Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Ruthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cynghorwyr Joan Butterfield a Bill Tasker |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Dylai’r aelodau
nodi unrhyw gysylltiad personol neu niweidiol yn unrhyw fusnes a nodwyd i’w
ystyried yn y cyfarfod. Cofnodion: Ni ddatganwyd
cysylltiad personol na rhagfarnllyd gan unrhyw un. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o
eitemau, ym marn y Cadeirydd, y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Dim mater brys
wedi’i godi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 263 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd 14 Mawrth 2013 (copi
wedi’i amgáu). Cofnodion: Cyflwynwyd
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar 14
Mawrth 2013. Cywirdeb – Tudalen 7 – Eitem Rhif 5 Cynhwysedd y Gwasanaeth
Diogelu Oedolion – Er eglurdeb cytunodd yr aelodau y dylid newid y cyfeiriad at
ofalwyr cyflogedig er mwyn adlewyrchu bod 31% o gyhuddiadau camdriniaeth wedi’u
gwneud yn erbyn gofalwyr cyflogedig. Materion yn Codi – Tudalen 6 – Eitem Rhif 5 Cynhwysedd Gwasanaeth
Diogelu Oedolion – mynegodd y Cynghorydd Ann Davies ei phryderon ein bod yn
parhau i aros am gadarnhad a oedd taflen Diogelu Oedolion Diamddiffyn oedd yn
nodi’r rhif ffôn anghywir wedi’i chynnwys ym Mhecyn Gofalwyr a ddarparwyd gan
GOGDdC ac a oedd y taflenni hynny wedi’u galw’n ôl a’u newid. Cynghorodd
y Cydlynydd Archwilio eu bod wedi gwneud cais am ymateb brys a bod Cyfarwyddwr
Corfforaethol Moderneiddio a Lles (CDMW) wedi cytuno delio â’r mater yn
bersonol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Alice Jones at ei phryderon a fynegwyd am
gyhuddiadau camdriniaeth a throthwyon y meini prawf a chadarnhaodd ei bod
hithau a’r Cynghorydd Ann Davies wedi mynychu cyfarfod gyda’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol Moderneiddio a Lles a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn
perthynas â monitro gofal. Cynghorodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Moderneiddio a Lles y bydd y Gwasanaethau Oedolion yn archwilio’r posibilrwydd
o wirio’r asiantaethau gofal. Amlygodd y Cynghorydd Jones bod angen
cyllid ychwanegol i fonitro asiantaethau gofal a chynigodd y Cadeirydd y dylid
trafod y mater ymhellach yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf pan fydd materion
gofal cymdeithasol yn cael eu hystyried. PENDERFYNWYD – y dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn
a chymeradwyo Cofnodion cyfarfod 14 Mawrth 2013
fel cofnod cywir. |
|
ARCHWILIADAU LLIFOGYDD: DIGWYDDIADAU TACHWEDD 2012 PDF 81 KB Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol (copi
wedi’i amgáu) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am gynnydd gyda’r
archwiliadau i’r llifogydd yn Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2012 a gofyn am farn
yr aelodau ar yr argymhellion posibl sydd i ddod. 9.40 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol (CDECA) adroddiad
(a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn diweddaru’r aelodau am gynnydd yr
archwiliadau i ddigwyddiadau llifogydd ledled Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2012
a gofynnodd am farn yr aelodau am yr argymhellion posibl. Mae’r cylch gorchwyl a’r comisiwn ar gyfer yr
archwiliad wedi’u hatodi gyda’r adroddiad. Bydd
adroddiad llawn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor pan fydd yr archwiliadau wedi’u
cwblhau. Roedd yr
adroddiad yn rhoi manylion am y llifogydd sylweddol a ddigwyddodd mewn 12
lleoliad gwahanol gan effeithio ar tua 500 o adeiladau. Roedd
archwiliad y Cyngor yn cael ei gefnogi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (NRW) gyda’u
harbenigwyr annibynnol wedi’u comisiynu
i gynnal yr archwiliad yng Nglasdir, Rhuthun oherwydd cymhlethdodau yn
ymwneud â’r lleoliad hwnnw. Roedd y
gwaith yn cael ei gydlynu gan Weithgor Archwilio Llifogydd a darparwyd dau
Friffio Budd-ddeiliaid oedd yn cynnwys crynodebau o’r canfyddiadau diweddaraf
a’r argymhellion o ganlyniad. Mae
manylion gweithrediadau sy’n cael eu gwneud yn y cyfamser i fynd i’r afael â
risgiau penodol y llifogydd wedi’u darparu hefyd. Darparodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Uchelgais Economaidd a Chymunedol gyd-destun pellach
i’r adroddiad gan roi cyngor ar y ddeddfwriaeth ddiweddar yn ymwneud â rheoli
risg llifogydd a chyfrifoldebau’r Cyngor fel Awdurdod Arweiniol Llifogydd Lleol
yn hyn o beth. Roedd y canfyddiadau cychwynnol cyffredinol yn
awgrymu - ·
mai
digwyddiad tywydd eithriadol ydoedd (graddfa risg llifogydd yn agos at 1:200)
gyda lefelau uwch o ddŵr yn yr afonydd, glaw di-baid a thir a oedd eisoes
yn ddirlawn a’r canlyniad oedd dŵr yn llifo dros lan yr afon a dros
amddiffynfeydd llifogydd. ·
Cadarnhaodd
Dŵr Cymru/Welsh Water nad oedd dŵr wedi’i ryddhau o Gronfa Llyn Aled
a Llyn Aled Isaf ac o ganlyniad nid oedd wedi cyfrannu at y llifogydd. ·
dengys
cofnodion lefelau dŵr afonydd nad y llanw oedd achos y llifogydd yn
Rhuddlan a Llanelwy. Diweddarodd y
pwyllgor ar lafar am gynnydd yr archwiliadau ym mhob un o’r 12 lleoliad
gwahanol yn dilyn y llifogydd. Gofynnodd yr aelodau gwestiynau am amryw
agweddau’r broses archwilio er mwyn sicrhau bod pob llwybr yn cael ei archwilio
a gofynnwyd am eglurhad am gyfrifoldebau’r rhai sy’n rhan o reoli a chynnal
amddiffynfeydd llifogydd. Darparodd Mr. Keith Ivens a Mr. Mark Pugh,
Cyfoeth Naturiol Cymru, wybodaeth bellach am bwyntiau technegol a gynhwyswyd yn
yr archwiliad a rôl Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o’r broses a’u
cyfrifoldebau o ran risg llifogydd mewn perthynas â pharatoi, cynnal a chadw ac
ymateb i ddigwyddiadau. Yn ystod y drafodaeth fanwl codwyd y camau
gweithredu canlynol - ·
roedd
aelodau yn y rhannau eraill yn Rhuthun hefyd wedi cael eu gwrthod ar gyfer
yswiriant neu’n wynebu premiwm gryn dipyn yn uwch o ganlyniad i ddigwyddiadau
llifogydd hanesyddol a nododd yr aelodau y dylid hysbysu’r diwydiant yswiriant
am effeithiolrwydd Cynllun Lliniaru Llifogydd Rhuthun gyda’r bwriad o sicrhau
bod risg llifogydd yn cael ei asesu’n briodol yn yr ardaloedd hynny. ·
oherwydd
diffyg cynhwysedd a chyfyngiadau yn ymwneud â cheuffosydd yn ardal Llanbedr DC
mynegodd yr aelodau ardal y dylid archwilio a dylid sicrhau bod pob cais cynllunio sy’n cael ei
gyflwyno yn y dyfodol ar gyfer ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan lifogydd
dŵr arwyneb yn cynnwys ceuffosydd/ceunentydd o faint digonol yn y
cynlluniau cyn rhoi caniatâd cynllunio. ·
crybwyllwyd
Cynllun Llifogydd Rhyl a Wardeniaid Llifogydd preswyl a chynigwyd y dylid
darparu’r fenter arfer da hon i ardaloedd eraill y sir. ·
mynegodd
yr aelodau y dylid gwneud ymholiadau gyda Llywodraeth Cymru fel Asiantaeth
Cefnffyrdd a oedd y gwaith diweddar a wnaed ar yr A494 wedi effeithio ar
sianeli draenio ar gyfer dŵr arwyneb. · cynigwyd y dylai ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
RISG LLIFOGYDD YN SIR DDINBYCH PDF 106 KB Ystyried
adroddiad gan yr Uwch Beiriannydd, Rheoli Risg Llifogydd (copi wedi’i amgáu) ar
ffynonellau a difrifoldeb y risg llifogydd yn Sir Ddinbych a gofyn am
gefnogaeth yr aelodau i ddatblygu’r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol. 11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Dygwyd yr eitem hon yn ei blaen o
fewn trefn y rhaglen gyda chydsyniad y Cadeirydd] Cyflwynodd yr Uwch Beiriannydd, Rheoli
Risg Llifogydd (SE) adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) a gwnaeth
gyflwyniad PowerPoint ar ffynonellau a maint risg llifogydd yn Sir Ddinbych,
dyletswyddau a chyfrifoldebau’r Cyngor fel Awdurdod Arweiniol Llifogydd Lleol a
gofynnodd am gefnogaeth yr aelodau i ddatblygu Strategaeth Rheoli Risg
Llifogydd Lleol. Cynghorwyd y pwyllgor bod rheoli risg
llifogydd yn cael ei gefnogi gyda grant gan Lywodraeth Cymru. Amlygwyd y lleihad a’r newid fydd i
ddarpariaeth cyllid yn y dyfodol a’r angen am ddatrysiadau arloesol a
blaenoriaethu buddsoddiad. Cynghorodd
yr Uwch Beiriannydd y bydd canfyddiadau archwiliadau llifogydd yn rhoi
gwybodaeth ar gyfer datblygu Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol. Ymatebodd i gwestiynau’r aelodau fel a
ganlyn -
Bu’r aelodau yn trafod gyda swyddogion
a chynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru'r canllawiau oedd yn cael eu cynnwys
yng Nghynllun Polisi Cymru Nodyn Cyngor Technegol (TAN15) oedd yn berthnasol i
ddatblygu a risg llifogydd a’i gymhwysiad wrth ei ddefnyddio. Mynegodd y Cynghorydd Ann Davies
bryderon nad oedd unrhyw risg o lifogydd wedi’u canfod yn ystod y broses
gynllunio ar gyfer datblygiadau cynharach yn Marsh Road, Rhuddlan a oedd wedi
arwain at lifogydd yn yr ardal ym mis Tachwedd 2012. Mynegodd y Cynghorydd
Alice Jones bryderon am gadernid y canllawiau sy’n cael eu cynnwys yn TAN15 a
chanfyddiadau Asesiad Strategol Canlyniadau’r Llifogydd a wnaed gan y Cyngor yn
2007 yn dilyn digwyddiadau llifogydd blaenorol. Eglurodd
yr Uwch Beiriannydd y dynesiad gofalus mewn perthynas â datblygiadau mewn
ardaloedd sydd mewn risg o lifogydd gan grynhoi prosesau cynllunio a’r profion
i sicrhau bod y datblygiadau arfaethedig yn addas a bod canlyniadau llifogydd
yn dderbyniol. Bydd canfyddiadau’r archwiliadau
llifogydd yn darparu gwybodaeth bellach am ardaloedd penodol megis Rhuddlan a
Glasdir all gael effaith ar geisiadau datblygu yn y dyfodol. Ychwanegodd Mr. Keith Ivens bod mapiau
risg llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu diweddaru bob chwarter a bod
modelau yn cael eu hadolygu yn dilyn digwyddiadau o lifogydd. Bu’r Cynghorydd Alice Jones yn dadlau
yn erbyn canfyddiadau cychwynnol yr archwiliad llifogydd i’r digwyddiadau ym
mis Tachwedd 2012 a oedd yn datgan nad oedd y llanw wedi cael effaith ar y
llifogydd yn Rhuddlan a Llanelwy gan ddatgan bod ganddi dystiolaeth ddogfennol
i’r gwrthwyneb. Roedd Mr. Keith Ivens yn deall nad
oedd y llanw wedi cael effaith cyn belled a Llanelwy ond cynghorodd y gellir
cwblhau mwy o ymarferion pan fydd y gwaith modelu wedi’i gwblhau gan ddefnyddio
gwir ddata’r llanw o’r cyfnod sydd o dan sylw i benderfynu ar yr effaith. Bydd y mater yn cael ei drafod
ymhellach gyda’r Cynghorydd Jones tu allan i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai amlder a
maint digwyddiadau llifogydd yn debygol o gynyddu o ganlyniad i newid hinsawdd
a byddai’n croesawu datblygu Strategaeth i reoli risg llifogydd yn y sir. EEr mwyn cefnogi’r ddogfen teimla’r
pwyllgor y dylid cylchredeg y Strategaeth yn ehangach gyda’r drafft terfynol yn
cael ei gyflwyno i archwilio cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn. PENDERFYNWYD - (a) y dylid cefnogi datblygu ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD CYNNYDD ADFER YN DILYN LLIFOGYDD TACHWEDD 2012 PDF 92 KB Ystyried
adroddiad, sy’n cynnwys atodiad
cyfrinachol, gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles (copi
wedi’i amgáu) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor ar gynnydd wrth
adfer yn dilyn llifogydd Tachwedd 2012 a gofyn am farn yr aelodau ar
ganfyddiadau adroddiad briffio dechreuol ar gam cyntaf y broses adfer. 10.30 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Moderneiddio a Lles (CDMW) adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn flaenorol) yn
diweddaru’r pwyllgor ar gynnydd yr adferiad yn dilyn llifogydd Tachwedd 2012 a
gofynnodd am farn yr aelodau am ganfyddiadau adroddiad ôl-drafodaeth gychwynnol
ar y cam cyntaf hwn yn y broses adfer. Darparwyd trosolwg o’r gwaith a wnaed
i gefnogi’r cymunedau oedd wedi’u heffeithio gan y llifogydd gan gynnwys gwaith
y Grŵp Adfer Corfforaethol a’r is-grwpiau i sicrhau cefnogaeth barhaus. Roedd strwythur ar gyfer rheoli
adferiad a diweddariad ar weithgareddau’r grwpiau wedi’u hatodi at yr
adroddiad. Roedd sefydliadau gwirfoddol wedi
cadarnhau cyllid gan Gronfa Fawr y Loteri i’w ddefnyddio i gynnal amrywiaeth o
wasanaethau lles ar gyfer y cymunedau a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd. Roedd Adroddiad ôl-drafodaeth Cyfnod
Adfer 1 (wedi’i atodi fel atodiad cyfrinachol i’r prif adroddiad) yn cynnwys y
cyfnod yn syth ar ôl y llifogydd hyd at ddiwedd mis Rhagfyr 2012. Cyfeiriodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles at broses yr ôl-drafodaeth a
rhoddodd fwy o fanylion am y canfyddiadau a rhesymau pob un o’r chwe phrif
argymhelliad o’r adroddiad oedd yn cynnwys yr elfennau canlynol -
Diolchwyd i’r staff am y gwaith a
wnaethant wrth ymateb i’r digwyddiadau llifogydd yn ystod y digwyddiad ac ar ôl
iddo ddigwydd a gofynnwyd i’r neges o werthfawrogiad gael ei rannu â phawb oedd
yn rhan o’r gwaith. Cymeradwyodd yr aelodau'r ymagwedd o
werthuso’r gwaith adfer a wnaed er mwyn dysgu gwersi a llunio dulliau
gweithredu ar gyfer digwyddiadau mawr eraill yn y dyfodol. Yn ystod y drafodaeth ymatebodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles i gwestiynau a sylwadau’r aelodau
fel a ganlyn -
Bu’r aelodau hefyd yn trafod gyda’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles sut y mae’r Cyngor yn ymateb i
ddigwyddiadau/argyfyngau mawr mewn ardaloedd gwledig mawr. Cyfeiriodd y Cynghorwyr Merfyn Parry
ac Alice Jones at yr eira a fu yn ddiweddar a’r effaith a gafodd ar y gymuned
ffermio yn bennaf. Amlygwyd arwahanrwydd rhai o’r rhai a
gafodd eu heffeithio ac effaith emosiynol ac ariannol oedd yn parhau i fod ar
waith. O ganlyniad gofynnodd y pwyllgor a ellid
cynnig cefnogaeth debyg i’r rhai a gafodd eu heffeithio gan yr eira yn nhermau
delio â lles emosiynol ac anghenion ariannol drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor
penodol; sesiynau galw draw; cyfarfod cymuned gyda chefnogaeth benodol ar gyfer
busnesau amaethyddol a gafodd eu heffeithio a’u gweithgareddau. PENDERFYNWYD - (a) derbyn a chymeradwyo’r adroddiad cynnydd am adfer yn dilyn llifogydd
Tachwedd 2012; (b) gofynnwyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles archwilio’r posibilrwydd o gael trefniant
wrth gefn ar gyfer galwadau CRM yn ystod cyfnodau hynod o brysur yn dilyn
argyfwng annisgwyl, a (c) gofynnwyd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles ystyried darparu ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 91 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau
ar faterion perthnasol. 12.00 hanner dydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio adroddiad (a gafodd ei gylchredeg yn
flaenorol) i’w adolygu gan yr aelodau o raglen waith i’r dyfodol y pwyllgor a
darparu diweddariad am faterion perthnasol. Mae fersiwn drafft o’r
rhaglen waith i’r dyfodol (Atodiad 1); cynigion ar gyfer eitemau rhaglen y
dyfodol (Atodiadau 2a a 2b); rhaglen waith i’r dyfodol y Cabinet (Atodiad 3) a
Chynnydd Penderfyniadau’r Pwyllgor (Atodiad 4) wedi’u hatodi i’r adroddiad hwn.
Adroddodd y Cydlynydd Archwilio am newidiadau i’r rhaglen waith ers ei
baratoad a gofynnodd am farn y pwyllgor ar reoli eu llwyth gwaith i’r dyfodol
ac amryw faterion eraill sydd angen eu sylw. Yn ystod y drafodaeth,
bu’r pwyllgor - ·
yn nodi y byddai Cadeirydd
y pwyllgor yn cael ei benodi gan y Grŵp Llafur ac y dylid cael datganiadau
cysylltiad ar gyfer Is-Gadeirydd cyn yr etholiad ffurfiol yn y cyfarfod nesaf. ·
yn cytuno i gynnal briffio cyn y cyfarfod ym mis Mehefin
gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac i gyflwyno unrhyw
gwestiynau i’r Cydlynydd Archwilio erbyn 22 Mai. ·
cytuno y dylai’r Cadeirydd, y Cyfarwyddwr Corfforaethol
Moderneiddio a Lles a Chydlynydd Archwilio drafod blaenoriaethu eitemau ar
gyfer y cyfarfod gyda BIPBC ym mis Mehefin ac i ystyried cynnal cyfarfod
ychwanegol ym mis Hydref er mwyn delio â phwysau’r rhaglen waith i’r dyfodol. ·
cytuno bod yr adroddiad am Asedau Etifeddiaeth a’r
Celfyddydau yn cael ei symud o gyfarfod mis Rhagfyr i gyfarfod mis Tachwedd. ·
cymeradwyo cynrychiolwyr y pwyllgor ar gyfer Ymweliadau
Darparwyr Mewnol PENDERFYNWYD - (a) y dylid cymeradwyo’r rhaglen waith i’r dyfodol fel y manylir yn Atodiad 1
yr adroddiad yn amodol ar yr uchod, a (b) penodi’r aelodau canlynol fel cynrychiolwyr y pwyllgor ar gyfer Ymweliadau
Darparwyr Mewnol fel a ganlyn - Awelon, Rhuthun a Dolwen, Dinbych –Y
Cynghorydd Ann Davies Cysgod y Gaer, Corwen – Y Cynghorydd Dewi Owens Tŷ Môr, Y Rhyl –Y Cynghorydd Pat
Jones Hafan Deg, Y Rhyl – Y Cynghorydd Margaret McCarroll [RE i weithredu’r uchod] |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael unrhyw wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr Pwyllgor ar wahanol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr y pwyllgor. Daeth y cyfarfod
i ben am 1.40 pm. |