Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Ann Davies gysylltiad personol yn Eitem rhif 3 ar y Rhaglen “Materion
Brys” gan fod ei mab yng nghyfraith yn cael ei gyflogi gan Ysbyty Glan Clwyd. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Yn unol â gofynion Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, nododd y
Cadeirydd ei fwriad i gynnwys y mater canlynol i’w drafod oherwydd bod angen
rhoi sylw brys iddo o dan ddarpariaethau Rhan II:- 1.
Cau’r Asiantaeth Datblygu Cymunedol – Mynegodd
yr Aelodau bryderon ynglŷn â cholli’r gwasanaeth hwn ddiwedd mis Mawrth
2015. Er ei fod yn wasanaeth yn y Rhyl mae’n darparu gwasanaeth i’r sir gyfan,
yn enwedig unigolion a grwpiau cymunedol yn rhai o wardiau mwyaf difreintiedig
y sir. Cynghorodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau
Cymdeithasol y gwnaed penderfyniad yn 2013 i leihau cyllid yr Asiantaeth
Datblygu Cymunedol o £25 mil. Gwnaed y penderfyniad yn rhannol i ddelio â
gostyngiad yn y gyllideb, ond hefyd i ddiwallu anghenion datblygu a darparu
gwasanaethau gofal cymdeithasol i ddiwallu gofynion deddfwriaeth gofal
cymdeithasol newydd. Roedd trefniadau trosglwyddo ar waith yn ystod y
ddwy flynedd ddiwethaf a byddai’r ddau aelod o staff yr effeithir arnynt yn
symud i rolau newydd o fewn y Gwasanaeth. Roedd
Swyddogion, gan gynnwys y Cyfarwyddwr wedi cyfarfod gyda Chyngor Tref y Rhyl a
Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl i drafod dyfodol yr adeilad a dulliau amgen o
ddarparu’r gwasanaethau sydd ar gael yno ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd bod rhai o’r gwasanaethau yr oedd y
Cyngor yn eu cynnig yn yr Asiantaeth ar hyn o bryd yn wasanaethau anstatudol,
ond yn ystod cyfnodau anodd roedd yn rhaid i’r Awdurdod ganolbwyntio ar
wasanaethau statudol a swyddogaethau craidd. Gan fod rhai
o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan yr Asiantaeth Datblygu Cymunedol yn
cael eu cynnig trwy asiantaethau eraill megis y Ganolfan Waith yna ni fyddai’n
effeithlon defnyddio adnoddau cyfyngedig y Cyngor i ddyblygu’r gwasanaethau
hynny. Cynghorodd y Cyfarwyddwr bod y Cyngor yn fodlon
bod sefydliad ‘partner’ yn defnyddio'r cyfleuster ac yn defnyddio'r offer sydd
yno sydd yn eiddo i’r Cyngor ar hyn o bryd. Pe
bai menter gymdeithasol yn defnyddio’r adeilad gallant hwy fanteisio ar fentrau
megis rhenti, trethi a chostau gwasanaeth is ac ati. Fodd bynnag, ni allai’r
Cyngor ddarparu staff ar gyfer y Ganolfan gan na fyddai’r amcanion bellach yn
cydymffurfio â gweledigaeth Llywodraeth Cymru a'r disgwyliadau ar gyfer
gwasanaethau gofal cymdeithasol wrth symud ymlaen. Hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Aelodau bod
cyfarfod arall wedi’i drefnu yn y dyddiau nesaf gyda Phartneriaeth Arfordirol y
Rhyl i weld os gellir datblygu eu diddordeb yn y cyfleuster, ac mewn ymateb i
gwestiynau’r aelodau fe gynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y
Bartneriaeth yn gorff sefydliadol cofrestredig. Roedd y Pwyllgor o’r farn fod y Rhyl yn colli
gwasanaeth cymunedol gwerthfawr unwaith eto. Hysbyswyd
y swyddogion bod ambell eitem yn yr Asiantaeth Datblygu Cymunedol yn eiddo i’r
gymuned ac felly ni ddylid eu symud o’r cyfleuster heb ganiatâd y gymuned. Mewn
ymateb i bryderon yr Aelodau ynglŷn â sut y gellir llenwi’r gwagle sy’n
cael ei greu trwy gau’r Asiantaeth Datblygu Cymunedol cynghorodd y Cyfarwyddwr
fod gan y sector gwirfoddol rôl bwysig yn y maes hwn gan y gallai gael cyllid i
gefnogi gwasanaethau o’r fath gan y llywodraeth ganolog. Awgrymodd
efallai y byddai’n ddefnyddiol i’r Pwyllgor wahodd Cyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl i gyfarfod yn y
dyfodol i drafod eu rôl i gefnogi grwpiau cymunedol yn Sir Ddinbych yn y
dyfodol. PENDERFYNWYD – gwahodd cynrychiolwyr o
Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl i
gyfarfod yn y dyfodol i drafod eu rôl i gefnogi cymunedau i dderbyn
gwasanaethau a chyllid pan fydd gwasanaethau anstatudol y Cyngor yn cael eu
tynnu’n ôl. 2. Uned Hawliau Lles a Nyrsio Macmillan: Mynegwyd pryderon gan yr Aelodau ynghylch argaeledd gwasanaethau Nyrsio Macmillan i drigolion Sir Ddinbych ar ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 141 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd 18 Rhagfyr 2014 (copi
ynghlwm). 9.30am – 9.35am Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau, 18 Rhagfyr
2014. Materion yn codi:- 8. Partneriaeth y Cynllun Datblygu
Gwledig – Eglurodd y Cydlynydd Archwilio, mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd M.Ll. Davies, mewn perthynas â dyrannu
cyllid ar gyfer prosiectau gan Cadwyn Clwyd, byddai hyn yn cael ei ddarparu dan
Eitem rhif 5 ar y Rhaglen. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod,
derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
CYDLYNU FFRYDIAU CYLLID CYMUNEDAU PDF 150 KB Ystyried
adroddiad gan Arweinydd Tîm Datblygu Economaidd a Busnes y De (copi ynghlwm)
sy’n amlinellu’r sefyllfa gyfredol gyda’r Undeb Ewropeaidd (yr UE) a chronfeydd
eraill sydd ar gael ar gyfer buddion Cymunedol.
9.35 a.m. tan 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd adroddiad
gan Arweinydd Tîm Datblygu Economaidd a Busnes y De oedd yn amlinellu’r
sefyllfa gyfredol gyda’r Undeb Ewropeaidd (yr UE) a chronfeydd eraill sydd ar
gael ar gyfer buddion Cymunedol wedi’i gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y
cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn nodi'r
sefyllfa gyfredol ac argaeledd ffynonellau cyllid posibl, yn amodol ar feini
prawf cymhwyso, ar gyfer buddion Cymunedol. Roedd yn nodi’r gefnogaeth sydd ar gael i grwpiau Cymunedol wrth wneud cais
am gyllid trwy asiantaethau allanol a rhwydweithiau cefnogaeth, ac yn darparu
canllawiau ynglŷn â phrif ffynonellau’r UE a mathau eraill o gyllid sydd
ar gael ar hyn o bryd. Roedd canllaw i’r prif
ffynonellau cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd wedi’u darparu ac yn cynnwys
Cyllid yr UE a Chronfeydd Strwythurol yr UE 2014-2020. Eglurwyd y byddai swm y
cyllid cyfatebol yn amrywio yn ôl pob thema a phrosiect. Roedd cyfraddau lefelau grant
y rhaglen wedi’u darparu i nodi’r lefelau grant a ragwelir. Roedd amcanion buddsoddi
ar gyfer rhaglenni yng Nghymru wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Hysbysodd yr Arweinydd Tîm y Pwyllgor wrth gyflwyno ei
hadroddiad bod:- ·Canolbwynt rownd
newydd Cyllid Ewropeaidd wedi newid. Dan y rhaglen
newydd byddai llai o brosiectau lleol yn derbyn cyllid, byddai pwyslais ar
brosiectau strategol mawr fyddai’n cael eu darparu naill ai yn isranbarthol, yn
rhanbarthol neu hyd yn oed yn genedlaethol: ·Penodwyd
Cadwyn Clwyd fel y Grŵp Gweithredu Lleol i ddarparu elfen ARWEINYDD y
Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) 2014/20, ond gan nad oedd yr Undeb Ewropeaidd
wedi cymeradwyo’r CDG hyd yn hyn, ni fyddai’r cyllid ar gyfer y prosiectau’n
cael ei ryddhau ac o ganlyniad roedd y staff wedi’u rhyddhau neu roeddent dan
hysbysiad diswyddo. Nid oedd hyn yn sefyllfa ddelfrydol ond
roedd tu hwnt i reolaeth y Cyngor; ·Roedd
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy wedi'u penodi yn weinyddwyr Cronfa Fferm
Wynt Gwynt y Môr yn ddiweddar. Roedd hyn
yn gais consortia, a oedd yn cynnwys Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir
Ddinbych a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir y Fflint ymysg y partneriaid
eraill. Roedd y Grŵp Ymgynghorol yn awr
wedi trefnu cyfarfod ar 7 Ebrill i drafod meini prawf cymhwyso prosiect a sut i
symud ymlaen â dosbarthiad grant ac arian. Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau, fe gynghorodd yr
Arweinydd Tîm- - O ran Cronfa
Gymunedol Gwynt y Môr roedd rhai anghysondebau ynglŷn â pha mor bell i
mewn i’r arfordir y dylid dyrannu buddion y Gronfa, y rheswm dros hyn yw er bod
y tyrbinau eu hunain oddi ar y lan roedd effaith weledol ar hyd yr arfordir, ac
roedd y cysylltiadau a’r is-orsaf gysylltiol ar y tir, gyda’r is-orsaf ger
Llanelwy, a - Fel
rhan o waith Grŵp Ymgynghorol Gwynt y Môr roedd gan swyddogion Sir
Ddinbych berthynas waith dda gyda’r holl bartneriaid, gan gynnwys Cyngor
Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy. Hyd yma
roedd Sir Ddinbych wedi’i gynrychioli ar Grŵp Ymgynghorol Gwynt y Môr gan
swyddogion, ond nawr bod gweinyddydd y gronfa wedi’i benodi mae’n debyg y
byddai’r aelodaeth a’r strwythurau yn cael eu hadolygu; - Roedd
symiau o arian gohiriedig yn cael eu gweinyddu gan nifer o adrannau’r Cyngor
e.e. y Parth Cyhoeddus, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Gwasanaethau Priffyrdd
a’r Amgylchedd, yn dibynnu ar y rheswm pam fod y symiau gohiriedig wedi’u
dyrannu. Cadarnhaodd bod holl symiau gohiriedig
mannau agored wedi’u hymrwymo; - Gofynion cyllid cyfatebol ar gyfer y rownd newydd o gyllid Ewropeaidd fyddai: Cronfeydd Strwythurol: 75% cyllid grant, 25% cyllid cyfatebol; CDG: 80% cyllid grant, 20% cyllid cyfatebol. Nid oedd arian cyllid cyfatebol wedi’i ddyrannu gan y Cyngor eto. Byddai dyraniad cyllid cyfatebol yn cael ei ystyried ar rinweddau ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Rhaglen Waith Archwilio PDF 135 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
raglen waith y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.
10.55 a.m. – 11.05 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd copi o ‘ffurflen o gynnig gan Aelod’ wedi’i gynnwys yn Atodiad 2 ac
roedd manylion y ffurflen wedi’u darparu gan y Cydlynydd Archwilio. Ni fydd unrhyw eitemau'n cael eu
cynnwys ar raglen gwaith i’r dyfodol heb lenwi ‘ffurflen gynnig ar gyfer
archwilio' a derbyn cymeradwyaeth i'w gynnwys ar y rhaglen gan y Pwyllgor neu’r
GCIGA. Eglurodd y Cydlynydd Archwilio y
byddai cymorth i lenwi’r ffurflenni ar gael os oes angen. Roedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn Atodiad 3, ac
roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau Pwyllgor diweddar a’r cynnydd
gyda’u gweithrediad, wedi’i gynnwys yn Atodiad 4. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:- Gan fod yr Athro Trevor Purt, Prif Weithredwr Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi mynychu sesiwn Friffio’r Cyngor ar 16
Mawrth 2015 i drafod cynllun tair blynedd y Bwrdd gyda’r holl Gynghorwyr,
penderfynwyd ei bod ychydig yn gynnar gwahodd cynrychiolwyr BIPBC i’r Pwyllgor
ar 30 Ebrill i drafod cynnydd hyd yn hyn. Cytunodd
yr Aelodau y dylid gohirio’r cyfarfod gyda chynrychiolwyr y Gwasanaeth Iechyd
tan 17 Medi 2015, gyda’r 3 Medi fel dyddiad amgen os oedd angen. Cytunodd yr
Aelodau y dylid penodi’r Cynghorydd J.Butterfield fel cynrychiolydd y pwyllgor
ar Grŵp Herio’r Gwasanaeth Addysg. Roedd Atodiad 5 yn
cynnwys y rhestr ddiweddaraf o gynrychiolwyr archwilio ar y Grwpiau Herio
Gwasanaethau. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’w Raglen Gwaith i'r Dyfodol drafft ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, Atodiad 1, a
chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- 30 Ebrill 2015:- Eglurodd y Cydlynydd Archwilio bod Prif Swyddog Cefn Gwlad: Gwasanaethau
Warden wedi nodi na fyddai’n gallu mynychu’r cyfarfod a drefnwyd ar 30 Ebrill
2015 i gyflwyno adroddiad ar Gyd-Bwyllgor yr AHNE, a chytunwyd y dylid canslo’r
cyfarfod. Cytunodd y
Pwyllgor y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu ar gyfer naill ai’r 14 neu’r 21 Mai
2015, yn dibynnu ar argaeledd y rhai sydd angen bod yn bresennol, er mwyn
ystyried adroddiad ar Gyd-Bwyllgor yr AHNE. Cytunwyd hefyd y dylid
gwahodd cynrychiolwyr o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a
Phartneriaeth Arfordirol y Rhyl i’r cyfarfod i drafod eu rôl i gefnogi
cymunedau i dderbyn gwasanaethau a chyllid pan fydd gwasanaethau anstatudol y
Cyngor yn cael eu tynnu’n ôl. Mewn
ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, darparwyd fanylion ynglŷn ag Aelodaeth
Partneriaeth Arfordirol y Rhyl i’r Pwyllgor. 30 Gorffennaf 2015:- - Eglurodd y
Cydlynydd Archwilio bod cais gan swyddog i’r Pwyllgor ystyried adroddiad ar
Glwstwr Cymunedau’n Gyntaf Sir Ddinbych wedi’i gymeradwyo a’i drefnu ar y
rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer 30 Gorffennaf 2015. Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio, ar 19 Chwefror
2015, wedi ystyried Papur Gwyn diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Ddatganoli,
Democratiaeth a Darpariaeth – Diwygio Llywodraeth Leol: Pŵer i Bobl Leol. Roedd Pennod 8 y Papur Gwyn ‘Cryfhau Rôl
Adolygu’, yn gosod cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer archwilio, a darparodd y
cydlynydd archwilio grynodeb byr o’r trafodion. Byddai'r Adroddiad Blynyddol ar weithgareddau’r Pwyllgorau Archwilio yn
ystod y flwyddyn yn cael ei gyflwyno i gyfarfod blynyddol y Cyngor ym mis Mai. Roedd ymarfer
gwerthuso Archwilio wedi’i gyflawni ac roedd holiadur drafft wedi’i gylchredeg
i aelodau archwilio, ac i grŵp ehangach gan gynnwys yr holl Gynghorwyr ac
aelodau'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Gofynnodd y Cydlynydd
Archwilio bod yr holiaduron yn cael eu dychwelyd cyn gynted â phosibl. PENDERFYNWYD - yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith fel y caiff ei hamlinellu yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr ar amrywiol Fyrddau a
Grwpiau Cyngor 11.05 a.m. -11.15 a.m. Cofnodion: Ni dderbyniwyd
unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr y pwyllgor. Daeth y Cyfarfod
i ben am 11.55 a.m. |