Rhaglen
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1 – GWAHODDIR Y WASG A’R CYHOEDD I FYNYCHU’R RHAN HON O’R CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I benodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2013/14 |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai aelodau ddatgan unrhyw
gysylltiad personol neu ragfarnus ag unrhyw fusnes y bwriedir ei ystyried yn y
cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Unrhyw eitem y dylid, ym marn
y Cadeirydd, ei hystyried yn y cyfarfod fel mater brys dan Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 185 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Archwilio Partneriaeth a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2013 (copi
ynghlwm). 2.05 p.m. – 2.15 p.m. |
|
Y DIWEDDARAF AR AD-DREFNU GOFAL IECHYD Derbyn adroddiad
llafar gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag Ad-drefnu Gofal Iechyd gan
gynnwys gwybodaeth am y cynnydd hyd yma o ran sefydlu Bwrdd Iechyd a Gofal
Cymdeithasol ar y Cyd ar gyfer Sir Ddinbych. 2.15 p.m. – 2.35 p.m. |
|
DATBLYGU UN PWYNT MYNEDIAD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR DDINBYCH PDF 109 KB Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Prosiect Partneriaeth a Datblygu (copi ynghlwm) er mwyn
craffu ar weithio mewn partneriaeth ag Iechyd o ran effeithlonrwydd a
moderneiddio gwasanaethau, a’r nod o wella gwasanaeth cwsmer. 2.35 p.m. – 2.55 p.m. Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Staff Prifysgol Betsi Cadwaladr i fonitro gweithredu’r
cynllun ar y cyd newydd ar gyfer darparu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl
Sylfaenol Lleol, effeithlonrwydd y Gwasanaeth, lefelau defnyddio a chostau
cysylltiedig. 2.55 p.m. – 3.15 p.m. Dogfennau ychwanegol: |
|
~~~~~~~~~~~~~~ Egwyl (3.15 p.m. – 3.30 p.m.) ~~~~~~~~~~~~~~~ |
|
GWASANAETHAU IECHYD MEDDWL PLANT A PHOBL IFANC (CAMHS) Derbyn adroddiad
llafar ar y cynnydd o ran mynd i’r afael â’r oedi gydag asesiadau CAMHS a’r
cynnydd pellach o ran gwasanaethau CAMHS. 3.30 p.m. – 3.50 p.m. |
|
Y DIWEDDARAF AR WEITHIO’N LLEOL Derbyn cyflwyniad
llafar gyda’r diweddaraf ar weithio’n lleol.
3.50 p.m. – 4.10 p.m. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION DIOGELU IECHYD Derbyn cyflwyniad
llafar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’r diweddaraf ar faterion Diogelu Iechyd. 4.10 p.m. – 4.30 p.m. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 83 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi ynghlwm) sy’n gofyn am adolygu
rhaglen waith y pwyllgor a darparu gwybodaeth i aelodau am faterion perthnasol. 4.30 p.m. – 4.50 p.m. Dogfennau ychwanegol: |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor sy’n aelodau o
Fyrddau a Grwpiau eraill y Cyngor. 4.50 p.m. – 5.00 p.m. |