Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw eitem a nodwyd i’w hystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Bill Tasker gysylltiad personol fel aelod o'r Cyngor Iechyd Cymuned. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn
unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y
cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 138 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2014
(copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau, 6
Chwefror, 2014. Materion yn codi: - 8. Diweddariad Perfformiad Y CYNLLUN
MAWR - Eglurodd y Cydlynydd Archwilio ei bod yn aros am ymateb gan y Tîm
Partneriaethau a Chymunedau mewn perthynas â materion a godwyd gan y Cadeirydd. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai Eitem Fusnes yn ymwneud â'r
CYNLLUN MAWR 2 yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor Archwilio ym mis Gorffennaf,
2014. PENDERFYNWYD – y dylid, yn amodol ar
yr uchod, dderbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD PARTNERIAETHAU LAW YN LLAW AT IECHYD MEDDWL GOGLEDD CYMRU PDF 83 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth: Ardal y De (copi ynghlwm) a oedd yn amlygu'r
cynnydd yn y camau angenrheidiol mewn ymateb i'r cynllun cyflenwi yn Law yn
Llaw at Iechyd Meddwl ac yn rhannu rhai o'r heriau a'r blaenoriaethau i
bartneriaid dros y flwyddyn i ddod.
9.35
a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth: Ardal y De wedi ei
ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at y cynnydd hyd yma ar y camau sydd
eu hangen mewn ymateb i gynllun cyflenwi “Law yn Llaw at Iechyd Meddwl” ac yn
amlinellu rhai o’r heriau a blaenoriaethau i’r partneriaid dros y flwyddyn i
ddod. Roedd yn egluro gwybodaeth ar
Fwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar a'i rôl o ran cefnogi
a goruchwylio cydymffurfiaeth â’r cynllun cyflenwi a chynnydd yn ei erbyn. Roedd yr adroddiad yn amlinellu
cyflwyno adroddiad blynyddol ar Law yn Llaw at Iechyd Meddwl gan
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i Lywodraeth Cymru ac yn
amlygu’r camau a argymhellwyd ar gyfer 2014/15. Ym mis Hydref 2012
cyhoeddodd LlC Law yn Llaw at
Iechyd Meddwl, strategaeth poblogaeth gyfan ar gyfer iechyd meddwl a lles yng Nghymru. Roedd y
weledigaeth yn y ddogfen a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn rhoi agenda
uchelgeisiol ar iechyd meddwl ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf, gyda
phwyslais clir ar gyfrifoldeb a rennir rhwng y gwasanaeth iechyd a llywodraeth
leol. Yn dilyn ymgynghoriad â budd-ddeiliaid, roedd LlC
wedi datblygu 6 chanlyniad lefel uchel o fewn Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Roedd y rhain
wedi'u nodi yn yr adroddiad, a’u datblygu ymhellach yn y ddogfen a oedd yn nodi
canlyniadau mwy manwl, ac roeddent yn cynnwys:- Roedd Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yn cael ei gefnogi gan Gynllun Cyflenwi a oedd yn
nodi manylion y camau gweithredu y byddai LlC ac asiantaethau partner yn eu
cymryd i gyflawni'r cynllun. Roedd yn nodi'r cyfraniadau gofynnol gan LlC,
llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, y trydydd sector ac ystod o bobl eraill
gan gynnwys er enghraifft tai, addysg, hyfforddiant a dysgu gydol oes,
cyflogwyr, a'r system cyfiawnder troseddol. Roedd pennod olaf y
ddogfen yn nodi sut y byddai'r strategaeth yn gweithio ar lefel genedlaethol a
lefel lleol a sut y byddai'r Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol newydd yn sicrhau
ei chyflwyno. Ym mis Mehefin 2013 sefydlodd BIPBC Fwrdd
Partneriaeth Iechyd Meddwl Gogledd Cymru i oruchwylio'r gwaith o gyflwyno a
gweithredu Law yn Llaw at
Iechyd Meddwl a'i gynllun cyflenwi, ac ym mis Hydref 2013 cyflwynodd yr adroddiad
blynyddol i LlC. Roedd Atodiad 2 yn cynnwys y Cylch Gorchwyl
priodol. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn cynnwys cynnydd hyd
yma a chyfeiriad at rai o'r heriau a'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i
ddod, ynghyd â thystiolaeth o’r ymrwymiad parhaus i weithio ar y cyd gydag
iechyd a phartneriaid eraill i gyflawni'r camau gweithredu angenrheidiol. Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd rhoddwyd
canmoliaeth i’r berthynas waith gryf ym maes iechyd meddwl rhwng BIPBC ac Adran
Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych ar lefel defnyddiwr gwasanaeth. Yn yr un modd
â’r egwyddorion a'r camau gweithredu yn y strategaeth a'r Cynllun Gweithredu a
gafodd eu cymeradwyo. Fodd bynnag, codwyd nifer o bryderon ynglŷn â
darpariaeth leol gwasanaethau iechyd meddwl i oedolion, plant a'r henoed. Roedd y prif
bryderon yn ymwneud â:- · yr amseroedd aros a brofir gan blant a phobl ifanc o ran cael mynediad i wasanaethau Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) a oedd â'r potensial i effeithio ar addysg yr unigolyn, cytunodd swyddogion BIPBC i baratoi adroddiad gwybodaeth i'r aelodau ar sut y byddai’r arian a ddyfarnwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru (LlC) i'r Gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i wella rhestrau aros CAMHS a gwasanaethau eraill. Maent hefyd wedi cytuno i ddarparu gwybodaeth am y cynnydd a gyflawnwyd hyd yn hyn, a chynnydd a ragwelir yn y dyfodol, wrth gyflwyno staff CAMHS hyfforddedig ym mhob Adran ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Ystyried adroddiad gan y Swyddog AHNE (copi ynghlwm) i’r
Pwyllgor roi sylwadau ynghylch y trefniadau llywodraethu arfaethedig ar gyfer
AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol (AHNE) wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Cynghorydd H.Ll. Jones yr adroddiad ac eglurodd fod Gorchymyn
Dynodi AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn darparu cydnabyddiaeth
genedlaethol newydd a diogelu tirwedd i ran sylweddol o Sir Ddinbych, Sir y
Fflint a Wrecsam. Roedd manylion daearyddol yr AHNE wedi eu cynnwys
yn Atodiad 1. Dywedodd y Prif Swyddog Cefn Gwlad: Gwasanaethau Warden wrth y Pwyllgor fod
y Pwyllgor AHNE presennol a'r Cyd-bwyllgor Ymgynghorol, i gydnabod yr ardal
estynedig, wedi adolygu eu haelodaeth a chytuno ar aelodaeth gytbwys ar gyfer
ALl gyda phob un yn cael eu gwahodd i anfon 3 Aelod i gyfarfodydd o'r
Cyd-bwyllgor Ymgynghorol yn y dyfodol. Roedd y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol wedi argymell
perthynas gryfach â’r ALl a chytunwyd mai’r Model Cyd-bwyllgor fyddai’r dull
gorau o gyflawni’r amcan hwn. Roedd
Cadeirydd y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol a Swyddog AHNE wedi cwrdd â'r Arweinwyr,
Prif Weithredwyr a Swyddogion Arweiniol a oedd yn gefnogol. Roedd y Pwyllgor wedi darparu arsylwadau
ynglŷn â llywodraethu, yn bennaf craffu’r trefniadau ar gyfer y
Cyd-bwyllgor newydd o fewn Cyngor Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’r Cytundeb Cyfreithiol, (Atodiad 2), yn
diffinio aelodaeth y Cyd-bwyllgor, pwerau dirprwyol a rolau. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cefn Gwlad: Gwasanaethau Warden mai prif rôl y
Cyd-bwyllgor fyddai 'cyflawni swyddogaethau a ddirprwywyd rheolwyr AHNE’, ac
mai’r rôl allweddol fyddai ‘cadwraeth a gwella harddwch naturiol yr ardal.’ Roedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn ymgorffori màs tir daearyddol
canolog sylweddol gydag atyniadau poblogaidd, ac roedd yr AHNE yn cynnig cyfle
iechyd a lles sylweddol i'r cytrefi yng Nglannau Dyfrdwy, Wrecsam, Sir Gaer a
Glannau Mersi. Cyfeiriwyd at y newid yn swyddogaeth economaidd y
priod ALl gyda dibyniaeth gynyddol ar dwristiaeth wledig. Roedd crynodeb o fanteision allweddol canlynol
y Cyd-bwyllgor wedi eu cynnwys yn yr adroddiad:- ·
Gwell Gwelededd i’r AHNE. ·
Gwell eglurder. ·
Gwell cydlynu o Gamau Gweithredu’r AHNE. ·
Gwell effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. ·
Strategaeth benodol. ·
Arweinyddiaeth â Chanolbwynt. ·
Stiwardiaeth gyfrifol. ·
Eiconau. Cafodd y Cyd-bwyllgor ei ystyried yn 'arfer da' ar gyfer llywodraethu’r AHNE
a byddai Swyddogion yr AHNE yn datblygu llawer o agweddau ar y Cyd-bwyllgor
Ymgynghorol Dros Dro presennol. Byddai'r Cyd-bwyllgor yn sefydlu Partneriaeth AHNE
yn ei gyfarfod cyntaf, ac roedd manylion aelodaeth wedi eu darparu. Er mwyn dangos
ymdriniaeth fwy cynhwysfawr i ymgynghoriad byddai’r AHNE yn cynnal Fforwm AHNE
yn flynyddol a byddai gan bob un thema amserol. Byddai aelodau ALl a
Chynghorau Cymuned y mae eu Ward, neu ran o'u Ward yn rhan o'r AHNE yn cael eu
gwahodd ynghyd ag unrhyw gyrff neu unigolion eraill sydd â diddordeb. Wrth ystyried yr adroddiad cynghorwyd Aelodau am y rhesymeg y tu ôl i gael
nifer gyfartal o Aelodau'r Cabinet o bob un o'r tri Awdurdod Lleol ar y
Cyd-bwyllgor a’r Grŵp Partneriaeth, er gwaethaf y ffaith fod y rhan fwyaf
o'r AHNE yn ddaearyddol o fewn ffiniau sirol Sir Ddinbych. Eglurwyd mai Sir Ddinbych fyddai'r Awdurdod Arweiniol. Byddai cyfraniad Sir
Ddinbych a chyfraniad Cynghorau eraill tuag at weinyddiaeth yr AHNE yn cael ei
dalu i mewn a’i gyfrif amdano ar linell cyllideb ar wahân at ddibenion
archwilio a thryloywder. Dywedwyd wrth y Pwyllgor ar ôl i'r holl ALl
gymeradwyo'r cynnig i sefydlu Cyd-bwyllgor, at y diben o gyflawni swyddogaethau
dirprwyedig Rheoli'r AHNE, byddai Grŵp Partneriaeth ar y Cyd sy’n cynnwys
grŵp ehangach o fudd-ddeiliaid yn cael ei sefydlu i ddatblygu cynllun
rheoli ar gyfer ardal yr AHNE. Rhoddwyd sicrwydd pe byddai angen adnoddau ariannol ychwanegol ar unrhyw adeg y byddai’n rhaid i swyddogion AHNE fynd at yr holl Gynghorau cyfansoddol ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 88 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o
Raglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor a diweddaru'r Aelodau ar faterion
perthnasol.
11.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Cydlynydd Archwilio, a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu a chytuno ar ei
Raglen Gwaith i'r Dyfodol ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol, wedi
ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd Rhaglen Gwaith i'r
Dyfodol y Cabinet wedi'i chynnwys fel Atodiad 2 ac roedd tabl yn crynhoi
penderfyniadau diweddar y Pwyllgor, a chynghori ar eu cynnydd â'u gweithredu,
wedi’i atodi yn Atodiad 3 i'r adroddiad. Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft ar gyfer
cyfarfodydd yn y dyfodol, fel y manylir yn Atodiad 1, a gofynnodd yr Aelodau
bod yr Aelodau Arweiniol, y Cynghorwyr R.L. Feeley a D.I. Smith yn cael eu
gwahodd i gyflwyno eu hadroddiadau yng nghyfarfod Mehefin, 2014 y Pwyllgor. Eglurwyd bod y Pwyllgor i fod i ystyried adroddiad
ar Bartneriaeth y Cynllun Datblygu Gwledig yn ei gyfarfod ar 13 Mawrth, 2014 a
oedd wedi ei ganslo. Gan fod y cynrychiolwyr gofynnol wedi methu dod i'r
cyfarfod presennol neu gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Mehefin, roedd
cyflwyno’r adroddiad wedi ei aildrefnu ar gyfer y cyfarfod ar 10 Gorffennaf,
2014. Hysbysodd
y Cydlynydd Archwilio yr Aelodau bod adroddiad gwybodaeth, a oedd yn rhoi
eglurhad o Daliadau Uniongyrchol a Gwybodaeth am ddatblygu Pwynt Mynediad
Sengl, wedi'i ddosbarthu gyda'r Brîff Gwybodaeth ar gyfer y cyfarfod. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J.A. Davies, eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes y
byddai adroddiad cynnydd o ran y mater hwn yn cael ei ddarparu yn dilyn ei
weithredu. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y
Cydlynydd Archwilio y byddai’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion
Archwilio yn ystyried y cais ar gyfer cyflwyno adroddiad, i'r Pwyllgor Craffu
priodol, mewn perthynas â newidiadau arfaethedig i'r Gwasanaeth Wardeiniaid Tai
Gwarchod. PENDERFYNWYD -
yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith fel y caiff ei hamlinellu yn
Atodiad 1 yr adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol
Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor
11.30 a.m. Cofnodion: Darparodd Aelodau’r Pwyllgor y manylion canlynol mewn
perthynas ag amryw o Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor:- Roedd copïau o
adroddiadau ar Ymweliad Gwasanaeth â Theatr y Pafiliwn, Y Rhyl gyda Refeniw a
Budd-daliadau yn Nhŷ Russell, Y Rhyl, a fynychwyd gan y Cynghorydd D.
Owens, wedi eu dosbarthu gyda'r papurau gwybodaeth ar gyfer y cyfarfod. PENDERFYNWYD -
derbyn yr adroddiadau. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.25pm. |