Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWYLLGOR 1A, NEUADD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN CYSYLLTIAD Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
ragfarnus mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw Aelod unrhyw
gysylltiad personol neu ragfarnus ag unrhyw fusnes yr oedd bwriad ei ystyried
yn y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 209 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a
gynhaliwyd ar ddydd Iau, 31ain Ionawr 2013 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 31
Ionawr, 2013. Materion yn codi:- 5. Diweddariad
Perfformiad y CYNLLUN MAWR – eglurodd y Cynghorydd J. Butterfield ei bod eto i
gyfarfod â chynrychiolwyr o Brosiect Allgymorth y Rhyl. Cytunodd y Cydlynydd Archwilio i anfon
manylion cyswllt cynrychiolydd y Prosiect unwaith yn rhagor at y Cynghorydd
Butterfield. 7. Darpariaeth Gofal Annibynnol – Comisiynu a
Monitro – nid oedd modd i’r Cynghorydd J A Davies fod yn y cyfarfod blaenorol,
a holodd a oedd y Cyngor yn monitro’r ddarpariaeth o ofal yn y cartref. Rhoddwyd gwybod i’r Cynghorydd Davies fod
gwybodaeth ynglŷn â’r gwaith hwn wedi ei gynnwys yn yr adroddiad a
gyflwynwyd ger bron y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf, ac mae copi ohono yn
parhau i fod ar gael ar fewnrwyd a gwefan y Cyngor. PENDERFYNWYD – y dylid,
yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
CYNHWYSEDD Y GWASANAETHAU DIOGELU OEDOLION PDF 80 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar allu’r Gwasanaeth Diogelu Oedolion i ddelio gyda chynnydd posibl mewn atgyfeiriadau. 9.35 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes, a
oedd yn rhoi diweddariad ynglŷn â chynhwysedd y Gwasanaeth Diogelu
Oedolion i ymdrin â chynnydd posibl mewn atgyfeiriadau, wedi cael ei gylchredeg
ynghyd â’r ddogfennaeth ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes (PGOB) yr adroddiad
gan amlygu’r newidiadau fyddai i lwyth gwaith cyffredinol Diogelu Oedolion
Diamddiffyn pe bai cynnydd sylweddol yn nifer yr atgyfeiriadau. Sefydlwyd swydd Cymhorthydd Diogelu Oedolion
Diamddiffyn yn 2010, a chafodd hynny effaith gadarnhaol, ond yn gyffredinol
mae’r dull presennol o weithio wedi bod yn anghynaliadwy. Sefydlwyd grŵp tasg a gorffen ym mis Mai 2012
i ystyried dulliau gweithio o bob rhan o Gymru a rhannau o Loegr, argymhellion
yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn dilyn eu
harolygiad o Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych, Mawrth 2010, ac argymhellion yr
archwiliad Diogelu Oedolion Diamddiffyn, Mai 2012. Roedd yr atodiadau a oedd
ynghlwm wrth yr adroddiad yn manylu ar ychydig o’r prif ddata sy’n ymwneud â
gwaith diogelu oedolion diamddiffyn o fewn Sir Ddinbych o fis Ionawr 2012 hyd
fis Ionawr 2013. Hefyd cafodd manylion
yn ymwneud â darparu hyfforddiant eu cynnwys ynghyd ag ystadegau dangosyddion
perfformiad, gweithdrefnau diogelu oedolion diamddiffyn, a datblygiadau ar
lefel leol a chenedlaethol. Roedd
Atodiad 7 yn manylu ar yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb a gynhaliwyd i’r model
ar gyfer rheolaeth diogelu oedolion yn y Sir i’r dyfodol. Bu ymateb gan Swyddogion
i’r pryderon canlynol a leisiwyd gan yr Aelodau:- - Cyhyd ag y bo’n bosibl,
roedd taflenni a ddosbarthwyd ar ran Fforwm Diogelu Oedolion Diamddiffyn
Gogledd Cymru a oedd yn cynnwys rhif ffôn anghywir i drigolion Sir Ddinbych ei
ddefnyddio i adrodd am ddigwyddiadau honedig wedi cael eu galw’n ôl er mwyn
cynnwys y rhif ffôn cywir, a chafodd y rhif cywir ei restru ar eu gwefan. Cytunodd y Cydlynydd Diogelu Oedolion
Diamddiffyn i wirio a gafodd y daflen ei chynnwys yn rhan o’r pecyn Gofalwyr a
ddosbarthwyd gan Wasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC)
a darparu ateb i’r Cynghorydd J.A. Davies.
- Rhoed gwybod i’r
Aelodau fod y ddarpariaeth hyfforddi i weithwyr gofal yn cael ei monitro trwy’r
broses monitro contractau, a bod gan asiantaethau gofal gyfrifoldeb, trwy eu
prosesau sicrhau ansawdd, i sicrhau fod gweithwyr gofal yn ffit ac yn addas i
ymgymryd â’u dyletswyddau. Eglurwyd na
ellid cynnal y broses monitro staff gofal yng nghartrefi defnyddwyr gwasanaeth
heb ganiatâd y defnyddiwr gwasanaeth. - Mewn ymateb i awgrym
ynglŷn â p’un ai y gellid defnyddio dull gweithredu ‘siopwr cudd’ fel
teclyn i fonitro’r ddarpariaeth gofal, dywedodd y PGOB fod y Ganolfan Gofal
Cymdeithasol ar hyn o bryd yn ymchwilio i ddull o'r fath fel teclyn gwerthuso
posibl. - Roedd y broses o asesu
anghenion gofal yn cynnwys cynhyrchu cynlluniau gofal i’w cyflwyno i’r
asiantaeth briodol a fyddai’n darparu
gweithiwr gofal wedi’i hyfforddi’n briodol i ymgymryd â’r dyletswyddau a
nodwyd. - Mynegwyd pryderon bod
honiadau wedi eu gwneud fod 31% o ofalwyr cyflogedig wedi bod yn gyfrifol am
achosi camdriniaeth yn ystod 2012/13.
Rhoddwyd sicrwydd i’r Aelodau fod adolygiadau’n cael eu cynnal yn
rheolaidd a hynny ar sail asesiad risg blynyddol. - Cyfeiriwyd at yr angen,
i wneud cofnod o’r asesiadau sydd wedi eu cynnal ar gael er gwybodaeth, ac
eglurodd y PGOB y gellid darparu’r wybodaeth hon. - Amlinellwyd manylion
ynglŷn â’r ddarpariaeth hyfforddi a’r broses hyfforddi gan y PGOB. Amlygodd hefyd y targedau hyfforddi
cenedlaethol ar gyfer staff gofal a oedd yn cynnwys elfen ynglŷn â
diogelu. - Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd E.A. Jones ynglŷn â nifer uchel yr honiadau am ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
FFIOEDD GOFAL PRESWYL 2013/14 PDF 94 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Busnes (copi ynghlwm) yn rhoi diweddariad ar y Fethodoleg o Bennu Ffïoedd Cartrefi Gofal Preswyl a'r effaith ar gostau i’r Awdurdod. 10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad
gan y Rheolwr Gwasanaeth Busnes, oedd yn darparu diweddariad ynglŷn â
Methodoleg Gosod Ffioedd Cartrefi Gofal Rhanbarthol ac effaith y costau ar yr
Awdurdod, wedi cael eu cylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Cyfeiriodd Pennaeth y
Gwasanaethau Oedolion a Busnes (PGOB) at yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor
Archwilio yn flaenorol a oedd yn egluro’r fethodoleg newydd, y broses y byddid
yn ei dilyn a’r goblygiadau o ran cost.
Ailedrychwyd ar y fethodoleg a chymhwyswyd cynnydd chwyddiant i elfennau
o fewn y ffioedd. Roedd y cynnydd yn
amrywio rhwng 1.8% ar gyfer cyflogau a 9% ar gyfer costau ynni, ac ar
gyfartaledd byddai’r cynnydd mewn ffioedd oddeutu 2.4%. Roedd Swyddogion Cyllid o Gynghorau Sir Wrecsam, Sir y Fflint a Sir
Ddinbych wedi ystyried chwyddiant ac wedi cyfeirio at y cais blynyddol oddi
wrth y Fforwm Gofal. Roedd y swyddogion wedi gweithio'n unigol gyda
Phenaethiaid Gwasanaeth eu hawdurdodau eu hunain i gyfrifo costau’r cynnydd yn
y ffioedd ac effaith hynny ar y gyllideb, a manylid ar yr effaith ar ffioedd
safonol yn yr adroddiad. Nid oedd y
ffioedd safonol a ddyfynnir ar gyfer Cartrefi Nyrsio yn cynnwys cyfraniad y GIG
a oedd wedi ei osod ar hyn o bryd ar £120.56 yr wythnos. Cafwyd cadarnhad fod y nifer y bobl mewn
cartrefi gofal wedi gostwng wrth i’r Cyngor barhau i fod yn llwyddiannus wrth
ddarparu darpariaeth amgen yn y gymuned. Pwysleisiodd Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (CC:MLl) cystal
yw’r dull gweithio systematig sydd wedi ei fabwysiadu ac sydd yn ymgorffori’r
fethodoleg gyffredin a ddefnyddir gan bob Awdurdod. Eglurodd y daethpwyd ar draws problemau’n
flaenorol wrth fynd ati i ddangos tegwch y costau, ac roedd teimlad y byddai
angen i ddarparwyr gwasanaeth archwilio'r dull o gyflenwi a darparu gwasanaeth
er mwyn cwrdd ag anghenion a gofynion y dyfodol. Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd
Butterfield mewn perthynas â strwythur cyflogau staff a gyflogir mewn Cartrefi
Preifat, eglurodd y CC:MLl fod adeiladwaith y ffioedd yn creu tybiaeth
ynglŷn â lefelau’r cyflog sy’n cael ei dalu. Eglurodd pe byddai tystiolaeth o fethiant i
gyrraedd y lefel sgiliau angenrheidiol i ddarparu'r gwasanaeth byddai hyn yn
arwain at ddilyn camau yn ymwneud â chontractau a rheoleiddio. Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, eglurodd y PGOB y byddai’r angen
am Gartrefi Gofal Preswyl yn parhau, a chafwyd cadarnhad ganddo fod darparu tri
chartref gofal yn ychwanegol wedi ei nodi yn y Cynllun Corfforaethol. Cafwyd gwybod
ganddo hefyd, tra gallai fod yn ddefnyddiol, gallai defnyddio system o ddyfarnu
‘sêr graddio/sgorio’ fod yn gostus i awdurdodau lleol oherwydd yn ei brofiad
yntau byddai’r cartrefi sydd wedi eu graddio uchaf hefyd yn codi ffioedd uwch. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J.A.
Davies, darparodd y PGOB fanylion yn ymwneud â dosbarthiad y gofynion ar gyfer
darpariaeth gofal iechyd a’r costau cysylltiedig. Amlinellodd hefyd y farn glinigol a fynegir
yn genedlaethol mewn perthynas ag anableddau dysgu a chyfeirio at ganllawiau
darpariaeth gofal iechyd, gan gyfeirio yn benodol at arwyddocâd nodweddion
ymddygiad cymhleth. Yn dilyn trafodaeth
bellach:- PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor yn:- (a)
derbyn
ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, ac yn (b)
parhau
i gefnogi’r dull gweithio rhanbarthol o ran gosod ffioedd fel y cytunwyd gan y
Cabinet ym mis Chwefror 2012. Gyda chytundeb y
Pwyllgor, gan fod yr Aelod Arweiniol eisoes yn bresennol, newidiodd y Cadeirydd
drefn y rhaglen ar y pwynt hwn. |
|
GWASANAETH RHANBARTHOL BWRIEDIG I GYNLLUNIO RHAG ARGYFWNG PDF 95 KB Derbyn adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (copi ynghlwm) i ystyried a chynnig sylwadau ar yr achos busnes llawn ar gyfer gwasanaeth cynllunio rhanbarthol mewn argyfwng cyn ei gyflwyno i’r Cabinet gyda golwg ar sicrhau y bydd y gwasanaeth rhanbarthol arfaethedig yn darparu’r lefel ofynnol o wasanaeth ar gyfer y Cyngor a thrigolion y Sir. 11.20 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd
a Chymunedol (CC:UECh), a oedd yn cyflwyno’r achos busnes llawn dros sefydlu
Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng (GRhGRhA) ac yn ceisio
sylwadau ynglŷn â’r argymhellion perthnasol, wedi ei gylchredeg ynghyd â
phapurau’r cyfarfod. Datganodd y Cynghorydd D.I. Smith, yr Aelod Arweiniol â chyfrifoldeb am y
Gwasanaeth, gysylltiad personol a rhagfarnus â’r eitem hon gan adael y cyfarfod
cyn i’r eitem gael ei thrafod. Eglurodd y CC:UEChi i 6 Chyngor Gogledd Cymru ymgymryd â gwaith i werthuso
buddion sefydlu GRhGRhA. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu’r gwaith sydd wedi ei gyflawni ac yn amlinellu
argymhellion yr achos busnes terfynol dros sefydlu Gwasanaeth Rhanbarthol a
fydd yn cael ei gyflwyno ger bron y Cabinet ym mis Mawrth 2013. Roedd crynodeb o’r trefniadau presennol wedi
cael eu hamlinellu yn Atodiad 1. Roedd Prif Weithredwyr y chwe Chyngor wedi
comisiynu gwaith i ddatblygu a phrofi achos busnes dros wasanaeth sengl, gydag
is dimau rhanbarthol, a phresenoldeb swyddog o fewn pob Awdurdod i sicrhau
arbenigedd a gwybodaeth leol a pharhad gwasanaeth lleol. Roedd y Compact rhwng Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth Leol yn argymell y dylai cynllunio rhag argyfwng fod yn wasanaeth
cydweithio rhanbarthol ac mae’r achos busnes terfynol, Atodiad 2 yr adroddiad,
wedi ei seilio ar ddadansoddiad llawn o gostau a buddion sefydlu GRhGRhA. Roedd argymhelliad i fabwysiadu Gwasanaeth
Rhanbarthol gyda: - · Strwythur isranbarthol - dwy ganolfan yn
gyfrifol am 3 Chyngor yr un · Y naill
ganolfan yn cael ei harwain gan Reolwr Rhanbarthol a'r llall gan Ddirprwy · Swyddog
Cynllunio Rhag Argyfwng ym mhob Awdurdod Lleol · polisïau,
prosesau a chynlluniau cyffredin ac adnoddau wedi eu rhannu o fewn un strwythur
rheoli. Manylai’r adroddiad ynglŷn â chyfrifoldebau’r
swyddog lleol a swyddogion y canolfannau isranbarthol, a byddai’r GRhGRhA yn
cael ei gomisiynu gan fwrdd gweithredol o swyddogion comisiynu, fyddai a
throsolwg drosto. Roedd yr achos busnes
yn nodi y byddai’r model newydd yn cynnig rhagor o wytnwch, arbenigedd a
chysondeb amgenach, modd o rannu arfer da, a chynhwysedd a gallu gwell. Byddai’n ehangu ar y cyswllt gyda phrif
ymatebwyr eraill trwy’r Fforwm Lleol Cymru Gydnerth ac yn cynnig rhagor o
gynhwysedd ar gyfer gweithio gyda rheolwyr gwasanaeth ledled pob Awdurdod Lleol
i gryfhau trefniadau ymateb. Roedd y
cynigion yn awgrymu cyfanswm arbedion o hyd at £75,000 am 10% o’r gost, gydag
arbedion pellach posibl wrth fod yn dyblygu llai. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cynnig
£35k o’r Gronfa Wella i roi cymorth i Ogledd Cymru reoli’r newid i fod yn
Wasanaeth Rhanbarthol, gyda Chyngor Sir y Fflint yn ymddwyn fel Awdurdod
Arweiniol ar gyfer y prosiect. Darparwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion
a godwyd gan Aelodau:- - Eglurodd y CC:UECh y byddai hyblygrwydd a lefelau
cyfathrebu yn gwella wrth sefydlu GRhGRhA.
Dylai hyn wella’r trefniadau o safbwynt Sir Ddinbych, gan y byddai un
swyddog wedi ei leoli yn y Sir o dan y Gwasanaeth newydd bwriedig. O dan y drefn bresennol, roedd yr holl
swyddogion ar gyfer Sir Ddinbych wedi eu lleoli yn Sir y Fflint. - Dywedwyd
wrth yr aelodau y cawsai unrhyw ddigwyddiad mawr ei reoli ar sail Gogledd
Cymru. Cafwyd cadarnhad fod cynlluniau
ymateb ac adfer yn eu lle ac y byddai gwasanaethau Sir Ddinbych yn rhan o’r
broses. - Cafwyd cadarnhad gan y CC:UECh na fyddai sefydlu
GRhGRhA yn disodli’r cynlluniau adfer presennol, ond yn hytrach yn cryfhau ar y
trefniadau hynny ac yn gwella ar y gwytnwch sydd ei angen i’w rhoi ar waith. - Eglurodd y swyddogion na fyddai sefydlu’r GRhGRhA
yn cynhyrchu arbedion sylweddol, a chadarnhau na fyddai lleihad sylweddol o ran
adnoddau staffio. Roedd y ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
TRAWSNEWID CLUDIANT – PROSIECT CYDWEITHREDOL RHANBARTHOL CLUDIANT TEITHWYR Ystyried adroddiad
gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (copi ynghlwm) i ystyried a chynnig sylwadau ar yr
achos busnes amlinell ar gyfer
creu tîm rhanbarthol trafnidiaeth teithwyr. 11.55 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd adroddiad cyfrinachol gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol (CC:UECh) a oedd yn rhoi crynodeb o’r gwaith sydd wedi
ei wneud hyd yma mewn perthynas â chreu uned integredig sengl ar gyfer darparu
gwasanaethau cludiant teithwyr yng Ngogledd Cymru ac yn cyflwyno’r achos busnes
amlinellol dros ei chreu, wedi cael ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod. Croesawyd Mr Iwan Prys
Jones, Cynrychiolydd y Grŵp Cludiant Rhanbarthol (TAITH) i’r cyfarfod gan
y Cadeirydd. Eglurodd y CC:UECh fod y
Prosiect Cludiant Teithwyr Rhanbarthol bellach wedi cyrraedd y cam o gyflwyno
Achos Busnes Amlinellol ac y byddai’r Cabinet yn ystyried p’un ai i gymeradwyo
symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Llawn dros y Dewis a Ffefrir neu
beidio. Roedd Gweithgor o reolwyr
cludiant o bob un o Awdurdodau Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth TAITH, a gafodd
ei hwyluso’n allanol, wedi datblygu Achos Busnes Amlinellol gan gynhyrchu Dewis
a Ffefrir er mwyn rhoi ystyriaeth bellach iddo, a cheisid cymeradwyaeth i
ddatblygu’r Dewis a Ffefrir yn Achos Busnes Llawn i’w roi ar waith pe profid yr
achos a phe câi ei gymeradwyo gan yr Awdurdodau sy’n aelodau. Roedd adolygiad gan Lywodraeth Cymru (LlC)
ynglŷn â dyfarnu cymorthdaliadau bysiau ledled Cymru i’r dyfodol wedi
cynhyrchu nifer o argymhellion, a'r prif un ohonynt oedd y byddai grant ariannu
bysiau newydd "Grant Gwasanaethau Cludiant Rhanbarthol" yn ei le o 1 Ebrill, 2013, a byddai hwnnw'n
cael ei ddosbarthu trwy gyfrwng y Consortia Cludiant Rhanbarthol. Sylweddolwyd beth oedd
rhychwant y prosiect, a oedd i gynnwys cludiant cyhoeddus, addysg a
gwasanaethau cymdeithasol, yn gynnar iawn.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y meysydd nad oeddent wedi eu cynnwys o
fewn cwmpas y prosiect, ar y prif ffeithiau sy’n berthnasol i ddarpariaeth
gwasanaeth bresennol y chwe Awdurdod Lleol ac ar y sail y lluniwyd yr achos
dros newid arno. Roedd y pedwar prif
Ddewis a ystyriwyd yn ystod datblygu’r Achos Busnes Amlinellol wedi cael eu
crynhoi ac roedd copi o’r Achos Busnes Amlinellol wedi cael ei gynnwys yn Atodiad
1, ynghyd â manylion ynglŷn â’r meini prawf yr aseswyd y Dewisiadau yn eu
herbyn. Roedd asesiad yr Achos Busnes Amlinellol wedi
adnabod dau ddewis gorau pan aseswyd yn erbyn y meini prawf a oedd wedi eu
nodi, ond o ystyried y newidiadau bwriedig diweddar i’r system o ariannu
bysiau, dim ond un o’r dewisiadau hyn oedd bellach yn teilyngu cael ei
ddatblygu ymhellach yn Achos Busnes Llawn i roi ystyriaeth bellach iddo. Roedd y dewis hwn wedi ei amlinellu yn yr adroddiad. Roedd cydnabyddiaeth i’r ffaith mai’r dewis
hwn fyddai’n un mwyaf radical a’r mwyaf cymhleth o’r rheiny oedd wedi cael eu
hystyried, fodd bynnag, roedd hefyd yn cynnig y potensial mwyaf ar gyfer gweld
gwell canlyniadau ac arbedion yn yr hir dymor. Byddai’r potensial am arbedion ac effeithlonrwydd
yn cael ei dafoli ochr yn ochr â’r cymhlethdod a’r costau cychwynnol posibl
wrth i’r Achos Busnes Llawn gael ei ddatblygu.
Gellid datblygu ar y dewis yn gynyddrannol, gyda cham cyntaf yn rhoi
ystyriaeth i integreiddio gwasanaethau cludiant teithwyr, a bod hynny i’w
ddilyn yn hwyrach gan gludiant addysg a chludiant gwasanaethau
cymdeithasol. Byddai’r dull gweithio hwn
yn cyfuno gyda’r newidiadau sy’n angenrheidiol i reoli rhoi’r dull gweithio
newydd o ariannu bysiau ar waith, y tu hwnt i’r cyfnod trosiannol. Roedd yr amserlen, a ystyrid yn gyraeddadwy ar gyfer y prosiect, yn amodol ar dderbyn cymeradwyaeth, wedi cael ei hamlinellu yn yr adroddiad. Derbyniwyd cadarnhad y byddai’r goblygiadau ariannol llawn ar gyfer pob un o’r Cynghorau yn cael ei archwilio yng ngham nesaf y gwaith ac yn cael eu nodi er mwyn caniatáu i benderfyniadau ynglŷn â p’un ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 90 KB Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor ac yn diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol.
10.55 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Cydlynydd Archwilio, yn gofyn ar i’r Pwyllgor
adolygu drafft eu Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol (RhGD) a darparu diweddariad
ynglŷn â materion perthnasol, wedi cael ei gylchredeg ynghyd â phapurau’r
cyfarfod. Roedd RhGD y Cabinet wedi ei gynnwys yn
Atodiad 3 ac roedd tabl yn rhoi crynodeb o'r penderfyniadau Pwyllgor diweddar
ac a oedd yn hysbysu’r Aelodau ynglŷn â’r cynnydd o’u rhoi ar waith wedi
ei gynnwys yn Atodiad 4 yr adroddiad. Roedd Ffurflen Cynnig, Atodiad
2, a oedd yn ymwneud â swyddogaeth Coleg Glannau Dyfrdwy/Coleg Llysfasi wrth
ddarparu addysg o fewn Sir Ddinbych ac mewn partneriaeth â'r Cyngor, wedi cael
ei gyflwyno i gael ei ystyried gan y Pwyllgor. Cytunodd yr Aelodau i gynnwys yr eitem hon yn
rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer mis Gorffennaf, 2013. Fodd bynnag, gofynnodd yr Aelodau i hysbysu
Pennaeth y Coleg ynglŷn â’r broses Archwilio a gofyn iddo ddarparu’r
wybodaeth ganlynol:- ·
Niferoedd myfyrwyr, llwyddiannau, lefelau cynnydd ac
ysgoloriaethau. ·
Manylion ynglŷn â chyllid ac adnoddau. ·
Sut mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo a’i datblygu. ·
Materion yn ymwneud â chludiant. ·
Manylion ynglŷn â bwriadau i’r dyfodol a gweithio
mewn partneriaeth. Eglurodd y Cydlynydd Archwilio ei fod yn disgwyl ymateb mewn perthynas â
chais a wnaed i’r Bwrdd Iechyd am adroddiad ynglŷn â Phrostheteg, am
ddarpariaeth a chynnal a chadw cymalau artiffisial i oedolion a phlant (gan
gynnwys gwybodaeth ynglŷn â mynediad at y gwasanaeth, unrhyw oedi sy'n
digwydd neu unrhyw gyfyngiadau sy'n cael ei gosod a gweithdrefnau cwynion) er
mwyn rhoi ystyriaeth i hyn yn y cyfarfod nesaf sydd wedi ei amserlennu gyda'r
cynrychiolwyr Iechyd ar 10 Mehefin 2013. Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ddrafft eu Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, fel y manylir yn
Atodiad 1, a chytunwyd ar y newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- - Aildrefnu’r adroddiad ar y Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol
Lleol, a amserlenwyd yn wreiddiol ar gyfer y cyfarfod hwn, a chynnal y drafodaeth
honno yn hytrach yn ystod cyfarfod y Pwyllgor gyda chynrychiolwyr o Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ym mis Mehefin 2013. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan yr
Aelodau mewn perthynas â dyfodol Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, ac unrhyw
oblygiadau posibl i’r Cyngor Sir ac i ddyfodol Ysbyty Glan Clwyd, cafwyd
cadarnhad y byddai unrhyw faterion neu bryderon yn cael eu codi yng nghyfarfod
y Pwyllgor Craffu gyda BIPBC ym mis Mehefin. - Cytunodd yr Aelodau i ohirio’r eitem ynglŷn â Chydweithio
Rhanbarthol ym maes Datblygu Economaidd hyd fis Medi 2013, pryd mae disgwyl y
byddai rhagor o fanylder ar gael. - Yn dilyn penderfyniad gan Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Archwilio (GCIGA), ar 7 Mawrth, 2013, cytunwyd y byddai’r eitem fusnes sy’n
ymwneud ag Asedau Treftadaeth a’r Celfyddydau yn trosglwyddo o Raglen Gwaith
i’r Dyfodol y Pwyllgor Archwilio Cymunedau i eiddo’r Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau i’w hystyried ym mis Rhagfyr 2013. - Cytunodd y Pwyllgor, pe bai’r Cabinet yn cytuno i symud ymlaen i
ddatblygu Achos Busnes Terfynol (ABT) ar gyfer Prosiect Cydweithio Rhanbarthol
Cludiant Teithwyr, y dylid cynnwys yr ABT yn y
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer mis Tachwedd 2013. Roedd rhestr o bob cynrychiolydd archwilio ar y Grwpiau Herio Gwasanaethau wedi ei gynnwys yn Atodiad 5 yr adroddiad. Pan wnaed y penodiadau, roedd ‘Cwsmeriaid’ wedi cael ei gynnwys yn Grŵp Herio Gwasanaeth y Gwasanaethau Addysg a’r Cynghorydd B. Blakeley wedi ei benodi fel y cynrychiolydd ar ei gyfer. Fodd bynnag, roedd ‘Cwsmeriaid’ bellach yn ffurfio un o saith Blaenoriaeth Gorfforaethol y Cyngor gogyfer â 2012/17, felly at bwrpasau'r broses o ... view the full Cofnodion text for item 9. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau
gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol
Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.
11.10 a.m. Cofnodion: Darparodd Aelodau’r Pwyllgor y manylion canlynol mewn
perthynas ag amryw o Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor:- Dywedodd y
Cynghorydd J.A. Davies y bydd yn mynychu cyfarfod Gofalwyr Cymru Gyfan yng
Nghaerdydd a chyfarfod Bwrdd Prosiect A Driphlyg. Roedd y Cynghorydd E.A. Jones wedi mynychu cyfarfod o Grŵp Tasg a
Gorffen yr Adolygiad Bwyd ble cafodd dwy flaenoriaeth eu hadnabod a bydd y
rheiny’n cael eu datblygu ymhellach mewn cyfarfodydd i’r dyfodol.
Nodwyd safonau uchel Sir Ddinbych mewn perthynas â’r broses gaffael. Roedd y Cynghorydd Jones hefyd wedi mynychu
cyfarfod ynglŷn â’r Ddarpariaeth Dai ar gyfer Llety Arbenigol. Roedd y
Cynghorydd M. McCarroll wedi mynychu cyfarfod Asiantaeth Mentergarwch Sir
Ddinbych, ac roedd o’r farn i'r cyfarfod fod yn un nodedig. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiadau. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.55pm |