Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, TY RUSSELL, Y RHYL
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu rai sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes
a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fu i
unrhyw Aelod ddatgan cysylltiad personol na chysylltiad sy'n rhagfarnu ag
unrhyw fusnes a oedd i’w ystyried yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o
frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 220 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2015
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau, 26 Tachwedd, 2015. Cywirdeb:- Esboniodd y Cynghorydd M.Ll. Davies parthed Eitem 5,
Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ei fod wedi bod yn bresennol fel Cadeirydd
Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Materion yn codi:- Eitem 5, Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru -
Cadarnhaodd y Cydlynydd Archwilio bod copi o'r llythyr a anfonwyd at Awdurdod
Tân ac Achub Gogledd Cymru, mewn ymateb i'r ymgynghoriad, wedi ei gynnwys yn y
Brîff Gwybodaeth a ddosbarthwyd i’r Aelodau. PENDERFYNWYD
– yn amodol ar yr
uchod, derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 86 KB Roedd adroddiad
gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio, ar drefniadau arfaethedig y Bwrdd
Gwasanaethau Lleol ar gyfer Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd ar gyfer
Conwy a Sir Ddinbych, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. 9.35 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dosbarthwyd copi o adroddiad gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio
Strategol (SPPO), ar y trefniadau ar gyfer sefydlu'r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus statudol, sydd hefyd yn cynnwys opsiynau posibl ar gyfer archwilio’r
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus newydd, yn unol â gofynion Deddf Lles
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), gyda phapurau’r pwyllgor. Cyflwynodd y
Rheolwr Perfformiad a Chynllunio Strategol (SPPM) yr adroddiad ac eglurodd y
bydd Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a fyddai'n dod i rym ar 1 Ebrill
2016, yn arwain at oblygiadau eang i'r Cyngor yn ogystal â sefydliadau
cyhoeddus eraill yng Nghymru. Bydd y Pwyllgor
Archwilio Cymunedau, yn ei gyfarfod nesaf ym mis Chwefror, yn edrych yn
fanylach ar oblygiadau'r Ddeddf ar gyfer y Cyngor. Un o ddarpariaethau'r Ddeddf oedd newid y Byrddau
Gwasanaethau Lleol (BGLl) presennol yn Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) ac
wrth wneud hynny, gosod y BGC newydd ar sail statudol. O ganlyniad, mae'n rhaid i'r BGC fod yn
destun gweithgarwch archwilio mwy dwys gan awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, mae Sir Ddinbych yn
gweithredu BGLl ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a sefydliadau
partner eraill. Yn ei gyfarfod ym
mis Medi, 2015 penderfynodd y BGLl ar y cyd mai’r dull a ddymunir o Ebrill 2016
fydd gweithredu fel BGC ar y Cyd, oni bai bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn
penderfynu y byddai'r strwythur llywodraeth leol newydd yn yr ardal yn wahanol
yn y dyfodol. Mynegodd
y BGLl ar y cyd hefyd y bwriad i'r BGC ar y Cyd newydd fod â Chynllun Lles partneriaeth
tymor hir sengl ar gyfer ardal Conwy a Sir Ddinbych o 2017 ymlaen. Ar hyn o
bryd mae'r BGLl yn rheoli dau gynllun integredig sengl ar wahân (SIPs).
Pe byddai cynhyrchu Cynllun Lles
Sengl yn dwyn ffrwyth, byddai wedyn yn fwy priodol i archwilio ar y cyd, er
mwyn osgoi dyblygu ac i wneud gwell defnydd o adnoddau cyfyngedig.
Tra bod gwaith
eisoes yn mynd rhagddo mewn perthynas â chynllunio ar gyfer Cynllun Lles ar y
cyd, yr oedd yn cael ei wneud yn y fath fodd, pe byddai LlC yn cytuno ar
gyfluniad gwahanol ar gyfer llywodraeth leol yng Ngogledd Cymru, ni fyddai’r
gwaith a wnaed hyd yma wedi bod yn ofer gan y gellid ei ddefnyddio ar gyfer Sir
Ddinbych a Chonwy fel endidau ar wahân, neu ar gyfer unrhyw ffurfweddau posibl
eraill. Amlinellodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd yr holl ddewisiadau craffu posibl ar gyfer y Cyd BGC
arfaethedig fel y manylir yn atodiad 2 yr adroddiad, gan egluro mai Opsiwn 4 -
trefniadau craffu anffurfiol ar y cyd – sy’n ymddangos fel y model mwyaf
priodol i’w fabwysiadu ar hyn o bryd pan fydd y Cyd BGC yn weithredol. Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:- ·
O ran
ffurfweddau ad-drefnu llywodraeth leol posibl eraill, nid yw'r rhain wedi cael
eu harchwilio mewn perthynas â sefydlu BGC ar y cyd.
Y rheswm yw bod Conwy a Sir
Ddinbych, ers peth amser, wedi gweithredu BGLl ar y cyd, ac hyd nes y dywedwyd
wrth y naill awdurdod neu’r llall yn bendant nad dyma’r strwythur llywodraeth
leol ar gyfer yr ardal yn y dyfodol, roedd yn ymddangos yn rhesymegol i fynd
ymlaen i lawr y llwybr ar y cyd ar gyfer y BGC newydd; ·
O
gofio bod aelodau partner presennol y BGLl h.y. y Gwasanaeth Heddlu, Iechyd a
Thân ac Achub, hefyd yn ffurfweddu eu strwythurau is-ranbarthol yn dair ardal
yn seiliedig ar siroedd yr awdurdodau lleol yng ngogledd-orllewin,
gogledd-ddwyrain a chanolbarth Gogledd Cymru, roedd yn rhesymegol ac yn
rhesymol i sefydlu BGC ar y cyd ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych; · P'un ai oes BGC unigol neu ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARU YNGHYLCH TELEDU CYLCH CYFYNG SIR DDINBYCH PDF 113 KB Roedd adroddiad
gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, ar y Gwasanaeth TCC presennol a
chasgliad y gwaith a wnaed gan y Gweithgor Teledu Cylch Caeedig wedi ei
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. 10.00 a.m. Cofnodion: Dosbarthwyd copi o adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd (HPPP) a'r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (PPM), oedd yn rhoi diweddariad
ar oblygiadau penderfyniad y Cyngor, fel rhan o'r ymarfer rhyddid a hyblygrwydd
i dynnu arian o’r swyddogaeth TCC ar gyfer 2016/17, gyda'r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Er nad oedd y
Gwasanaeth TCC yn swyddogaeth statudol gan y Cyngor, bu peth pryder gan drigolion
a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â phenderfyniad y Cyngor i beidio â
pharhau gyda'r Gwasanaeth ac o ganlyniad sefydlwyd Gweithgor i edrych ar
fodelau amgen ar gyfer darparu Gwasanaeth TCC. Ar y cyd â Heddlu
Gogledd Cymru, Cynghorau Tref Prestatyn, Rhuddlan a’r Rhyl, a'r Grwpiau Ardal
Aelodau (MAG) perthnasol, lluniwyd a chytunwyd ar fodel lle byddai pob camera
teledu cylch cyfyng yn dal yn weithredol ac yn cofnodi ar sail pedwar awr ar
hugain trwy gydol y flwyddyn. Yr unig wahaniaeth fyddai na fyddent yn cael eu monitro ar sail 24 awr.
Fel hyn, byddai ffilm ar gael i'r
rhai sydd angen hynny ar gais. Byddai'r
Cydlynydd TCC yn cael ei gontractio i gynnal y gwasanaeth a bod yn bwynt
cyswllt a chydlynydd rhwng yr holl sefydliadau partner. Cafwyd cytundeb mewn egwyddor gan yr holl
gynghorau tref sy'n rhan o'r prosiect ar eu cyfraniadau ariannol tuag at y
gwasanaeth a gan y partïon eraill sy'n rhan o'r prosiect. Roedd amcangyfrif
cost y Gwasanaeth yn £62K ac yma cafwyd sicrwydd mewn perthynas â £61k.
Mewn ymateb i gwestiynau gan yr
Aelodau, dywedodd y swyddogion:- ·
Byddai'r
gwasanaeth unigol yn wasanaeth prawf o 12 mis i ddechrau i sefydlu ei hyfywdra
i barhau ar gyfer y dyfodol; ·
Bydd y
Gweithgor yn cyfarfod eto ar 25 Ionawr i archwilio cytundeb cyfreithiol y
Gwasanaeth a materion cyfreithiol eraill, yn ogystal â'r trefniadau
llywodraethu arfaethedig ar gyfer y Bwrdd; ·
O 1
Ebrill 2016, y dyddiad y byddai'r gwasanaeth unigol yn dod i fodolaeth,
byddai’r Gweithgor presennol yn dod yn Fwrdd Gwasanaethau TCC a byddai'n
gyfrifol am lywodraethu’r Gwasanaeth a threfniadau gweithredol; ·
Roedd
y tabl ym mharagraff 4.11 yr adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â pha
unigolyn/cwmnïau oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth a'i offer a chostau
cysylltiedig pob elfen o'r gwaith; ·
Pan
fydd y Bwrdd wedi’i sefydlu, gall archwilio'r ffynonellau cyllid, fel arian
grant Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a ffrydiau cyllid diogelwch cymunedol
ymddygiad gwrth-gymdeithasol eraill (ASB), gyda golwg ar wneud y gorau o'r
incwm i'r Gwasanaeth. Mae rhywfaint o waith ymchwil eisoes wedi ei wneud
gan y gweithgor i ffynonellau cyllid. Efallai y byddant hefyd yn dymuno ymweld â
Bermo a Llangefni, fel yr awgrymwyd gan aelodau, i weld y systemau TCC a
osodwyd yno yn ddiweddar drostynt eu hunain; ·
Roeddent
yn obeithiol y gallai'r diffyg presennol o £1K rhwng costau gwasanaethau a
gwariant gael eu talu drwy drafod contractau a/neu taliadau a godir ar y Cyngor
neu ddefnyddwyr allanol. Cyn cloi'r
drafodaeth, diolchodd y Pwyllgor i’r Gweithgor a'r swyddogion am eu hymdrechion
o ran sicrhau bod dull arall ar gyfer darparu Gwasanaethau TCC wedi'i
gynllunio, er bod hynny ar sail prawf o 12 mis i ddechrau, ac maent yn dymuno
yn dda i bawb dan sylw gyda'r fenter. Gofynnwyd hefyd bod adroddiadau ar y Gwasanaeth yn
y dyfodol yn defnyddio llai o derminoleg jargon er budd y cyhoedd.
Ar ôl ystyried yr
wybodaeth a’r eglurhad a ddarparwyd ar y derminoleg: PENDERFYNWYD –yn
amodol ar y sylwadau uchod :- (a)
Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r gwaith a wneir
gan swyddogion wrth ddarparu ac adnabod arbedion a datblygu model partneriaeth
newydd ar gyfer darpariaeth TCC i ddechrau ar 1 Ebrill 2016; a (b) gofyn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 107 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a diweddaru'r aelodau ar faterion
perthnasol.
10.55 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd
yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn
rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar
gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’ wedi ei
chynnwys yn Atodiad 2, roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i
chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o benderfyniadau diweddar
y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran eu gweithredu wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft o’i Raglen
Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a chytunwyd ar y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 25 Chwefror 2016:- Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y ddwy eitem busnes a restrir yn y rhaglen
gwaith i’r dyfodol ar gyfer cyfarfod mis Chwefror, 2016. Gofynnodd yr
Aelodau am gael rhoi’r eitem yn ymwneud â Datblygu Ysbyty Cymunedol yn y Rhyl
yn y dyfodol yn gyntaf ar y rhaglen. Mewn ymateb i bryderon
a godwyd gan yr Aelodau, hysbysodd y SC y Pwyllgor fod BIPBC wedi rhoi sicrwydd
y byddent yn bresennol yn y cyfarfod ym mis Chwefror i drafod y mater. Cytunodd yr
Aelodau y dylid gwahodd yr Aelod Arweiniol, y Cynghorydd R.L. Feeley, i
fynychu'r cyfarfod, a bod rhag-gyfarfod yn cael ei gynnal ar gyfer Aelodau'r
Pwyllgor am 9.00am. Trafododd yr Aelodau yn anffurfiol y materion a
allai gael eu hystyried yn y cyfarfod. 14 Ebrill 2016:- Annibyniaeth Pobl Hŷn - Ar gais y Pwyllgor, cytunodd y SC i geisio
argaeledd ystafell gyfarfod yn Swyddfeydd Ffordd Brighton, y Rhyl, i gyd-fynd
ag ymweliad SPOA. Cytunodd yr aelodau y dylid estyn gwahoddiad i’r Cynghorwyr S.A. Davies a
T.R. Hughes, gyda’r bwriad o ymweld â safleoedd o ddiddordeb yn ardal y Rhyl. Cytunodd y
Cadeirydd i wneud trefniadau ar gyfer darparu cinio. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll.
Davies ynghylch cau’r caffi yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, eglurodd y SC bod y
mater wedi cael ei drafod yn Grŵp Ardal Aelodau Rhuthun. Cytunodd y SC i
fynd ar ôl canlyniad y trafodaethau. Yn dilyn trafodaeth bellach:- PENDERFYNWYD
- yn amodol ar yr
uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith fel y caiff ei hamlinellu yn Atodiad
1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor
11.05 a.m. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw adroddiadau oddi wrth gynrychiolwyr y Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am 11.35a.m. |