Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Joan Butterfield (Cadeirydd) ac Elfed Williams
am eu bod yn absennol. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Aelodau i ddatgan unrhyw fuddiant personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Brian Jones gysylltiad personol ag eitem 7, Canolfannau Ailgylchu
Gwastraff o’r Cartref, gan mai ef oedd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant
a’r Amgylchedd pan ddyfarnwyd y contract ar gyfer gweithredu’r Canolfannau i
gwmni Bryson Recycling Limited. Datganodd y
Cynghorydd Merfyn Parry gysylltiad personol ag eitem 7, Canolfannau Ailgylchu
Gwastraff o’r Cartref, gan fod ei gyflogwr yn gwmni a oedd yn delio â
Gwasanaethau Gwastraff Bwyd Biogen yn y Waen, Llanelwy. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Penodi Is-Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer blwyddyn ddinesig 2025/26 (copi o’r Disgrifiad Rôl yn atodedig). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan fod y Cadeirydd yn absennol, y Cydlynydd Craffu a
gynhaliodd y bleidlais i benodi Is-gadeirydd ac fe eglurodd y byddai disgwyl
i’r sawl a benodid i’r swydd gadeirio’r cyfarfod hwn. Enwebodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones y
Cynghorydd Brian Jones yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer
blwyddyn fwrdeistrefol 2025/26. Eiliwyd
enwebiad y Cynghorydd Jones gan y Cynghorydd Terry Mendies. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, felly: Penderfynwyd: ethol y Cynghorydd
Brian Jones yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer blwyddyn
fwrdeistrefol 2025/26. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chyfeiriwyd
unrhyw eitemau brys at y Cydlynydd Craffu er sylw’r Cadeirydd cyn dechrau’r
cyfarfod. |
|
COFNODION CYFARFODYDD DIWEDDAR Derbyn cofnodion: (i) y Cyd-Gyfarfod Anffurfiol i Graffu ar Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2025 (copi yn atodedig). (ii) cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2025 (copi yn atodedig). 10.10am – 10.15am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion
y cyfarfodydd canlynol: (i)
Cyd-gyfarfod Craffu Anffurfiol Gwasanaeth
Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2025. Dywedodd y
Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones ei bod wedi anfon ymddiheuriad ffurfiol
am fod yn absennol o’r cyfarfod hwn ac nad oedd hynny wedi’i gofnodi. Ni chodwyd unrhyw faterion eraill ynghylch
cywirdeb. Felly: Penderfynwyd: yn amodol
ar gynnwys enw’r Cynghorydd Chamberlain-Jones dan yr Ymddiheuriadau, cymeradwyo
cofnodion Cyd-gyfarfod Craffu Anffurfiol Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy
a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2025 fel rhai cywir. (ii)
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2025. Ni chodwyd unrhyw
faterion ynglŷn â chywirdeb y cofnodion.
Felly: Penderfynwyd: cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2025
fel rhai cywir. Ni chodwyd unrhyw
faterion ynglŷn â chynnwys y cofnodion yn y naill achos na’r llall. |
|
Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi yn atodedig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor, yn unol â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, adolygu y penderfyniad wnaed gan y Cabinet ar 29 Ebrill 2025. 10.15am – 11.15am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cydlynydd Craffu’r Cynghorydd Barry
Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, gan egluro ei fod wedi’i
wahodd yn benodol i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â’r
penderfyniad. Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r
adroddiad (a ddosbarthwyd o flaen llaw) ac eglurodd i’r Pwyllgor y drefn a
ddilynid wrth glywed y rhesymau pam y galwyd y penderfyniad i mewn i graffu
arno, a barnu a oedd cyfiawnhad dros gyfeirio’r penderfyniad hwnnw’n ôl at y
Cabinet i’w ailystyried. Pe byddai’r
Pwyllgor, wedi trafod y mater, yn penderfynu cyfeirio’r penderfyniad yn ôl at y
Cabinet gan ofyn iddo adolygu ei benderfyniad gwreiddiol, byddai angen llunio
argymhelliad pendant i’r Cabinet ei ystyried ac egluro’r sail resymegol ar ei gyfer.
Galwyd ar yr aelodau hynny a lofnododd y rhybudd
o alw i mewn i ddatgan eu rhesymau dros arfer y weithdrefn galw i mewn er mwyn
gofyn i’r Cabinet adolygu’r penderfyniad a wnaed ar 29 Ebrill 2025 ynglŷn
â’r Cynnig Arbedion Toiledau Cyhoeddus – Asesiad o Anghenion Lleol a’r
Strategaeth Toiledau Lleol Ddrafft. Y
llofnodwyr hynny oedd y Cynghorwyr Andrea Tomlin, David Williams, Karen
Edwards, Hugh Evans, a Huw Hilditch-Roberts.
Cadarnhawyd fod enw’r Cynghorydd Christopher Evans wedi’i nodi fel y
pumed llofnodwr yn wreiddiol, ond yn unol â’r e-bost a dderbyniwyd oddi wrtho
ar 9 Mai 2025, cymerodd y Cynghorydd Hugh Hilditch-Roberts ei le fel y pumed
llofnodwr. Y Cynghorydd Andrea Tomlin oedd y Prif Lofnodwr,
ac fe’i gwahoddwyd i gyflwyno’r rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn i
graffu arno. Diolchodd i’r Cadeirydd am ganiatáu iddi siarad, a dywedodd y
manylid ynghylch y rhesymau dros alw’r penderfyniad i mewn yn Atodiad A i’r
adroddiad. Eglurodd y rhesymau pam y
dylid adolygu pob elfen o’r penderfyniad – (a) ‘Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r asesiad o anghenion
lleol.’ Dylai’r Cabinet ailystyried y penderfyniad gan y credai’r
llofnodwyr ei fod yn seiliedig ar adroddiad gwallus. Nodwyd yn yr asesiad nad
oedd angen toiledau cyhoeddus o gwbl yn Nyserth. Roedd
hi’n amlwg nad oedd hynny’n wir i unrhyw un a oedd yn gyfarwydd â’r pentref ac
yn gwybod mor boblogaidd ydoedd. Nid
oedd Dyserth chwaith wedi cael ‘asesiad o anghenion yn ôl poblogaeth y gymuned
ac ymwelwyr’, gan nad oedd y system a ddefnyddid i gasglu data twristiaeth yn
cynnwys unrhyw wybodaeth ar gyfer Dyserth.
Ar sail hynny, felly, roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi barnu ‘ei bod yn
annhebygol y bydd angen dirfawr am doiledau cyhoeddus yn dymhorol’. Roedd y Cabinet
presennol yn cynnwys chwech o aelodau o’r Rhyl a Phrestatyn
a ddylai wybod yn iawn mor boblogaidd oedd Dyserth ag ymwelwyr gydag atyniadau
fel y rhaeadr, llwybrau cerdded, tafarndai a bwytai a’r ras hwyaid flynyddol.
Siawns na ddylai’r tri o aelodau eraill y Cabinet wybod hynny hefyd. Er y nodwyd niferoedd ymwelwyr tymhorol ar gyfer Rhuddlan
a Llanelwy, bernid nad oeddent hwythau’n cyrraedd y
trothwy i fod angen toiledau cyhoeddus. Credai’r llofnodwyr ei bod yn
annealladwy ac yn annerbyniol derbyn adroddiad asesu oedd yn argymell cael
gwared â chyfleusterau mor hanfodol a phoblogaidd, a hwnnw’n adroddiad pen desg
yn unig a oedd yn dangos cryn ddiffyg gwybodaeth am yr ardal. (b) ‘Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r strategaeth toiledau
lleol ddrafft.’ Dylai’r Cabinet ailystyried cymeradwyo’r strategaeth hon gan y byddai’n ‘canolbwyntio ar anghenion a nodwyd yn unig’, a oedd yn awgrymu y derbynnid yr asesiad o anghenion lleol fel un cywir, yn groes i farn y llofnodwyr fel y’i mynegir ym mhwynt (a). Byddai seilio’r Strategaeth ar yr asesiad ‘gwallus’ o anghenion lleol yn golygu bod Rhuddlan, Dyserth a Llanelwy heb doiledau cyhoeddus angenrheidiol. Ym marn llofnodwyr y rhybudd o alw i mewn, ni ddylid eithrio unrhyw ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF Y CARTREF Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Swyddog Perfformiad Contractau Gwastraff, Caffael a Strategaeth (copi yn atodedig) sy’n gofyn i’r Pwyllgor archwilio effeithiolrwydd y contract sydd yn ei le ar gyfer rheoli a gweithredu canolfannau ailgylchu gwastraff cartref y Cyngor. 11.30am – 12.15pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr
adroddiad ynghylch Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref (a ddosbarthwyd o
flaen llaw) ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: yr Economi a’r Amgylchedd, Pennaeth Priffyrdd
a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Swyddog Contractau Gwastraff, Caffael a
Pherfformiad Strategol. Rhoes yr adroddiad wybodaeth ynglŷn â chynnydd y
contract a ddyfarnodd y Cyngor yn 2022 ar gyfer rheoli a gweithredu Canolfannau
Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Caffaelwyd y Contract
hwnnw ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac fe’i dyfarnwyd i Bryson Recycling Limited. Amlygwyd y gwahanol elfennau o’r adroddiad i’r Pwyllgor a
soniwyd am y pethau allweddol y disgwylid i’r contract eu cyflawni, sef –
· Arbed costau ariannol - rhagwelwyd y byddai’r Contract yn arbed costau sylweddol o gymharu â’r contract blaenorol a hynny oedd yn dod i ran. Darparwyd mwy o fanylion ynglŷn â’r union arbedion yn Atodiad A i’r adroddiad, a oedd yn gyfrinachol ac felly wedi’i eithrio rhag ei rannu a’r cyhoedd. · Perfformiad Ailgylchu – er y bu cyfraddau ailgylchu Sir Ddinbych yn uchel cyn dechrau’r contract, roedd y gwelliant bach a gyflawnwyd yn arwyddocaol gan fod newidiadau yn y ddeddfwriaeth wedi lleihau’r amrywiaeth o ddefnyddiau y gallai Sir Ddinbych eu hailgylchu. Roedd data ar gyfer 2024/25 yn dangos fod y gyfradd ailgylchu wedi gostwng tua 4%. Y rheswm pennaf am hynny oedd bod mwy o wastraff gweddilliol wedi cyrraedd Parciau Ailgylchu yn ystod Chwarter 1 a Chwarter 2 ar ôl lansio’r gwasanaeth casglu newydd, ar ymyl y palmant yn hytrach na bod perfformiad y Contractwr wedi dirywio. Ar sail hynny, roedd Sir Ddinbych yn dal yn yr ail chwartel yng Nghymru (9fed o 22) ar gyfer ailgylchu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. · Boddhad Cwsmeriaid - rhoes y swyddogion grynodeb o sylwadau a dderbyniwyd gan gwsmeriaid a oedd yn pwysleisio a chadarnhau nad oedd modd cymharu’r contract presennol â’r un blaenorol yn uniongyrchol. Roedd arolwg o foddhad cwsmeriaid a gynhaliwyd ym mis Ebrill 2024, fodd bynnag, wedi nod bod 96% o ymwelwyr â’r safle naill ai’n fodlon neu’n fodlon iawn â’r gwasanaeth a ddarparwyd. Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yn gweinyddu’r system archebu ac roedd lefelau boddhad yn uchel ar gyfer honno hefyd (sgôr gyfartalog 4.7 allan o 5). · Cwynion - nid oedd unrhyw ddata rhifol ar gael ynglŷn â chwynion. Anaml y derbynnid cwynion, fodd bynnag. Roedd a wnelo’r pryderon yn bennaf â’r angen i archebu er mwyn defnyddio parciau ailgylchu, anghysondeb yn y tâl a godid am wastraff annomestig ac agwedd/ymddygiad y staff ar y safleoedd hynny. · System Archebu - roedd y gofyniad i bobl archebu er mwyn defnyddio’r Parc Ailgylchu yn rhan allweddol o’r Contract hwn. Roedd y mwyafrif helaeth o bobl yn derbyn hynny ac roedd y drefn apwyntiadau’n cyfrannu at y buddion o ran arbed costau a pherfformiad ailgylchu. Roedd y system archebu’n un drawsffiniol; gallai pobl ddefnyddio’r safle oedd fwyaf cyfleus iddynt, ni waeth ym mha Sir roeddent yn byw. Fe wnaeth pobl Sir Ddinbych tua 275 o archebion i ddefnyddio safleoedd Conwy bob mis, a 200 arall ar gyfer Plas Madoc yn Wrecsam. ·
Siop Ailddefnyddio - nid oedd y siop ailddefnyddio
ym Mharc Ailgylchu Marsh Road yn y Rhyl wedi cyrraedd y lefelau disgwyliedig o
ran busnes eto. Roedd partneriaid trydydd sector wedi’i chael yn anodd
recriwtio ac nid oeddent yn gallu cynnig gwasanaeth cyson. Ers i Bryson
ddechrau gweithredu’r siop ailddefnyddio ym mis Ebrill 2024, bu’r lefelau
staffio’n fwy cyson a’r gwasanaeth yn fwy proffesiynol. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol –
|
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi yn atodedig) sydd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith ar gyfer y dyfodol, ac sydd hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol. 12.15pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd o flaen llaw) a fynnai bod y Pwyllgor yn adolygu ei raglen waith. Hysbyswyd yr aelodau
na fu unrhyw newidiadau ychwanegol yn rhaglen waith y Pwyllgor ac eithrio’r
rhai hynny y manylwyd yn eu cylch yn yr adroddiad, fel y’u hychwanegwyd gan y
Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu. Un eitem oedd wedi’i threfnu ar gyfer
cyfarfod mis Gorffennaf, sef Adroddiad Blynyddol Diogelu Oedolion 2024/25. Hysbyswyd yr aelodau
y bwriedid cynnal cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Craffu ar 30 Mehefin 2025. Tynnwyd eu sylw at Atodiad 2 a oedd yn cynnwys ffurflen
Cynnig Craffu’r Aelodau. Roedd angen llenwi a dychwelyd y ffurflen hon os
oedd gan aelodau unrhyw bynciau yr hoffent iddynt gael eu hystyried i’w cynnwys
yn rhaglen waith pwyllgor craffu yn y dyfodol.
Felly: Penderfynwyd: yn amodol
ar gynnwys y pynciau y manylwyd yn eu cylch yn yr adroddiad, cadarnhau’r
rhaglen waith fel y’i nodwyd Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. Daeth y cyfarfod i
ben am 12.25pm. |