Agenda and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd, 1a, Neuadd Y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, y Cynghorydd Merfyn
Parry a'r Cynghorydd Bill Tasker. |
|
Datgan buddiannau Mae’r Aelodau’n datgan unrhyw fuddiannau personol neu
ragfarn mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganodd unrhyw Aelodau unrhyw fuddiannau personol neu
ragfarnus mewn unrhyw fusnes a oedd i’w drafod yn y cyfarfod. |
|
Materion brys fel y cytunwyd gan y Cadeirydd Rhoir gwybod am eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod ar frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau y
dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Cofnodion y cyfarfod diwethaf PDF 145 KB (i)
Cael cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau
a gynhaliwyd ar 27 Medi, 2012 (copi ynghlwm). (ii)
Cael cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2012 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (i) Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 27ain Medi
2012. Materion yn codi:- 5. Adolygiad o Addysg Uwch yng
Ngogledd-ddwyrain Cymru – yn dilyn pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd H O
Williams, bod y Times University Guide wedi canfod
lefel isel o foddhad myfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndwr, roedd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid wedi cysylltu â Phrifysgol Glyndwr i ofyn am
esboniad. Esboniodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd bod ymateb wedi ei dderbyn
a dosbarthwyd copi yn y cyfarfod. Esboniodd bod penderfyniad y Pwyllgor Craffu,
a gynhaliwyd ar 27ain Medi 2012, wedi ei anfon ymlaen at Gadeirydd y Panel
Adolygu Annibynnol. Hysbyswyd y Pwyllgor y gellid cyflwyno adroddiad diweddaru
pellach os gofynnir am hynny gan yr Aelodau. 6. Partneriaeth Diogelwch
Cymunedol – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd J Butterfield mewn
perthynas ag effaith y Comisiynwyr Heddlu newydd ar Blismona mewn cymunedau
lleol, gyda chyfeiriad arbennig at y gwrthdrawiad posibl rhwng rolau’r Heddlu a
Chomisiynydd yr Heddlu, cytunodd y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd ofyn am
esboniad mewn perthynas â’r pryderon a fynegwyd. Cyfeiriodd at y diweddariad ar
faterion yr Heddlu a ddarparwyd gan Reolwr y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol,
a gynhwyswyd fel Atodiad 4 i eitem rhif 9 ar y rhaglen. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn
y Cofnodion a’u cymeradwyo fel cofnod cywir. (ii) Cyflwynwyd cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 11eg Hydref,
2012. PENDERFYNWYD – derbyn a chymeradwyo’r
Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR AMDDIFFYN OEDOLION YN SIR DDINBYCH PDF 111 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm) o ran perfformiad blynyddol ynglŷn ag
Amddiffyn Oedolion mewn cydymffurfiad â Chanllawiau Statudol.
9.35
a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles yn
ymwneud â pherfformiad blynyddol ar Amddiffyn Oedolion yn cydymffurfio â
Chanllawiau Statudol, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn rhoi
gwybodaeth i alluogi adolygiad o’r cynnydd dros y deuddeg mis diwethaf, ac yn
sicrhau bod gofynion polisi amddiffyn oedolion yn rhan o agwedd gyffredinol y
gyfundrefn tuag at ddarparu a datblygu’r gwasanaeth. Y ddogfen bolisi allweddol mewn Amddiffyn Oedolion ar gyfer Sir
Ddinbych oedd Polisi a Chanllawiau Interim Cymru ar gyfer Amddiffyn Oedolion
Agored i Niwed, a oedd yn seiliedig ar y canllawiau â gyhoeddwyd gan Lywodraeth
Cymru ‘Mewn Dwylo Diogel’. Roedd Fforwm Gogledd Cymru yn monitro datblygiadau i
scrhau eu bod wedi eu hymgorffori mewn arferion presennol. Roedd ‘Mewn Dwylo
Diogel’ yn amlygu cyfrifoldeb Awdurdodau Lleol wrth gymryd y rôl arweiniol yn y
broses. Bu i’r Pennaeth Gwasanaethau
Oedolion a Busnes grynhoi cynnwys yr adroddiad, a oedd yn cynnwys materion
allweddol a meysydd gweithgaredd yn ymwneud ag Amddiffyn Oedolion 2010/11,
Hyfforddiant a ddarparwyd gan Sir Ddinbych mewn perthynas ag amddiffyn
oedolion, Dangosyddion Perfformiad a Chynllun Gweithredu Amddiffyn Oedolion
Agored i Niwed (POVA). Roedd datblygiadau diweddar yn cynnwys: ·
Ymgynghori ar Fesur
Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym Mawrth
2012. ·
Ystyried y posibilrwydd o gael
Cyd-bwyllgor Amddiffyn Oedolion gyda Chonwy. ·
Arolwg
Achos Difrifol a ymgymerwyd mewn perthynas ag achos dynes oedrannus a lofruddiwyd
gan ei gŵr. ·
Grŵp
Gorchwyl a Gorffen a oedd ar hyn o bryd yn ystyried opsiynau i argymell model
ar gyfer rheoli gwaith diogelu oedolion yn Sir Ddinbych yn y dyfodol. ·
Datblygu
Cynllun Gweithredu gan Bwyllgor Amddiffyn Oedolion Sir Ddinbych. Roedd yr Atodiadau i’r adroddiad yn cynnwys peth o’r data allweddol
ar gyfer gwaith amddiffyn oedolion agored i niwed yn Sir Ddinbych yn ystod y
flwyddyn. Derbyniodd Sir Ddinbych 244 atgyfeiriad er bod llawer o achosion yn
parhau ac roedd casglu data yn anghyflawn. Atodiad 1 – dangos y grwpiau
a effeithiwyd gan gamdriniaeth. Atodiad 2 – dangos y mathau o
gamdriniaeth yr oedd pobl yn ei dioddef. Atodiad 3 – manylu lle’r oedd y gamdriniaeth wedi digwydd. Atodiad 4 – adnabod y bobl yr
honnwyd eu bod yn gyfrifol am gamdrin. Atodiad 5 – dangos statws
honiadau. Atodiad 6 – dangos y
canlyniad i’r dioddefwr honedig. Atodiad 7 – dangos y
canlyniad i’r un a oedd yn camdrin. Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes i bryderon a
godwyd gan y Cynghorydd J.A. Davies ar yr angen i ddarparu llinell ofal
gyfrinachol i oedolion. Esboniodd bod taflenni a ddosbarthwyd ar ran Fforwm
Gogledd Cymru a oedd yn cynnwys rhif ffôn anghywir wedi cael eu galw’n ôl lle
bo modd, ac roedd rhif ffôn arall wedi ei roddi allan ac wedi ei restru ar eu
gwefan. Cytunodd yr Aelodau y dylid ystyried y posibilrwydd o ddarparu llinell
ofal i oedolion, ynghyd â manylion y costau dan sylw, yn cael ei archwilio. Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd J. Butterfield, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes
fanylion y Cynlluniau Byw yn y Gymuned a oedd yn rhedeg yn Sir Ddinbych a
chytunodd ystyried y posibilrwydd bod Aelodau’r Pwyllgor Craffu priodol yn
ymweld â detholiad o’r cynlluniau a oedd yn rhedeg ar hyn o bryd. Cyfeiriodd y Cynghorydd J R Bartley at Atodiad 3 yr adroddiad a mynegodd bryder ynglŷn â sgiliau’r heddlu a oedd yn delio â dioddefwyr gydag anabledd dysgu. Amlinellwyd manylion y cysylltiadau rhwng Uned Gwarchod y Cyhoedd a POVA, gan roddi sylw penodol at bresenoldeb yr Heddlu ar y Pwyllgor Diogelu Oedolion. Rhoddwyd cadarnhad bod yr Heddlu yn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
CYD-WASANAETH DYLETSWYDD MEWN ARGYFWNG Y TU ALLAN I ORIAU ARFEROL PDF 114 KB Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion
(copi ynghlwm) a oedd yn amlinellu cynnydd Tîm Dyletswydd Argyfwng
Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWEDT).
10.10 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes, yn amlinellu
cynnydd Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng Gogledd-ddwyrain Cymru (NEWEDT), wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyflwynodd y Pennaeth
Gwasanaethau Oedolion a Busnes yr adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth ar y
datblygiadau yn y gwasanaeth NEWEDT, yn enwedig mewn
perthynas â’r canlynol:- ·
Adborth o weithdy a gynhaliwyd
i Adolygu Model Gweithredol y Gwasanaeth. ·
Cais gan Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy i ddod yn aelod o’r NEWEDT. ·
Gwybodaeth a Systemau. ·
Adolygiad o Ganlyniadau
Gwasanaeth a Dangosyddion Perfformiad 2011-12 ·
Amcanion Gwasanaeth Allweddol
2012-13. Roedd NEWEDT yn cynnig gwasanaeth gwaith cymdeithasol mewn argyfwng,
wedi ei leoli a’i reoli yn Wrecsam, ar gyfer Siroedd Wrecsam, Sir y Fflint a
Sir Ddinbych yn ystod yr oriau pan roedd gwasanaethau prif ffrwd ar gau.
Esboniwyd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud cais i ddod yn Bartner
yn y NEWEDT. Roedd ffocws yr adolygiad o
Fodel Cyflawni Gweithredol y Gwasanaeth wedi ymgorffori strategaeth y
gwasanaeth; trefniadau llywodraethu; strwythur cyfundrefnol ac atebolrwydd
rheoli, gan gynnwys ystyried arbedion effeithlonrwydd posibl. Roedd pwyntiau
gweithredu a adnabuwyd gan yr adolygiad wedi eu cynnwys yn yr adroddiad ac yn
mynd rhagddynt. Ar ôl cytundeb gan Fwrdd Rheoli Gweithredol y Bartneriaeth, roedd
Ymgynghorydd wedi ei gyfweld a’i gomisiynu i gwblhau achos busnes ar ran yr
Awdurdodau Partner, a’r prif ffocws oedd ymarferoldeb cynnig i wneud y Bartneriaeth
bresennol yn fwy a dadansoddiad risg trwyadl. Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion ar Wybodaeth a Systemau,
Adolygiad o Ganlyniadau Gwasanaeth a Dangosyddion Perfformiad, Data
Perfformiad, Amcanion Gwasanaeth Allweddol 2012 -13 ac amlinelliad o’r broses
Ymgynghorol. Mewn ateb i gwestiwn ar
amserau ymateb a’r pellter a deithir i fynd i argyfwng, cadarnhaodd
Cydgysylltydd Rhanbarthol y Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng mai 45 munud fyddai’r
amser mwyaf i ymateb yn y Sir. Fodd bynnag, ymgymerwyd â gwaith gyda nifer o
Asiantaethau eraill a oedd yn darparu cymorth os oedd ei angen. Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes bod amserau ymateb mewn perthynas â
Meddygon yn gweithredu dan Adran 12 Deddf Iechyd Meddwl 1983 nawr wedi gwella. Amlygodd y Cynghorydd E.A.
Jones agwedd cydraddoldeb y broses a phwysigrwydd sicrhau amddiffyn hawliau
pobl sy’n agored i niwed. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes
bod staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu’r gwasanaeth. Hefyd, rhoddodd
amlinelliad o’r broses a fabwysiadwyd, y gellid, os oedd angen, ei chyflwyno
mewn ieithoedd eraill. Hysbyswyd y Pwyllgor o
drefniadau’r gwasanaeth argyfwng ar gyfer cyfnod y Nadolig, manylion yr hwn a
oedd wedi eu cynnwys ar y rhyngrwyd, a chytunwyd bod y rhif argyfwng yn cael ei
ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor. Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cynghorydd J.A. Davies, darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes
fanylion darparu hyfforddiant i aelodau staff, gyda chyfeiriad penodol at
ddarparu hyfforddiant i sicrhau hod staff yn adnabod problemau sy’n
gysylltiedig â iechyd meddwl. Ymatebodd y Swyddog
Gwasanaethau Democrataidd i gwestiwn gan y Cynghorydd J. Butterfield a rhoddodd
fanylion y broses o fabwysiadwyd ar gyfer delio â materion, pryderon ac
argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor. Ar ôl trafodaeth fer, fe:- BENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau:- (a) Yn derbyn a chydnabod
cynnwys yr adroddiad, a (b)
Bod y rhif ffôn argyfwng yn
cael ei ddosbarthu i Aelodau’r Pwyllgor. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU DIOGELU AR ÔL SIR BENFRO PDF 92 KB Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (copi ynghlwm) a
oedd yn amlinellu Cynllun Gweithredu Diogelu Plant yn dilyn adroddiad Sir
Benfro. 10.55
a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o gyd-adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a’r
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid, yn amlinellu Cynllun Gweithredu ar ôl
Sir Benfro, wedi ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Cwsmeriaid at fater diogelu plant a’r cyhoeddusrwydd arwyddocaol
yn ymwneud ag achosion Jimmy Savile a Bryn Estyn. Cyflwynodd yr adroddiad a oedd yn amlinellu
canfyddiadau cyd-archwiliad AGGCC ac Estyn mewn perthynas â thrin a rheoli
honiadau o gamdriniaeth broffesiynol a’r trefniadau ar gyfer diogelu ac
amddiffyn plant yn y gwasanaethau addysg yn Sir Benfro. Nododd yr adroddiad
fethiannau arwyddocaol gan yr Awdurdod o ran diogelu plant a chyflwynodd gyfres
o ofynion. Roedd Cyd-adolygiad wedi ei wneud i ystyried cynnydd a gwneud
argymhellion pellach. Roedd yr adroddiadau hyn yn nodi methiannau ac yn gwneud
argymhellion yn y meysydd canlynol:- Recriwtio Cadw cofnodion Prosesau, polisïau a gweithdrefnau Hyfforddiant Adrodd a chraffu Roedd materion penodol eraill wedi eu hamlygu wedyn a oedd yn
ymwneud ag ystafelloedd “seibiant” yn ysgolion Sir Benfro, ac esboniwyd bod gan
Sir Ddinbych bolisi cyffredin mewn ysgolion uwchradd ar ‘Ddefnyddio Grym
Rhesymol ac Ymyriad Corfforol Cyfyngol’. Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan
y Cynghorydd E.A. Jones, esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid bod
y polisi wedi ei anfon at ysgolion uwchradd gyda’r nod bod y polisi, neu
fersiwn derbyniol ohono, yn cael ei fabwysiadu gan holl gyrff llywodraethol
ysgolion uwchradd erbyn y Pasg 2013. Cadarnhaodd mai cyfrifoldeb yr ysgolion
fyddai sicrhau bod ganddynt fersiwn derbyniol a gytunwyd o’r polisi. Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol amlinelliad o bwrpas a defnydd ystafelloedd
“seibiant” yn ysgolion Sir Ddinbych a rhoddodd sicrhad bod disgyblion yn cael
eu goruchwylio wrth ddefnyddio
cyfleusterau’r ystafelloedd “seibiant”.
Roedd yr arfer yn Sir Ddinbych ac Awdurdodau eraill yng Nghymru wedi
eu harchwilio a’u hadolygu mewn perthynas â chanfyddiadau ac argymhellion y
ddau adroddiad, ac roedd camau i wella wedi eu hychwanegu at Gynllun Gweithredu
Diogelu, Atodiad 1 i alluogi monitro cynnydd yn gorfforaethol. Roedd yr adroddiad yn manylu'r camau a gymerwyd gan Sir Ddinbych
mewn ymateb i ganfyddiadau’r Arolygiaeth yn Sir Benfro ac roedd yn rhoi
gwybodaeth ar weithredu camau yn y Cynllun Camau Diogelu Corfforaethol i
fonitro cynnydd. Roedd yn arfarnu trefniadau craffu Bwrdd Diogelu Plant Lleol
Conwy a Sir Ddinbych ac yn delio â materion mwy cyffredinol ynghyd â phwyntiau
polisi a gweithdrefn. Esboniodd bod rhai materion a godwyd yn y Cynllun
Gweithredu Diogelu yn well o gael eu trin gan y Bwrdd Diogelu Lleol, ac roedd y
strwythur ar gyfer craffu ar drefniadau diogelu wedi ei amlinellu. Roedd Cynllun Gweithredu Diogelu Sir Ddinbych wedi ei ddatblygu wrth
i faterion eraill godi neu gael eu codi yn genedlaethol, gyda chynnydd yn cael
ei yrru trwy’r Tîm Rheoli Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg. Nid oedd y
trefniadau wedi disodli rhai’r Bwrdd Diogelu Lleol ond roeddynt wedi eu dylunio
i sicrhau ffocws priodol ar Sir Ddinbych fel cyfundrefn gorfforaethol gymhleth
aml-swyddogaethol. Roedd nifer o bwyntiau a meysydd
allweddol wedi eu hamlygu yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud ag: ·
Archwiliadau CRB/geirda a Pholisïau AD ynghyd â chyrff Diogelu a Thrydydd
Sector. ·
Polisïau a Gweithdrefnau Diogelu. ·
Camau cyflogaeth. ·
Llywodraethwyr ysgol. ·
Adrodd i Fwrdd Lleol Diogelu Plant. ·
Rhestr Wirio Archwilio Diogelu Ysgolion. ·
Llywodraethwyr Ysgol gyda chyfrifoldeb am ddiogelu. ·
Ymyraethau Cyfyngol / Ystafelloedd Seibiant mewn Ysgolion / Sefydliadau. Mewn perthynas ag Archwiliadau CRB, Geirda a Pholisïau AD ynghyd â Diogelu a cyrff Trydydd Sector, cadarnhawyd bod archwiliadau CRB yn cael eu gwneud yn gyson gan Sir Ddinbych, gan gynnwys gwirfoddolwyr a oedd yn gweithio’n uniongyrchol â phlant, ac roedd cynnydd manwl ar y gwaith hwn wedi ei gynnwys yn y Cynllun Gweithredu. Cyfeiriwyd at effaith Deddf Amddiffyn ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
CYNLLUN CYFIAWNDER IEUENCTID STRATEGOL TAIR BLYNEDD PDF 116 KB Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm) sy’n manylu ar gefndir, diben a bwriadau’r
Cynllun Gwasanaeth Ieuenctid Strategol, a darparu’r drafft terfynol y bwriedir
ei gyflwyno i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a’i gyhoeddi a’i ddosbarthu
wedyn.
11.30 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles, a oedd
yn manylu cefndir, pwrpas a bwriadau’r Cynllun Gwasanaeth Ieuenctid Strategol,
ac yn cyflwyni’r drafft terfynol i’w gyflwyno i’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid
a’i gyhoeddi a’i ddosbarthu wedi hynny, wedi ei gylchlythyru gyda’r papurau ar
gyfer y cyfarfod. Mae’r Bwrdd Cyfiawnder
Ieuenctid yn goruchwylio’r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr ac
yn gweithio i rwystro troseddu ac ail-droseddu gan blant a phobl ifanc dan 18
oed. Mae’n monitro ac yn adrodd ar berfformiad y systemau cyfiawnder ieuenctid
i’r Gweinidog Cartref trwy Gynlluniau Cyfiawnder Ieuenctid Strategol a
gyflwynir bob blwyddyn gan bob Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a thrwy gasglu
data perfformiad. Mae Timau Rhanbarthol y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn derbyn
cyflwyniad y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid. Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth
Ieuenctid Strategol amlinelliad o’r adroddiad a oedd yn amlygu’r meysydd
allweddol canlynol:- - agweddau gweithredol a swyddogaethol
y gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol. - Blaenoriaethau lleol:- ·
Cwsmeriaid syflaenol ·
Cyflwyno gwasanaeth ar gyfer Sir Ddinbych a Chonwy. - Blaenoriaethau strategol ar
gyfer y 3 blynedd nesaf:- ·
Sut mae’r blaenoriaethau yn helpu cyflawni Uchelgeisiau Strategol a rolau
craidd y Cyngor. ·
Canlyniad ac amcanion
cyflawniad llwyddiannus blaenoriaethau. - Amcanion gweithredol a gytunwyd ar gyfer 2012-15, sef
blaenoriaethau pellach â thema yn adran 3 y cynllun gweithredol. Rhoddwyd crynodeb manwl o’r tair adran yng Nghynllun Busnes
Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych 2012-2015 gan Reolwr Strategol y
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Cyfeiriodd yn benodol at y chwech Dangosydd
Perfformiad allweddol a oedd yn manylu: ·
Newydd-ddyfodiaid tro cyntaf ·
Medru cyrchu llety addas. ·
Collfarnau gwarchodol. ·
Cyfraddau ail-droseddu. ·
Cyfranogiad mewn Addysg,
Hyfforddiant a Chyflogaeth. ·
Camddefnyddio Sylweddau
(Gwasanaethau Asesu a Thrin). Rhoddwyd yr ymatebion canlynol
i gwestiynau a materion a godwyd gan yr Aelodau:- - Nid oedd y newidiadau yn y
Gwasanaeth Prawf wed cael effaith andwyol ar gyflwyno’r Gwasanaeth Plant a
Theuluoedd. Fodd bynnag, byddai unrhyw effaith yn y dyfodol yn cael ei hadrodd
i’r Aelodau. - Roedd y Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid yn cael ei fonitro trwy’r chwech Dangosydd Perfformiad
Allweddol, gyda phob aelod staff yn cael mewnbwn i’r system cofnodi data ar ôl
ymgymryd ag asesiadau cynhwysfawr. Rhoddwyd amlinelliad o’r broses graffu
drylwyr i’r Pwyllgor. - Darparwyd manylion
Cyfranogiad mewn Addysg, Hyfforddiant a Chyflogaeth ac amlinellodd Rheolwr
Strategol y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid waith y ddau Swyddog Addysg a
gyflogwyd yn y gwasanaeth. Cadarnhawyd bod asesiadau risg priodol yn cael eu
hymgymryd mewn achosion lle cafwyd problemau ynglŷn ag ymddygiad. - Roedd holl aelodau staff y gwasanaeth wedi cael archwiliad CRB ac
roedd gwirfoddolwyr yn cael archwiliadau CRB manylach. Esboniwyd y byddai
goblygiadau’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn effeithio pob cyfundrefn a
byddai hyn yn cael ei adlewyrchu yn adroddiad y flwyddyn nesaf. - Esboniwyd bod problemau
ariannu yn cynrychioli’r bygythiad mwyaf i’r gwasanaeth ac amlinellwyd manylion y ffynhonnell
ariannu, a phroblemau cysylltiedig, i’r Pwyllgor. - Esboniodd y Rheolwr
Strategol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid bod Cofrestr Risg yn cael ei chadw a
bod Cynllun Gweithredu at y dyfodol yn cael ei ddatblygu. Cadarnhawyd nad oedd
modd darogan newidiadau i’r gwasanaeth a’i bod yn anodd cynllunio ar ei gyfer
gyda newidiadau i’r system remánd yn cael goblygiadau ariannol posibl i
Awdurdodau Lleol, gyda chyfeiriad penodol
at ddefnydd ysbeidiol gwasanaethau yn arwain at gostau gweithredu uwch
i’r darparwr gwasanaeth. - Amlinellwyd manylion
darpariaeth llety a goblygiadau cyllidebol cysylltiedig gan Bennaeth y
Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. Mewn ateb i gwestiwn gan y Cadeirydd,
amlinellodd y swyddogion y trefniadau a fodolai i sicrhau diogelwch plant yn y
ddalfa a rhwystro achosion o hunan-niweidio. Ar ôl trafodaeth fer, fe:- BENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Craffu Partneriethau yn derbyn a chydnabod adolygiad Cynllun ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
Rhaglen waith craffu PDF 103 KB Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn
ceisio adolygiad o flaen raglen waith y pwyllgor a rhoi gwybod i’r aelodau am y
materion perthnasol diweddaraf. 12:05pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Roedd
copi o adroddiad gan y Swyddog Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn i’r Pwyllgor
adolygu ei Flaenraglen Waith ac yn rhoi diweddariad ar faterion perthnasol wedi
ei ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod. Roedd Blaenraglen Waith y
Cabinet wedi ei chynnwys fel Atodiad 2 i’r adroddiad. Partneriaeth Diogelwch Cymunedol:- (i) – Darpariaeth teledu cylch cyfyng – fel y cytunwyd yng
nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor, gofynnwyd am esboniad yng nghyfarfod y Tîm
Gweithredol Corfforaethol ar nifer o gwestiynau a godwyd mewn perthynas â
darpariaeth teledu cylch cyfyng Sir Ddinbych. Derbyniwyd diweddariad ar y
materion a drafodwyd yn y cyfarfod ac roedd y prif bwyntiau wedi eu crynhoi yn
Atodiad 3 i’r adroddiad. Cytunodd yr Aelodau bod y Pwyllgor Craffu yn ystyried
yr eitem hon yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2013, pe byddai cyfarfod Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael ei ad-drefnu. (ii) Materion ynglŷn â’r Heddlu wedi eu cyfeirio i Grŵp
Gweithredu’r Heddlu – Roedd nifer o faterion yn ymwneud â chyfraith a threfn
wedi eu codi ac roedd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi dweud y
cawsai’r rhain eu cyfeirio at Grŵp Gweithredu’r Heddlu. Roedd ymateb gan Reolwr y Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol wedi ei gynnwys yn Atodiad 4. Dosbarthwyd copi o ffurflen gynnig ar gyfer eitemau ar raglen
Pwyllgorau Craffu, yn gofyn am gynnwys eitem yn ymwneud â Strategaeth Wybodaeth
ac Ymgynghori Gofalwyr Gogledd Cymru yn y cyfarfod. Cytunodd yr Aelodau bod yr
eitem hon yn cael ei chynnwys ar y Flaenraglen Waith i’w hystyried yng
nghyfarfod y Pwyllgor ar 13eg Ionawr, 2013. Ystyriodd
y Pwyllgor y Flaenraglen Waith ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol fel y manylwyd
yn Atodiad 1. Cytunodd yr Aelodau bod y newidiadau canlynol yn cael eu cynnwys
yn y flaenraglen waith ar gyfer y Pwyllgor:- 29ain Tachwedd 2012 – Mewn
perthynas â chyfarfod y Pwyllgor Craffu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr ar 29ain Tachwedd 2012, gofynnwyd i’r Aelodau gyflwyno unrhyw ymholiadau
cyffredinol ar y GIG i’r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, cyn 13eg Tachwedd
2012, i alluogi eu hanfon ymlaen at y Bwrdd Iechyd. Cytunodd y Pwyllgor, gan
fod eitemau yn ymwneud â’r Potensial i gael Darpariaeth Gofal Dydd
Gydweithredol mewn perthynas ag ardaloedd gwledig y Sir ac Ymddygiad Heriol a’i
effaith ar wasanaethau’r Cyngor yn ymwneud â’r Bwrdd Iechyd, y dylid ystyried y
posibilrwydd o’u cynnwys ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod gyda’r Bwrdd Iechyd
ar 29ain Tachwedd 2012. 25ain Ebrill 2013 – Adroddiad
Galluogrwydd Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed. PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod,
bod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau yn cymeradwyo’r Flaenraglen Waith fel y
nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 1.15
p.m. |