Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Cofnodion:

Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau.

 

Enwebodd y Cynghorydd Pat Jones y Cynghorydd Raymond Bartley, a eiliwyd gan y Cynghorydd Pete Prendergast.

 

 PENDERFYNWYD y dylid penodi'r Cynghorydd Raymond Bartley yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau am y flwyddyn i ddod.

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 89 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith gysylltiad personol yn Eitem 9 - Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng, gan fod ei fab yn cael ei gyflogi gan y Tîm Rhanbarthol i Gynllunio rhag Argyfwng a leolir yn Sir y Fflint.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim materion brys.

 

5.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 177 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd 14 Mai 2015 (copi ynghlwm).    

9.35 a.m.– 9.40 a.m.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau, 14 Mai 2015.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14 Mai 2015 fel cofnod cywir.

 

6.

Adroddiad Arbedion Teledu Cylch Caeëdig pdf eicon PDF 104 KB

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Rheolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd / Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i roi diweddariad i'r Aelodau ar strategaeth gwblhau Teledu Cylch Caeëdig y Cyngor gan gynnwys gweithio gyda Phartneriaid i geisio sicrhau model darparu Teledu Cylch Caeëdig amgen ar gyfer y dyfodol.

9.40 a.m. – 10.15 a.m.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am strategaeth ymadael Teledu Cylch Caeëdig (TCC) y Cyngor, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid i geisio sicrhau model darparu TCC amgen ar gyfer y dyfodol.

 

Penderfynodd yr Aelodau, fel rhan o broses Rhyddid a Hyblygrwydd y Cyngor, na ddylai’r Cyngor fod yn ariannu na'n rheoli'r gwasanaeth TCC o 1 Ebrill 2016. Bydd hyn yn darparu £200k o arbedion ar gyfer 2016/17.   

 

Tra bod y cynnig i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth wedi cael ei gymeradwyo, roedd yr Aelodau wedi cydnabod manteision y gwasanaeth anstatudol ac felly, wedi gofyn i Weithgor gael ei sefydlu. Byddai'r Gweithgor yn gweithio gyda phartneriaid i archwilio a sicrhau model arall posibl ar gyfer cyflenwi gwasanaeth TCC ar gyfer y dyfodol. 

 

Hysbysodd yr Aelod Arweiniol a'r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd y Pwyllgor fod:

·       Cytundeb cyffredinol wedi ei gyrraedd gyda'r partneriaid a restrwyd yn yr adroddiad ar fodel fyddai'n darparu lefel dderbyniol o TCC o Ebrill 2016 ymlaen.  Nid oedd cytundeb cyfreithiol wedi'i lofnodi eto.  Roedd y Gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r sefydliadau partner i fod i gynnal cyfarfod arall ar 17 Awst, 2015 gyda golwg ar ffurfioli cytundeb yn y cyfarfod hwnnw.

·       Byddai angen cytundeb yn y dyfodol agos er mwyn galluogi'r broses diswyddo statudol ar gyfer rhoi'r gorau i’r gwasanaeth presennol i ddechrau yn ystod mis Hydref 2015.

·       Roedd manylion cyfraniad ariannol arfaethedig pob sefydliad partner tuag at wasanaeth newydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.  Os cytunir, byddai hyn yn darparu bron digon o incwm i wrthbwyso costau’r model gwasanaeth newydd yn darparu gwasanaeth TCC wedi’i gofnodi.

 

Cafwyd trafodaeth a rhoddwyd y cyngor canlynol gan swyddogion a'r Aelod Arweiniol:

·       Cyfrannodd Heddlu Gogledd Cymru £16.5k tuag at ddarparu gwasanaeth TCC i bob Awdurdod Lleol ar draws Gogledd Cymru.  Roedd y swm hwn yn gytundeb hanesyddol yn seiliedig ar gyflog gweithredwr TCC rai blynyddoedd yn ôl.  Nid oedd gwasanaeth yr heddlu yn barod i gynyddu ei gyfraniad ar hyn o bryd oherwydd y toriadau a wynebir yn ei gyllideb, yn debyg i'r rhai a wynebir gan Awdurdodau Lleol.  Nid oedd cyfraniad gwasanaeth yr Heddlu yn adlewyrchu lefel y troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unrhyw un o'r ardaloedd awdurdod lleol.

·       Roedd cyfraniadau arfaethedig yn y dyfodol gan y tri chyngor tref, a oedd yn elwa o system TCC y sir ar hyn o bryd, wedi cael ei gyfrifo gan y Gweithgor ar fwyafswm cynnal a chadw a chost gweithredol o £850 fesul camera, yn amodol ar fodd ariannol pob Cyngor Tref.

·        Gellir ond defnyddio arian grant Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, ar gyfer offer TCC a adleolir/symudol yn unig, nid camerâu statig.

·       Os, yn y dyfodol, y byddai unrhyw Gynghorau Tref angen gosod camerâu ychwanegol yn eu hardaloedd, byddai angen iddynt sicrhau arian i brynu, gweithredu a chynnal unrhyw offer ychwanegol.  Byddai'r materion hyn yn cael eu cynnwys yn y pen draw yn y cytundeb cyfreithiol.

·       Byddai'r contract cychwynnol am 12 mis, ar ôl hynny, byddai'n cael ei adolygu’n flynyddol gan Fwrdd TCC.  Rhagwelwyd y byddai'r Gweithgor presennol yn cael ei ail-sefydlu fel Bwrdd i oruchwylio a monitro darpariaeth y gwasanaeth newydd unwaith y bydd y cytundeb cyfreithiol wedi'i gwblhau a'i lofnodi gan bob parti.

·        Hysbyswyd y Pwyllgor am fanylion cytundeb a oedd wedi bod ar waith rhwng y Cyngor a busnesau ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych, o ran gweithredu system TCC a osodwyd yno rai blynyddoedd yn ôl.   Nid oedd yna gytundeb bellach o ganlyniad i newidiadau i fusnes ar yr ystâd a oedd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

CYMUNEDAU YN GYNTAF GOGLEDD SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 199 KB

Ystyried Adroddiad gan yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth am y cynnydd o fewn Cymunedau yn Gyntaf.

10.15 a.m. – 10.50 a.m.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd, y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r cynnydd a wnaed gyda Chymunedau yn Gyntaf – gan gynnwys y gwaith sydd ar y gweill gyda'r Grant Amddifadedd Disgyblion sydd wedi’i gadarnhau ar gyfer 2015/16 hefyd. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu cais pellach a wnaed gan Lywodraeth Cymru i’r Co-operative i gymryd rhan ym mhrosiect ‘Cymunedau Dros Waith’ oedd wedi derbyn Cyllid Ewropeaidd yn ddiweddar.

 

Roedd Rhys Burton, Rheolwr Rhaglen y Grŵp Co-operative, y Corff Cyflenwi Arweiniol, yn manylu ar y tair thema cyflenwi o dan y rhaglen bresennol, amlinellodd brosiectau sydd ar waith neu ar y gweill yn yr ardal a dywedodd fod:

·       Gwaith Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei ddarparu i nifer llai o glystyrau ar draws Cymru.  Roedd yna bellach tua 52 i gyd, o'r 52 o ardaloedd hyn, roedd y rhan fwyaf yn ne Cymru.

·       Byddai'r rhesymeg ar gyfer y gwaith yn llawer cliriach ac yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau.

·       Fel y Corff Cyflenwi Arweiniol, byddai'n ofynnol i'r Grŵp Co-operative adrodd ar y cynnydd a wnaed i Lywodraeth Cymru (LlC) yn chwarterol.

·       Gan fod y rhaglen waith yn canolbwyntio ar weithio gyda grwpiau anodd eu cyrraedd, rhagwelwyd y byddai'n cymryd peth amser cyn y byddai canlyniadau’n cael eu gwireddu.  Byddai yna gyfnod maith o waith datblygu perthynas dwys er mwyn ennill ymddiriedaeth a pharch y bobl y maent yn ceisio eu cyrraedd.

·       Tra bod gwaith Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn mynd ymlaen ers nifer o flynyddoedd, nid oedd y sefydliad wedi bod yn effeithiol iawn wrth dynnu sylw at y gwaith da a'r canlyniadau yr oedd wedi eu cyflawni yn y gorffennol.

·       Ychwanegir at y fframwaith canlyniadau, sydd wedi’i gynnwys fel atodiad i'r adroddiad, wrth i ffrydiau cyllid a grantiau ychwanegol ddod ar gael.

 

Cafwyd trafodaeth, a rhoddwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau Aelodau gan Mr Burton, Angela Watt a Gavin Roberts o’r Grŵp Co-operative, ynghyd â Swyddogion y Cyngor:

·       Manylwyd yr amrywiol ffrydiau cyllid Llywodraeth ganolog ac Ewropeaidd y gallai’r Corff Cyflenwi Arweiniol a'r Cyngor wneud cais iddynt am gyllid ar gyfer prosiectau cysylltiedig Cymunedau yn Gyntaf.

·       Dywedodd fod y byr rybudd neu hysbysiad hwyr gan Lywodraeth ganolog/Llywodraeth Ewropeaidd o arian sydd ar gael a’i duedd i fod am gyfnod o 12 mis yn creu problemau iddynt o ran cynllunio prosiect tymor canolig i dymor hir.

·       Amlinellwyd prosiectau penodol yn y Rhyl, a oedd ar y gweill ar hyn o bryd o ran y tair ffrwd cyflenwi.

·       Rhoddwyd enghreifftiau o waith ieuenctid ar y gweill gyda'r bwriad o fynd i'r afael â phroblemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

·       Rhoddwyd cadarnhad i’r Aelodau y byddai'r cyllid Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio i gefnogi saith ysgol drwy ddau Swyddog Gwydnwch Emosiynol y Cyngor.

·        Mae cynigion y Cyngor i sefydlu Gweithgor Gwrthdlodi gyda'r bwriad o fynd i'r afael â phob agwedd ar dlodi ar draws y Sir, wedi cael ei amlinellu ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf trefol a gwledig ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Cymunedau yn Gyntaf.

 

Dywedodd Rhys Burton, Rheolwr y Rhaglen wrth yr Aelodau bod y swyddfeydd Cymunedau yn Gyntaf wedi'u lleoli ar Marsh Road yn y Rhyl a gwahoddodd yr Aelodau i ymweld â nhw.

 

Cynigiodd y Cadeirydd i gynorthwyo'r Grŵp Co-operative i gael mynediad i gyfleusterau ac adnoddau yn y Ganolfan Gymunedol ar Ystâd Parc Bruton yn y Rhyl.

 

Er bod Aelodau'n dymuno’n dda i swyddogion ar gyfer eu gwaith yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac yn cefnogi eu hymdrechion i ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd, roedd rhai Aelodau  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

Ar y pwynt hwn (11.30am) cafwyd toriad am 15 munud

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.45am.

 

 

Trafododd y Pwyllgor yr eitem fusnes ganlynol yn ei swyddogaeth fel Pwyllgor Archwilio Trosedd ac Anhrefn dynodedig y Cyngor yn unol â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 adrannau 19 ac 20.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL 2014 - 2015 pdf eicon PDF 103 KB

Ystyried adroddiad gan yr Aelod Arweiniol Parth Cyhoeddus (copi ynghlwm) i roi gwybod i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau o weithgaredd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y Cyd yn 2014-2015.

11.00 a.m. – 11.30 a.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau am berfformiad a gweithgarwch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y Cyd yn 2014/15.

 

Manylodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol gynnwys yr adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at y prif uchafbwyntiau, a nodwyd yn yr adroddiad a'i atodiadau, o dan bob un o'r pedwar maes blaenoriaeth a oedd wedi eu dewis ar gyfer 2014/15. Y blaenoriaethau oedd:

·       Lleihau trosedd ac effaith trosedd

·       Lleihau aildroseddu

·       Mynd i'r afael yn effeithiol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a

·       Mynd i'r afael â cham-drin domestig yn effeithiol.

 

Dywedodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol:

·       Er y bu cynnydd mewn troseddau treisgar, roedd y niferoedd yn eithaf isel. 

·       Roedd y cynnydd mewn troseddau rhywiol a gofrestrwyd yn ystod y flwyddyn yn droseddau "newydd" yn hytrach na throseddau hanesyddol.  Roedd nifer o'r troseddau yn ymwneud â materion a oedd wedi eu cynnwys ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol a honiadau o dreisio.  O ganlyniad, roedd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru wedi nodi hyn fel un o'i feysydd blaenoriaeth.  Roedd Prosiect Theatr The Cat’s Paw hefyd wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth amlygu ymddygiad amhriodol i blant a phobl ifanc.

·       Roedd atal troseddau ieuenctid wedi bod yn faes hynod gadarnhaol yn ystod 2014/15, yn enwedig y fenter Rhwystro ac Atal (PAD).

·       Maes arall oedd yn talu ar ei ganfed oedd adsefydlu troseddwyr trwy waith, yn enwedig lle roedd troseddwyr ifanc yn cael eu defnyddio i wneud gwaith adferol lle roeddent wedi cyflawni eu trosedd(au).  Roedd y math hwn o adsefydlu angen un goruchwylydd i oruchwylio dau droseddwr ar y tro.  Roedd yna bellach weithdrefnau llym ar waith i sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw delerau ac amodau unrhyw orchmynion ailsefydlu/cymunedol.

 

Cafwyd trafodaeth a rhoddwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau Aelodau gan y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol:

·       Roedd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru newydd ddechrau mesur achosion o sgamiau ffôn ac ati, ac roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi sefydlu tîm i ymdrin â'r math hwn o drosedd.

·       Roedd troseddau amgylcheddol, a oedd o fewn rheolaeth y Cyngor trwy gyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig hefyd wedi bod yn faes llwyddiannus yn y flwyddyn ddiwethaf.

·       Roedd achosion o ddifrod troseddol cysylltiedig ag alcohol wedi gostwng.   Credwyd bod y ffaith bod nifer o safleoedd trwyddedig bellach wedi gosod eu system teledu cylch caeedig eu hunain wedi cyfrannu at y gostyngiad hwn.  Hefyd roedd y cynllun gwarchod tafarndai a'r ffaith bod llai o dafarndai a bod mwy o bobl bellach yn yfed alcohol gartref hefyd wedi cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y digwyddiadau.  Fodd bynnag, roedd peth pryder o ran y nifer o gardiau melyn ac alcohol wedi’i gymryd ymaith yn y Sir.

·       Roedd penderfyniad wedi'i wneud yn ddiweddar i benodi Cadeirydd Pwyllgor Trwyddedu’r Cyngor ar Grŵp Llywio Strategol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych gan y teimlwyd bod gwaith a chylch gwaith y Pwyllgor Trwyddedu yn cysylltu’n agos iawn ag un y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

·       Byddai clybiau nos yn Sir Ddinbych cyn bo hir yn mabwysiadu'r dull gweithredu a gymerwyd yng Nghonwy ers peth amser, o roi anadlennydd i bobl ar eu ffordd i mewn i glybiau nos a gwrthod mynediad i unigolion yr oeddent o'r farn eu bod wedi meddwi.

·       Roeddent yn ymwybodol o'r problemau cynyddol a achoswyd gan y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau mewn safleoedd trwyddedig ac mewn ardaloedd gwledig.

·       Roedd nifer y tanau bwriadol a gofnodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gostwng, er bod nifer y digwyddiadau llosgi bwriadol a gofnodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru wedi cynyddu.  Roedd hyn yn ôl pob tebyg o ganlyniad i gydgyfeirio  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

DIWEDDARIAD GAN WASANAETH RHANBARTHOL I GYNLLUNIO RHAG ARGYFWNG pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried Adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros yr Economi a Pharth Cyhoeddus (copi ynghlwm), i roi diweddariad i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaeth am y newid i drefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru, creu Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru (RhGrhA) ac yn gosod y rhaglen waith sy’n cael ei dilyn ar hyn o bryd.

11.30 a.m. – 12.00 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith yr adroddiad (dosbarthwyd eisoes), i roi diweddariad i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaeth am y newid i drefniadau Cynllunio Rhag Argyfwng rhanbarthol ar draws Gogledd Cymru, creu Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru (RhGrhA) ac amlinellu’r rhaglen waith sy’n cael ei dilyn ar hyn o bryd.

 

Dywedodd yr Aelod Arweiniol wrth y Pwyllgor ei fod wedi gofyn iddynt archwilio cynnydd y gwasanaeth rhanbarthol newydd 12 mis ar ôl iddo ddechrau ar ei waith, i alluogi'r Cyngor i ennill sicrwydd bod y strwythur newydd yn addas i'r diben ac yn cyflawni ei ganlyniadau disgwyliedig ar gyfer y Cyngor ac ar gyfer trigolion Sir Ddinbych.  Dywedwyd wrth yr Aelodau mai nod y gwasanaeth rhanbarthol newydd oedd nid yn unig i fod yn fwy cost effeithiol, ond hefyd i wella a chynyddu gwytnwch i sefyllfaoedd brys ar draws Gogledd Cymru.  Mae argaeledd cronfa ehangach o arbenigwyr a sefydlu un set o weithdrefnau o dan y gwasanaeth rhanbarthol yn golygu y gallai'r swyddogion o bob sefydliad partner gamu i mewn i gefnogi cydweithwyr ar draws y rhanbarth mewn achos o argyfwng heb unrhyw oedi a achoswyd yn flaenorol oherwydd amrywiol arferion neu weithdrefnau gwaith.  Cyn sefydlu'r gwasanaeth rhanbarthol, roedd Sir Ddinbych, ers peth amser, wedi bod yn rhan o Wasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng a rannwyd gyda Chyngor Sir y Fflint.  Roedd y gwasanaeth hwnnw wedi cael ei gynnal gan Sir y Fflint a’r model hwnnw a ddefnyddiwyd fel sail ar gyfer datblygu Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng Gogledd Cymru.  Roedd penodi Swyddog Cyswllt Cynllunio Rhag Argyfwng pwrpasol ar gyfer pob awdurdod lleol wedi bod yn llwyddiannus gan fod y Swyddog hwnnw’n darparu cyswllt clir rhwng y gwasanaeth rhanbarthol a'r Cyngor a gallai gynorthwyo gydag adnabod unrhyw anghenion hyfforddi o fewn ei h/awdurdod lleol.  Roedd gwaith y gwasanaeth rhanbarthol yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd Gweithredol oedd yn cyfarfod o dro i dro.  Roedd disgwyl i’r Bwrdd gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar y Gwasanaeth yn y dyfodol agos ac roedd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion yn cynnig rhannu'r adroddiad gydag Aelodau'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

(a)  Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r gwaith a chyflawniadau sydd wedi eu gwireddu hyd yma o ran sefydlu a chyflwyno'r gwasanaeth ar sail ranbarthol, a

(b)  Bod copi o Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Rhanbarthol Cynllunio Rhag Argyfwng Gogledd Cymru yn cael ei ddosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor er gwybodaeth pan fydd ar gael.

 

10.

Rhaglen Waith Archwilio pdf eicon PDF 105 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12.00 p.m. – 12.15 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ac amlygodd lle'r oedd angen penderfyniadau gan y Grŵp.

 

Cadarnhau’r ddwy eitem ar gyfer y cyfarfod i'w gynnal ar 17 Medi 2015:

·       Cynllun Tair Blynedd 2015/18 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

·       BIPBC yng Nghonwy a Sir Ddinbych

 

 Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai cyngyfarfod gael ei gynnal yn union cyn y cyfarfod uchod am 8:45am.

 

8 Hydref, 2015 - byddai cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau nawr yn digwydd yn Neuadd y Dref, Llangollen.

 

14 Ionawr, 2015 - Adroddiad Cynnydd Teledu Cylch Caeëdig.

 

Cynrychiolwyr Archwilio Partneriaethau ar weddill Grwpiau Herio Gwasanaeth 2015/2016:

·       Datblygu Economaidd a Busnes - Cynghorydd Martyn Holland

·       Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol - Cynghorydd Raymond Bartley

·       Gwella a Moderneiddio Busnes - Cynghorydd Pete Prendergast

·       Gwasanaethau Addysg - Cynghorydd Merfyn Parry

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau.  

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor.

12.15 p.m.– 12.20 p.m.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:40pm.