Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Ty Russell, Ffordd Churton, Y Rhyl LL18 3DP
Rhif | Eitem |
---|---|
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a diolchodd hefyd i staff y Gwasanaeth Tân ac Achub
am eu presenoldeb. |
|
Ymddiheuriadau |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 242 KB I dderbyn
cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 8 Hydref
2015 (copi ynghlwm). 9.35 a.m. – 9.45 a.m. Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 8
Hydref, 2015. PENDERFYNWYD derbyn
a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 8
Hydref, 2015 fel cofnod cywir. |
|
AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU PDF 944 KB Ymgynghoriad
cyhoeddus ar "Sut i gynnal gwasanaethau tân ac achub rhagorol a
fforddiadwy yng Ngogledd Cymru yn 2016-2017 a thu hwnt (copi ynghlwm) 9.45 a.m. – 10.20 a.m. Cofnodion: Roedd y Dirprwy
Brif Swyddog Tân, Dawn Docx a'r Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Ruth Simmons yn
bresennol i gyflwyno'r ddogfen ymgynghori "Eich Gwasanaethau, Eich
Dewisiadau". Amlinellodd
swyddogion y Gwasanaeth Tân ac Achub lwyddiant eu dull atal rhagweithiol yn
ystod y blynyddoedd diwethaf o ran lleihau nifer y galwadau allan ar gyfer y
Gwasanaeth o 50%. Fodd bynnag,
roedd lleihad mewn cyllid cyhoeddus yn y blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod
angen i'r Gwasanaeth gwtogi ar nifer o wasanaethau anstatudol roedd yn ei
ddarparu h.y. roedd wedi gostwng y nifer o Archwiliadau Diogelwch Tân yn y
Cartref (HFSC) a wnaeth yn flynyddol o 30,000 y flwyddyn i 20,000 y flwyddyn,
tynnu gwasanaethau achub â llinell (a wneir yn awr gan y Gwasanaethau Achub
Mynydd) ac achub anifeiliaid mawr. Roedd hefyd wedi symleiddio ei strwythur rheoli gweithredol a oedd bellach
yn gweithredu gyda 28 rheolwr canol gweithredol ar draws Gogledd Cymru, dyma
oedd y nifer lleiaf yr oedd yn cael ei weithredu. Mae'r
polisi sy’n ymwneud â throi allan i Larymau Tân Awtomatig (AFAS) fel mater o
drefn wedi cael ei ddiwygio fel rhan o'r mesurau arbed costau. Mae'r
Gwasanaeth yn awr yn troi allan i AFAS mewn adeiladau busnes yn ystod y dydd,
oni bai fod galwad frys yn dilyn y larwm. Ers cyflwyno'r polisi hwn nid oedd y
Gwasanaeth wedi mynychu 640 o 685 o alwadau AFA a ddaeth i law. Roedd hyn wedi dod ag arbediad o tua £70K.
Fel rhan o broses pennu cyllideb y
llynedd, roedd yr Awdurdod wedi cynnig cynnydd o £1 y pen o'r boblogaeth yng
Ngogledd Cymru wrth bennu'r cyfraniad gan bob awdurdod lleol. Ar ddiwedd y broses honno, roedd y cynnydd
a godwyd yn cyfateb i 18c y pen o'r boblogaeth. Yn ei ddogfen
ymgynghorol, roedd yr Awdurdod Tân ac Achub yn cynnig pedwar amcan ar gyfer
2016/17 a thu hwnt: Amcan 1: I
barhau â'i waith atal i gadw pobl yn ddiogel rhag tân yn eu
cartrefi - byddai hyn yn cael ei ariannu gan grantiau Lywodraeth Cymru (LlC)
sydd ar gael yn benodol ar gyfer y math hwn o waith Amcan 2: gweithio'n galed
i wneud y gyllideb fynd ymhellach fel na fyddai'n rhaid gofyn i gynghorau sir
am unrhyw gyfraniadau uwch - byddai hyn yn golygu y byddai'r Awdurdod yn rhewi
ei gyllideb am y 3 blynedd nesaf. Tra'n gwneud hyn, byddai'n gweithio ar y cyd â gwasanaethau cyhoeddus yn yr
ardal gyda'r bwriad o ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i wireddu’r manteision
gorau posibl i bawb dan sylw. Amcan 3: Yn parhau i
amddiffyn pob cymuned trwy well cynllunio h.y. cyfateb systemau criwio ac
argaeledd criwiau er mwyn darparu’r taeniad gorau posibl o wasanaethau ar gyfer
yr ardal gyfan Amcan 4: ymchwilio i'r
posibilrwydd o wneud mwy o bethau ar gyfer cymunedau h.y. cyd-ymateb gyda'r
Gwasanaeth Ambiwlans a chefnogi mentrau diogelwch personol a gweithio gyda
gwasanaethau cyhoeddus eraill. Chwaraewyd fideo
byr i'r aelodau i ddangos sut y gellid defnyddio data gyda'r bwriad o wella
cynllunio gwasanaethau a darpariaeth ar gyfer y dyfodol. Byddai darpar fodelau gwasanaeth posibl yn
cael eu datblygu gan ddefnyddio fformiwla wedi’i hen sefydlu a ddefnyddir gan
nifer o Awdurdodau Tân ac Achub gwledig a chan ystyried Mynegai Amddifadedd
Lluosog Cymru (MALlC). Amlygodd defnyddio’r fformiwla hon fod yna ardaloedd ar draws Gogledd Cymru
a fyddai angen sicrwydd o wasanaeth tân ac achub ar adegau penodol o'r dydd. Gan ymateb i
gwestiynau’r aelodau, dywedodd y swyddogion Awdurdod Tân ac Achub: ·
roedd yn ofynnol i'r Gwasanaeth
yn ôl y gyfraith i ymateb i ddamweiniau traffig ar y ffyrdd; · Nid yw achub o ddŵr yn ofyniad statudol ar ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ar y pwynt hwn (10.30 a.m.) cafwyd egwyl o 15
munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 10.45 a.m. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR AMDDIFFYN OEDOLION 2014/2015 PDF 199 KB I ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) er mwyn darparu trosolwg i'r Aelodau o effaith ymarfer
a threfniadau amddiffyn oedolion a diogelu lleol. Hefyd
i adolygu cynnydd yn y maes allweddol o waith dros y 12 mis diwethaf. 10.30 a.m. – 11.05 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol yr Adroddiad Blynyddol ar Amddiffyn
Oedolion 2014/2015 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu trosolwg i'r
Aelodau o'r trefniadau ac arferion diogelu ac amddiffyn oedolion yn lleol. Dywedodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol wrth y Pwyllgor ei bod yn ofynnol
i'r Cyngor yn ôl statud i adrodd yn flynyddol ar Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn
(POVA). Soniodd hefyd: - ·
mai dim ond un Dangosydd Perfformiad cenedlaethol (DP)
sy'n ymwneud ag amddiffyn oedolion ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddai’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Lles (Cymru) 2014, pan ddaw i rym ym mis Ebrill 2016, yn rhoi sail statudol i
amddiffyn oedolion, yn debyg i'r hyn a roddir i amddiffyn plant ar hyn o bryd. Byddai ei roi ar waith
hefyd yn golygu DP ychwanegol ym maes amddiffyn oedolion; ·
Am y goblygiadau i'r Cyngor o’r Dyfarniad Goruchaf Lys
Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) a'r nifer cynyddol o geisiadau
awdurdodiad safonol a dderbyniwyd o ganlyniad i'r Dyfarniad; ·
bod yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru (AGGCC) yn ei Adroddiad Gwerthuso Perfformiad Blynyddol ar Wasanaethau
Gofal Cymdeithasol y Cyngor ar gyfer 2014/15 wedi nodi POVA fel maes i'w wella. Roedd y Cyngor wedi
nodi pedair ardal o fewn y maes amddiffyn oedolion a oedd angen cael eu
cryfhau, roedd y rhain wedi’u nodi ym mharagraff 4.15 o'r adroddiad. Roedd Arolygwyr AGGCC
wedi cael eu briffio ar y meysydd hyn ac yn ymddangos i fod yn fodlon ar
gynlluniau'r Cyngor ar gyfer gwella; ·
roedd angen rhywfaint o hyfforddiant pellach i Reolwyr
Arweiniol Dynodedig (RhBD) er mwyn magu eu hyder wrth gadeirio cyfarfodydd a
oedd yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Codwyd y materion
canlynol gan yr Aelodau:- ·
yr anawsterau a gafwyd gan y rhai yn y proffesiynau
nyrsio a gofal oherwydd bod y cyfreithiau sy'n ymwneud â nyrsio a gofal yn cael
eu newid yn rheolaidd; ·
yr angen am gartrefi preswyl / gofal i ystyried cofrestru
deuol oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau gofal iechyd meddwl yr henoed. Byddai cael cartrefi
gyda chofrestriad deuol, fel cartrefi gofal preswyl a gofal nyrsio, wedyn yn
sicrhau na fyddai preswylwyr yn destun straen a chynnwrf wrth i'w hanghenion
gynyddu fel na fyddai'n rhaid iddynt symud o un cartref i'r llall er mwyn
diwallu eu hanghenion cynyddol; ·
yr angen am ddull a arweinir gan y gymuned i ofalu am yr
henoed a'r diamddiffyn a'r defnydd posibl o gyfleusterau'r Cyngor, megis
llyfrgelloedd, ar gyfer unigolion hŷn, diamddiffyn neu unig i gwrdd â
phobl eraill; ·
yr angen i aelodau wardiau fod yn wyliadwrus mewn
perthynas â cham-drin posib o bobl oedrannus neu ddiamddiffyn yn y gymuned. Wrth ymateb i
gwestiynau'r swyddogion, gwnaeth Aelodau: ·
fanylu ar y broses, fel y nodir gan y gyfraith, yr oedd
yn rhaid ei dilyn, wrth ddelio â cheisiadau caniatâd safonol o dan y dyfarniad
DoLS a chadarnhawyd nad oedd costau pob asesiad DoLS i'w cwrdd gan yr awdurdod
lleol; ·
Bwysleisio’r pwysau a wynebir gan wasanaethau gofal
cymdeithasol oherwydd ceisiadau DoLS, o ran arian ac adnoddau - oherwydd bod yn
rhaid i’r Gwasanaeth ddelio â cheisiadau cyfredol ac ôl-weithredol, ac ar yr un
pryd gorfod ymgodymu â thoriadau yn y gyllideb. Nid yw'r broblem yn unigryw i Sir Ddinbych ac yn
ddiweddar gofynnwyd i Gomisiwn y Gyfraith archwilio'r problemau a'r pwysau a
achosir. Roedd eu
hadroddiad i fod i gael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2016; ·
cynghorwyd bod angen cynyddol am ofal dementia, tra bod y
galw am ofal preswyl yn lleihau; ·
Pwysleisiwyd y gallai ymchwiliadau POVA olygu profiadau
gofidus i bawb, yn enwedig pan oedd yr honiadau a wnaed yn ffug; · Cadarnhawyd, er bod y nifer o honiadau cam-drin yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 107 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol. 11.05 A.M. – 11.20 A.M. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a
chytuno ar ei Raglen Gwaith i’r Dyfodol ac a oedd yn rhoi diweddariad ar
faterion perthnasol, wedi'i ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o
‘ffurflen ar gyfer cynigion Aelodau’ wedi ei chynnwys yn Atodiad 2, roedd
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3 ac roedd tabl
yn rhoi crynodeb o benderfyniadau diweddar y Pwyllgor a’r cynnydd a wnaed o ran
eu gweithrediad wedi ei gynnwys yn Atodiad 4 a rhestr o gynrychiolwyr Archwilio
ar Grwpiau Herio Gwasanaeth 2015/2016 wedi’i gynnwys yn Atodiad 5. Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i’w Raglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y
dyfodol, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- Cytunodd yr
Aelodau y byddai ymweliad â'r Siop Un Stop newydd yn Y Rhyl yn fanteisiol ar
ryw adeg yn y dyfodol. 25 Chwefror,
2016: Amddiffyn Oedolion
Diamddiffyn - Adroddiad diweddaru, yn rhoi manylion nifer yr ymchwiliadau POVA
a wnaed o ran y gwahanol leoliadau a mathau o wasanaethau, y mathau o gam-drin
honedig a brofwyd, y mesurau a gymerwyd i fynd i'r afael â honiadau profedig ac
i leihau risgiau i unigolion eraill yn ogystal ag i'r Cyngor ei hun. Cyfarfod y
Dyfodol 2016: Byddai'r
adroddiad HASCAS ar Tawelfan ar gael yng ngwanwyn 2016. Pan fydd yr adroddiad
wedi'i gyhoeddi, byddai'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor. Roedd dau le gwag
ar y Rhestr Grŵp Herio Gwasanaethau. Cytunwyd
bod: (i)
Martyn Holland yn cynrychioli Archwilio Partneriaethau ar
y Gwasanaethau Addysg, a (ii)
Jeanette Chamberlain Jones yn cynrychioli Archwilio
Partneriaethau ar y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau'r Cyngor. 11.20 A.M. – 11.25 A.M. Cofnodion: Dim. |
|
Bydd y cyfarfod
Archwilio Partneriaethau nesaf yn cael ei gynnal ar 14 Ionawr 2016 Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m. |