Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Conference Room 1b, County Hall, Ruthin

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiant personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Dim buddiannau i’w datgan

 

 

3.

MATERION BRYS YN ÔL CYTUNDEB Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag a.100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972

 

GWAHARDD Y WASG A’R CYHOEDD

PENDERFYNWYD dan a.100A Deddf Llywodraeth Leol 1972 gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu iddyn nhw fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 13, 14 a 15 Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

4.

Strwythurau Gwasanaeth: Gwasanaeth Priffyrdd a Seilwaith

I dderbyn adroddiad (copi’n amgaeedig) gan y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol sy’n gofyn i’r Pwyllgor ystyried yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer cydweithredu mewnol ac allanol agosach Priffyrdd a Seilwaith yn dilyn penderfyniad gan Gabinetau Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i beidio â bwrw ymlaen â gwasanaeth priffyrdd integredig rhwng y ddwy sir.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid, adroddiad cyfrinachol, a gynhyrchwyd gan y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol ac a gylchredwyd cyn y cyfarfod, a oedd yn mynegi’r opsiynau a oedd ar gael ar gyfer cydweithredu yng nghyflenwad gwasanaethau priffyrdd rhwng Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Yn dilyn penderfyniadau Cabinetau CSDd a ChBSC i beidio â bwrw ymlaen â Gwasanaeth Priffyrdd a Seilwaith cwbl integredig ar draws y ddwy sir, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried adroddiad dilynol yn amlinellu’r opsiynau ar gyfer cydweithrediad mewnol ac allanol pellach cyn cyflwyno’r adroddiad i Gabinet y Cyngor ar Ragfyr 18fed.

 

Yn dilyn craffu manwl ac esboniad manwl ar opsiynau’r strwythur rheolaeth arfaethedig, ac asesiad o’u potensial i leihau costau a gwella gwasanaethau, cytunodd y Pwyllgor ei bod yn briodol cymryd cam yn ôl oddi wrth integreiddiad llawn a chytunodd i gefnogi datblygiad y strwythur rheolaeth a gymeradwywyd ac a fynegwyd dan Opsiwn 2b.

 

Fe gydnabu’r Pwyllgor nad oedd ymdrechion i integreiddio gwasanaethau Priffyrdd a Seilwaith yn y 3 blynedd ddiwethaf wedi sylweddoli’r manteision a ragwelwyd a bod angen cymryd cam yn ôl o’r lefel yma o gydweithrediad er mwyn uchafu effeithlonrwydd y gwasanaeth, wrth barhau i gynnal cysylltiadau cryf a chyfathrebu agos â ChBSC, heb ddiystyru cydweithrediad agosach yn y dyfodol petai achos busnes cadarn yn cyfiawnhau’r cwrs gweithredu yma.

 

PENDERFYNWYD – Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhelliad i’r Cabinet o ddatblygiad y model ar gyfer cydweithredu gyda chyflenwi gwasanaethau Priffyrdd a amlinellir dan Opsiwn 2b.

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3:40pm.