Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1A, Neuadd y Sir, Rhuthun

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Ann Davies a Margaret McCarroll.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 116 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Meirick Lloyd-Davies a Merfyn Parry gysylltiad personol ag eitem 6 fel aelodau o fwrdd y Cynllun Datblygu Gwledig, a datganodd y Cynghorydd Lloyd-Davies gysylltiad personol ag eitem 9 fel aelod o ‘Ffrindiau Castell Bodelwyddan’.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni fu unrhyw faterion brys, fodd bynnag, â chytundeb y Pwyllgor amrywiodd y Cadeirydd drefn fusnes y rhaglen drwy roi'r eitem ar yr Adroddiad Blynyddol ar Amddiffyn Oedolion yn Sir Ddinbych – 1Ebrill 2013 i 31 Mawrth 2014 cyn yr eitem ar Bartneriaeth y Cynllun Datblygu Gwledig.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 143 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2014 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 6 Tachwedd, 2014.

 

Materion yn Codi

Cyfeiriodd y Cynghorydd Merfyn Parry at dudalen 12 o’r cofnodion ynghylch Hylendid a Rheoli Afiechyd lle dylid mynd i’r afael â pheidio cydymffurfio â’r polisi gwisg unffurf.  Cododd bryderon ynghylch Ysbyty Glan Clwyd, lle’r oedd yn ymddangos nad oedd contractwyr cynnal a chadw yn darostwng i'r un rheolaeth hylendid â gweithwyr gofal. Danfonwyd ymholiad ynghylch y pryderon hyn ymlaen at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).  Ni dderbyniwyd unrhyw ymateb hyd yn hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar ddydd Iau 18 Rhagfyr 2014 a'u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

 

 

 

5.

PARTNERIAETH CYNLLUN DATBLYGU GWLEDIG pdf eicon PDF 156 KB

I ystyried adroddiad (copi yn amgaëdig) gan yr Arweinydd Tîm Datblygu Busnes ac Economi (De) am sefyllfa bresennol dull partneriaethol Llywodraeth Cymru wrth gyflawni’r Cynllun Datblygu Gwledig (2007-2013).  Yn ogystal darperir gwybodaeth ynglŷn â’r cynlluniau arfaethedig o ran cyllid datblygu gwledig ar gyfer y cyfnod 2014 - 2020. 

9:35am – 10:15am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad (dosbarthwyd yn flaenorol) ac esboniodd fod y Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) 2007–2013 presennol – a oedd wedi ei ymestyn ac a fyddai nawr yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2014 – wedi denu tua £4.8m i ardaloedd gwledig Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Roedd £1.5m o hyn ar gyfer prosiectau Echel 3, wedi’u hanelu at wella safon byw mewn ardaloedd gwledig a hybu arallgyfeirio.

 

Bu’r CDG presennol yn gofyn am gydweithio agos rhwng cynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint drwy’r Grŵp Gweithredu Lleol Cadwyn Clwyd. Byddai’r CDG arfaethedig ar gyfer 2014–2020 yn berthynas weithio dridarn yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam hefyd.

 

Ni chafodd ardal Diserth ei chynnwys yn y CDG yn flaenorol, ond roedd sylwadau llwyddiannus yn golygu y byddai’n cael ei chynnwys yng Nghynllun 2014–2020.

 

Yn ystod y cyfarfod, dosbarthwyd map o’r Sir yn dangos dosbarthiad arian (a’r rhestr brosiectau) o dan y CDG.  Dangosodd bod y gyllideb wedi’i dyrannu’n weddol gyfartal ar draws y sir.  Fodd bynnag, gan fod ardal Rhuddlan a Bodelwyddan wedi ymuno â’r CDG presennol yn hwyrach, nid oedd hi wedi elwa o’r Cynllun i’r un graddau â gweddill yr ardal.  Byddai mwy o weithredu’n cael ei gynllunio yn ardal Rhuddlan/Bodelwyddan er mwyn iddi elwa o’r CDG newydd maes o law.

 

Clywodd y Pwyllgor bod Cyngor Sir Ddinbych wedi bod yn gyfrifol am ddosbarthu arian grant i fusnesau o dan Cynllun 2007–2013, tra bod Cadwyn Clwyd (y Grŵp Gweithredu Lleol) wedi dyrannu bwrsariaethau.

 

Roedd nifer o brosiectau twristiaeth a bwyd-amaeth wedi elwa o dan y cynllun presennol, a bu prosiectau cymunedol yn elwa hefyd.  Gyda’r Cynllun presennol yn dod i ben rhagamcanwyd tanwariant o 1% i 2%.  Roedd hyn yn lefel dderbyniol o danwariant ar gyfer rhaglen o’r fath, a chyfradd llawer is na nifer o gynlluniau datblygu gwledig eraill.

 

Roedd cyfradd enillion y Cyngor o waith y CDG yn yr ardal yn dangos enillion o £4 ar gyfer pob £1 a gyfrannwyd gan yr Awdurdod mewn prosiectau. Er gwaetha’r ffaith bod y cynllun presennol yn dod i ben ar ddiwedd 2014, nid oedd y CDG 2014-2020 a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru (LlC) wedi’i gymeradwyo eto.  Disgwyliwyd y byddai cymeradwyaeth yn cael ei rhoi ym mis Chwefror 2015, unwaith i LlC dderbyn cadarnhad ynghylch cyllid CDG gan y Comisiwn Ewropeaidd.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau mi wnaeth yr aelodau arweiniol a’r swyddogion :

 

·        Cynghori bod y CDG presennol wedi cynnwys trawstoriad da o brosiectau ar draws y Sir;

·        Ateb cwestiynau ar brosiectau penodol ac ymrwymo i ddarparu rhagor o wybodaeth am brosiect Amgueddfa Llangollen;

·        Esbonio sut y mesurwyd canlyniadau prosiectau a sut y bu gan Swyddfa Archwilio Cymru’r pŵer i berfformio gwiriadau dirybudd ar weinyddiaeth y cynllun yn lleol;

·        Amlinellu’r broses ymgynghori a gyflawnwyd fel rhan o baratoi’r CDG newydd ar gyfer 2014-2020;

·        Cadarnhau y byddai gan y CDG newydd bwyslais mwy ar fynd i’r afael â thlodi ac adfywiad economaidd, yn enwedig adfywio cymunedau eithriedig/anodd eu cyrraedd.  Byddai’r cynllun newydd yn disgwyl i brosiectau a gyflwynwyd am ystyriaeth fod wedi ymchwilio a sicrhau arian cyfatebol ar gyfer y prosiectau cyn derbyn cyllid CDG.  Byddai angen i unrhyw gyllid newydd o dan y CDG newydd ddenu o leiaf 20% mewn arian cyfatebol o ffynonellau eraill;

·        Cadarnhau mai Cadwyn Clwyd fyddai’r corff gwneud penderfyniadau unwaith eto ynghylch dyfarnu arian i brosiectau, â chynrychiolydd o bob un o Grwpiau Ardal yr Aelodau yn eistedd ar y corff dyfarnu;

·        Cynghori (o gofio bod cyllid llywodraeth leol yn lleihau bob blwyddyn) y dylai aelodau lleol, drwy Grwpiau Ardal yr Aelodau a'r Cynlluniau Tref ac Ardal, glustnodi  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR AMDDIFFYN OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2013 I'R 31 MAWRTH 2014 pdf eicon PDF 114 KB

I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn ynghyd   â’r Adroddiad Blynyddol ar Amddiffyn Oedolion Diamddiffyn yn Sir Ddinbych ar gyfer y flwyddyn 1af Ebrill 2013 i’r 31ain Mawrth 2014 (copi yn amgaëdig) sydd yn amlinellu effeithiau’r mesurau amddiffyn ac yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu’r cynnydd a wnaed yn y maes allweddol hwn ynghyd â chydnabod ei bwysigrwydd.

10:15am – 11am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant yr Adroddiad Blynyddol ar Amddiffyn Oedolion yn Sir Ddinbych ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2013 hyd 31 Mawrth 2014 (dosbarthwyd yn flaenorol).

 

Cynghorwyd y Cyngor bod cyflwyniad y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gwneud amddiffyn oedolion yn ofyniad statudol am y tro cyntaf. Byddai’r broses amddiffyn oedolion yn debyg i’r un sy'n cael ei dilyn mewn achos plant. Roedd proses newydd o ran adolygiadau achosion difrifol yn cael ei gweithredu, ond roedd y cyngor yn dal i aros am ganllawiau terfynol ynghylch gweithdrefnau oedolion.

 

Tynnwyd sylw at nifer cynyddol yr atgyfeiriadau amddiffyn oedolion yn y sir (tudalen 2) ac eglurwyd nad oedd hyn o reidrwydd yn golygu cynydd yn nifer yr achosion ond ei fod o bosib yn ganlyniad o ymwybyddiaeth well o fodolaeth y broses atgyfeirio a sut i gael mynediad ati.

 

Clywodd y Pwyllgor bod nifer yr atgyfeiriadau Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (POVA) a phroffil y dioddefwyr honedig yn Sir Ddinbych yn debyg ac oeddynt yn Sir y Fflint a Wrecsam ill dau (merched oedrannus gan amlaf).  Yn genedlaethol roedd hyn yn golygu bod Sir Ddinbych ar ganol y gynghrair o ran ystadegau Llywodraeth Cymru.

 

Ynghylch cwynion, fe bwysleisiwyd nad oedd canlyniad ‘amhendant’ yn golygu na fyddai unrhyw weithredu’n digwydd.  Fe eir i’r afael ag unrhyw fylchau posib neu ddiffygion a adnabuwyd yn ystod y broses ymchwilio fel mater o drefn.  Mae canlyniad ymchwiliad yn dilyn atgyfeiriad POVA yn seiliedig ar y tebygolrwydd bod trosedd wedi digwydd, gall hyn fod yn anodd iawn mewn achosion lle na fu unrhyw dystion, lle bod hi'n gair un yn erbyn y llall. Mi fyddai rhai achosion fodd bynnag lle byddai tystiolaeth feddygol yn effeithio'r tebygolrwydd y naill ffordd neu'r llall.

 

Proses oedd POVA y byddai asiantaethau amrywiol yn ei defnyddio er mwyn casglu tystiolaeth, gyda’r bwriad o benderfynu os ddigwyddodd unrhyw gamdriniaeth.  Y penderfyniad cychwynnol fyddai: a yw’r unigolyn diamddiffyn mewn perygl niwed enbyd? Os oedd, byddai’n cael ei symud i le diogel cyn unrhyw ymchwiliad manwl i’r drosedd honedig.

 

Esboniwyd i’r Pwyllgor bod rhai sefyllfaoedd lle’r oedd ffigyrau'n dangos bod canran uchel o 'breswylwyr' wedi'u heffeithio neu fod canran uchel o staff wedi cyflawni trosedd honedig. Yn fwy aml na pheidio, roedd y rhain yn sefydliadau mawr lle bu cwyn dienw yn erbyn aelod staff dienw, ac felly’n golygu yr ystyrir bod y preswylwyr i gyd wedi’u heffeithio a’r staff i gyd yn droseddwyr honedig – roedd gan hyn y potensial i effeithio ar y ffigyrau.  O ganlyniad, gofynnodd aelodau i droednodyn gael ei gynnwys at y perwyl hwn mewn adroddiadau blynyddol yn y dyfodol.

 

RoeddRoedd Dyfarniad gan y Goruchaf Lys ynghylch y prawf ar gyfer ‘amddifadu o ryddid' at bwrpas Erthygl 5 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi arwain at gynydd sylweddol yn niferoedd y ceisiadau adolygu yn genedlaethol ac yn lleol. Roedd y broses asesu hir ar gyfer adolygiadau amddifadu o ryddid a’r gost oedd ynghlwm wrth bob adolygiad unigol wedi rhoi pwysau cynyddol ar staff a chyllideb yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Hyd yn hyn roedd 11 o aseswyr lles gorau wedi eu hyfforddi i gynyddu nifer y staff oedd ar gael i gyflawni gwaith yn ymwneud  â’r adolygiadau hyn.  Fodd bynnag, nid oedd hyn yn ddigon o hyd i fynd i’r afael â’r cynydd amcangyfrifedig mewn ceisiadau adolygu. Adnabuwyd hefyd bod angen i gynyddu gallu staff ‘Ardaloedd’ i fynd i’r afael ag ymholiadau POVA, o ganlyniad byddai trafodaethau’n dechrau â hyfforddwr allanol yn gynnar yn y flwyddyn newydd i weld sut y gellid hwyluso hyn.

 

Cadarnhawyd nad  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 95 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi yn amgaëdig) sydd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith ac sydd yn cyflwyno’r diweddaraf i aelodau ar faterion perthnasol.

11:10am – 11:25am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio (CA) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor Partneriaethau ac amlygodd yr adroddiadau lle'r oedd angen penderfyniadau gan y grŵp.

 

Roedd yr eitemau ar gyfer 5 Chwefror 2015 yn cynnwys:

 

1.    Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng

2.    Cydlynu Cyllideb Cymunedau


PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau.

 

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

11:25am – 11:30am

 

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Richard Davies yn cynrychioli’r pwyllgor mewn her gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio diweddar. Teimlodd fod y Gwasanaeth wedi’i herio’n gryf a byddai’n dod ag adroddiad mwy manwl i’r cyfarfod nesaf.

 

9.

PERFFORMIAD AC ADOLYGIAD Y GWASANAETH TREFTADAETH

I ystyried cyd-adroddiad  cyfrinachol gan y Rheolwr Masnachol Treftadaeth, y Rheolwr Gwasanaethau Cefn Gwlad a Threftadaeth, a Phennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (copi yn amgaëdig) sydd yn amlinellu y newidiadau a wnaed o fewn Gwasanaethau Treftadaeth y Cyngor ac sydd yn ceisio barn yr aelodau ar ddarparu y gwasanaethau hyn yn y dyfodol.

11:30am – 12:15pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eitem Rhan II:

 

PENDERFYNWYD yn unol ag Adran 100A (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, y dylid gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd o’r cyfarfod wrth drafod y materion canlynol oherwydd y tebygolrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig, fel y diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 o Atodlen 12A y Ddeddf, ei datgelu.   

 

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Hamdden, Ieuenctid, Twristiaeth a Datblygu Gwledig a Phennaeth y Priffyrdd a’r Amgylchedd yr adroddiad cyfrinachol (dosbarthwyd yn flaenorol) a baratowyd gan ymgynghorwyr ar ‘Ddyfodol Darparu Gwasanaethau Treftadaeth yn Sir Ddinbych’.

 

Clywodd y Pwyllgor bod nifer o newidiadau wedi’u gwneud ers 2010 o fewn y Gwasanaeth Treftadaeth, gan gynnwys adolygiadau o ddarpariaeth gwasanaethau, amseroedd agor atyniadau a ffyrdd o gynyddu gwariant ymwelwyr. Roedd hyn wedi lliniaru ymarferion gweithio a chefnogi cynydd o 15% mewn incwm yn ystod cyfnod 2010 – 2014, â chynnydd ychwanegol amcangyfrifedig o 2% i 3% wedi’i ragamcanu ar gyfer yr ychydig flynyddoedd i ddod.

 

Cyflawnwyd adolygiad gwasanaeth gan ymgynghorydd allanol a ddaeth i’r casgliad bod angen mwy o gydweithio’n lleol a rhanbarthol er mwyn darparu gwasanaeth mwy modern, ymatebol ac arloesol. Roedd y casgliad yma’n cydymffurfio â chyd-destun rhaglen “Rhyddid a Hyblygrwydd” yr Awdurdod, oedd yn hybu rhagor o weithio mewn partneriaethau.

 

Cafodd aelodau’r pwyllgor wybod bod darpariaeth gwasanaethau treftadaeth yn y dyfodol yn dibynnu nid yn unig ar weithio mewn partneriaeth, ond hefyd ar yr amodau cyfyngol amrywiol ynghylch lesddaliadau, cyfamodau a chytundebau ar lefel gwasanaeth – mewn perthynas nid yn unig â safleoedd yr atyniadau ond tir cyfagos dan berchnogaeth yr awdurdod.

 

Trafodwyd gan aelodau’r potensial o weithio ar sail ranbarthol ynghylch asedau treftadaeth gyda golwg ar gynyddu eu hyrwyddiad a’u gwelededd.

 

Awgrymodd aelodau y gall fod yn fuddiol defnyddio'r dulliau canlynol o hyrwyddo'r atyniadau:

·        E-byst i’r cynghorwyr i gyd â rhestr o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn yr atyniadau;

·        Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn fwy aml wrth eu hyrwyddo;

·        Cyflwyno un tocyn mynediad ar gyfer yr atyniadau, â disgownt posib wrth brynu mynediad i’r portffolio treftadaeth cyfan;

·        Gweithio’n agosach ag atyniadau yn y sector gwirfoddol/annibynnol â golwg ar godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo atyniadau boed eu bod yn eiddo'r Cyngor neu beidio.

 

 

 

Yn dilyn y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD :

(i) yn amodol ar yr arsylwadau uchod, bod y Cyngor yn cymeradwyo’r cynydd sylweddol a wnaethpwyd gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ers 2011;

(ii) cefnogi’r amcan cyffredinol a amlinellwyd yn yr adolygiad gwasanaethau, sef y dylai’r gwasanaeth weithio tuag at lefelau partneriaeth uwch a chydweithio; a

(iii) cefnogi’r camau gweithredu sy’n cael eu dilyn ar hyn o bryd er mwyn cyrraedd yr amcan uchod, gan gynnwys y gwaith archwilio/datblygu cysyniad arfaethedig.