Agenda and draft minutes
Lleoliad: YSTAFELL BWYLLGORA, 1A, NEAUDD Y SIR, RHUTHUN
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
ragfarnus mewn unrhyw fusnes i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau personol na
buddiannau sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y
cyfarfod. |
|
MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried
yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw faterion y
dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod ar frys yn unol ag Adran
100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 205 KB (i)
Derbyn cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 29ain Tachwedd 2012 (copi’n
amgaeëdig) (ii) Derbyn
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau,
20fed Rhagfyr 2012 (copi’n amgaeëdig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (i) Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau Arbennig a gynhaliwyd ddydd Iau 29
Tachwedd 2012. Materion a gododd:- 5. Y Diweddaraf am Waith Ardal
yn Sir Ddinbych, Dangosfwrdd Hyd Arhosiad – Ar gais y
Cadeirydd, cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (CD:MW) y gellid darparu
gwybodaeth gefndir bellach, gan gynnwys ffigurau cyfredol a blaenorol, o ran
hyd arhosiad, am y mater hwn. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn
y Cofnodion a chymeradwyo eu bod yn gofnod cywir. (ii) Cyflwynwyd Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Rhagfyr
2012. Materion a gododd:- 5. Y Diweddaraf am Berfformiad y
CYNLLUN MAWR - Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, eglurodd y Cydlynydd
Craffu fod materion a godwyd yn ymwneud â’r nifer sy’n manteisio ar brydau ysgol
am ddim wedi cael sylw yn y Brîff Gwybodaeth.
Cadarnhaodd hefyd fod y Brîff Gwybodaeth yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
am y gwaith sy’n cael ei wneud gan Brosiect Allgymorth y Rhyl o ran problemau
ymddygiad gwrthgymdeithasol perthnasol i alcohol yng nghanol trefi ac ardaloedd
eraill yn y Sir. Yn sgil yr wybodaeth a gafwyd, roedd y Cynghorydd J. Butterfield yn teimlo y byddai’n ddefnyddiol pe
gellid hwyluso cyfarfod gyda chynrychiolwyr o Brosiect Allgymorth y Rhyl i
drafod eu gwaith, eu cyflawniadau hyd yma ac unrhyw rwystrau rhag gwelliant
pellach yn y maes hwn. O ganlyniad, enwebodd y Pwyllgor y Cynghorydd
Butterfield i gyfarfod â chynrychiolwyr Allgymorth ar ran y Pwyllgor a rhoi
adroddiad yn ôl i’r Pwyllgor maes o law.
Mewn ymateb i bryderon a
godwyd gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, cytunwyd y byddai’r Cydlynydd Craffu,
gyda’r swyddog perthnasol, yn mynd ar drywydd y pryderon a fynegwyd am y
problemau sy’n digwydd ym maes parcio Morley Road. Dywedodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles wrth y Pwyllgor y byddai Canolfan Gomisiynu
Gogledd Cymru’n cael ei lansio’n ffurfiol ar 28 Chwefror 2013. Cytunodd yr
Aelodau ei bod yn bwysig gwahodd Cadeirydd y Cyngor hefyd i ddigwyddiadau
felly, yn ogystal â Chadeirydd y Pwyllgor perthnasol ac Arweinydd y
Cyngor. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn
y Cofnodion a chymeradwyo eu bod yn gofnod cywir. |
|
GWASANAETH RHANBARTHOL EFFEITHIOLRWYDD YSGOLION A CHYNNWYS YSGOLION PDF 129 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn
manylu’r cynnydd hyd yma gyda sefydlu a rhedeg Gwasanaeth Rhanbarthol
Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion, a’r manteision a welwyd hyd yma o’i sefydlu.
9.35 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y
Pennaeth Addysg, a oedd yn disgrifio’r cynnydd o ran sefydlu a chynnal y
Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Chynnwys Ysgolion (RSEIS),
a’r buddion a sylweddolwyd ers ei sefydlu, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r
cyfarfod. Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad ac eglurodd fod y Cabinet, ym
mis Chwefror 2012, wedi cymeradwyo’r Achos Busnes Llawn i sefydlu Gwasanaeth
Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Gwella Ysgolion (RSEIS) i fod yn atebol
i chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, a chynnal eu cyfrifoldebau statudol, o ran
y dyletswyddau i fonitro, herio, darparu gwasanaethau cymorth i ddatblygiad
proffesiynol parhaus cwricwlwm a rheoli ysgolion, ac, yn ogystal, darparu
gwasanaethau y gellid eu comisiynu gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Roedd copi
o’r adroddiad i’r Cabinet wedi’i gynnwys yn Atodiad 1, gyda chopi o’r achos
busnes llawn yn Atodiad 2. Amlinellwyd i’r Aelodau gyfanswm costau
cyfredol cyflenwi’r swyddogaethau gwella ysgolion o fewn y cwmpas cynghorol a
statudol presennol ledled chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru. Nodwyd ei bod yn
bosibl arbed £882k o swm holl-ranbarthol y gellid ei ail-fuddsoddi mewn Addysg,
neu ei ryddhau fel arbediad ariannol, gan ddibynnu ar anghenion pob Awdurdod
Lleol. Dywedwyd wrth yr Aelodau mai Gwynedd a
benodwyd yn Awdurdod Cynnal ar gyfer y Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd
Ysgolion a Chynnwys Ysgolion. Bu’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democratig (HLDS) yn crynhoi’r trefniadau cyfreithiol a gyflwynwyd i sicrhau
llinell glir o atebolrwydd i reoli’r Gwasanaeth a rhoes fanylion yn ymwneud â
sefydlu Cydbwyllgor, gan amlinellu ei gylch gwaith a’i gyfansoddiad.
Amlinellodd ddiben y Cytundeb Rhwng Ysgolion a oedd yn ffurfioli’r trefniadau
rhwng yr Awdurdodau priodol ac yn nodi paramedrau a ffiniau clir. Cyfeiriodd y Cynghorydd E.W. Williams at y farn a fynegwyd gan y
Gweinidog ynglŷn ag amserlenni a phwysleisiodd fod safonau’n bwysicach na
strwythurau a bod Sir Ddinbych wedi gosod esiampl dda fel Awdurdod Addysg. Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd na ddylai
sefydlu’r Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Gwella Ysgolion
rwystro’r safonau uchel a osodwyd ac a gyflawnwyd gan Sir Ddinbych, cyfeiriodd
y Pennaeth Addysg at yr heriau a’r buddion sy’n codi o’i gyflwyno a sicrhaodd
na fyddai’r safonau a’r lefelau a gyflawnwyd yn Sir Ddinbych yn cael eu
rhwystro. Cadarnhaodd y byddai’r broses
yn cael ei monitro’n ofalus ac y byddai’r cysylltiadau a’r berthynas waith agos
a ddatblygwyd â’r Penaethiaid yn parhau. Mynegwyd pryderon hefyd am y
cymariaethau posibl y gellid eu gwneud rhwng yr Awdurdodau priodol, yn enwedig
o ran safonau a darpariaeth gyllidebol, a pha mor bwysig yw derbyn y byddai
rhai Awdurdodau am gynnal eu disgwyliadau a’u safonau uchel cyfredol. Eglurodd
y Cynghorydd E.W.Williams y byddai sefydlu’r Gwasanaeth Rhanbarthol
Effeithiolrwydd Ysgolion a Chynnwys Ysgolion yn cynyddu’r gallu i ymdrin â
chylch ehangach o’r Rhaglen Gwella Ysgolion ac yn sicrhau gwelliant helaeth yn
y ddarpariaeth addysg. Cytunodd y Pennaeth Addysg y byddai gwybodaeth bellach yn cael ei rhoi am gyfraniad Aelodau at adolygiad sy’n cael ei wneud gan Robert Hill. Eglurodd y byddai rolau a swyddogaethau’n cael eu trosglwyddo o awdurdodau lleol gyda staff yn cael eu hadleoli, ynghyd â’r cyllidebau priodol, ar ôl sefydlu’r Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Chynnwys Ysgolion. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratig y byddai’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau’n craffu ar waith partneriaeth ac eglurodd fod Mesur Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno cysyniad craffu ar y cyd y gellid ei fabwysiadu i fonitro’r Gwasanaeth Rhanbarthol Effeithiolrwydd Ysgolion a Chynnwys Ysgolion. Dywedodd y Pennaeth Addysg wrth yr Aelodau y byddai Estyn yn monitro’r broses a chyfeiriwyd at yr arolygiad gwaith consortiwm ac at gynnwys yr Awdurdod Lleol mewn Arolygiadau. Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at y posibilrwydd bod cyllid ar gael gan Lywodraeth ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
STRATEGAETH GWYBODAETH AC YMGYNGHORI GOFALWYR GOGLEDD CYMRU PDF 107 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a
Busnes (copi ynghlwm) mewn perthynas â gweithredu Mesur Strategaethau Gofalwyr
(Cymru) 2012 fel y nodwyd yn Strategaeth Gwybodaeth ac Ymgynghori Gofalwyr
Gogledd Cymru 2012 – 2015.
10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cylchredwyd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes gyda’r papurau
i’r cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn
disgrifio’r broses o weithredu Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2010
newydd, sef y Mesur Gofalwyr, fel y nodir yn Strategaeth Gwybodaeth Ac
Ymgynghori Gofalwyr Gogledd Cymru 2012 – 2015, ac yn cynnwys nodyn gwybodaeth
am y llinell gymorth 24 awr i Ofalwyr yn Sir Ddinbych. Yn unol â gofynion y Mesur Gofalwyr, roedd drafft terfynol y Strategaeth
Ranbarthol, Atodiad 1, wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Roedd yr
adroddiad yn amlinellu’r ffordd y byddai’r Strategaeth Ranbarthol yn mynd i’r
afael â gofynion y Mesur Gofalwyr, ac eglurwyd y byddai gofyn i bob un o’r chwe
Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru graffu ar y Strategaeth a’i chymeradwyo. Dynodwyd Byrddau Iechyd Lleol yn ‘awdurdodau arwain’ yn y gwaith o
weithredu Rheoliadau’r Mesur Gofalwyr. Sefydlwyd Grŵp Strategol Arweinwyr
Gofalwyr Gogledd Cymru (NWCSLG) i ddatblygu’r Strategaeth Ranbarthol. Byddai’r
Grŵp hwn yn parhau i gyfarfod a gweithredu fel y gweithgor partneriaeth i
fynd ymlaen â’r camau a amlinellir yn y Strategaeth Ranbarthol. Roedd BIPBC
wedi sefydlu Bwrdd Prosiect Mesur Strategaethau Gofalwyr (Cymru), a oedd yn
cynnwys cynrychiolwyr o Awdurdodau Lleol a’r trydydd sector, i graffu ar waith
Grŵp Strategol Arweinwyr Gofalwyr Gogledd Cymru ac i roi cyngor a sicrhad
i’r Bwrdd Iechyd. Roedd Llywodraeth Cymru wedi dod i’r casgliad bod y Strategaeth Ranbarthol
yn rhagweithiol gyda ffocws da ar ganlyniadau, a’i fod yn seiliedig ar
feddylfryd clir am yr hyn y gallai fod angen ei wneud yn wahanol er mwyn eu
cyflawni. Roedd y Strategaeth wedi arddangos gwaith partneriaeth cryf rhwng y
Bwrdd Iechyd, chwe Awdurdod Lleol a sefydliadau’r Trydydd Sector. Roedd meysydd
i’w gwella wedi’u hamlygu ac roeddent yn cynnwys yr angen am bennod ar wahân am
ofalwyr ifanc, gan gryfhau rhai o’r Camau Allweddol i Flwyddyn 3, egluro sut
byddai’r Strategaeth yn berthnasol i gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd
Ethnig a grwpiau eraill â nodweddion gwarchodedig a chyfnerthu’r elfen iechyd
meddwl o’r Strategaeth. Roedd effaith y
Mesur newydd yn debygol o arwain at nodi nifer cynyddol o Ofalwyr a’u cyfeirio
ymlaen am asesiad statudol gan yr Awdurdod Lleol. Byddai posibilrwydd cynnydd mewn
atgyfeiriadau’n cael ei fonitro i ystyried materion lle a goblygiadau i
wasanaethau’r dyfodol. Bu’r Cydlynydd
Gofalwyr yn rhoi crynodeb manwl o’r pwyntiau amlwg a’r Camau Allweddol sydd yn
y Strategaeth, Atodiad 1 i’r adroddiad. Eglurodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd
J.A. Davies wedi’i ailbenodi’n ddiweddar yn Hyrwyddwr Gofalwyr i Sir Ddinbych. Rhoddwyd yr ymatebion canlynol
i faterion a chwestiynau a godwyd gan yr Aelodau:- -
amlinellodd y Cydlynydd Gofalwyr y cysylltiadau cyfathrebu presennol a
chyfeiriodd yn arbennig at gylch gwaith Grŵp Strategol Arweinwyr Gofalwyr
Gogledd Cymru. Disgrifiodd y mesurau sydd ar waith i helpu i fynd i’r afael â’r
problemau a gaiff gofalwyr ifanc a chadarnhaodd y byddai gwaith pellach yn cael
ei wneud drwy’r Grŵp Strategol. Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles y gwaith sy’n cael ei wneud yn Ysgolion Sir Ddinbych a’i
Gwasanaethau Plant i nodi gofalwyr ifanc a sicrhau mwy o ymwybyddiaeth, a chadarnhaodd
y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud drwy gomisiynu gwasanaethau’n
rhanbarthol. - o ran darparu gofal seibiant i ddefnyddwyr gwasanaeth i gynorthwyo gofalwyr, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes y gellid archwilio’r dull o nodi gofalwyr unigol a chytunwyd y gellid cynnwys eitem am y mater hwn ar yr agenda i’w hystyried gan y Fforwm Gofalwyr. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles at y mesur a oedd yn annog nodi gofalwyr ond pwysleisiodd fod angen adnoddau i fodloni’r galw. Cyfeiriodd y Cydlynydd Gofalwyr at gylch gwaith BIPBC yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
DARPARIAETH GOFAL ANNIBYNNOL – COMISIYNU A MONITRO PDF 92 KB Ystyried adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a
Busnes (copi ynghlwm) a oedd yn manylu’r ddarpariaeth gofal annibynnol a
gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ddinbych a sut caiff ansawdd y gofal hwnnw ei
fonitro.
10.55 a.m. Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion
a Busnes, a oedd yn disgrifio graddau’r ddarpariaeth gofal allanol a gomisiynir
yng Nghyngor Sir Ddinbych a’r ffordd y caiff ansawdd y gofal hwnnw ei fonitro,
wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r cyfarfod. Cyflwynodd Pennaeth y
Gwasanaethau Oedolion a Busnes yr adroddiad a oedd yn asesu ansawdd a gwerth y
ddarpariaeth gofal cymdeithasol annibynnol i ddefnyddwyr gwasanaeth yn Sir
Ddinbych. Roedd yn disgrifio’r cydbwysedd rhwng y ddarpariaeth allanol a mewnol
ac roedd Atodiad 1 yn disgrifio’r ganran o ddarpariaeth gofal allanol a mewnol. Eglurodd fod y dull o fonitro ansawdd y
gwasanaeth a ddarperir wedi newid a bod gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu
proses ranbarthol a chytuno arni. Roedd y broses a ddilynir i fonitro ansawdd
yn Sir Ddinbych wedi’i chrynhoi yn yr adroddiad a defnyddiwyd pob cyswllt â
darparwyr i lywio’r gwaith o fonitro contractau. Amlinellwyd proses ymweliadau monitro
contract a chadarnhawyd bod proses i fonitro Gofal Preswyl yn cael ei datblygu
bellach. Eglurwyd bod ymweliadau monitro contract rhagweithiol wedi’u cynllunio
i ddechrau cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan
yr Aelodau, eglurwyd bod system electronig newydd o gofnodi materion ansawdd a
Chontract wedi’i gweithredu i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf un ar gael
yn hawdd i swyddogion wrth iddyn nhw gael ymholiadau. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes y byddai barn a
dewis y Defnyddwyr Gwasanaeth yn cael eu hystyried. Pe na fyddai ansawdd
safonau darpariaeth, neu ofynion rheoleiddio AGGCC, yn cael eu bodloni, byddai
gwaith partneriaeth i wella ansawdd y ddarpariaeth gwasanaeth yn cael ei
weithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru am waith partneriaeth gyda
darparwyr. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes y byddai
dichonolrwydd cartrefi gofal dan fygythiad, wrth i nifer y lleoliadau cartref
gofal leihau, gyda mwy o bobl yn dewis aros yn eu cartrefi. Roedd cau cartrefi wedi
effeithio ar faich gwaith y tîm a oedd yn monitro’r broses ac yn sicrhau
trosglwyddiadau diogel i gartrefi gofal eraill yn unol â Chanllawiau
Llywodraeth Cymru. Byddai’r Tîm Adolygu’n cael ei ddatblygu yn 2013/14 a
fyddai’n golygu bod Swyddogion Gofal Cymunedol a Swyddogion Contract yn
cydweithio i adolygu anghenion gofal a monitro darpariaeth o ansawdd i bob
categori gofal. Byddai gwaith rhanbarthol ar fanylebau gwasanaeth a chontractau
yn dal i effeithio ar y ffordd y byddai contractau’n cael eu monitro. Roedd
manylion y broses ymgynghori a fabwysiadwyd a mesurau a gyflwynwyd i leihau
unrhyw risgiau wedi’u cynnwys yn yr adroddiad. Mewn ymateb i bryderon a godwyd am y broses hunanasesu a phwysigrwydd
sicrhau gweithdrefnau monitro cadarn, amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth: Busnes
a Gofalwyr (SM:BC) y prosesau monitro a fabwysiadwyd gan Sir Ddinbych, a oedd
yn ceisio casglu’r holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael i asesu lefel a safon
y gwasanaethau a ddarperir, ac archwilio adroddiadau AGGCC a’r camau a gymerir
drwy’r broses adolygu contract i fynd i’r afael ag unrhyw anghysondeb a nodir.
Cadarnhawyd y byddai gwaharddiad dros dro’n cael ei osod ar bob achos newydd pe
byddai darparwyr yn methu â bodloni’r safonau gofynnol, ac y byddai defnyddwyr
gwasanaeth presennol yn cael eu hadolygu i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu
bodloni. Mewn ymateb i gwestiwn, rhoes y Rheolwr Gwasanaeth: Busnes a Gofalwyr fanylion yr hyfforddiant sydd ar gael i staff yr awdurdod lleol a’r sector annibynnol. Ymatebodd hefyd i bryderon a godwyd ac eglurodd nad oedd bob amser yn ymarferol nac yn bosibl i’r un gofalwr roi sylw i ddefnyddiwr gwasanaeth unigol yn rheolaidd, nac ymweld yn rheolaidd â’r defnyddiwr. Fodd bynnag, cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth: Busnes a Gofalwyr y byddai’n ddefnyddiol i’r holl gynghorwyr gael ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
TEULUOEDD YN GYNTAF PDF 103 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio Busnes a
Pherfformiad (copi ynghlwm) a oedd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol
mewn perthynas ag elfennau a gomisiynwyd a rhai nas comisiynwyd yn Rhaglen
Teuluoedd yn Gyntaf Sir Ddinbych ar gyfer cyfnod ariannol 2012-2014 .
11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Comisiynu a Gwerthuso, yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyfredol mewn perthynas ag elfennau wedi’u
comisiynu ac elfennau heb eu comisiynu o Raglen Teuluoedd yn Gyntaf yn Sir
Ddinbych ar gyfer cyfnod ariannol 2012-2014, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r
cyfarfod. Cyflwynodd y Pennaeth Busnes,
Cynllunio a Pherfformiad (HBPP) yr adroddiad yn rhoi gwybod am werthuso a
monitro cynnydd yr ymgeiswyr llwyddiannus hyd yma o ran gweithredu a chyflenwi
eu gwasanaethau, Cynllun Gweithredu Teuluoedd yn Gyntaf a Chanlyniad 4 yn Sir
Ddinbych – y Cynllun MAWR. Crynhodd y Pennaeth
Busnes, Cynllunio a Pherfformiad y Trosolwg Strategol gan gynnwys y cysylltiad â Sir
Ddinbych - y Cynllun MAWR, a amlinellwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at y
tablau a ddarparwyd a oedd yn disgrifio’r Gwasanaethau Heb eu Comisiynu a’r
Gwasanaethau Wedi’u Comisiynu a’r cymariaethau cyllid priodol ar gyfer 2012/13
a 2013/14. Sir Ddinbych fu’r
Awdurdod cyntaf yng Ngogledd Cymru i gomisiynu 7 o’r 9 elfen o’r Rhaglen.
Amlinellwyd yn yr adroddiad oediadau o ran yr elfennau Cymorth i Deuluoedd ac
Anabledd o’r Rhaglen. Roedd Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, yn ei chyfanrwydd,
bron yn ei lle a byddai’r Rhaglen cyn hir yn arddangos ei heffaith ar
deuluoedd. Sefydlwyd man canolog o fynediad/atgyfeirio yn Sir Ddinbych drwy
Gydlynydd Cymorth Integredig i Deuluoedd Teuluoedd yn Gyntaf. Yn ogystal,
byddai’r Panel Teuluoedd yn Gyntaf yn ystyried, bob pythefnos, yr atgyfeiriadau
a gafwyd gan y Cydlynydd Cymorth Integredig i Deuluoedd ac yn nodi’r ymateb
gwasanaeth mwyaf addas. O fis Ebrill 2013 ymlaen, byddai gofyn defnyddio
Fframwaith Asesu’r Teulu ar y Cyd (JAFF) yn brif offeryn atgyfeirio, asesu a
chynllunio ar gyfer gweithio gyda theuluoedd a gefnogir drwy Raglen Teuluoedd
yn Gyntaf. Gwnaethpwyd gwaith gyda’r paneli aml asiantaeth yn yr ysgolion a
chytunwyd y byddai atgyfeiriadau drwy’r paneli hyn yn cael ymateb ar unwaith. Roedd yr adroddiad yn disgrifio buddion a chanlyniadau gweithredu
Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf a mabwysiadu arferion da eraill. Roedd Rhaglen
Hyfforddi Teuluoedd yn Gyntaf, Atodiad 1, wedi’i hariannu drwy elfen Datblygu,
Hyfforddi a Chefnogi’r Gweithlu ynghyd ag elfen Hyfforddiant Anabledd. Nodwyd
pynciau hyfforddiant fel prif flaenoriaeth gan ddarparwyr gwasanaeth ar gyfer
cyfnodau cynnar gweithredu Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf. Eglurodd y Swyddog Comisiynu a Gwerthuso fod Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf
yn allweddol yn cyfrannu at y Cynllun Mawr: “Canlyniad 4 - bod Teuluoedd sy’n
Agored i Niwed yn Sir Ddinbych yn cael eu cefnogi i fyw bywyd yn rhydd o dlodi,
lle gallent fod yn annibynnol a ffynnu”, a chadarnhawyd bod penderfyniad y
Bwrdd Prosiect i ail-dendro ar gyfer yr Elfennau Cymorth i Deuluoedd ac
Anabledd, ar ôl ystyried nifer o ddewisiadau eraill a gyflwynwyd drwy Adroddiad
Eithriadau, wedi creu effaith ar gyflenwi’r rhaglen gyfan. Croesawodd yr
Aelodau’r adroddiad cynhwysfawr a oedd yn canolbwyntio ar wasanaethau
integredig wedi’u comisiynu. Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd, amlinellodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad y rhesymau dros
fabwysiadu dull comisiynu ffurfiol ac eglurodd y byddai disgwyliadau clir ac
atebolrwydd am weithredu pe na fyddai’r canlyniadau’n cael eu sylweddoli na’u
cyflawni. Cadarnhaodd hefyd y byddai Llywodraeth Cymru, yn ogystal â
Gwasanaethau Archwilio Mewnol, yn arfer rheolaethau cyllido ac yn monitro
gwariant. PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor:- (a)
yn amodol ar yr arsylwadau uchod,
yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r cynnydd hyd yma o ran cyflenwi Rhaglen
Teuluoedd yn Gyntaf, a (b)
yn derbyn adroddiad diweddaru am
gyflenwi Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2013. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 81 KB Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen waith y Pwyllgor ac yn
diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol.
12.05
p.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Cydlynydd Craffu, a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu
ei Flaenraglen Waith ddrafft ac yn rhoi gwybod y diweddaraf am faterion
perthnasol, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau i’r cyfarfod. Ynghlwm fel
atodiadau wrth yr adroddiad oedd blaenraglen waith y Cabinet a thabl yn crynhoi
penderfyniadau diweddar y Pwyllgor ac yn rhoi gwybod i’r Aelodau am gynnydd o
ran eu gweithredu. Bu’r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ddrafft ar gyfer
cyfarfodydd y dyfodol, fel y disgrifir yn Atodiad 1, a chytunwyd ar y
newidiadau a’r ychwanegiadau canlynol:- - cynnwys eitem am y Gwasanaeth Rhanbarthol
Effeithiolrwydd Ysgolion a Gwella Ysgolion ar gyfer mis Ionawr 2014 a chynnwys
adroddiad diweddaru am Raglen Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer mis Hydref 2013. -
cytunodd yr Aelodau i aildrefnu’r pedair eitem fusnes y
trefnwyd eu cyflwyno i’r cyfarfod ym mis Mehefin 2013 i’w hystyried yn hytrach
yng nghyfarfod mis Gorffennaf 2013. -
Cytunodd y Pwyllgor i
gynnal y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer mis Mehefin ar ddydd Llun 10 Mehefin 2013
am 2.00pm. Y cyfarfod hwn fyddai’r cyfarfod rheolaidd bob chwe mis gyda
chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd. Cytunwyd i ystyried yn y cyfarfod hwnnw’r ddwy
eitem a ohiriwyd yng nghyfarfod mis Tachwedd 2012 gyda’r cynrychiolwyr Iechyd -
sef y Diweddaraf am y Gwasanaethau Plant a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r
Glasoed (CAMHS) (y cynnydd a gyflawnwyd yn mynd i’r afael ag oediadau asesu
CAMHS a chynnydd pellach mewn perthynas â gwasanaethau CAMHS). Gofynnwyd i’r Cydlynydd Craffu holi a ellid darparu a thrafod yn y
cyfarfod hwnnw adroddiad am Aelodau Prosthetig, sef darparu a chynnal aelodau
artiffisial i oedolion a phlant (gan gynnwys gwybodaeth am gael at y
gwasanaeth, unrhyw oediadau a geir neu gyfyngiadau a gymhwysir a gweithdrefnau
cwyno). PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, cymeradwyo Blaenraglen Waith y
Pwyllgor. Daeth y cyfarfod i ben am 12.55 p.m. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r
Cyngor. |