Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, y Rhyl
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Cafodd y cysylltiadau canlynol eu nodi yn eitemau busnes i gael eu
hystyried yn y cyfarfod. Eitem Agenda 5: Datblygiad Ysbyty Cymunedol yn Rhyl – datganodd y
Cynghorydd R L Feeley gysylltiad personol. Y Rheswm dros y
datganiad oedd bod Cynghorydd Feeley yn Aelod Bwrdd Annibynnol ar Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol,
1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 207 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2016
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 14 Ionawr, 2016. Materion yn codi:- Eitem Rhif 7 – Rhaglen Waith Craffu – mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu nad oedd unrhyw
ystafelloedd cyfarfod ar gael yn y swyddfeydd yn Brighton Road, y Rhyl, ar
gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Hysbyswyd aelodau y byddai’r cyfarfod, ar 15 Ebrill 2016, yn cael ei
gynnal yn Siambr y Cyngor, Tŷ Russell, y Rhyl. PENDERFYNWYD – yn
amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
DATBLYGU YSBYTY CYMUNED YN Y RHYL I ystyried
cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar eu
bwriadau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol mewn perthynas â safle Ysbyty Brenhinol
Alexandra, Y Rhyl. 9.35 a.m. – 10.15 a.m. Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
ar eu bwriadau ar hyn o bryd ac ar gyfer y dyfodol o safbwynt safle Ysbyty
Frenhinol Alexandra, Y Rhyl. Mynychodd
Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chyfarwyddwr Ardal Gwasanaeth Clinigol
(Ardal Ganolog) Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y cyfarfod er mwyn
diweddaru Aelodau ar y cynnydd hyd yn hyn o safbwynt y prosiect uchod. Eglurwyd bod y
cyflwyniad wedi ei ddwyn o flaen y cyfarfod gan fod pryderon yn codi nad oedd y
prosiect i’w weld yn cael ei roi ar waith. Cynghorodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr bod:- ·
Yr Achos Amlinellol Strategol ar gyfer ysbyty
yng ngogledd Sir Ddinbych wedi ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis
Rhagfyr 2013 ac er yr amser sydd wedi pasio mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru
i’r cynllun yn parhau; ·
y prosiect bellach ar y cam Achos Busnes Amlinellol
– mae’r cam hwn yn gofyn am ymgysylltu dwys gyda sefydliadau partner, cyrff
trydydd sector, y cyhoedd a staff y Bwrdd Iechyd er mwyn cynllunio cwmpas
gwasanaeth a chynlluniau manwl ar gyfer y prosiect; ·
O ganlyniad i’r ymgysylltu gyda’r partneriaid
uchod mae’r cwmpas gwasanaeth arfaethedig yn cynnwys y meysydd canlynol:
gwasanaethau cleifion mewnol, clinigau cleifion allanol, diagnosteg,
gwasanaethau therapi, gwasanaethau deintyddol cymunedol, Gwasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a'r Glasoed, gwasanaethau iechyd rhywiol, Pwynt Mynediad Sengl/
gorsaf weithio integredig a canolfan gymunedol (caffi, trydydd sector ac
ystafelloedd cyfarfod); ·
talu sylw i’r nifer o wasanaethau a fyddai ar
y safle pe byddai’r holl wasanaethau a restrwyd yn y cwmpas gwasanaeth yn cael
lle, roedd gwasanaethau unigol wedi eu hasesu er mwyn penderfynu a fyddent yn
addas i gael eu cyd-leoli ar yr un safle e.e. CAHMS gyda gwasanaethau plant
ychwanegol, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ayb. Yn
ogystal roedd safleoedd posib wedi eu hasesu er mwyn cadarnhau os oedd modd
cyd-leoli nifer o wasanaethau cymunedol yno. ·
yn dilyn dau asesiad ar wahân roedd safle
Ysbyty Frenhinol Alexandra, y Rhyl wedi ei glustnodi fel yr hoff safle, er
gwaetha’r cyfyngiadau cynllunio a’r gost ychwanegol y byddai statws cyfredol yr
ysbyty fel adeilad rhestredig yn ei roi ar y Bwrdd Iechyd fel datblygwr; ·
un o’r camau gweithredu yng nghynllun
gweithredu adfer mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd
fod yn rhaid iddo gyfathrebu’n well gyda’i fudd-ddeiliaid, oedd yn cynnwys
trigolion ac awdurdodau lleol. Fel rhan o hyn, yn ystod haf 2015,
cynhaliodd ‘ymarfer gwrando' er mwyn penderfynu beth ddylai ei flaenoriaethau
fod wrth symud ymlaen. Byddai’r blaenoriaethau hyn a chydymffurfio gydag
anghenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, yn siapio unrhyw
gynigion gwasanaeth yn y dyfodol a fyddai’n cael eu cymeradwyo gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth symud ymlaen; ·
o ganlyniad i’r ymarfer sgwrs gymunedol uchod
cytunwyd ar y chwe blaenoriaeth strategol ganlynol:- Ø symud ffocws gwasanaethau iechyd tuag at atal
a gwella iechyd, o ganlyniad byddai angen ail-drefnu gwasanaethau cyfredol er
mwyn cyflawni’r dyhead hwn; Ø cryfhau gofal sylfaenol a chymunedol, gyda
phwyslais arbennig ar fodelau newydd o ofal y tu allan i’r model gofal ysbyty
traddodiadol; Ø darparu mwy o ofal integredig drwy ddatblygu
partneriaethau cryfach gyda’r sectorau eraill e.e. llywodraeth leol, y trydydd
sector, gofalwyr a’r gymuned; Ø darparu gwasanaethau wedi eu lleoli yn yr
ysbyty sy’n darparu’r canlyniadau gorau posib i bobl ac sy’n gynaliadwy ar
gyfer y dyfodol; Ø sicrhau mai’r claf fyddai canolbwynt pob
agwedd o waith y Bwrdd; a Ø datblygu, rheoli a gwerthfawrogi gweithlu’r
Bwrdd Iechyd a’i holl asedau ac adnoddau eraill er mwyn cefnogi gweledigaeth a
blaenoriaethau strategol y Bwrdd ar draws yr ardaloedd; · Roedd gweledigaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am ysbyty yng ngogledd Sir Didnbych yn ffitio i fewn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DIOGELU OEDOLION DIAMDDIFFYN PDF 105 KB I ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Diogelu Oedolion Diamddiffyn (POVA) (copi ynghlwm) ar
y dilyniant i'r adroddiad perfformiad blynyddol ar gyfer Diogelu Oedolion a
gyflwynwyd i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ym mis Tachwedd, 2015. 10.25 a.m. – 11.05 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Gydlynydd Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (PC) wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yr adroddiad gan nodi
ei fod yn cael ei gyflwyno ar gais yr Aelodau, fel dilyniant i'r adroddiad
blynyddol ar gyfer 2014/15 yr oedd y Pwyllgor wedi ei ystyried ym mis Tachwedd,
2015, gan fod Aelodau eisiau sicrhad ynghylch rheoli'r risg i unigolion a oedd
wedi eu clustnodi fel bod mewn peryg o gael eu cam-drin. Cynghorodd:- ·
bod
tua 1,300 gwely gofal cartref ar draws Sir Ddinbych; ·
bod
73 atgyfeiriad o gam-drin wedi eu cwblhau yn 2014/15; roedd 56 o’r
atgyfeiriadau hyn yn honni bod y cam-drin wedi digwydd o fewn cartref gofal neu
gartref preswyl neu yng nghartref yr unigolyn ei hun, ac ohonynt honnwyd bod 43
wedi digwydd o fewn cartref preswyl neu gartref nyrsio; ·
manylion
sut roedd y risg yn cael ei reoli o safbwynt yr unigolion a restrir yn yr
adroddiad; ·
bod
erlyniadau troseddol yn y math yma o achosion yn brin, dim ond un fu yn ystod
2014/15 – mewn rhai achosion nid oedd yr unigolyn neu'r teulu eisiau dwyn
cyhuddiad unwaith roedd y risg wedi ei ddileu; ·
tra
bo’r awdurdod lleol yn delio gydag atgyfeiriadau Amddiffyn Oedolion Agored i
Niwed, nid oedd yr holl atgyfeiriadau’n ymwneud â staff gofal. Roedd astudiaeth
achos yn yr adroddiad yn amlinellu sut bod un atgyfeiriad yn erbyn aelod o
staff y Gwasanaeth Iechyd, a gwnaed honiadau eraill yn erbyn aelodau o’r teulu
neu ffrindiau; Wrth ymateb i
gwestiynau aelodau cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a
Rheolwr Gwasanaeth: Gwasanaethau Arbenigol bod:- ·
y
Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol am ddarparu matresi pwysau, ac roedd yn cynyddu’r
nifer o fatresi yr oedd yn ei archebu; ·
roedd
perchnogion cartrefi gofal ar y cyfan yn cydweithio gydag ymholiadau
atgyfeiriadau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed ac yn cydymffurfio gydag unrhyw
argymhellion perthnasol, oherwydd byddai rhestru eu cartref o dan ‘bryderon
cynyddol’ yn gwneud niwed i’w busnes; ·
roedd
tua dau gartref gofal o dan ‘bryderon cynyddol’ ar unrhyw adeg fel arfer.
Ni fyddai'r Cyngor yn atgyfeirio unrhyw breswylwyr newydd i’r cartrefi tra bod
y cartrefi hynny o dan y rhestr ‘pryderon cynyddol’. ·
roedd honiadau o natur rywiol yn eithaf anodd i ymchwilio
iddynt, gallent amrywio o fod yn honiadau bychan i rai difrifol iawn; ·
dylid
adrodd am unrhyw honiadau i’r Cyngor, hyd yn oed os nad oedd yr unigolyn eisiau
mynd a'r ymchwiliad ymlaen, gan y byddai hyn o gymorth i’r Cyngor adnabod
meysydd o bryder neu batrymau o ymddygiad cyn iddynt gynyddu; ·
os
yw’r cam-drin honedig yn digwydd o fewn lleoliad teulu, byddai’r Gwasanaethau
Cymdeithasol bob amser yn hysbysu’r Heddlu byddai i fyny i’r unigolyn, os oedd
ganddi hi/ef y gallu meddyliol, neu aelod o’r teulu i gytuno os oeddynt am fynd
ymlaen ag ymchwiliad troseddol ac / neu i ddwyn cyhuddiad. Mewn achosion
o’r fath bydd yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud trefniadau i gadw’r
unigolyn agored i niwed allan o niwed. ·
roedd recriwtio nyrsys cymwys yn broblem benodol i'r gwasanaethau
iechyd, a pherchnogion cartrefi nyrsio
ar hyn o bryd. ·
roedd
yr adroddiad yn dilyn yr adolygiad cenedlaethol o ofal cartref ar fin cael ei
gyhoeddi. Mae’r adroddiad hwn yn debygol o amlygu’r problemau sydd wedi
eu cael gyda galwadau gofal 15 munud. Gan gymryd poblogaeth y sir, a’r ffaith bod gan y sir broffil demograffeg
sy’n heneiddio i ystyriaeth, roedd aelodau yn teimlo bod angen gwneud mwy o
waith i amlygu i drigolion bwysigrwydd paratoi ar gyfer eu hanghenion yn y
dyfodol, ee, ysgrifennu dogfennau Atwrneiaeth, ysgrifennu ewyllys ayb. Diolchodd Aelodau i swyddogion am adroddiad llawn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 105 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru'r aelodau ar faterion
perthnasol. 11.05 a.m. – 11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd
yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn
rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar
gyfer y cyfarfod. Roedd copi o dempled ‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’
wedi ei chynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet
wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o benderfyniadau
diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran eu gweithredu wedi ei gynnwys yn
Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’i Raglen
Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 14 Ebrill, 2016:- Atgoffwyd y Pwyllgor eu bod wedi cytuno i estyn gwahoddiad i'r cyfarfod i’r
Cynghorwyr S.A. Davies, a T.R. Hughes i ymuno ag Aelodau’r Pwyllgor ar ymweliad
i’r lleoliadau canlynol yn y Rhyl ar ôl y cyfarfod:- -
Harbwr y Rhyl, Pont y Ddraig a Harbour Cafe. -
Gerddi Heulwen. -
Datblygiad y Promenâd -
Datblygiad Cymdeithas Tai Clwyd Alyn Cyf -
Safle ar gyfer y Premier Inn newydd -
Datblygiad Scarborough. Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, cadarnhawyd bod ymweliad safle
swyddogol a thaith o amgylch cyfadeilad newydd Ysgol Uwchradd y Rhyl wedi ei
drefnu ar gyfer yr holl Gynghorwyr Sir ar ddyddiad arall 26 Mai 2016:- Eglurodd y Cydlynydd Archwilio y byddai’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio yn cwrdd ar 3 Mawrth, 2016 pan fyddent yn ystyried nifer o geisiadau
a dderbyniwyd gan Aelodau am eitemau posib ar gyfer cyfarfodydd amrywiol. Gwahoddwyd Aelodau i gwblhau a chyflwyno
ffurflenni cynnig Aelodau, o safbwynt eitemau yr hoffent eu hystyried mewn
cyfarfodydd yn y dyfodol. Gofynnodd y Cydlynydd Archwilio i Aelodau gwblhau a chyflwyno’r Ffurflenni
Holiadur Hunan Werthuso oedd wedi eu cylchredeg yn ddiweddar. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cwblhau’r ffurflenni
gan y byddai'r Cyngor yn cael asesiad corfforaethol yn hwyrach yn y flwyddyn. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD
- yn amodol ar yr uchod,
cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith fel y caiff ei hamlinellu yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor. 11.15 a.m. – 11.25 a.m. Cofnodion: Ni dderbyniwyd adroddiadau gan gynrychiolwyr
Pwyllgor. Daeth y Cyfarfod i ben am 11.55 a.m. |