Agenda and minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes i’w
drafod yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni fynegwyd
unrhyw fuddiannau personol neu fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes. |
|
MATERION BRYS Y CYTUNWYD ARNYNT GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn
y cyfarfod fel materion brys dan
Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol ,1972. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 162 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 31ain Mai 2012 (copi ynghlwm). Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 31 Mai
2012. PENDERFYNWYD y dylid derbyn a
chymeradwyo’r Cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Ystyried adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Oedolion a Busnes a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried y gofyniad i gael cynllun a gytunwyd ar gyfer darparu Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol yn unol â’r ddeddfwriaeth, a’r trefniadau i ddatblygu a chytuno cynllun rhanbarthol i’r diben hwn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes (HABS) adroddiad (a ddosbarthwyd o
flaen llaw) i’r Pwyllgor gael gytuno ar gynllun ar y cyd ar gyfer darparu
Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) yng Ngogledd Cymru,
yn ôl gofynion Rhan 1 Mesur
Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Cyflwynodd HABS Gyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygiad
Partneriaeth Cymunedol, BCUHB, (AD:CPD) Wyn Thomas a oedd yn arwain y cynllun
ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) a Phennaeth Gwasanaethau
Plant a Theulu (HCFS) a oedd hefyd yn ymwneud â’r cynllun.
Rhoddodd AD:CPD grynodeb o’r adroddiad. Nid oedd y Mesur yn ymdrin â derbyn
a thrin pobl yn orfodol, ond yn hytrach yn ymdrin â phrosesau asesu a derbyn
gofal a thriniaeth o fewn gwasanaethau iechyd sylfaenol ac eilaidd. Roedd y
Mesur i fod i gryfhau rôl gofal sylfaenol
gyda’r gwaith o ddarparu gofal a thriniaeth iechyd meddwl effeithiol ac
yn nodi’r gofyniad y byddai LPMHSS yn cael ei ddarparu trwy Gymru erbyn Hydref
2012. Roedd y Mesur
mewn pedair rhan:- Rhan 1 –
Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS) (Hydref 2012) Rhan 2 – Cydlynu
gofal a chynllunio gofal a thriniaeth (Mehefin 2012) Rhan 3 –
Asesiadau o gyn-ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl (Mehefin 2012) Rhan 4 –
Eiriolaeth Iechyd Meddwl (Ionawr ac Ebrill 2012). Roedd yr
adroddiad a gyflwynwyd yn ymwneud â Rhan 1 o’r Mesur. Roedd Awdurdodau
Lleol ar draws Gogledd Cymru yn cyd-weithio gyda BCU ar y Mesur hwn. Codwyd
nifer o gwestiynau ar agweddau amrywiol o’r wybodaeth a gyflwynwyd o fewn yr
adroddiad gan aelodau, ac ymatebodd swyddogion fel a ganlyn:- Ø
Rhoddodd AD:CPD esboniad ynghylch lefelau staffio. Roedd
y strwythur eisoes yn ei le yng Nghonwy a Sir Ddinbych i gynorthwyo gyda’r
Mesur, ond nid dyna’r sefyllfa yng Ngwynedd.
Roedd y canllawiau yn nodi bod angen 1 gweithiwr i bob 20,000 o
boblogaeth. Felly nid oedd Conwy a Sir Ddinbych angen nifer fawr o staff newydd
gan fod y model angenrheidiol i bob pwrpas eisoes ar fod; fodd bynnag, roedd
Gwynedd angen nifer o staff newydd. Ø
Cadarnhaodd
AD:CPD bod ymgynghoriad wedi digwydd gyda rhanddeiliaid amrywiol ynghylch y
Mesur yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys rhai defnyddwyr gwasanaeth, ac roedd
gweithrediad arfaethedig Gogledd Cymru wedi’i gynnwys fel rhan o’r
ymgynghoriad. Roedd y Cynllun drafft a’i weithrediad yn ofyniad deddfwriaeth
Llywodraeth Cymru (LlC) ac roedd LlC wedi datblygu model gwasanaeth
cenedlaethol ar LPMHSS. Roedd rhai defnyddwyr gwasanaeth yn aelodau o’r Bwrdd
Prosiect ac felly byddai modd pasio unrhyw wybodaeth ymlaen o’r cyfarfodydd
hynny. Roedd y posibilrwydd o
ymgynghoriad ymhellach gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cael sylw, ac roedd
adolygiad llawn ar y gweill. Byddai’r Cynllun ei hunan yn cael ei adolygu yn
chwarterol gan Iechyd Meddwl Cydweithredol Gogledd Cymru. Ø
Nododd
Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theulu (HCFS) ei fod o brofiad yn ymwybodol bod
defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn rhan o’r broses gyffredinol o lunio’r
cynllun. Ø
Roedd
pwyslais y Cynllun ar ymyrraeth gynnar, gyda’r nod o atal defnyddwyr gwasanaeth
rhag cael eu derbyn i ofal; byddai elfen o unrhyw gynlluniau gofal a luniwyd yn
cynnwys cyfranogiad aelodau teulu agos a gofalwyr y defnyddwyr gwasanaeth, yn
unol â Rhan 2 o’r Mesur. O
bryd i’w gilydd, nid oedd rhai defnyddwyr gwasanaeth am i aelodau o’r teulu fod
yn rhan o’r broses. Ar y llaw arall, roedd rhai defnyddwyr gwasanaeth yn
teimlo’u bod yn gallu ymdopi’n well pe byddai aelodau o’r teulu yn cael chwarae
rhan weithredol. Roedd y gofal gorau yn
broffesiynol, ond hefyd yn cynnwys cefnogaeth teulu gan mai’r teulu fyddai’n
sylwi ar newidiadau gyda’r defnyddiwr gwasanaeth, waeth pa mor fach fyddai’r
newidiadau hynny’n aml. Ø Nododd AD:CPD y dylai’r ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y BROSES TENDRO A DYFARNU I ARIAN RHAGLEN TEULUOEDD YN GYNTAF O EBRILL 2012 PDF 105 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu a Gwerthuso (Tîm
Partneriaethau a Chymunedau) (copi’n amgaeëdig) sy’n amlinellu’r prosesau a
ymgymerwyd i gomisiynu gwasanaethau i gefnogi Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn
Sir Ddinbych a gofyn am farn y Pwyllgor ar y prosesau a’r penderfyniadau a
argymhellwyd hyd yma. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio a Pherfformiad Busnes (HBPP) adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen
llaw) yn rhoi gwybodaeth fanwl i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ynghylch y
broses tendro a dyfarnu ar gyfer comisiynu gwasanaethau i gefnogi’r Rhaglen
Teuluoedd yn Gyntaf yn Sir Ddinbych, ac i hysbysu’r Pwyllgor o’r sefyllfa
gyfredol mewn perthynas â chomisiynu Projectau Strategol Teuluoedd yn Gyntaf
i’r cyfnod ariannol 2012 - 2014. Rhoddodd HBPP
ychydig o’r cefndir i’r broses. Yn 2011/2012 derbyniwyd arian oddi wrth Cymorth ac roedd y dull ar gyfer
dosbarthu’r arian wedi’i benderfynu gan bartneriaid Bwrdd Rhaglen
Partneriaethau Strategol Plant a Phobl Ifanc (CYPSPPB); mae Cyngor Sir Ddinbych
yn bartner arweiniol ar y bwrdd hwn.
Rhoddwyd y mwyafrif o’r arian ar ffurf grantiau bach i grwpiau, gyda
nifer ohonyn nhw wedi defnyddio’r arian yn llwyddiannus. Fodd bynnag, roedd
2011/2012 yn flwyddyn bontio rhwng y cyn-arian Cymorth a’r fenter Teuluoedd yn
Gyntaf newydd. Ar y cychwyn cyntaf, hysbyswyd y prosiectau a geisiodd yn
llwyddiannus am arian yn 2011/2012 y
byddai’r arian yn dod i ben ar ddiwedd Mawrth 2012. O ganlyniad, roedd yr holl
fudiadau wedi cael eu hannog a’u cynorthwyo i ddatblygu strategaeth ymadael i’w
cynorthwyo i reoli’r newidiadau a fyddai’n eu hwynebu. Roedd Llywodraeth Cymru
wedi monitro’n agos yr arian a ddosbarthwyd dros y blynyddoedd, ac roedd
rheolau’r fenter Teuluoedd yn Gyntaf newydd yn nodi’n glir ac amlwg mai pwrpas
unrhyw arian a ddosbarthwyd yn y dyfodol fyddai mynd i’r afael â thlodi plant a
chefnogi teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed. Yn y gorffennol, bu’n anodd iawn
monitro nifer mwy o fudiadau a oedd wedi derbyn arian, ac roedd hynny wedi
achosi problemau mawr. Fel y partner arweiniol, gwaith Sir Ddinbych oedd trosglwyddo o le gwariwyd
yr arian dros y 5 mlynedd diwethaf i flaenoriaethau newydd. Roedd hyn wedi bod yn waith anodd a dadleuol
iawn. Roedd yn golygu na allai rhai mudiadau bellach geisio am arian gan nad
oeddynt yn bodloni’r meini prawf. Er
mwyn bodloni meini prawf y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, roedd yn rhaid i
geisiadau arddangos y byddent yn cefnogi’r gwaith o wireddu Deilliant 4 o
Gynllun Integredig y Bwrdd Gwasanaeth lleol, sef y Cynllun MAWR, sef “bod
teuluoedd sy’n agored i newid yn Sir Ddinbych yn cael eu cefnogi i fyw bywyd
heb dlodi, lle y gallant ffynnu a bod yn annibynnol.” Roedd CYPSPPB
wedi sefydlu Bwrdd Prosiect aml-asiantaeth i reoli a chomisiynu ceisiadau am
arian. Roedd wedi penderfynu ar y naw ffrwd ariannu a fyddai’n helpu gwireddu’r
deilliant uchod. Roedd y Bwrdd hefyd
wedi penderfynu defnyddio proses dendro ar gyfer dyrannu’r arian. Roedd meini
prawf eglur o’r hyn oedd yn cael ei wneud a sut oedd yr arian i gael ei
ddosbarthu. Rhoddwyd cefnogaeth a gwybodaeth hefyd i ddarparwyr potensial i’w
cynorthwyo gyda’r broses dendro. Derbyniwyd nifer
fawr o dendrau, ac yn y pen draw, allan o 9 thema/elfen, comisiynwyd 7 gyda’r
rheiny yn eu lle erbyn Ebrill 2012. Nid oedd modd comisiynu elfennau gwasanaeth Cefnogi Teulu ac Anabledd ar y pryd, gan nad oedd y Panel yn sicr y gallai’r tendrau a dderbyniwyd ddarparu’r hyn oedd ei angen. O ganlyniad, penderfynwyd ail-dendro’r elfen Cefnogi Teulu fel bod modd uwchraddio graddfeydd gwasanaethau gan y byddai’r elfen hon yn parhau am 3-4 blynedd. Roedd arian ar gael ar gyfer cynnal gwasanaethau hyd nes bod gwasanaeth newydd yn ei le ym Medi 2012. Byddai’r arian hwn, a’r cytundeb lefel gwasanaeth ar waith gyda Homestart Sir Ddinbych yn cynorthwyo gyda baich achosion a’r gwaith o weithio trwy’r broses bontio. Byddai cleientiaid cymwys yn cael eu symud i wasanaethau newydd yn dilyn cadarnhad y tendr llwyddiannus. Roedd y broses gyfan wedi bod ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADRODDIAD TAITH I WAITH PDF 122 KB Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Rhanbarthol, Taith i Waith
(copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried a gwneud sylwadau ar
gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor, amodau a thelerau Cyllid
Ewropeaidd a materion cysylltiedig eraill mewn perthynas â’r prosiect
rhanbarthol hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Rhanbarthol Taith i Waith (RM) adroddiad (dosbarthwyd o
flaen llaw), gan ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor ynghylch y Prosiect Taith i
Waith. Yn y cyfarfod, dosbarthwyd
gwybodaeth bellach i aelodau ar
berfformiad y Prosiect, ei broffil gwariant a’i fesurau rheoli risg. Cyflwynodd RM gyd-weithwyr a oedd hefyd yn
bresennol:-
Mae’r prosiect Taith i Waith wedi ei anelu at gefnogi pobl sydd, drwy ystod
o anfanteision, yn economaidd anweithgar neu’n ddi-waith. Mae’r prosiect yn
cwmpasu ardaloedd y pedwar awdurdod lleol sef Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a
Gwynedd (rhan o’r ardal Amcan 1 flaenorol a bellach rhan o’r ardal sy’n gymwys
i dderbyn arian Cydgyfeirio) gyda Sir Ddinbych fel y Prif Noddwr. Rhoddodd RM wybodaeth i’r Pwyllgor ynghylch
cyd-destun y prosiect, beth oedd nod Taith i Waith a beth oedd y gobaith o ran
deilliannau. O fewn Sir
Ddinbych, roedd £4,160,000 wedi’i
sicrhau o Gyllid Cymdeithasol Ewropeaidd a £2,906,000 o arian cyfatebol. Roedd
Cytundeb Partneriaeth ar waith i sicrhau fod y prosiect yn cydymffurfio gyda
rheolau Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Nod y prosiect yw lleihau anweithgarwch economaidd a gwella lefelau gwaith
a lefel sgiliau unigolion. Mae wedi cynorthwyo pobl i ddymchwel rhwystrau a
chyflawni targedau o ran cyflogaeth gynaliadwy. Mae gan Taith i Waith gytundeb gyda
Chanolfan Byd Gwaith sy’n golygu bod Taith i Waith ar ben y rhestr cynigion o
waith. Mae Taith i Waith
yn adrodd i:-
Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, dywedodd swyddogion:- Ø
bod
dylanwad “Rhaglen Waith” yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi golygu bod y
prosiect wedi gorfod ail-lunio ei ganlyniadau a’i wariant. Ø
bod y
prosiect hefyd yn cyd-fynd gyda nifer o flaenoriaethau adfywio a blaenoriaethau
eraill y Cyngor, e.e. Y Rhyl yn Symud Ymlaen a Strategaeth Dinas Y Rhyl, a
thros y misoedd diweddar, bod y prosiect wedi bod yn weithgar yn ne’r sir yn
ogystal â’r gogledd. Ø
er
bod elfen o risg barhaol y gallai WEFO hawlio nôl peth o’r ariannu grant, roedd swyddogion WEFO yn awyddus i bwysleisio
bod modd lleihau’r risg cyn belled ag y gallai’r Prosiect arddangos gyda data
bod holl gamau rhesymol wedi’u cymryd i wireddu amcanion yr ariannu, h.y.
darparu canlyniadau gwell i unigolion; Ø
roedd strategaeth ymadael yn cael ei datblygu ar hyn o
bryd yn barod ar gyfer cyfnod atal yr arian yng ngwanwyn 2014, gan fod cryn
ansicrwydd ynghylch beth yn union fyddai’n dod yn ei le. Yn dilyn
trafodaeth fanwl:- Penderfynwyd:- (a)
yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y
Pwyllgor yn fodlon bod cydymffurfio yn digwydd gyda’r holl feysydd a restrir ym
mharagraff 3 o’r adroddiad; a (b)
bod Rheolwr Rhanbarthol Taith i Waith yn
adrodd nôl
i’r Pwyllgor ym Mehefin 2013 ar hynt y Prosiect o ran darparu canlyniadau
cynaliadwy cadarnhaol i drigolion y sir ac i’r Cyngor ei hunan fel prif noddwr
y prosiect. |
|
CYDWEITHIO RHANBARTHOL AR DDATBLYGIAD ECONOMAIDD PDF 84 KB Ystyried adroddiad
gan y Rheolwr Adfywio Strategol (copi’n amgaeëdig) yn gofyn i’r
Pwyllgor gefnogi datblygu strategaeth i wella perfformiad
economaidd Gogledd Cymru a sefydlu Bwrdd i oruchwylio
cyflawniad y strategaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Adfywio Strategol (SRM) adroddiad (dosbarthwyd o flaen
llaw) yn amlinellu datblygiad strategaeth i ymdrin â pherfformiad cymharol
economi Gogledd Cymru mewn cymhariaeth gyda rhannau eraill o Gymru a’r DU, a
sefydliad Bwrdd gan chwe awdurdod unedol y rhanbarth a fydd yn arolygu
gweithrediad y strategaeth. Roedd gan economi Gogledd Cymru lefel isel o
gynhyrchiant (71% o gyfartaledd y DU), lefelau isel o ran sefydlu busnesau
newydd a lefelau uchel o ddiweithdra ymhlith ieuenctid. Roedd yr adroddiad yn edrych ar sut oedd y chwe awdurdod unedol yn ymwneud
â rhanddeiliaid eraill a’r sector gwirfoddol.
Roedd cynnig i gael siarter fusnes ac i adfywio’r ymagwedd at
fewnfuddsoddiad. Roedd tair thema
wedi codi o’r gweithdai a’r trafodaethau a gynhaliwyd ar draws y rhanbarth, ac
roedd cynnig i ganolbwyntio ar y themâu hyn a’u hymgorffori mewn cynllun gweithredu. Dyma’r themâu:-
Tasg gyntaf y
Bwrdd fyddai datblygu Cynllun Busnes, ac wrth gyd-weithio, byddai gan y chwe
awdurdod lais cryfach ac unedig. Yn
nhermau symud y gwaith yn ei flaen, roedd yr adroddiad i’w gyflwyno i’r Cabinet
ar 17 Gorffennaf 2012. Roedd y pum
awdurdod lleol arall hefyd yn cyflwyno eu hadroddiadau gerbron eu Cabinetau
amrywiol. Byddai Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cynnwys aelodau
etholedig o bob awdurdod; roedd hi’n ymddangos mai deilydd y portffolio gyda
chyfrifoldeb am adfywio fyddai’r aelod mwyaf priodol i wasanaethau ar y
Bwrdd. Byddai disgwyl i bob aelod Cyngor
ar y Bwrdd gyfathrebu gwybodaeth ar waith a thrafodaethau’r Bwrdd i’w hawdurdod
eu hunain. Pe byddai Cyngor Sir Ddinbych, wrth benderfynu ar ei flaenoriaethau
corfforaethol i dymor y Cyngor newydd yn penderfynu bod uchelgais economaidd yn
mynd i fod yn un o’i flaenoriaethau, byddai’n debygol o sefydlu bwrdd rhaglen
fewnol, ac mae’n bosibl y gallai aelodau craffu wasanaethu ar y bwrdd mewnol
hwnnw. Cododd yr Is-Gadeirydd gwestiwn, sef a oedd modd ystyried Parc Busnes
Llanelwy yn llwyddiant. Nododd ei bod yn ymddangos bod hanner yr unedau busnes
yn wag a bod 50,000 metr sgwâr o ofod ar gael i’w osod. Roedd cwmnïau yn wreiddiol wedi symud i’r
parc ar ôl cael eu denu gan arian grant, ond pan ddaeth yr arian grant i ben,
roedd rhai cwmnïau wedi adleoli. Roedd angen dirfawr i annog cwmnïau preifat i
ymsefydlu yn yr ardal, i annog sefydliad a thwf busnesau lleol a hybu cyfleoedd
gwaith i bobl ifanc. Cadarnhaodd y SRM
y byddai’r ymagwedd a oedd yn cael ei chynnig yn ymdrin â’r materion canlynol:-
Cytunodd y Pwyllgor ei fod am weld ymagwedd holistig yn cael ei datblygu at
ddatblygiad economaidd, a oedd yn ystyried anghenion lleol, edrych ar seilwaith
y rhanbarth, y sgiliau sydd ar gael, a’r cyfleoedd sydd ar gael er mwyn
adeiladu arnynt a gwella sgiliau (yn enwedig sgiliau a chymwysterau bobl
ifanc). Dylid rhoi mwy o bwyslais yn y dyfodol ar ddenu buddsoddiad sector
preifat ac ar gefnogi pobl/busnesau lleol i ystyried sefydlu neu ehangu eu
busnesau fel bod ystod llawer ehangach o gyfleoedd ar gael i bobl o bob oedran
yn yr ardal. Ymhellach, roedd angen
cydbwysedd rhwng mewnfuddsoddiad, uchelgais, blaengaredd a rheoleiddio er mwyn
datblygu economi cynaliadwy yn y tymor hir. Roedd teimladau cryf bod
rheoleiddio ar hyn o bryd yn mygu busnesau preifat a blaengaredd. Penderfynwyd
yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor yn cefnogi:- (a) egwyddorion y ddogfen Uchelgais ... view the full Cofnodion text for item 8. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 87 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n amgaeëdig) yn gofyn
am adolygiad o raglen waith y pwyllgor i’r dyfodol a diweddaru’r
aelodau ar faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (dosbarthwyd o flaen llaw) yn gofyn i’r Pwyllgor
adolygu’r Blaen-Raglen Waith Ddrafft sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar
faterion perthnasol. Roedd Blaen-Raglen Waith diwygiedig wedi’i dosbarthu yn y cyfarfod yn dilyn
newidiadau ers cyflwyno’r fersiwn gynharach. Cytunwyd ar y newidiadau canlynol
i’r blaen-raglen waith:- 27 Medi:–
8 Tachwedd:-
Roedd Adolygiadau
Strategol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i’w cyhoeddi ar y diwrnod hwnnw (12
Gorffennaf 2012), felly awgrymodd y Cydlynydd Craffu y dylid cynnal Grŵp Gweithdy, fel y cytunwyd yn flaenorol
gan y Pwyllgor, i drafod y canfyddiadau.
Cytunwyd ar ddau ddyddiad:-
Dywedodd y
Cydlynydd Craffu wrth y Pwyllgor bod Craffu Partneriaethau yn cyfarfod gyda BCU
bob chwe mis i drafod materion, sef 2 neu 3 pwnc fel arfer. Awgrymwyd y dylid trefnu cyfarfod arbennig i
ddelio gyda hyn naill ai’n Hydref neu Dachwedd. Cytunodd pawb a oedd yn
bresennol ar ddyddiad i’r cyfarfod sef 11 Hydref am 9.30am. Roedd angen 4 aelod
i wasanaethu fel cynrychiolwyr ar y Grwpiau Herio Gwasanaeth fel a ganlyn:-
Roedd angen cynrychiolydd hefyd i Fwrdd Cydweithredu Conwy a Sir Ddinbych,
a gwirfoddolodd y Cynghorydd Pat Jones. PENDERFYNWYD yn
amodol ar y canlynol:- (a)
Y dylid cymeradwyo’r Blaen Raglen
Waith; (b)
Y dylid penodi’r aelodau a enwir uchod i
wasanaethu fel cynrychiolwyr y Pwyllgor ar y Grwpiau Herio Gwasanaeth a Bwrdd
Cydweithredu Conwy a Sir Ddinbych. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariad gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau
a Grwpiau’r Cyngor. Cofnodion: Cadarnhaodd y
Cynghorydd Alice Jones ei bod wedi cael ei phenodi’n aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a’i bod ar y
Panel Gweithredol. Roedd wedi mynychu cyfarfod o’r Grŵp Buddsoddi Strategol (SIG) a oedd wedi
trafod y datblygiadau arfaethedig i Ganolfan Hamdden Rhuthun a Llyfrgell
Prestatyn. Daeth y cyfarfod i ben am 1.20pm |