Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun.

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Bill Cowie, Alice Jones a Merfyn Parry ac oddi wrth yr Aelodau Cyfetholedig Gill Greenland, Debra Houghton a Nicola Lewis.

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy’n rhagfarnu yn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Dim

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o faterion, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer gweddill 2013/14.

 

Cofnodion:

Gan na chafodd unrhyw CVs eu cyflwyno ar gyfer swydd yr Is-Gadeirydd, cytunwyd i ohirio enwebiadau tan y cyfarfod nesaf.

 

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 214 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd 18 Gorffennaf 2013 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau 18 Gorffennaf 2013.

 

Materion yn Codi:

 

Gofynnwyd am eglurhad ai 'Cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid' Llywodraeth Cymru (LlC) oedd y gronfa y bu Cyngor Sir Ddinbych yn aflwyddiannus yn sicrhau cyllid drwyddi ar gyfer Canol Tref y Rhyl. Cadarnhawyd mai hon oedd y gronfa a bod trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda LlC ynghylch ffrydiau ariannu posibl.

 

Holwyd pam fod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych yn cael ei adleoli o Ysbyty Glan Clwyd i Ysbyty Brenhinol Alexandra, y Rhyl? Cytunodd Swyddogion i wneud ymholiadau pellach ynglŷn â’r mater hwn.

 

PENDERFYNWYD y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2013 fel cofnod cywir.

 

 

6.

ADDYSG UWCH YNG NGOGLEDD ORLLEWIN CYMRU

Ystyried cyflwyniad gan Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr yn amlinellu datblygiadau diweddaraf addysg uwch yng ngogledd ddwyrain Cymru ac yn gofyn am sylwadau’r Pwyllgor arnynt.

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor yn dilyn adolygiad diweddar ar Addysg Uwch - yn enwedig mewn perthynas â gweithio gyda busnesau lleol (prentisiaethau) a'r effaith ar yr economi leol.

 

Teimlai’r Athro Scott fod yr amseriad yn arwyddocaol gan fod adroddiad Syr Adrian Webb newydd gael ei gyhoeddi. Er ei bod yn rhy gynnar i wneud sylw, teimlai na fyddai’n cynnwys llawer o bethau annisgwyl. Y disgwyl oedd y byddai'r adroddiad yn cael ei drafod yn fanwl ym mis Rhagfyr.

 

Dywedodd yr Athro Scott iddi fod yn flwyddyn lwyddiannus gydag adolygiad gan y corff achredu proffesiynol yn rhoi adroddiad gwych fel y gwnaeth adolygiad o raddau sylfaen.

 

Er i'r newid yn y trefniadau ariannu arwain at ostyngiad yn niferoedd y myfyrwyr y llynedd - 645 o Sir Ddinbych - maent wedi cynyddu eto yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae tua 22% o fyfyrwyr Sir Ddinbych yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ym Mhrifysgol Glyndŵr.

 

Mae'r Brifysgol yn parhau i gynnal gwaith ymchwil arloesol  wrth gynhyrchu drychau ar gyfer telesgop mwyaf y byd. Ym mis Medi, cyflawnodd y Brifysgol y lefel ofynnol o gywirdeb ar gyfer drychau caboledig, am y tro cyntaf yn y byd - 10 nanometr. Mae'n dal angen i Arsyllfa De Ewrop wirio eu cywirdeb, ond y gobaith yw y gallai hyn arwain at gynhyrchu, gan gynnwys swyddi a phrentisiaethau yn Sir Ddinbych.

 

Prosiectau ymchwil eraill sy’n denu sylw rhyngwladol yw'r templedi torri diemwnt – sy’n cynhyrchu amddiffynwyr sgriniau ar gyfer cyfrifiaduron tabled ac ati – a’r ymchwil i dechnegau cynhyrchu newydd ar gyfer creu celloedd ynni solar.

 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Athro Scott am ei gyflwyniad a gofynnodd i'r Aelodau am unrhyw gwestiynau.

 

 

 

Mynegwyd pryder ynghylch y penawdau papur newydd y bore hwnnw a oedd yn adrodd ar safle gwael honedig y brifysgol o blith prifysgolion y DU. Eglurodd yr Athro Scott fod y tabl safleoedd yn gamarweiniol gan mai gwirfoddol oedd y gofyniad i gyflwyno'r wybodaeth. Nid oedd rhai sefydliadau yng Nghymru wedi cyflwyno data – gallai eu perfformiad fod yn waeth. Roedd yn bosibl fod yr holl sefydliadau yn y DU nad oedd wedi cyflenwi’r wybodaeth wedi gwneud yn waeth na'r rhai a gyflenwodd y wybodaeth, a gallai hyn ystumio'r canlyniadau a nodwyd yn yr adroddiad papur newydd.

 

Cafwyd trafodaeth wedyn ynglŷn â’r ystod o gyrsiau a gynigir yn y Brifysgol, effaith y cynnydd mewn ffioedd cyrsiau a'r rhagolygon ar gyfer graddedigion. Roedd y rhan fwyaf o raddedigion yn dod o hyd i waith yng Nghymru, llwyddodd 94.2% o raddedigion ddod o hyd i waith o fewn 6 mis. Y cyflog cychwynnol cyfartalog i raddedigion oedd yr ail uchaf yng Nghymru.

 

 Prifysgol Glyndŵr oedd y brifysgol gyntaf i wahaniaethu rhwng cost cyrsiau, a chodwyd y ffioedd uchaf o £8000 ar fyfyrwyr peirianneg. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhorthdal tuag at ffioedd pob myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, ond mae rhai wedi awgrymu y dylid ond talu’r cymhorthdal yn y dyfodol i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn prifysgolion yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD fod y Pwyllgor yn gofyn i'r Athro Scott ddarparu adroddiad ysgrifenedig pellach iddynt, er gwybodaeth, yn amlinellu'r wybodaeth ganlynol:

 

1.  datblygiadau cyfredol a datblygiadau i ddod ar gyfer y Brifysgol yn lleol;

 

2.  y gwasanaethau addysg a ddarperir i fyfyrwyr Sir Ddinbych

 

3. data ar fyfyrwyr o Sir Ddinbych a oedd yn cofrestru a’u cymwysterau (gan gynnwys dilyniant e.e. prentisiaethau, cyflogaeth neu Addysg Bellach)

 

4. gwybodaeth am sut y mae'r Coleg yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau addysg bellach Sir Ddinbych sy'n addysgu trigolion Sir  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

COLEG CAMBRIA

Ystyried cyflwyniad gan Bennaeth Coleg Cambria yn sôn am strategaeth y Coleg a’i berthynas â’r Cyngor.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd David Jones, Pennaeth Coleg Cambria i roi trosolwg o'r coleg oedd newydd gael ei huno, ei sefyllfa bresennol a datblygiadau i ddod ar gyfer y coleg yn lleol.

 

Ffurfiwyd Coleg Cambria drwy uno colegau Glannau Dyfrdwy, Iâl a Llysfasi a dechreuodd weithredu ar 1 Awst 2013. Wrth gyfeirio at gyflwyniad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) pwysleisiodd Mr Jones bwysigrwydd 12 ymrwymiad yr uniad a’u dyheadau i fod yn goleg a gydnabyddir yn rhyngwladol am ei rhagoriaeth. I'r perwyl hwnnw, mae’r coleg wedi cael gwahoddiad i ddod yn aelod o'r Grŵp 157 - 30 o'r colegau addysg bellach mwyaf sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo a chynnal y safonau uchaf o addysg a rheolaeth. At ei gilydd, roedd 1,848 o fyfyrwyr Sir Ddinbych yn derbyn eu haddysg yng Ngholeg Cambria.

 

Mae gan y coleg bartneriaethau gyda rhwydweithiau lleol sydd wedi datblygu cyfleoedd dysgu rhagorol yn y gweithle.  Mae 275 o bobl ar gynlluniau prentisiaeth yn Sir Ddinbych ac mae rhaglenni’n bodoli mewn 126 o gwmnïau.

 

 Mae cysylltiadau cryf rhwng y coleg ag ysgolion, mae 173 o fyfyrwyr yn mynd i Lysfasi bob wythnos o ysgolion lle mae darpariaeth gynyddol ar gyfer cyrsiau amaethyddiaeth, gofalu am anifeiliaid, adeiladu, cerbydau modur a gwasanaethau salon. Mae'r coleg hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych sydd â hyfforddwr dysgu yn Llysfasi ac yn hyrwyddo Potensial - cynorthwyo dysgwyr gydag anawsterau oherwydd eu cefndir - a Llwyddo'n Lleol, sy’n gyfle i ddatblygu menter yn y gymuned. Mae Coleg Cambria hefyd wedi gweithio'n agos gyda Phrifysgol Glyndŵr.

 

Y diwydiant mwyaf yng Nghymru yw ffermio ac amaeth. Yn ddiweddar, gwelwyd gwaith adeiladu helaeth yn Llysfasi i ddatblygu cyfleuster godro newydd a bloc dysgu amaethyddol. Mae'r coleg wedi ymrwymo i sicrhau presenoldeb amlwg i Lysfasi yn Sioe Frenhinol Cymru.

 

Holodd yr Aelodau a oedd Coleg Cambria’n gweithio gyda'r Sefydliad Graphene Cenedlaethol ym Mhrifysgol Manceinion.  Dywedodd Mr Jones nad oeddent ar hyn o bryd, ond roedd yn ymwybodol o waith y Sefydliad yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.

 

Mynegodd Mr Jones bryderon ynglŷn â’r effaith andwyol bosibl ar ethos Cymreig Llysfasi pe na bai Coleg Cambria yn gyfrifol yn y dyfodol am ddarparu cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr sy'n oedolion.

 

Rhoddodd y pwyllgor ganmoliaeth i Mr Jones ar waith y coleg a mynegwyd eu balchder o gael coleg o’r safon hon yn canolbwyntio ar y tir yn eu hardal.

 

 

8.

PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL – CYNLLUN GWEITHREDU DIOGELWCH CYMUNEDOL 2012/13 a 2013/14. pdf eicon PDF 94 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) sy’n gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar berfformiad y Bartneriaeth Diogelwch Cymunol ar ran cyflawni ei gynllun gweithredu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Amlygodd Rheolwr y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (PDC) y prif feysydd oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad diweddaru (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn arbennig o safbwynt meysydd blaenoriaeth y PDC lle gwelwyd gostyngiad calonogol yn nifer y digwyddiadau, gan gynnwys: 

 

·        Gostyngiad o 6.5% mewn troseddau treisgar

·         

·        Gostyngiad o 6.1% mewn trais yn erbyn unigolion

·        Gostyngiad o 2.7% mewn trais dan ddylanwad alcohol

 

Cafwyd trafodaeth ar feysydd blaenoriaeth yr adroddiad:

 

·        Holodd y Cadeirydd a oedd y newidiadau i'r system les a chyflwyno’r dreth ar ystafelloedd gwely wedi cael effaith benodol ar ffigyrau troseddu. Ymatebodd Rheolwr y PDC fod pwyslais wedi bod ar fyrgleriaethau a lladradau manteisgar am y rheswm hwnnw, a bu gostyngiad mewn achosion o’r ddwy drosedd. Caiff yr ystadegau eu monitro mewn cyfarfodydd chwarterol lle caiff tueddiadau eu nodi a dulliau ymyrryd eu gweithredu pan fod angen.

 

·        Tynnwyd sylw at Droseddau Rhyw Difrifol lle gwelwyd gostyngiad o 1.8% (2 yn llai o ddioddefwyr) yn Sir Ddinbych ond roedd y sir yn dal yn y safle uchaf mewn tabl cymharol o siroedd gyda demograffeg tebyg. Bu ymgyrch mewn ysgolion er mwyn codi ymwybyddiaeth am droseddau rhyw, gan gynnwys Fforwm Theatr Cat’s Paw, sydd â pherfformiad yn tynnu sylw at yr hyn sy'n dderbyniol a’r hyn nad yw’n ymddygiad derbyniol.

 

·        Bu gostyngiad mewn digwyddiadau gwrthgymdeithasol yn yr amgylchedd, yn enwedig mewn eiddo trwyddedig.  Teimlwyd fod cyflwyno arferion gwell, archwiliadau eiddo gan Swyddogion Trwyddedu ar y cyd â swyddog yr heddlu mewn iwnifform i gyd wedi cyfrannu at y gostyngiad.

 

·        Gwelwyd gostyngiad o 55 yn nifer y dioddefwyr Trais Domestig yn 2012/13. Priodolwyd hyn yn rhannol i gynllun peilot o atgyfeirio i Gynadleddau Risg Amlasiantaeth (MARAC) ac roedd yn ymddangos fod ymyrraeth gynharach ar lefel is yn atal gwaethygiad.

 

Yn hanesyddol, mae cyllid ar gyfer PDC a phrosiectau cysylltiedig, wedi'u cyflwyno drwy grant gan y Swyddfa Gartref. Mae'r cronfeydd hyn bellach dan reolaeth y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd newydd a fydd yn asesu ceisiadau am gyllid yn erbyn PDC eraill Gogledd Cymru.

 

 Mewn ymateb i gwestiynau'r Aelodau cytunodd Rheolwr y PDC i holi swyddogion o'r Gwasanaeth Heddlu ynglŷn ag ymarferoldeb sefydlu llinell gymorth ar gyfer dioddefwyr byrgleriaeth a gwneud 'y defnydd o alcohol' yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflenni adrodd ar ddigwyddiadau.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar dderbyn ymateb i'r cwestiynau uchod, mae'r pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad perfformiad ac yn cytuno i barhau i fonitro’r blaenoriaethau a'r canlyniadau.

 

 

9.

TREFNIADAU CRAFFU AR GYFER BWRDD GWASANAETH LLEOL CONWY A SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 103 KB

Ystyried adroddiad gan Swyddog Datblygu y Bwrdd Gwasanaeth Lleol (copi ynghlwm) sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried trefniadau archwilio posib ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Lleol Conwy a Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Datblygu’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol (BGLl) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn gofyn i'r Pwyllgor benderfynu pa opsiwn i'w ddefnyddio yn Sir Ddinbych ar gyfer archwilio gwaith BGLl Conwy a Sir Ddinbych yn y dyfodol.

 

Dyma’r opsiynau a roddwyd:

 

·        Opsiwn 1: Defnyddio’r Pwyllgorau Archwilio Partneriaethau unigol presennol.

·        Opsiwn 2: Defnyddio’r Pwyllgorau Archwilio Partneriaethau unigol presennol a chyfethol aelodau.

·        Opsiwn 3: Datblygu Cydbwyllgor Archwilio BGLl newydd rhwng Conwy a Sir Ddinbych heb gyfethol unrhyw aelodau (Is-bwyllgor i’r Pwyllgorau Archwilio Partneriaethau)

·        Opsiwn 4: Datblygu Cydbwyllgor Archwilio BGLl newydd rhwng Conwy a Sir Ddinbych a chyfethol aelodau (Is-bwyllgor i’r Pwyllgorau Archwilio Partneriaethau)

·        Opsiwn 5: Opsiwn 3 a 4 ond yn annibynnol o system bresennol yr awdurdod lleol.

 

Eglurodd Swyddog Datblygu’r BGLl fod Conwy eisoes wedi cytuno i weithredu Opsiwn 2 ac mai hwn oedd yr opsiwn a ffafriwyd.

 

 

 Dechreuodd trafodaeth ynglŷn â manteision cael cydbwyllgor, a theimlai rhai o aelodau'r pwyllgor mai’r mecanwaith amlwg a mwyaf cost effeithiol ar gyfer craffu bwrdd a rennir fyddai cael cydbwyllgor archwilio, gan y byddai’n osgoi dyblygu drwy archwilio ddwywaith .

 

 Cyfeiriodd aelodau eraill at fentrau ar y cyd yn y gorffennol lle'r oedd gwrthdaro rhwng blaenoriaethau’r Awdurdodau unigol wedi achosi problemau ac roedd y gwahaniaeth yn nifer yr Aelodau Lleol wedi achosi anghydbwysedd.

 

Teimlwyd bod y dewis yn anorfod o ystyried bod Conwy eisoes wedi gwneud eu penderfyniad. Cynigiwyd yn ffurfiol i weithredu Opsiwn 2. Cytunodd mwyafrif aelodau’r Pwyllgor ar y cynnig.

 

O ran y sefydliadau a gynrychiolir ar y BGLl y dylid eu gwahodd i enwebu aelodau i eistedd fel aelodau cyfetholedig ar y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau BGLl, penderfynwyd gohirio unrhyw benderfyniad ar y mater hwn tan ddyddiad diweddarach i aros am gasgliad ymgynghoriad presennol LlC ar y Gorchymyn Personau Dynodedig ac y bydd Swyddog Datblygu’r BGLl yn cysylltu â'r Cydlynydd Archwilio a swyddogion eraill a allai gael eu gwahodd i eistedd fel aelodau cyfetholedig.

 

O fwyafrif:

 

 PENDERFYNODD y pwyllgor -

 

(i) mai’r opsiwn a ffafriwyd mewn egwyddor ar gyfer archwilio Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y cyd Sir Ddinbych a Chonwy o safbwynt Sir Ddinbych fyddai defnyddio’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau presennol gydag aelodau cyfetholedig heb hawliau pleidleisio o blith y sefydliadau sy'n aelodau o’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y Cyd, a

 

(ii) cyflwyno adroddiad pellach i'r Pwyllgor yn ddiweddarach ar y nifer a ffafriwyd o aelodau cyfetholedig i eistedd ar Gydbwyllgor Craffu’r BGLl, a pha rai o sefydliadau’r BGLl ddylai gael eu cynrychioli ar y pwyllgor archwilio.

 

 

10.

RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR ARCHWILIO pdf eicon PDF 93 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) sy’n adolygu rhaglen waith y pwyllgor a darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio (CA) adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor Partneriaethau ac amlygodd yr adroddiadau lle'r oedd angen penderfyniadau gan y grŵp.

 

Dyma rai o’r eitemau a drefnwyd ar gyfer mis Tachwedd:

1.    Teuluoedd yn Gyntaf

2.    Canolbwynt Comisiynu Rhanbarthol ar gyfer Lleoliadau Cost Uchel, Cyfaint Isel

3.    Gwasanaeth Cludo Teithwyr Rhanbarthol

4.    Gwasanaeth Treftadaeth a'r Celfyddydau

 

Cytunwyd y dylid gwahodd yr Aelodau Arweiniol i fod yn bresennol ar gyfer eitemau 1 a 3, dylai presenoldeb ar gyfer eitem 2 fod yn ôl disgresiwn yr Aelod Arweiniol ac nid oedd gofyn i'r Aelod Arweiniol fod yn bresennol ar gyfer eitem 4. Felly:

 

PENDERFYNWYD – fod y Pwyllgor yn cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar yr uchod.

 

 

11.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor sy’n aelodau o Fyrddau a Grwpiau'r Cyngor.

 

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Pat Jones wedi ymweld â Tŷ Môr, tŷ yn y gymuned ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl. Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y prosiect wedi gwneud argraff arni, o safbwynt triniaeth ac urddas y defnyddwyr gwasanaeth ac yn enwedig agwedd gynhwysol y gymdogaeth gyfagos tuag at y prosiect.

 

Teimlwyd y dylid hyrwyddo’r uned hon am ei harfer da mewn ardaloedd eraill lle bu gwrthwynebiadau cynllunio gan drigolion lleol o ganlyniad i syniadau ystrydebol ynglŷn â gofal iechyd meddwl yn y gymuned.

 

Rhoddodd y Cadeirydd adroddiad llafar ar gyfarfod Herio Gwasanaeth diweddar y cymerodd hi ran ynddo ar gyfer y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:40pm