ar yr unigolyn ac unwaith yn y gwasanaeth,
byddai cleifion yn cael eu dyrannu i dimau a allai reoli a chefnogi eu
hanghenion; ·
Roedd
gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i sefydlu Academi gyda’r bwriad o ddatblygu
sgiliau proffesiynol y staff yn lleol. Rhagwelwyd y byddai cangen lles yr
Academi yn cael ei lansio yn y dyfodol agos ac roedd y posibilrwydd o sefydlu
Campws Lles yn cael ei archwilio, o bosibl ar safle'r hen lyfrgell ym Mhrestatyn; ·
Yn
ystod Gorffennaf 2016 byddai rhywfaint o darfu
ar wasanaethau arferol, gan fod y system TG ar gyfer pob safle yn cael
eu mudo. Roedd cleifion wedi cael gwybod am hyn ac roedd trefniadau
eraill wedi eu gwneud i ddelio ag ymholiadau ac ati yn ystod y cyfnod hwn; ac ·
Roedd
hen adeilad yr awdurdod lleol a chyfleusterau maes parcio cysylltiedig yn
Nhŷ Nant wedi eu sicrhau fel cyfleuster ar gyfer y Gwasanaeth. Roedd gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i addasu'r adeilad ar gyfer gofynion y Gwasanaeth, er y bu rhywfaint o lithriant gyda'r gwaith hwn, roedd disgwyl i’r cyfleuster fod yn barod yn gynnar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 139 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 26 Mai 2016 (copi
ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau, 26 Mai 2016. PENDERFYNWYD – y
dylid derbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
BYRDDAU DIOGELU GOGLEDD CYMRU PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau (copi ynghlwm) ar
ddatblygiad Byrddau Diogelu Rhanbarthol. 10.55
a.m. – 11.30 a.m.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau ei ddosbarthu
gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant ac Oedolion) yr
adroddiad yn absenoldeb anrhagweledig y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau. Eglurodd mai dyma’r Adroddiad Blynyddol cyntaf ers sefydlu’r
Bwrdd Diogelu Rhanbarthol, ac felly roedd ffocws yr adroddiad ar y cynnydd a
wnaed gyda sefydlu'r trefniadau rhanbarthol. Roedd y Bwrdd
Rhanbarthol yn Fwrdd Gweithredol, ac felly oherwydd ei ffocws gweithredol,
cynrychiolydd Sir Ddinbych oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau. Roedd
yr Aelod Arweiniol yn gwasanaethu ar Fwrdd Diogelu Conwy a Sir Ddinbych, a oedd
yn is-grŵp o’r Bwrdd Rhanbarthol. Roedd cyflwyniad
y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 wedi gosod diogelu
oedolion ar yr un sail statudol â diogelu plant. Gyda'i chyflwyniad roedd nifer o wendidau o
ran diogelu unigolion diamddiffyn wedi dod i'r amlwg. Roedd mynd i'r
afael â'r gwendidau hyn yn ffurfio rhan o gylch gwaith y Bwrdd Diogelu
Rhanbarthol. Cyfeiriodd yr
Aelodau at nifer o feysydd o fewn yr Adroddiad Blynyddol a oedd yn achosi
pryder iddynt. Roedd y rhain yn
ymwneud â rolau a chylchoedd gwaith y gwahanol is-grwpiau, swyddi heb eu llenwi
ar fyrddau ac o fewn y strwythur staffio, costau rhedeg y Bwrdd, cyfraniad
ariannol pob awdurdod lleol a'r enillion cysylltiedig ar fuddsoddiad. Oherwydd absenoldeb anorfod y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau o ran olaf y cyfarfod, gofynnodd y
Pwyllgor fod y Cydlynydd Archwilio’n codi'r pryderon uchod gyda hi yn gofyn am
ymateb ysgrifenedig i'r cwestiynau a godwyd. Felly:- PENDERFYNWYD:- (i)
yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn Adroddiad Blynyddol
Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru a Bwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru ar
gyfer 2015/16; a (ii)
bod adroddiad pellach yn manylu ar y cynnydd a
gyflawnwyd gyda datblygiad y Byrddau o fis Ebrill 2016 hyd yma’n cael ei
gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2017. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.
11.30 a.m. – 11.40 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd
yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn
rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar
gyfer y cyfarfod. Roedd copi o dempled ‘ffurflen cynnig Aelodau” wedi’i
gynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys fel Atodiad 3, ac
roedd tabl yn crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor ac yn cynghori ar gynnydd wrth eu gweithredu wedi’i atodi yn
Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’i Raglen
Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 6 Hydref, 2016:- Cytunodd y Pwyllgor fod yr Aelodau Arweiniol, y Cynghorwyr H.H. Evans, J.
Thompson-Hill a D. I. Smith yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod ar gyfer y
tair eitem a gynhwysir yn rhaglen gwaith y dyfodol y Pwyllgor. 24 Tachwedd 2016:- Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Ysbyty Cymuned
Gogledd Sir Ddinbych / Prosiect Cyfleuster Iechyd yn y rhaglen gwaith ar gyfer
y dyddiad uchod a bod yr Aelodau Arweiniol, y Cynghorwyr R.L. Feeley a D.I. Smith yn cael eu gwahodd i fynychu'r cyfarfod
ar gyfer eu heitemau busnes perthnasol. 19 Ionawr, 2017:- Nododd yr aelodau y cytunwyd bod adroddiad
diweddaru mewn perthynas â Byrddau Diogelu Gogledd Cymru yn cael eu cynnwys yn
rhaglen gwaith y dyfodol y Pwyllgor ar gyfer mis Ionawr, 2017. Ar gais y Cadeirydd, cytunwyd cynnwys eitem ar y rhaglen mewn perthynas â
gwasanaethau sy'n ymwneud â Mamolaeth, Gynaecoleg a Chanolfan Gofal Dwys
Newydd-anedig Is Ranbarthol (SuRNICC), a Gwasanaethau Tu Allan i Oriau yn
rhaglen gwaith y dyfodol y Pwyllgor ar gyfer cyfarfod Mawrth 2017. Cytunodd yr Aelodau hefyd bod ystyriaeth yn
cael ei rhoi i drefniadau ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor ymweld â'r cyfleusterau
newydd yn Ysbyty Glan Clwyd. Hysbyswyd yr Aelodau fod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio wedi cyfarfod ar 28 Mehefin, 2016 ac nad oedd unrhyw eitemau wedi eu
cyfeirio at y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar gyfer ystyriaeth. Cyfeiriodd y Cydlynydd Archwilio at Adroddiad Gwybodaeth Cymunedau yn
Gyntaf Gogledd Sir Ddinbych, a oedd wedi’i gynnwys gyda'r Brîff gwybodaeth a
gylchredwyd cyn y cyfarfod. Roedd
adroddiad wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 30 Gorffennaf,
2015, pryd y cytunwyd bod adroddiad gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu i
Aelodau'r Pwyllgor yn dilyn cyfnod o ddeuddeg mis. Cytunodd yr aelodau, yn dilyn derbyn
adroddiad gwybodaeth, bod adroddiad cynnydd manwl pellach yn cael ei gyflwyno i
gyfarfod o’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2017. Atgoffwyd yr Aelodau am y Digwyddiad Hyfforddiant Archwilio a drefnwyd ar
gyfer dydd Iau, 14 Gorffennaf 2016. Gofynnwyd i Aelodau hysbysu'r Cydlynydd
Archwilio am eu bwriad i fynychu'r digwyddiad erbyn 8 Gorffennaf, 2016.
Cadarnhaodd y Cynghorwyr P.M. Jones a W.N. Tasker y byddent yn bresennol. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD
- yn amodol ar yr
uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith fel y caiff ei hamlinellu yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 11.40 a.m. – 11.50 a.m. Cofnodion: Roedd y Cynghorydd P. Prendergast wedi mynychu cyfarfod Awdurdod Tân ac
Achub Gogledd Cymru. Esboniodd, er mwyn
cwrdd â chyfyngiadau cyllideb, byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ynghylch y
posibilrwydd o symud tendr tân o Orsaf Dân Wrecsam. O dan amgylchiadau o'r fath, cadarnhawyd y
byddai'r Swyddogion Tân perthnasol yn derbyn hyfforddiant priodol. Cadarnhaodd y Cynghorydd M.L. Holland wrth yr Aelodau fod cyfarfod y
Cydbwyllgor Ymgynghorol Lleol wedi’i ganslo oherwydd diffyg cynrychiolaeth
Undeb. Eglurodd ei fod wedi mynychu
cyfarfod o'r Gweithgor Trechu Tlodi a thrafodwyd materion yn ymwneud â darparu
Grwpiau Brecwast ar gyfer plant.
Cytunodd y Cynghorydd Holland i anfon manylion y cyfarfod ymlaen at y
Cynghorydd B. Mellor, Cadeirydd Grŵp Aelodau Ardal y Rhyl. PENDERFYNWYD
- bod y Pwyllgor yn
derbyn a nodi’r adroddiad yn amodol ar yr uchod. Daeth y cyfarfod i ben am 12.40pm. |