Rhaglen
Lleoliad: County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
RHAN 1 - GWAHODDIR Y WASG A'R CYHOEDD I'R RHAN HON O'R CYFARFOD |
|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGANIAD O FUDDIANNAU Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiant personol neu niweidiol
mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. |
|
MATERION BRYS YN ÔL CYTUNDEB Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 166 KB I dderbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar Orffennaf 12fed 2012 (copi’n atodol). |
|
ADOLYGIAD O ADDYSG UWCH YNG NGOGLEDD DDWYRAIN CYMRU PDF 71 KB I ystyried
adroddiad (copi’n amgaeedig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor roi sylwadau ac arsylwadau
a fydd yn hysbysu cyflwyniadau Cyngor Sir Ddinbych i’r Panel Adolygu Annibynnol
a sefydlwyd i adolygu darpariaeth addysg uwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Dogfennau ychwanegol: |
|
Ar gyfer eitem fusnes 6 bydd y Pwyllgor yn eistedd fel Pwyllgor Craffu dynodedig Trosedd ac Anhrefn yn unol â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 ss.19 a 20 |
|
PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL PDF 87 KB I dderbyn adroddiad (copi’n amgaeedig) gan y Rheolwr
Diogelwch Cymunedol sy’n nodi’r cynnydd a wnaethpwyd gyda chyflenwi Cynllun
Gweithredu’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol 2011/12, ac yn gwahodd y Pwyllgor
i roi sylwadau ar allu’r Bartneriaeth i gyflenwi gweddill y cynllun statudol
tair blynedd. Dogfennau ychwanegol: |
|
TORIAD |
|
PROSIECT CANOLBWYNT GWASTRAFF BWYD GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU PDF 95 KB I ystyried a rhoi sylwadau ar adroddiad (copi’n amgaeedig)
gan y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd Prosiect
Gwastraff Bwyd Canolbwynt Gogledd Ddwyrain Cymru ag oblygiadau posibl y newid
yn y cynigydd dewisol ar y prosiect. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD LLEOL DIOGELU PLANT (BLlDP) CONWY A SIR DDINBYCH PDF 89 KB I ystyried ac i graffu Adroddiad Blynyddol Bwrdd Lleol
Diogelu Plant 2011-12, rhoi arsylwadau ar lywodraeth a threfniadau ariannol y
Bwrdd a monitro cynnydd yn erbyn blaenoriaethau allweddol Bwrdd Lleol Diogelu
Plant. Fe roddir diweddariad hefyd ar
ddatblygiadau a wnaethpwyd yn erbyn y Cynllun Busnes ar gyfer 2012-13 yn
chwarter cyntaf y flwyddyn (Ebrill – Mehefin 2012) a gwahoddir y Pwyllgor i
wneud argymhellion fel y bo’n briodol. Dogfennau ychwanegol: |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 94 KB I ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi’n
amgaeedig) yn ceisio adolygiad o flaenraglen waith y pwyllgor ac yn diweddaru
aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol: |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR I dderbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor
ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor. |
|
RHAN 2 - EITEMAU CYFRINACHOL Dim eitemau. |