Agenda and minutes
Lleoliad: County HAll, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw fuddiant personol neu fuddiant sy’n
rhagfarnu unrhyw fusnes i’w ystyried
yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd
unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau personol na rhagfarn mewn unrhyw fusnes a
nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod.
|
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Cododd y Cynghorydd Huw Williams fater mewn perthynas ag
erthygl ym mhapur newydd The Times a
gyhoeddodd restr o’r Prifysgolion brig yn y DU. Cododd y mater am fod
“Adolygiad o Addysg Uwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru” wedi bod yn eitem mewn
cyfarfod blaenorol. Yn y cyfarfod, roedd Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr,
yr Athro Mike Scott, yn bresennol ac wedi rhoi cyflwyniad. Roedd y ffigurau a
restrwyd yn The Times yn gosod
Prifysgol Glyndŵr yn y 108fed safle ar y rhestr. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (CD:C) y
byddai’n dadansoddi’r ffigurau ac yn ysgrifennu wedyn at yr Athro Mike Scott am
yr erthygl. Pan fyddai’n cael ymateb, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cwsmeriaid y byddai’n rhoi gwybod amdano i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau. |
|
CYDWEITHIO PRIFFYRDD A SEILWAITH RHWNG CONWY A SIR DDINBYCH PDF 122 KB Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Prosiect (copi ynghlwm) yn diweddaru’r
aelodau ar y cynnydd ac yn amlinellu
argymhellion ar gyfeiriad y cydweithredu yn y dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (CD:C)
adroddiad (a gylchredwyd yn flaenorol) i ystyried argymhellion Bwrdd Rhaglen
Gydweithio Priffyrdd a Seilwaith Conwy a Sir Ddinbych ar ôl ystyried “Cyd-wasanaeth Cwbl Integredig Priffyrdd a
Seilwaith CBS Conwy a CS Dinbych: Adroddiad am y Dyluniad Gwasanaeth Drafft
(Medi 2012)’ ar 12 Medi, 2012. Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid y Rheolwr
Prosiect Rhanbarthol, Danielle Edwards, o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a oedd
wedi llunio’r adroddiad sydd ynghlwm ym mhapurau Atodiad 1. Bu adrannau Priffyrdd Conwy a Sir Ddinbych yn cydweithio ers
3 blynedd. Sefydlodd Conwy a Sir Ddinbych Fwrdd Cydweithio ac roeddent wedi
penderfynu gwerthuso’r cynllun ymlaen. Roedd y Bwrdd Cydweithio wedi cyfarfod
ag Aelodau Arwain, Swyddogion a’r Prif Weithredwr i edrych ar ddyfodol y
prosiect a gwerthuso a oedd gwerth integreiddio’r gwasanaethau’n llwyr.
Daethpwyd i’r casgliad nad integreiddio llwyr fyddai’r ffordd ymlaen, ond nid
oedd hynny’n golygu na ddylid cydweithio o gwbl. Penderfynodd y Bwrdd Cydweithio y byddai adroddiad yn cael
ei anfon at Gabinet Conwy a Sir Ddinbych ar 23 Hydref yn y drefn honno a
chyflwyno’r adroddiad i gyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaethau heddiw ac i
Bwyllgor Craffu Conwy ar 16 Hydref. Byddai’r adroddiad yn cael ei ddychwelyd
hefyd i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar ôl y cyfarfodydd uchod. Bu’r Rheolwr Prosiect Rhanbarthol yn crynhoi’r prif
flaenoriaethau. Roedd y Bwrdd Cydweithio’n teimlo nad oedd yr Achos Busnes
Llawn yn achos dichonadwy. Aseswyd sut
byddai gwasanaethau’n cael eu staffio, ac a fyddai mwy neu lai o staff yn
ofynnol. Hwnnw oedd un agwedd ar y prosiect. Ar ôl deall sut byddai
gwasanaethau’n cael eu darparu, y cwestiwn nesaf fyddai ble fyddai’r
gwasanaethau’n cael eu lleoli? Y tri dewis oedd:- Ø
Dewis 1 – Symud staff yr Heath i safle Caledfryn Ø
Dewis 2
- Cadw safleoedd Caledfryn a’r Heath, gan ad-drefnu’r staff yn ôl meysydd gwasanaeth/iswasanaeth
lle’n briodol Ø
Dewis 3 – Gosod staff o’r Heath a Chaledfryn
mewn adeilad a arferai gael ei ddefnyddio’n lle swyddfa ym Mharc Busnes
Llanelwy. Ni fyddai’n ddichonadwy trosglwyddo staff i safle’r Heath yn
Llanfairfechan oherwydd nid oedd safle’r Heath yn addas. Byddai goblygiadau TGCh wrth symud staff a lleoliad. Roedd Adran 10 o’r adroddiad yn cyfeirio at y model
ariannol, a ddangosai gostau posibl y 3 dewis. Ar ôl i’r Pwyllgor gael trafodaeth, cyflwynwyd ymholiadau
amrywiol ac ymatebwyd iddynt fel a ganlyn:- Ø
Cadarnhaodd y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol nad
oedd costau tarfu wedi’u cyfrifo eto oherwydd byddai hyn yn golygu darn
sylweddol o waith Ø
Eglurodd y Rheolwr Prosiect Rhanbarthol y dylai
ddweud yn yr adroddiad “gwaredu swyddi” yn hytrach na “gwaredu staff”. O ran yr effaith ar staff, roedd staff Conwy
a Sir Ddinbych wedi cael eu proffilio. Er mwyn gwneud arbedion, byddai angen
colli swyddi. Byddai 9 swydd newydd yn cael eu creu. Roedd y swyddi newydd hyn
yn cyfateb i swyddi cyfredol gan leihau’r swyddi a gollir felly i 8.59 Ø
O ran llety, nid oedd yn bendant y byddai unrhyw
un o’r dewisiadau llety’n bodloni’r meini prawf a osodwyd. Ø
Cadarnhawyd bod y Gofrestr Risg yn cael ei
diweddaru ddwywaith y mis ac y byddai’n cael ei diweddaru ar ôl y cyfarfod. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid eto i’r Aelodau
nad oedd integreiddio llwyr yn y ddau Awdurdod Lleol yn ariannol ddichonadwy
ond y gallai cydweithio ddigwydd o hyd. Ni fyddai integreiddio llwyr o fudd i
breswylwyr o ran gwerth am arian. Roedd cydweithio mewnol yn cael ei asesu e.e.
yr adran briffyrdd yn cydweithio ag adran yr amgylchedd. Penodwyd y Cyd-bennaeth Priffyrdd a Seilwaith ym mis Ionawr 2009 i weithio ... view the full Cofnodion text for item 4. |