Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWLLGOR 1a, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
Yn y fan hon,
cytunwyd i amrywio trefn y Rhaglen er mwyn rhoi cyfle i siaradwyr Eitem 6 –
Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. |
|
PROSIECT GWELLA TAI GORLLEWIN Y RHYL PDF 113 KB Ystyried adroddiad (copi’n amgaeedig) i roi'r
wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflwyno un elfen o Raglen Adfywio'r
Rhyl - Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd
Joan Butterfield ddatgan cysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei bod yn
Aelod o’r Ymddiriedolaeth Tai Cymunedol. Estynnodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones groeso i dri siaradwr gwadd
i’r cyfarfod, sef: Ø Peter James – Rheolwr Adfywio, Llywodraeth
Cymru Ø Graham Worthington – Prif Weithredwr,Tai
Clwyd Alyn / Pennaf, a Ø Phil Danson – Cyfarwyddwr Datblygu Busnes,
Tai Gogledd Cymru Yn y fan hon,
ymddiheurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth y Cyhoedd ar ran yr
Arweinydd am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ei rôl fel
Aelod Arweiniol yr Economi oherwydd ymrwymiad blaenorol. Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Economi a Pharth y Cyhoedd yr adroddiad i ddiweddaru
ynglŷn â’r cynnydd a wnaed i ddarparu un elfen o raglen Adnewyddu’r Rhyl
- Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl. Nod y prosiect fyddai denu mwy o bobl economaidd weithgar i fyw yn ardal
orllewinol y dref, i gefnogi’r economi a sicrhau bod y gymuned yn ffynnu.
Cychwynnwyd y prosiect er mwyn newid canfyddiad pobl o’r ardal ac o’r Rhyl yn
gyffredinol. Roedd y prosiect yn bartneriaeth amlasiantaeth rhwng Llywodraeth Cymru
(LlC), Cymdeithasau Tai, y Cyngor a phartneriaid sector preifat. Rhoddwyd
cyflwyniad gan Peter James, Rheolwr Adfywio (LlC) a oedd yn amlinellu’r
canlynol: Ø Hanes a
chefndir y prosiect Ø Gwahanol gamau yn y gwaith o gynllunio’r
gwahanol lefelau a mathau o ymyrraeth angenrheidiol Ø Disgrifiodd yr
ardal ymyrraeth, cyllideb y prosiect ac amserlenni ar gyfer y prosiect Ø Prosiectau unigol a gwblhawyd, a oedd ar y
gweill ar hyn o bryd neu yn yr arfaeth ar gyfer pob un o’r 6 parth Ø Materion a oedd
wedi codi yn ystod y prosiect - yn cynnwys y storïau o lwyddiant, materion
cymhleth, sut y cafodd y rheini eu goresgyn a’r gwersi a ddysgwyd wrth
ddarparu’r prosiect, a Ø Materion yn y dyfodol / camau nesaf. Eglurodd Peter James (LlC) pam fod LlC wedi penderfynu bod angen ymyrraeth
yn y Rhyl. Ymgais ydoedd i wyrdroi’r dirywiad parhaus yn yr ardal gan fod
amodau tai’n wael, a hynny ynddo’i hun yn rhwystr mawr i adfywio economaidd.
Roedd anghydbwysedd demograffig mawr, gan fod cyfran fawr o’r boblogaeth leol
yn ddynion sengl, ac roedd y ddwy ffactor yma wedi arwain at gylch o ddiffyg
buddsoddi yn yr ardal. Cynhaliwyd dadansoddiad o anghenion tai a oedd wedi dangos diffyg tai i
deuluoedd yn yr ardal ac anghydbwysedd yn neiliadaeth tai’r ardal. Roedd nifer
fawr o dai yn yr ardal mewn perchnogaeth breifat ond mewn cyflwr gwael iawn, ac
felly, roedd y broses negodi i brynu’r
rhain wedi bod yn hynod o gymhleth ac wedi cymryd llawer o amser. Prynwyd
cyfanswm o 120 o dai, y mwyafrif drwy Orchmynion Prynu Gorfodol. Roedd y broses
honno wedi cychwyn yn 2013 ac mae'n debyg mai hwn oedd y prosiect adfywio
trefol mwyaf cymhleth yng Nghymru yn ymwneud â thai preswyl. Ar ôl cwblhau
Prosiect Gwella Tai Gorllewin y Rhyl roedd tua £27miliwn wedi ei fuddsoddi yng
ngorllewin y Rhyl yn cynnwys arian gan LlC, y Cyngor Sir, cyrff cyhoeddus
eraill a gan y sector preifat. Yna aeth Peter
James (LlC) rhagddo a:- Ø Dywedodd mai’r
risg fwyaf ar y dechrau oedd ailgartrefu preswylwyr o’r tai a brynwyd drwy
orchymyn prynu gorfodol. Fodd bynnag, roedd pob o’r preswylwyr wedi eu hailgartrefu’n
llwyddiannus ac ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau negyddol Ø Dywedodd fod y prosiect tua 6-7 mis ar ei hôl hi, ond oherwydd natur gymhleth y prosiect a chyflwr gwael rhai o’r tai, a oedd wedi golygu bod angen gweithredu Gorchmynion Prynu Gorfodol, roedd y llithriant yn ddealladwy ac roedd yn bosibl ei reoli ... view the full Cofnodion text for item 2. |
|
Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2016/17. Cofnodion: Yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd
Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau. Bu i’r Cynghorydd
Martyn Holland enwebu’r Cynghorydd Raymond Bartley, ac eiliwyd hynny gan y
Cynghorydd Pat Jones. PENDERFYNWYD bod y Cynghorydd
Raymond Bartley yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau. |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Bu i’r Cynghorydd Joan Butterfield ddatgan cysylltiad ym Mhrosiect Gwella
Tai Gorllewin y Rhyl. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim materion
brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 141 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2016 (copi’n amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau 14 Ebrill,
2016. Materion yn
codi:- Tudalen 7 – Eitem
6 – Pwynt Mynediad Sengl. Diolchodd y Cadeirydd, ar y Pwyllgor, i’r staff a
oedd wedi croesawu’r Aelodau yn ystod yr ymweliad ar 14 Ebrill, 2016. Roedd
wedi bod yn addysgiadol iawn. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod,
bod y Cofnodion yn cael eu derbyn a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 105 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi’n amgaeedig) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ynghyd â’r papurau ar gyfer y cyfarfod, rhannwyd copi o adroddiad gan y
Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i’r Dyfodol a rhoi diweddariad ynglŷn â materion perthnasol. Roedd copi o dempled “ffurflen gais Aelodau” wedi ei chynnwys yn Atodiad 2,
roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi'i chynnwys yn Atodiad 3 a thabl
yn crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor a gwybodaeth ynglŷn â’r
cynnydd o ran eu gweithredu yn Atodiad 4. Ystyriodd y Pwyllgor ei Raglen Gwaith i’r dyfodol drafft ar gyfer
cyfarfodydd y dyfodol. Mewn cyfarfod diweddar o Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio, cytunwyd i gynnwys adroddiad ar Fyrddau Diogelu Gogledd Cymru ar
raglen y Pwyllgor ar gyfer ei gyfarfod nesaf ar 7 Gorffennaf a bod adroddiad ar
Gynllun Lles Sir Ddinbych yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod
Hydref 2016. Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau drosolwg byr o waith y
Byrddau Diogelu Rhanbarthol. Trafodwyd a
diweddarwyd sylwadau’r Pwyllgor ar Grwpiau Herio Gwasanaeth. PENDERFYNWYD
yn amodol ar yr uchod, bod y Rhaglen Waith a amlinellir yn Atodiad 1 i’r
adroddiad yn cael ei chymeradwyo. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd y
Cynghorwyr Jeanette Chamberlain-Jones a Meirick Lloyd Davies adborth ar
gyfarfod Her Gwasanaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd y buon nhw
ynddo’n ddiweddar. |
|
Yn y fan hon,
dymunodd y Cynghorydd Raymond Bartley hysbysu Aelodau y byddai Cartref Gofal
Preswyl Dolwen yn dathlu 50 mlynedd yr wythnos nesaf. |
|
Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 a.m. |