Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 1A, Neaudd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN O FUDDIANT Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiant personol neu ragfarnus
mewn unrhyw fusnes sydd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd
aelodau unrhyw fuddiannau personol neu niweidiol mewn unrhyw fusnes sydd wedi
ei nodi i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd
unrhyw eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel
mater o frys yn unol ag Adran 100B(4)
Deddf Llywodraeth Leol, 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 172 KB (i)
Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 8fed Tachwedd 2012 (copi’n amgaeëdig) (ii)
Derbyn cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, 5ed Rhagfyr 2012 (copi’n
amgaeëdig) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (i) Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar Ddydd Mawrth, 8
Tachwedd, 2012. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a
chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. (ii) Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod arbennig o’r
Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar Ddydd Mawrth, 5 Rhagfyr
2012. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a
chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Y CYNLLUN MAWR: DIWEDDARIAD AR BERFFORMIAD PDF 74 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio
(copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar berfformiad y Bwrdd Gwasanaeth Lleol
a’r Partneriaethau o ran cyflawni’r Cynllun MAWR: Rhan I, 2011-14 ac yn gofyn am farn y Pwyllgor ar y cynnydd a gafwyd hyd yma o
ran cyflawni’r Cynllun ac i nodi unrhyw feysydd lle gellid gwella yn y dyfodol. 9.35 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Perfformio a Chynllunio, a oedd yn
rhoi diweddariad ar berfformiad y Bwrdd Gwasanaeth Lleol (BGLl) a
Phartneriaethau o ran cynnal y Cynllun MAWR: Rhan 1, 2011-14, ac ‘Adroddiad Eithriadau
Cryno’, gyda phenodau manwl i bob un o wyth deilliant y Cynllun Mawr, wedi’u
dosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod. Esboniwyd mai Cynllun
MAWR Sir Ddinbych: 2011-14 (TBP), sy’n cael ei gynnal ar y cyd gydag
asiantaethau partner, oedd y cynllun sy’n hyrwyddo gweithio Partneriaeth yn Sir
Ddinbych. Roedd y BGLl yn atebol am Y
Cynllun MAWR ac yn dal asiantaethau
partner sy’n cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y trydydd
sector, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Iechyd
Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, yn gyfrifol am weithredu cynlluniau
gweithredu i gyflawni’r Cynllun MAWR a’i wyth deilliant. Byddai gwerth gweithio
partneriaeth wrth gyflawni’r Cynllun MAWR yn cael ei archwilio’n fwy manwl mewn
adroddiadau blynyddol ac adroddiadau cau.
Roedd yr
adroddiad yn darparu gwybodaeth eithriadau am bob deilliant a oedd yn galluogi
Aelodau i ganolbwyntio ar fannau gwan. Roedd partneriaid hanner ffordd drwy’r
amserlen ar gyfer cyflawni ac roedd angen canolbwyntio ar, a blaenoriaethu rhai
elfennau er mwyn adnabod canlyniadau gwell i bobl yn Sir Ddinbych. Roedd
meysydd yn cynnwys ymestyn cefnogaeth i bobl hŷn ar draws y Sir; ymdrin
â’r sialensiau sy’n wynebu Canol Tref y Rhyl; gwella cefnogaeth i ofalwyr
ifanc; rhwystro hunanladdiad a hunan-niweidio; amddiffyn pobl fregus rhag tân ac
adolygu cyfraniad partneriaid i’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a
Chymunedol. Esboniwyd bod nifer fach iawn o weithredoedd wedi’u cynllunio i
ddechrau yn 2013 mewn perthynas â Deilliant 8. Esboniodd y Pennaeth Busnes,
Cynllunio a Pherfformiad (HBPP) bod yna faterion problemus, cymhleth a hirfaith
a fyddai’n cymryd cryn amser i ymdrin â hwy. Fodd bynnag, roeddynt ar hyn o
bryd yn asesu os oedd cynnydd wedi’i wneud o ran ymdrin â’r problemau. Mewn ymateb i
gwestiynau gan Aelodau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a
Lles (CD:MW) nad oedd y dangosyddion llwyddiant i ardaloedd gwledig ac iechyd
meddwl a lles wedi bod yn ddigon cadarn.
Roedd hyn wedi arwain at ddealltwriaeth wannach o effaith y Cynllun MAWR
a chadarnhawyd y byddai’r dangosyddion yn cael eu hadolygu. Nid oedd rhai
deilliannau wedi’u mesur yn ddigonol o fewn mecanweithiau cyflenwi presennol ac
er nad oedd hyn wedi effeithio ar y cyflenwi, roedd y broses adrodd ar
berfformiad wedi dioddef mewn rhai achosion, yn enwedig mewn perthynas â
Deilliant 1. Byddai’r mater hwn yn cael ei ddatrys wrth i strwythurau
partneriaethau strategol lleol, gan gynnwys Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles a
Phartneriaeth Plant a Phobl ifanc, gael eu cadarnhau. Nododd y Pwyllgor
bwysigrwydd casglu data yn gywir ac amserol ynghyd ag adrodd o ansawdd er mwyn
galluogi rheoli perfformiad a gwneud penderfyniadau partneriaeth yn effeithiol.
Roedd mecanweithiau yn eu lle ar gyfer casglu tystiolaeth o effaith yr
ymyriadau ar fywydau bobl, ac roedd gwaith ar y gweill i fapio adnoddau’r
Bartneriaeth. Byddai manylion yn
ymwneud â’r wybodaeth hon yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol a’r
adroddiad diwedd cynllun. Cadarnhawyd na fu unrhyw rwystrau mawr o ran
cyflenwi’r Cynllun MAWR ac roedd y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd bod swyddogion
yn hyderus y byddai’r Cynllun Mawr yn cael ei gyflenwi. Esboniodd Swyddogion bod y Cynllun Corfforaethol wedi’i alinio gyda’r Cynllun Mawr a bod synergedd rhwng saith Blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol ac wyth deilliant y Cynllun MAWR. Roedd BIPBC ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad dwys ar newidiadau i’r GIG a byddai’r rhain yn effeithio ar y Cynllun Mawr, yn enwedig o safbwynt modelau cyd-weithio, ffurfweddiad gwasanaeth a gofal iechyd yn lleol. Roedd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CANOLFAN GOMISIYNU LLEOL AR GYFER LLEOLIADAU COST UCHEL, NIFER ISEL PDF 93 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm) sy’n rhoi diweddariad ar y cynnydd, ac yn
gofyn am sylwadau’r Aelodau, ar ddatblygu Canolfan Gomisiynu Ranbarthol ar
gyfer lleoliadau cartrefi gofal cymdeithasol, iechyd ac addysg. 10.40 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad gan Reolwr Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru, a oedd
yn rhoi gwybodaeth ynghylch gweithrediad Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru,
wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod.
Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles yr adroddiad a oedd yn rhoi
diweddariad ar ddatblygiad a gweithrediad Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru
(NWCH) ar gyfer lleoliadau gofal cymdeithasol, a gofal iechyd ac addysg
gartref. Roedd trosolwg wedi’i gynnwys
fel Atodiad 1 i’r adroddiad. Esboniodd Rheolwr
Canolfan Gomisiynu Gogledd Cymru (NWCHM) bod y NWCH yn brosiect cydweithredol rhwng
6 Cyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd PBC, a oedd wedi’i sefydlu ar sail Achos
Busnes Llawn. Roedd y NWCH yn cwmpasu gwasanaethau plant ac oedolion, mewn
partneriaeth gyda’r GIG, ac yn cael ei arwain gan Sir Ddinbych. Roedd yn atebol
i Fwrdd Rheoli a gadeiriwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a
Lles. Rhoddodd y NWCHM grynodeb
o bedair prif swyddogaeth y NWCH sef:- · Sicrhau gwerth am arian
gyda lleoliadau cost uchel sydd eisoes ar fod.
· Chwilio am leoliadau
newydd trwy broses dryloyw a sicrhau gwerth am arian. · Monitro ansawdd
gwasanaethau. · Gweithio gyda
phartneriaid i ddatblygu’r farchnad mewn ymgais i sicrhau bod gwasanaethau yn
gallu cyflenwi’r galwad sydd ar hyn o bryd ac unrhyw alwadau i’r dyfodol. Roedd y NWCH wedi
datblygu systemau a phrosesau sylfaenol i’w galluogi i weithio’n effeithiol.
Roedd amser wedi’i dreulio ar gyfarfod timau gweithredol yr holl bartneriaid i
sicrhau bod rôl y NWCH yn cael ei ddeall a bod newidiadau mewnol yn digwydd i
sicrhau hynny. Roedd copi o’r rhaglen waith wedi’i gynnwys fel Atodiad 2 i’r
adroddiad. Roedd arbedion ariannol
blynyddol o £298,000 wedi’u gwneud a oedd yn cynnwys arbediad o £20,000 i Sir
Ddinbych, ynghyd ag osgoi costau o £27,000 ar draws y rhanbarth. Ymhellach,
cafwyd arbediad blynyddol £209,000 yn codi o drafodaethau ynghylch lleoliadau
gofal cartref Anabledd Dysgu. Cadarnhawyd mai £12,615 oedd cyfraniad y Cyngor at gost cynnal blynyddol
NWCH. Hysbyswyd aelodau bod y
NWCH wedi chwilio am 51 lleoliad rhwng Awst a Thachwedd 2012. Roedd gwaith pellach ar y gweill gan gynnwys
datblygu Fframwaith Darparwyr Cymeradwy rhanbarthol i leoliadau preswyl plant,
a fframwaith monitro ansawdd i wasanaethau oedolion. Yn dilyn datblygiad y Fframwaith, roedd gan y
Swyddog Monitro Ansawdd nawr raglen o ymweliadau i’w cynnal ar ran Sir
Ddinbych. Cadarnhaodd y NWCHM bod y
NWCH wedi cyfrannu at wireddu Blaenoriaethau Corfforaethol Sir Ddinbych a
byddai’n helpu i sicrhau bod y Cyngor yn sicrhau gwasanaethau o ansawdd da a gwerth am arian. Roedd Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor
yn rhagweld bod modd sicrhau arbedion ariannol o £25k eleni a £100k yn y
flwyddyn nesaf. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch y ffaith nad oedd y matrics
risg a baratowyd i’r Bwrdd Rheoli wedi’i gymeradwyo, esboniwyd bod y matrics
risg yn gysylltiedig gyda’r achos busnes llawn a chadarnhawyd nad oedd unrhyw
risgiau mawr ac mai mater o fân newidiadau yn unig ydoedd. Bu ymgynghoriad gyda’r
holl bartneriaid ar y Busnes Achos Llawn ac roedd y NWCH ar hyn o bryd yn dechrau
ymgynghori gyda Darparwyr ar ddatblygiadau arfaethedig. Cytunodd Aelodau y dylai’r Pwyllgor Craffu
Partneriaethau yn achlysurol fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y Ganolfan o
ran comisiynu gwasanaethau o ansawdd a sicrhau gwerth am arian. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd P.M. Jones, cadarnhaodd y NWCHM bod 30 o ddarparwyr ar hyn o bryd, a 9 ohonynt yng Ngogledd Cymru, a ddefnyddiwyd ar gyfer lleoliadau plant. Esboniodd bod plant wedi’u lleoli mewn ardaloedd cyfagos i Ogledd Cymru, Gogledd Orllewin Lloegr a mannau eraill yn y DU. Fodd bynnag, roedd nifer y lleoliadau wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y 2-3 mlynedd diwethaf. Rhoddodd swyddogion amcangyfrif o gostau sy’n gysylltiedig ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 81 KB Ystyried adroddiad gan y Cyd-gysylltydd Craffu (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn am adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor ac yn
diweddaru’r aelodau ar faterion perthnasol.
11.20 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o adroddiad y Cydlynydd Craffu yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei
Flaen-raglen Waith Drafft ac a oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion
perthnasol, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau i’r cyfarfod. Roedd Blaen-raglen
Waith y Cabinet wedi’i chynnwys fel Atodiad 2 i’r adroddiad. Roedd tabl yn
crynhoi penderfyniadau diweddar y Pwyllgor ynghyd â gwybodaeth i aelodau ar y
cynnydd a wnaed wrth eu rhoi ar waith, ynghlwm fel Atodiad 3 i’r
adroddiad. Hysbyswyd aelodau y
byddai’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, o fewn ei gylch gwaith, yn ystyried
adroddiad ar Brosiect y Rhyl yn Symud Ymlaen ar 17 Ionawr 2013, a bod croeso i
unrhyw rai nad oedd yn aelod o’r pwyllgor i fynychu. Fel rhan o
drefniadau craffu’r Cyngor, mae’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
(SCVCG) yn gweithredu fel Pwyllgor cydlynu. Cyfarfu’r Grŵp ar 13 Rhagfyr
2013, gan ystyried cais i drefnu ymweliadau mewn perthynas â’r Cynllun Byw
Cymunedol. Cytunodd y Grŵp y dylid ymgymryd â’r ymweliadau gan fabwysiadu
fformat tebyg i’r ymweliadau rota a wneir â Sefydliadau Gofal Cymdeithasol ar
hyn o bryd. Byddai gwahoddiadau yn cael eu hanfon i’r Aelod Arweiniol, yr Eiriolwr
Gofal Cymdeithasol perthnasol ac Aelod(au) Lleol y Ward dan sylw. Ar ôl ystyried
item yn ymwneud â’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gan y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau, ym Medi 2012, roedd y Pwyllgor
wedi gofyn i’r SCVCG benderfynu pa Bwyllgor ddylai archwilio’n fanwl y
mater o broblemau gwrthgymdeithasol cysylltiedig ag alcohol yng nghanol trefi.
Roedd y Grŵp wedi dod i’r farn bod yr eitem hon o fewn cylch gwaith y
Pwyllgor Craffu Partneriaethau gan mai’r corff hwn yw Pwyllgor Craffu Trosedd
ac Anrhefn ddynodedig y Cyngor. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd E.A. Jones, esboniwyd bod y mater hwn yn
effeithio ar y Sir gyfan ac nid yn unig i Rhyl. Cytunodd Aelodau y dylai’r
Cydlynydd Craffu, cyn ystyried y mater ymhellach, gysylltu gyda’r swyddogion
perthnasol ynghylch graddfa’r broblem ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ym mis
Ionawr. Esboniodd y Cydlynydd
Craffu bod y mater o Gamerâu Cylch Cyfyng wedi’i ystyried gan y SCVCG, a’u bod
wedi ad-drefnu’r eitem hon i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad ei thrafod ym Mawrth
neu Ebrill 2013. Yn dilyn cais
gan y Cynghorydd D. Owens, roedd y Cydlynydd Craffu wedi cysylltu gyda’r Uwch
Beiriannydd: Rheoli Risg Llifogydd ynghylch yr adroddiad ar yr Ardaloedd mewn
Perygl o Lifogydd o fewn Sir Ddinbych, a
oedd ym Mlaen-raglen Gwaith y Pwyllgor ar gyfer Ebrill 2013. Esboniodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles bod nifer o adroddiadau yn cael
eu llunio ar hyn o bryd ar y llifogydd a ddigwyddodd yn Nhachwedd 2013 yn
Llanelwy a Rhuthun, a bod ymchwiliad annibynnol yn cael ei gomisiynu. Yn
ychwanegol at yr adroddiad ar yr Ardaloedd mewn Perygl o Lifogydd o fewn Sir
Ddinbych sy’n amlinellu’r cyfrifoldeb statudol cyffredinol o ran rheoli risg
llifogydd, cytunodd Aelodau y dylid cynnwys adroddiad mewn perthynas â’r
digwyddiadau diweddar yn ymwneud â llifogydd yn y Blaen-raglen Waith ar gyfer
cyfarfod Ebrill 2013. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylid gwahodd Meic Davies,
Rheolwr Risg Llifogydd Rhanbarthol ac arbenigwr Cynllunio o Asiantaeth yr
Amgylchedd i fynychu’r cyfarfod. Bu’r Aelodau yn ystyried
Blaen-raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer Ebrill 2013, a chytunwyd y dylid
ad-drefnu’r eitemau busnes ynghylch “Lle yn yr Uned Gwarchod Oedolion Bregus” a
“Potensial ar gyfer Cydweithredu i ddarparu Gofal yn y Cartref yn ardaloedd
gwledig y Sir” a’u cynnwys ar ddyddiad
arall. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod,
bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn cymeradwyo’r Blaen-raglen Waith fel y’i
nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r
Cyngor.
11.35 a.m. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
adroddiadau gan gynrychiolwyr y pwyllgor ar fyrddau a grwpiau amrywiol y
Cyngor. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.35 y.p. |