Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorydd Bill Tasker gysylltiad personol fel aelod o’r Cyngor Iechyd Cymuned yn eitem rhif 5 ar y rhaglen.

 

Mynegodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones gysylltiad  personol yn eitemau 5 a 6 oherwydd bod ei chwaer yn gweithio i  Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)

 

Mynegodd y Cynghorydd Ann Davies gysylltiad personol gan  bod ei mab yng nghyfraith yn gweithio i BIPBC.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys, fodd bynnag, gyda chytundeb y Pwyllgor, newidiodd y Cadeirydd drefn y busnes ar y rhaglen gan  ymdrin ag eitem 7 cyn eitem 6.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 167 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau 25 Medi, 2014.

 

Materion yn Codi

Roedd yr adroddiad gwybodaeth am aelodaeth y Bwrdd Diogelu Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant a Grŵp Cyflwyno BLlDP Conwy wedi'i ddosbarthu fel y gofynnwyd.

 

Roedd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn ystyried adroddiad ar deledu cylch caeedig ar 20 Tachwedd 2014.

 

Penderfynwyd y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Iau, 25 Medi 2014 fel cofnod cywir.

 

5.

FFRAMWAITH AR GYFER DARPARU GWASANAETHAU IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL AR GYFER POBL HŶN AG ANGHENION CYMHLETH pdf eicon PDF 60 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd (copi ynghlwm) ynglŷn â’r camau gweithredu a gymerwyd er mwyn datblygu’r gwasanaethau integredig a’r strwythur llywodraethu mewn perthynas â darparu gwasanaethau integredig ar gyfer pobl hŷn. 

 

9:35 – 10:05

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Arweiniol dros Ofal  Cymdeithasol  i  Oedolion  a  Gwasanaethau  Plant  yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) tra y bu’r Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes a Chyfarwyddwr Cynllunio Dros Dro BIPBC, yn rhoi gwybod i’r pwyllgor sut roedd y prosiect yn datblygu mewn perthynas â meysydd priodol.

 

Fe atgoffwyd y Pwyllgor o faint y prosiect hwn gan ddweud bod y Comisiynydd Pobl Hŷn yn awyddus iawn i hyrwyddo’r gwasanaeth a’i weld yn ymestyn i fodel gwasanaeth 7 diwrnod. Er mwyn i hyn gael ei gyflawni mae angen gwneud llawer iawn o waith ac mae angen dod o hyd i’r adnoddau i'w gefnogi. Nodwyd:

• bod gan ddefnyddwyr gwasanaeth gyfradd boddhad uchel gyda'r  gwasanaeth hyd yn hyn  

• yn allweddol i gyflwyno gwasanaeth da fyddai llywodraethu da, felly yn ystod y misoedd nesaf, bydd y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Sir Ddinbych yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau ei fod yn addas at y diben ac yn cyd-fynd â strwythurau newidiol y Bwrdd Iechyd.

 

Mynegodd aelodau'r pwyllgor bryderon am adroddiadau a dderbyniwyd gan etholwyr bod gofal cleifion mewn ysbytai yn amhersonol weithiau, a bod y diffyg empathi a phryder ymddangosiadol wedi gadael rhai pobl â chanfyddiad o safon wael o nyrsio.   

 

 

Cydnabuwyd bod y mater hwn wedi cael sylw fel maes pryder yn Adroddiad Andrews yn ddiweddar, 'Ymddiried mewn Gofal', ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ac yn sgil hynny, roedd pob Bwrdd Iechyd wedi ei adolygu. Mae hyn wedi arwain at gyflwyno ymweliadau dirybudd a’r Cyngor Iechyd Cymuned (CIC) i weithredu "gwylio gofal" mewn ysbytai.

 

Parhaodd y Cyngor Iechyd Cymuned i gynnal ymweliadau â  rhybudd a rhai dirybudd ar bob agwedd o ofal, gan gynnwys trugaredd ac urddas. Mae'r ymweliadau hyn wedi bod yn arf hynod o werthfawr ar gyfer nodi arferion gwaith da a drwg ac i rannu arfer da. Fe wnaeth cynrychiolwyr iechyd wirio a oedd hawl i’r  ymweliadau  hyn ddigwydd yn ystod 'amser llonydd i gael bwyd'.

 

Roedd  cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod angen  gwneud mwy o waith i addysgu’r staff Iechyd am fanteision  ymweliadau Cyngor Iechyd Cymuned ar gyfer cleifion a   gweithwyr iechyd fel eu gilydd. Mae angen meddwl am y Cyngor Iechyd Cymuned fel cyfaill cefnogol yn hytrach na gwrthwynebydd beirniadol.

 

Clywodd y Pwyllgor fod Ysbyty Maelor Wrecsam wedi bod yn cymryd rhan mewn cynllun peilot o'r enw 'i  Want  Great  Care’, a oedd yn holi barn cleifion am eu profiadau gofal yn yr ysbyty. Fel yr arfer, bydd y cynllun peilot hwn yn cael ei werthuso ar ôl iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2015 cyn dod i benderfyniad ar ei addasrwydd i’w gyflwyno ar draws sefydliadau Bwrdd Iechyd eraill. Byddai angen ystyried yr amharodrwydd posibl i adrodd nôl ar brofiad negyddol petai angen triniaeth barhaus.

 

Rhoddwyd sicrwydd i’r aelodau gan swyddogion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

• bod trugaredd ac urddas yn ffurfio rhan o'r rhaglen hyfforddi nyrsio sylfaenol;

• bod trin pobl ag urddas a thrugaredd yn rhan annatod o alwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol;

• y dylai pawb gael eu trin yn gwrtais a chyda pharch bob amser a dylid annog staff i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau nad  oedd yn cyrraedd y nod hwn. 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod staff rheng flaen wedi cael hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid yn  ddiweddar ar "Dull Sir Ddinbych" a oedd wedi arwain at lyfr gwaith a fyddai'n cael ei ddosbarthu i bob gweithiwr. Dywedodd y derbyniwyd ymateb cwbl gadarnhaol gan gleifion i wasanaethau a oedd yn cael eu darparu dan y Fframwaith hwn, ac roeddynt yn teimlo eu bod wedi’u trin ag urddas  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ARDALOEDD

Derbyn cyflwyniad ar y cyd ynglŷn â chynnydd a datblygiad a darpariaeth y gwasanaeth ardal.

10:05 – 10:35

 

Cofnodion:

Cytunwyd i uno’r cyflwyniadau ar Ardaloedd a Gweithdrefnau Gadael Ysbytai o ystyried rhyngberthynas y pynciau.

 

7.

HYLENDID A RHEOLI AFIECHYD pdf eicon PDF 93 KB

Derbyn cyflwyniad ynglŷn â’r mesurau a gymerwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i leihau afiechydon a geir mewn ysbytai.

10:35 – 11:05

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio (Atal Heintiau) BIPBC a amlinellodd y camau a gymerwyd hyd yn hyn er mwyn lleihau’r niferoedd o heintiau sy’n cael eu dal mewn ysbytai. Roedd yn gydnabyddiaeth gyffredinol, y bu cyfradd uwch o Clostridium Difficile (C. diff) yng Nghymru nag yn Lloegr yn 2013.   

 

Cymerwyd camau i ymdrin â hyn drwy newid arferion glanhau gan gynnwys defnyddio cynnyrch sy'n seiliedig ar glorin a chadachau microffibr. Roedd hyn wedi cael effaith wirioneddol ar lendid gweledol. Mae swyddogion y Bwrdd yn cydnabod bod rhai meysydd o Ysbyty Glan Clwyd yn edrych yn fudr er eu bod yn lân oherwydd cyfansoddiad yr adeilad yn methu. 

 

Pwysleisiodd swyddogion y Bwrdd ymrwymiad y Bwrdd i reoli heintiau a mynd i'r afael ag ymwrthedd gwrth-ficrobaidd a oedd yn broblem fyd-eang, nid mewn ysbytai yn unig, ond mewn  lleoliadau  gofal sylfaenol megis meddygfeydd teulu hefyd. Roeddynt wedi buddsoddi adnoddau ariannol ac wedi recriwtio staff yn benodol i fynd i'r afael â rheoli heintiau o fewn sefydliadau’r Bwrdd ac ar y wardiau. 

 

Gwelwyd gwelliannau eisoes i reoli heintiau ac mae’r cynnydd  sydd wedi’i wneud hyd yn hyn wedi’i ddilysu’n allanol.  Roedd y Bwrdd wedi ymrwymo i ysgogi gwelliant drwy archwilio’r ddadansoddiad achos. Maent bellach yn canolbwyntio ar welliant pellach i brosesau glanhau a lleihau achosion o MRSA a heintiau eraill trwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill.  Hysbyswyd y Pwyllgor bod Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu ystadegau, sydd ar gael i'r cyhoedd, sydd yn dangos achosion o C. diff.

 

Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor bryder y gallai nyrsys a gweithwyr gofal iechyd eraill gael eu gweld yn gwisgo eu dillad ward/gwaith  y tu allan i’w amgylchedd gwaith glân, ee, yn siopa mewn  archfarchnadoedd ac ati, ac yn cwestiynu sut roedd hyn yn  effeithio  ar reoli  haint ac a oedd unrhyw bolisïau yn ymwneud  â’r mater hwn.

 

Cadarnhaodd swyddogion iechyd fod gan y Bwrdd Iechyd bolisi clir ar wisgo gwisgoedd y tu allan i ysbytai a thra oddi ar ddyletswydd, a bod gwisgo gwisg weithredol mewn amgylchedd nad oedd yn  ymwneud â lleoliad iechyd y Bwrdd, yn fater disgyblu.  

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, cadarnhaodd swyddogion Iechyd fod:

 

• staff yn cael eu hannog yn aml i herio arferion o beidio â chydymffurfio â’r arferion gwisg a hylendid, fel yr oedd cleifion ac ymwelwyr;

• ffedogau yn cael eu hystyried yn llawer mwy hylan na’r cotiau gwyn llawes hir ar gyfer yr holl staff yr ysbyty;

• mae cleifion wedi cael eu hannog i ddilyn gofynion ymolchi a gwisgo wrth gyrraedd yr ysbyty a chyn-llawdriniaeth. Os bydd claf yn gwrthod cydymffurfio â'r ceisiadau hyn ni fydd modd gweithredu yn eu herbyn gan fod rhaid i staff barchu hawl unigolion i ddewis. Fodd bynnag, byddai unrhyw feysydd agored ar gyfer llawdriniaeth yn cael eu glanhau;

• roedd clustnodi wardiau unigol i lanhawyr wedi bod yn arfer da.  Os yw glanhawyr yn gyfrifol am ardaloedd penodol, y canfyddiad oedd bod ganddynt falchder yn eu gwaith. Roedd cyfarfodydd rheolaidd gyda’u harweinydd wardiau yn arwain at well cyfathrebu a gwelliant yn yr amgylchedd. 

• roedd cydberthynas glir rhwng adeiladau glân, modern a  hylendid, felly roedd  buddsoddiad  pellach yn cael ei wneud mewn staff domestig;

• roedd pob toiled yng nghyffiniau ystafelloedd llawdriniaeth yn  cynnwys basnau ymolchi yn unol â rheoliadau adeiladu;

• fe nodwyd nad oedd digon o gadeiriau i ymwelwyr ar wardiau, ac  roedd hyn yn golygu bod ymwelwyr yn eistedd ar welyau cleifion tra'n ymweld. Bydd rhagor o gadeiriau yn cael eu darparu;

• cynhaliwyd ymweliadau llywodraethu clinigol i feddygfeydd meddygon teulu i gynnal gwiriadau dirybudd;

• yn y blynyddoedd diwethaf roedd gormod  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

GWEITHDREFNAU GADAEL YSBYTAI

Ystyried adroddiad ar lafar ynglŷn â chynhyrchu cynlluniau gofal i gefnogi cleifion sy’n gadael ysbytai.

11:15 – 11:45

 

Cofnodion:

Trafodwyd y cyflwyniad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ac adroddiadau ar lafar ar gyfer Ardaloedd a Gweithdrefnau Gadael Ysbytai, o dan yr un eitem fusnes. Roedd y cyflwyniad yn tynnu sylw at yr adborth a dderbyniwyd hyd yn hyn a'r ystadegau ar y nifer sy'n manteisio ar y Gwasanaeth Ardaloedd newydd. 

 

Fe rannwyd gwybodaeth ynghylch yr ardaloedd ychwanegol sydd wrthi’n cael eu datblygu yn rhan o’r Gwasanaeth, a oedd yn cynnwys cynllunio gweithlu. Rhoddwyd  manylion  am  Wasanaeth Pwynt Mynediad Sengl a gafodd ei lansio’n ddiweddar, gan gynnwys yr asesiadau gwahanol sydd ar gael yn rhan o’r Gwasanaeth hwn. Mae'r gwasanaethau Ardaloedd a Phwynt Mynediad Sengl yn cefnogi cynllunio ar gyfer gadael ysbyty a gofalwyr i’w cefnogi.   

 

Mewn ymateb i gwestiynau'r aelodau, dywedodd y swyddogion:

 

• o 1 Rhagfyr 2014, byddai un ddogfen nyrsio integredig 16 tudalen yn cael ei chyflwyno ym mhob ysbyty BIPBC. Byddai'r ddogfen hon yn manylu ar 'daith' y claf yr holl ffordd drwodd o gael eu derbyn i’r ysbyty hyd at gael gadael, a byddai’n cynnwys yr holl wybodaeth sy’n berthnasol i gynorthwyo a gwella’r broses gadael. Fe luniwyd y ddogfen i wella  ansawdd y wybodaeth sydd ar gael i'r holl fudd-ddeiliaid, gan gynnwys y Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl, gan ei fod wedi dod i’r amlwg bod gan ysbytai cymuned wybodaeth o safon llawer gwell ar siwrneiau cleifion drwy ysbytai;

• roedd uwch arweinwyr bellach yn cael eu cyflwyno i ysbytai  cymuned ac roedd y Bwrdd Iechyd yn edrych ar ddichonoldeb newid y broses gadael dan arweiniad ‘meddyg penodol’ mewn  ysbytai cymuned, i broses dan arweiniad amlddisgyblaethol. Roedd angen gwneud rhagor o waith i ymdrin â’r cynnig hwn;

• roedd gan yr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (YGAC) fodel effeithiol ar waith a elwir yn Paramedic Pathfinder - ei nod oedd darparu lefel briodol o ofal ar yr amser priodol. Mae ymdrechion ar y gweill i geisio dod â'r YGAC i mewn i'r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl gan y teimlwyd y byddai hyn yn cyd-fynd â'r gwasanaethau sydd eisoes ar gael dan Pwynt  Mynediad Sengl;

• roedd  angen mwy o waith er mwyn cryfhau'r cysylltiadau gwaith gyda'r sector annibynnol;

• roedd y Gwasanaeth Ardaloedd yn wasanaeth hyblyg wedi’i  anelu at ddiwallu anghenion pobl a chefnogi eu hannibyniaeth mewn modd effeithiol, â llai o ogwydd tuag at y broses, ac esmwyth rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac i'r gwrthwyneb;

• roedd timau amlddisgyblaeth bellach yn weithredol ym mhob Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Mae'r timau hyn wrth law i rannu arbenigedd, gwybodaeth ac i gyfeirio cleifion a gofalwyr i holl wasanaethau sydd ar gael iddynt;

• mae pob meddygfa teulu yn Sir Ddinbych, ac eithrio un, yn ymwneud â’r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl;

• byddai trigolion Sir Ddinbych oedd yn derbyn driniaeth mewn ysbyty y tu allan i’r sir hefyd yn cael yr un hawliau i’r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl â’r rheini oedd yn derbyn  triniaeth o fewn y sir.

• gallai unigolion gyfeirio eu hunain i’r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl. Gallai pobl eraill gyfeirio pobl at y Gwasanaeth gyda chaniatâd yr unigolyn. Yr unig amser nad oedd angen caniatâd yr unigolyn i gyfeirio at y Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl oedd os oedd pryderon diogelu;

• fel gydag unrhyw wasanaeth ifanc, byddai yna drafferthion. Ar ôl gweithio drwy’r rhain, roedd  gan y cysyniad y potensial i fod yn wasanaeth da iawn ar gyfer yr unigolion sydd ei angen a’r ymarferwyr, gan ei fod cyfuno agweddau allweddol o wasanaethau  iechyd a gofal cymdeithasol ac yn gwneud y cyfan ar gael drwy gysylltiad cychwynnol gyda’r gwasanaeth;

• cytunodd swyddogion y  byddai copi o  daflen  a  cherdyn busnes Pwynt Mynediad Sengl  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 96 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12:10 – 12:30

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol fel y manylir yn Atodiad 1. Cytunodd yr aelodau i adael 3 eitem ar y rhaglen yng nghyfarfod mis Rhagfyr. 

 

Penderfynwyd, yn unol â'r eitem fusnes uchod, i ohirio'r adroddiad cynnydd ar Wasanaeth Pwynt Mynediad Sengl o gyfarfod mis  Chwefror hyd at fis Medi 2015, pan fyddai’r Gwasanaeth wedi cael ei sefydlu’n well. 

 

Bod adroddiad ar y Panel Dinasyddion arfaethedig yn cael ei gynnwys yn y rhaglen gwaith i'r dyfodol.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod yr hyfforddiant Sgiliau Cadeirio Archwilio  ar 27 Tachwedd yn agored i bob aelod - nid Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Grŵp yn unig - byddai manylion y cwrs yn cael eu hailddosbarthu. Felly:

 

Penderfynwyd:  fod y Pwyllgor yn cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar yr uchod.

 

10.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau Cyngor.

11:45 – 12:10

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Richard Davies ei fod wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod i baratoi ar gyfer her Gwella a Moderneiddio Busnes y Gwasanaeth. Nid oedd unrhyw gynrychiolwyr o Bwyllgorau Archwilio eraill yn bresennol.