Agenda and minutes
Lleoliad: Conference Room 1a, County Hall, Ruthin
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU |
|
DATGAN BUDDIANNAU Yr Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiannau personol neu
fuddiannau sy’n rhagfarnu unrhyw fusnes sydd i’w drafod yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Nid oedd dim
datganiad o fudd personol neu fudd sy’n rhagfarnu wedi’i godi. |
|
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu
hysyried yn y cyfarfod fel materion brys dan Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Nid oedd dim
materion brys wedi’u codi. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion (copi ynghlwm) cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 8fed Mawrth, 2012. Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 8fed
Mawrth 2012. Materion yn Codi – Tudalen 2 –
Materion yn Codi (Tudalen 6 – Eitem Rhif 7
Y Cynllun Mawr) – Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu, ar ran y Cynghorydd
Christine Evans, ei bod hi wedi ymateb i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. Roedd hyn yn dilyn ymateb
a dderbyniwyd ynghylch darparu brechiadau HPV i fechgyn. Derbyniwyd llythyr o gydnabyddiaeth oddi wrth
y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cadarnhau y byddai ateb
llawn yn cael ei anfon allan o fewn 17 diwrnod gwaith. Tudalen 3 – Eitem
Rhif 5 Twristiaeth – Tynnodd Dr Dawn Marjoram, Aelod Cyfetholedig, sylw’r
Pwyllgor at y ffaith nad oedd Safle Treftadaeth y Byd yn Nyffryn Dyfrdwy wedi’i
grybwyll yn y Cynllun Rheoli Cyrchfannau a gyflwynwyd gan Gyfarwyddwr
Strategaeth Ranbarthol Partneriaeth
Twristiaeth Gogledd Cymru. Roedd Dr
Marjoram yn gyfrannwr pwysig tuag at gael statws Safle Treftadaeth y Byd i’r
ddyfrbont a’r gamlas yn Llangollen a chynigiodd ei harbenigedd ar y mater hwn
os bydd angen. Tudalen 4 – Eitem
Rhif 5 Twristiaeth – Cyfeiriodd y Cadeirydd at y Cynghorydd Meirick Davies yn
gofyn am gael gwybod beth sy’n digwydd ynghylch y cynnydd gyda’r mentrau
cynlluniedig i annog siopwyr safle Tweedmill i ymweld â rhannau eraill o’r
sir. Gofynnodd y Cadeirydd fod pob
cynghorydd yn cael gwybod beth sy’n digwydd hefyd. Tudalen 6 - Eitem Rhif 6 Newidiadau i’r Rhaglen Cefnogi Pobl Ranbarthol a
Chenedlaethol - Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Demograffeg, Lles a
Chynllunio (CC: DLlCh) ddiweddariad. Nid
oedd yr adroddiad ar gael ar gyfer y cyfarfod hwn gan nad oedd y mater wedi’i
gwblhau ac roedd y newidiadau arfaethedig dal yn destun trafodaeth. Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu fod adroddiad
y Newidiadau i’r Rhaglen Cefnogi Pobl Genedlaethol wedi’i amserlennu yn y
rhaglen waith ar gyfer mis Mai 2012. Tudalen 9 – Eitem
Rhif 9 Adolygiadau Gwasanaethau Strategol y GIG – Cododd y Dr Dawn Marjoram,
Aelod Cyfetholedig, fater Hyfrydle.
Gofynnodd am ddiweddariad ar y mater hwn gan nad oedd gwybodaeth wedi
dod i’r fei. Dywedodd Dr Marjoram hefyd
y byddai Hyfrydle ag angen caniatâd cynllunio.
Cytunai’r Cadeirydd ac argymhellodd fod angen diweddariad ar Hyfrydle. Tudalennau 10/11 - Eitem Rhif 10 Cwestiynau’r Aelodau - Yn dilyn cais y
Cynghorydd Raymond Bartley am fwy o wybodaeth am yr archwiliadau iechyd
blynyddol i bobl gydag anableddau dysgu, darllenodd y Cydlynydd Craffu yn uchel
ymateb a dderbyniwyd trwy ebost oddi wrth Gyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu
Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Sally Baxter. Byddai copi o’r ebost yn ei anfon allan at
aelodau’r Pwyllgor er gwybodaeth iddynt. PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod,
derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8fed
Mawrth 2012 fel rhai cywir. Hefyd,
oherwydd bod y ddau gyfarfod blaenorol heb gworwm, cadarnhawyd y cofnodion
canlynol fel rhai cywir:- (a)
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 26ain Ionawr, 2012. (b) Cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau Arbennig a gynhaliwyd ar 9fed
Chwefror, 2012. |
|
ARCHWILIAD BLYNYDDOL O DDIOGELU PLANT MEWN ADDYSG – FFRAMWAITH SICRHAU ANSAWDD PDF 96 KB Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Arweinydd y Tîm, Gweithwyr Cymdeithasol Addysg, sy’n amlinellu gweithgareddau atgyfeirio ysgolion i’r Gwasanaethau Plant dros y flwyddyn ysgol ddiwethaf, yn diweddaru’r Pwyllgor ar y Cynllun Gweithredu Amddiffyn sy’n ymwneud â threfniadau mewn addysg a’r hyfforddiant a gynigir i ysgolion. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd Tîm Gweithwyr Cymdeithasol Addysg (ATGCA) adroddiad (a gylchlythyrwyd
yn flaenorol) yn diweddaru’r Pwyllgor ar weithgaredd diogelu o fewn addysg ac
ar y cynllun gweithredu diogelu yr ymgymerwyd ag ef mewn ymateb i adroddiad
Cyngor Sir Benfro Medi 2011. Gofynnwyd
i’r Pwyllgor am eu cymeradwyaeth a’u cefnogaeth i’r camau a gymerir yn y
dyfodol i fynd i’r afael â’r meysydd gwan a glustnodwyd yn yr archwiliad
blynyddol o ysgolion ac i fynd i’r afael â materion diogelu ar draws
gwasanaethau. Eglurodd ATGCA
i’r Pwyllgor fod newidiadau arwyddocaol wedi digwydd yn ystod y 12 mis
blaenorol yng Nghymru. Yn dilyn
adroddiad Cyngor Sir Benfro (Medi 2011), a ddefnyddiwyd fel templed o feysydd
sy’n peri pryder, codwyd materion at lefel Gweinidogol. Ysgrifennodd y Gweinidog at bob Awdurdod Lleol
yn gofyn am i archwiliadau gael eu gwneud. Mae pob
atgyfeiriad yn cael ei gopïo’n awtomatig i’r ATGCA i’w archwilio. Os nad yw’r atgyfeiriad yn cael ei ystyried
yn ddigon difrifol i gael ei drin gan yr Uned Diogelu, neu fod y rheswm dros yr
atgyfeiriad yn aneglur, mae’r ATGCA yn cysylltu â’r ysgol i gael gwybod y
rhesymau paham y gwnaed yr atgyfeiriad.
Roedd rhaglen dreigl o hyfforddiant blynyddol yn cael ei darparu’n awr
ar gyfer pob ysgol. Anfonir manylion
staff sy’n methu mynychu hyfforddiant yn ôl i’r Pennaeth i sicrhau y gwneir yr
hyfforddiant o fewn y flwyddyn ysgol. Roedd prosiectau
a gyflenwir drwy gyllid Cymorth ar ran yr Awdurdod Lleol hefyd wedi’u gwneud yn
ymwybodol o bwysigrwydd materion diogelu a’r angen i ddatblygu polisïau
diogelu. Roedd hyn wedi arwain at wneud
archwiliad o bolisïau amddiffyn a diogelu plant yr asiantaethau. Gan fod cyllid Cymorth yn dod i ben, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol,
Demograffeg, Lles a Chynllunio (CC: DLlCh) y byddai contractau newydd a
ddyfernir dan y fenter Teuluoedd yn Gyntaf yn pennu’r angen am brosesau AD i
ddelio â materion amddiffyn plant ac y byddai diogelu’n ffurfio rhan o’r broses
monitro contractau. Cyhoeddodd Dr
Dawn Marjoram, Aelod Cyfetholedig mai’i
diddordeb arbenigol oedd plant gydag anghenion arbennig ac roedd plant
anabl yn arbennig o agored i gael eu cam-drin.
Gofynnodd Dr Marjoram a oedd staff sy’n gweithio mewn ysgolion anghenion
arbennig a hefyd staff mewn ysgolion prif ffrwd, sy’n delio â phlant anghenion
arbennig, yn derbyn hyfforddiant penodol, yn arbennig y staff hynny a oedd yn
gofalu am blant gyda phroblemau cyfathrebu.
Cadarnhaodd yr ATGCA fod yna staff gyda gwybodaeth arbenigol yn gweithio
mewn ysgolion ac y byddent yn gallu adnabod unrhyw amgylchiadau a oedd yn achos
pryder. Cyflëwyd yn y sesiynau hyfforddi
nad cyfrifoldeb y staff yn unig oedd diogelu’r plant ond ei fod hefyd yn
gyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol, a oedd yn cynnwys llywodraethwyr ysgolion. Roedd gan y gwasanaethau allweddol o fewn
Cyngor Sir Ddinbych yr wybodaeth berthnasol i ddelio â phroblemau. Cadarnhaodd
CC:DLlCh fod y Cyd-Banel Asesu Risg yn cyfarfod ddwyaith yr wythnos a bod
cynrychiolwyr Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu ac Iechyd yn
mynychu’r cyfarfodydd hyn. Roedd
gwybodaeth yn cael ei chydgasglu ynghylch y math o gymorth y gall plentyn neu
deulu fod â’i angen, fel y gallai tîm gael ei adeiladu o gwmpas y teulu i’w
cefnogi. Holodd Dr Marjoram os oedd plentyn o du allan i’r sir yn cael ei addysgu mewn ysgol yn Sir Ddinbych, sut fyddai hyn yn effeithio ar y broses? Eglurodd ATGCA fod yna system glir i ddelio â phlentyn o’r tu allan i Sir Ddinbych. Roedd disgwyliad gan y tîm rheoli y byddid yn cysylltu â’r Awdurdod Lleol, roedd hyn yn sicrhau bod Sir Ddinbych yn bod yn rhagweithiol ac nid yn adweithiol. Roedd y tîm rheoli wedi mynychu hyfforddiant ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DARPARU CERDDORIAETH MEWN YSGOLION PDF 74 KB Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Gwella
Ysgolion a Chynhwysiant a’r Swyddog Effeithiolrwydd Ysgolion yn delio â
chynnydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen cydweithredol o ran datblygu cynigion
mewn perthynas â darparu addysg gerddorol mewn ysgolion, neu fel arall gynnig
Sir Ddinbych ar gyfer darparu addysg gerddorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant (PGYCh) adroddiad (a gylchlythyrwyd yn
flaenorol) i ddiweddaru’r Aelodau ac i ennill cefnogaeth barhaus i gynnydd y
Grŵp Gorchwyl a Gorffen cydweithredol i ddatblygu cynigion mewn perthynas
â darparu addysg gerddorol mewn ysgolion, neu fel arall gynigion Sir Ddinbych i
ddarparu addysg gerddorol. Amlinellodd PGYCh yr adroddiad ac eglurodd gyd-destun a hanes darparu
cyllid ar gyfer cerddoriaeth mewn ysgolion. PENDERFYNWYD
dan Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r
cyfarfod ar gyfer y mater canlynol am y rheswm ei fod yn debygol o olygu
datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen
12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. RHAN II O ran y cyfle ar
gyfer cerddoriaeth i bob myfyriwr, yn hanesyddol, roedd cyllideb ar gael i
ysgolion i gael at ddarpariaeth gan Ganolfan Gerdd William Mathias (CGWM). Roedd pryder wedi’i godi gan rai ysgolion
ynghylch sut oedd y cyllid hwnnw wedi’i ddosbarthu. Roedd cyllid yn cael ei ddirprwyo o fformiwla
hy poblogaeth o fewn yr ysgol a chanran y myfyrwyr sy’n derbyn prydau ysgol am
ddim. Os oedd niferoedd mwy o blant yn
gofyn am fynediad at addysg gerddorol, byddai rhaid i naill ai ysgolion neu
rieni wneud cyfraniad. Bu problem
oherwydd anghysondebau ynglŷn â thaliadau rhieni. Teimlid hefyd
na ddylai rhai ysgolion fod yn rhoi cymhorthdal o’u cyllideb pan nad oedd
ysgolion eraill yn gwneud defnydd o’r cyfleuster hwn. Oherwydd yr anghysondebau hyn, roedd angen
ateb tymor hir cynaliadwy. Roedd myfyrwyr eithriadol o dalentog yn Sir Ddinbych ond roedd angen i
fyfyrwyr gael eu cydnabod a’u hannog beth bynnag oedd eu gallu cerddorol. Roedd cyfradd dderbyn cerddoriaeth yn cael ei
monitro ac offerynnau cerdd yn cael eu darparu.
Enghraifft o fuddsoddiad mawr oedd Ysgol Christchurch yn Y Rhyl. Roedd
yr ysgol mewn ardal o amddifadedd ond roedd hi’n bwysig annog plant iau i mewn
i gerddoriaeth. Roedd yn holl-bwysig fod
y gyllideb yn cael ei defnyddio yn y ffordd orau bosibl. Hysbysodd Dr Dawn Marjoram, Aelod Cyfetholedig, y Pwyllgor fod
cerddoriaeth, mewn perthynas ag ysgolion arbennig, yn cael ei thrin fel
therapi. Fodd bynnag, roedd rhai
cyflawniadau nodedig ym maes addysg gerddorol mewn ysgolion arbennig. Eglurodd PGYCh, o ran annog ysgolion i
gyfranogi, nad oedd dim gwahaniaethu rhwng ysgolion prif ffrwd ac ysgolion
arbennig, roedd cydraddoldeb yn cael ei sicrhau. O ran gwir weithgaredd cwricwlaidd
ynglŷn â cherddoriaeth fel therapi, roedd hyn yn fater hollol wahanol. Holodd John
Saxon, aelod Cyfetholedig, a oedd unrhyw gymorth i rieni a oedd yn dymuno prynu
offerynnau. Cadarnhaodd PGYCh fod yna
gynllun hurio gydag opsiwn i brynu.
Roedd yna bobl a oedd wedi cymryd rhan yn y cynllun yn llwyddiannus. Roedd y contract
gyda William Mathias yn cael ei adnewyddu bob blwyddyn ac roedd yn galluogi’r
Cyngor i fonitro ansawdd y gwasanaeth a ddarperir. Roedd hefyd yn galluogi’r Cyngor i ddarparu
addysg gerddorol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar hyn o bryd roedd gan Sir Ddinbych, Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy
gontractau gyda Williams Mathias, tra bod gan Sir y Fflint a Wrecsam eu
hatebion eu hunain. Ar hyn o bryd
roeddid yn ceisio ateb ledled Gogledd Cymru a dyma oedd ffocws y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a gadeiriwyd gan
Bennaeth Statudol Gwasanaethau Addysg Conwy.
Fe wnaeth y Pwyllgor: BENDERFYNU:
(a)
parhau i gefnogi’r gwaith sy’n mynd ymlaen
mewn perthynas â datblygu cerddoriaeth o fewn y Sir; (b)
cefnogi’r cynigion ar gyfer yr adolygiad ehangach
o gyllido darpariaeth cerddoriaeth yn Sir Ddinbych; a (c)
bod canfyddiadau Grŵp Gorchwyl a Gorffen
Cerddoriaeth Gogledd Cymru i’w hadrodd i’r Pwyllgor maes o law. Yn y fan hon ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAN 1 11.05am Yn y fan hon, gadawodd yr Aelodau
Cyfetholedig y cyfarfod. Rhoddodd y
Cadeirydd wybod bod y cyfarfod heb gworwm o’r fan yma oherwydd nad oedd digon o
aelodau’r Pwyllgor yn bresennol.
Cytunwyd i fynd ymlaen â’r cyfarfod ar y sail fod unrhyw argymhellion
i’w cadarnhau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. |
|
PECYN CYMORTH LLYWODRAETHU’R BARTNERIAETH PDF 76 KB Ystyried cyd-adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr
Partneriaethau a Chymunedau a’r Swyddog Cynorthwyol Cynllunio a Pherfformiad
sy’n cyflwyno Pecyn Llywodraethu Partneriaeth y Cyngor a’r atodlen weithredu
i’r Pwyllgor, ac yn gofyn am farn yr Aelodau arnynt. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio Busnes a Pherfformiad (PCBPh) a’r Swyddog Cynllunio a
Pherfformiad Cynorthwyol (SCPhC) adroddiad ar y cyd (a gylchlythyrwyd yn
flaenorol) ynghylch Pecyn Cymorth
Llywodraethu Partneriaeth y Cyngor.
Y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol oedd wedi gofyn am y pecyn cymorth
mewn ymateb i adolygiad Gwasanaethau Archwilio Mewnol y Cyngor Sir ar
Lywodraethu Partneriaethau ym mis
Tachwedd 2011. Daethpwyd â’r Pecyn
Cymorth i’r Pwyllgor fel rhan o’r broses ymgynghori. Roedd y Pecyn Cymorth yn manylu ar sut y
gellid gwneud gwelliannau i’r fframwaith a’r trylwyredd o’i gwmpas. Roedd cyfnod helaeth o ymgynghori ar fynd ar
gogyfer â sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer y fframwaith drafft. Roedd y cyfnod ymgynghori i ddod i ben ar
ddiwedd Ebrill, 2012. Gwnaeth y
Cynghorydd Gwilym Evans y sylw fod rhywfaint o gynnwys y Pecyn Cymorth yn
bodoli’n barod o fewn y Cyfansoddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Evans hefyd fod angen i’r Pecyn Cymorth fod yn fwy
cryno. Byddai Aelodau newydd eu hethol
yn derbyn llawer iawn o ddeunydd darllen, felly byddai dogfen fyrrach yn haws
i’w chymryd i mewn. Cytunwyd bod y
Pecyn Cymorth yn ddogfen hirfaith ac y gallai hwyrach fod yn fwy cryno, a
fyddai’n ei gwneud yn fwy cyfeillgar. Cadarnhaodd PCBPh
y byddai Cofrestr Partneriaethau’n cael ei diweddaru bob blwyddyn. Byddid yn cysylltu â phob un o’r
Partneriaethau bob blwyddyn, ac wedi hynny byddai’r gofrestr yn cael ei
diweddaru. Tynnodd CC:DLlCh
at sylw PCBPh fod Cydweithrediad, y Compact a diogelu i gyd yn risgiau mawr ond
nad oedd yn ymddangos fod y matrics arwyddocâd yn adlewyrchu’r lefel briodol o
risg iddynt ac y dylid, felly, roi sylw i hyn.
Awgrymodd y Cynghorydd Gwyneth Kensler fod diffiniad o beth yw
Partneriaethau a beth yw Cydweithrediad i’w lunio. Gwnaeth PCBPh y sylw fod Partneriaethau a
Chydweithrediad yn gorgyffwrdd ambell dro.
Fe wnaeth y Pwyllgor: BENDERFYNU yn
amodol ar fod yr argymhellion uchod yn cael sylw, cymeradwyo’r Pecyn Cymorth
Llywodraethu Partneriaethau drafft a’r Atodlen Weithredu sy’n mynd gydag ef.
|
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Ystyried adroddiad gan y Cydgysylltydd Craffu (copi’n
amgaeëdig) yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu rhaglen waith y Pwyllgor i’r dyfodol
ac yn diweddaru’r Aelodau ar faterion perthnasol. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchlythyrwyd yn flaenorol) yn gofyn am farn yr
Aelodau ar ddarpar raglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Roedd Blaenraglen Waith
ddrafft (Atodiad 1); Blaenraglen Waith y Cabinet (Atodiad 2); a Chynnydd gyda Phenderfyniadau’r
Pwyllgor (Atodiad 3) wedi’u rhoi ynghlwm wrth yr adroddiad. Cododd y Cydlynydd Craffu fater eitem a oedd wedi’i threfnu’n amodol yn y
rhaglen waith ar gyfer y cyfarfod ar 31ain Mai ar y Prosiect Gofal
Cartref Cydweithredol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Roedd gwaith ymchwiliol i’r maes arbennig hwn
wedi datgelu nad oedd dim cyfleoedd yn bodoli ar hyn o bryd ar gyfer
cydweithredu, gan fod meysydd pwysau bob sir yn wahanol ac felly nid oeddynt yn
eu cynnig eu hunain i unrhyw fath o gontractio bloc. Cytunwyd na fyddai’r eitem hon yn cael ei
chynnwys ar yr Agenda ar gyfer cyfarfod yr 31ain Mai. Awgrymodd Cyfarwyddwr Corfforaethol
Demograffeg, Lles a Chynllunio (CC:DLlCh) fod darparu gofal cartref mewn ardaloedd
gwledig a chyfleoedd posibl i gydweithredu gydag awdurdodau lleol eraill yn y
maes hwn i’w hystyried mewn cyfarfod i ddod. Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu y
byddai hi’n codi’r mater gyda Phennaeth Gwasanaethau Oedolion a Busnes. Gofynnodd y
Cynghorydd Gwyneth Kensler fod Hyfrydle i’w roi ar raglen waith y dyfodol i’w
ystyried. Awgrymodd y Cydlynydd Craffu y
gall fod yn fwy buddiol yn y lle cyntaf i adroddiad “gwybodaeth” gael ei
ddarparu cyn cyfarfod mis Mai. Cyfeiriodd y
Cydlynydd Craffu at Raglen Y Rhyl yn Symud Ymlaen. Roedd wedi’i gytuno y dylai pob un o’r tair
prif ffrwd waith (ffrwd waith Manwerthu a Chanol y Dref; ffrwd waith
Twristiaeth a Llain yr Arfordir a’r Strategaeth ar gyfer Gorllewin Y Rhyl) gael
eu cyfeirio at y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’w trafod. Cododd y Cynghorydd Gwilym Evans fater Grŵp
Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu. Bu’r
Grŵp yn cynnal cyfarfodydd am y 12 mis blaenorol, ond nid oedd dim
cofnodion ar gael. Cadarnhaodd Cydlynydd
Craffu y byddai hi’n chwilio i mewn i hyn. Cyfeiriodd CC:DLlCh at Raglen Waith Craffu Cymunedau i ddod ble’r oedd
eitem ar gyfer cyfarfod mis Hydref
“Trafnidiaeth Gyhoeddus o fewn y Sir (yn cynnwys TAITH a thrafnidiaeth
wledig)”. Roedd y Cyfarwyddwr o’r farn y
dylai’r eitem hon gael ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu Partneriaethau mewn
gwirionedd. Ymrwymodd y Cydlynydd Craffu
i godi’r mater yng Ngrŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu yr wythnos
ganlynol. Ymrwymodd hi hefyd i edrych
pryd fyddai’r cynigion ar gyfer Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru yn
debygol o fod ar gael i’w hystyried a phryd fyddai’r Bartneriaeth Diogelwch
Cymunedol mewn sefyllfa i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor. PENDERFYNWYD
yn amodol ar y diwygiadau a’r ceisiadau uchod, cymeradwyo’r Rhaglen Waith. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Derbyn unrhyw
ddiweddariad gan gynrychiolwyr Pwyllgorau ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau’r
Cyngor. Cofnodion: Nid oedd dim
adroddiadau gan gynrychiolwyr Pwyllgorau wedi’u derbyn. |
|
Estynnodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Dewi Owens, ei ddiolch i’r Cynghorydd
Gwilym Evans am ei holl gyfraniad a gwaith yn ystod ei amser fel cynghorydd
sir. Ar ran yr Aelodau estynnodd y Cynghorydd Jane York ei diolch i’r Cydlynydd
Craffu am ei gwaith caled a’i chefnogaeth dros y 4 blynedd ddiwethaf. Daeth y cyfarfod
i ben am 12.00 pm |