Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Terry Mendies, Arwel Roberts ac Elfed Williams, ynghyd â’r Cynghorydd Barry Mellor - Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant ar gyfer eitem rhif 6.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Kelly Clewett gysylltiad personol ag eitem rhif 5 gan ei bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni thynnwyd sylw’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu at unrhyw faterion brys cyn dechrau’r cyfarfod.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 395 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2024 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2024.  Felly: 

 

Penderfynodd y Pwyllgor: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2024 fel cofnod gwir a chywir o'r gweithrediadau.

 

Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y cofnodion.

 

 

5.

DATBLYGU YSBYTY BRENHINOL ALEXANDRA (YBA) pdf eicon PDF 249 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gynnydd a chynlluniau ar gyfer datblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra, a cheisio adborth yr aelodau ar y cynigion

 

10:10am – 11:00am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg adroddiad ar Ddatblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ochr yn ochr â Chyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Gareth Evans. Rhannodd yr adroddiad ddiweddariad ar gynnydd ar gyfer datblygu safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl.  

 

Pwysleisiwyd, er bod y prosiect yn cael ei arwain gan y Bwrdd Iechyd, roedd y Cyngor yn gweithio’n agos iawn gyda chydweithwyr y Gwasanaeth Iechyd arno, ac roedd yr Aelod Arweiniol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol yn rhoi llawer iawn o amser ac ymdrech i wireddu’r prosiect. Y cynnig oedd darparu gwasanaethau newydd ochr yn ochr â gwasanaethau cefnogi wedi’u symud a’u hehangu mewn adeilad clinigol newydd. Byddai’r prosiect hefyd yn ceisio ailwampio adeilad presennol yr Ysbyty fel canolfan gefnogi gyda rhai gwasanaethau cleifion yn parhau e.e. Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a Ffisiotherapi.

 

Arweiniodd Cyfarwyddwr Cymuned Iechyd Integredig BIPBC y Pwyllgor drwy’r cyflwyniad gan dynnu sylw at gefndir a chrynodeb o’r gwaith a wnaed hyd yma ar y prosiect, yn cynnwys ei gwmpas, dyddiadau allweddol, strwythur llywodraethu’r rhaglen a chyfleoedd i gydweithio. 

 

Roedd BIPBC yn dyheu am gael datblygu’r safle, sydd â hanes hir. Cyflwynwyd achos busnes yn 2021, ond oherwydd costau chwyddiant a achoswyd gan ffactorau y tu hwnt i reolaeth y Bwrdd Iechyd, megis y pandemig a materion daearyddol-gwleidyddol, nid oedd digon o gyfalaf ar gael i ariannu’r gwaith a amlinellwyd yn yr achos busnes hwnnw. O ganlyniad, cytunwyd ar Werthusiad o Opsiynau ar gyfer datblygiad fyddai’n costio llai gyda Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2024. Yna, cytunwyd i symud ymlaen gyda chwmpas y prosiect drwy gaffael dyluniad yn arloesol, oedd wedi’i atodi at Achos Busnes Llawn 2021 a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru. 

 

Oherwydd cyfyngiadau ariannol, bu’n rhaid ail werthuso cwmpas y gwaith. Roedd hyn yn golygu dyluniad oedd yn blaenoriaethu darparu gwasanaethau newydd mewn adeilad clinigol newydd, llai. Roedd hefyd yn golygu bod y Bwrdd Iechyd yn blaenoriaethu ailwampio adeilad presennol Rhestredig Gradd ll yr Ysbyty fel canolfan gefnogi. Hefyd, er mwyn lleddfu pwysau yn Ysbyty Glan Clwyd a chefnogi’r boblogaeth leol, roedd disgwyl i’r Bwrdd Iechyd ddarparu’r gwasanaethau canlynol yn yr adeilad newydd:

 

·                Uned newydd ar gyfer Mân Anafiadau ac Anhwylderau

·                Rhai gwelyau “Gofal yn Agosach at Adref”

·                Mwy o gyfleoedd i gydweithio â phartneriaid ar y safle

 

Dan y cynlluniau diwygiedig, byddai’r adeilad clinigol newydd yn cynnwys:

·                Uned Mân Anafiadau ac Uned Mân Anhwylderau newydd er mwyn lliniaru’r galw ar Ysbyty Glan Clwyd a gwasanaethu pobl yn nes at eu cartrefi

·                Tua 14 o welyau cymunedol (yn dibynnu ar gyfyngiadau’r dyluniad), fel bod Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gallu bodloni anghenion pobl leol

·                Gwasanaeth Radioleg wedi’i symud a’i ehangu a gwasanaeth Deintyddol Cymunedol mwy. 

 

Byddai’r adeilad presennol yn cael ei ailwampio i gynnwys:

·                atgyweirio strwythur y llawr a’r adeiladwaith allanol

·                ailwampio ardaloedd sy’n wag ar hyn o bryd

·                isadeiledd trydanol a gwresogi newydd

·                lleoli’r Trydydd Sector gyferbyn â’r Tîm Cymunedol; ac

·                ailgyflwyno ac ehangu’r gwasanaethau iechyd rhywiol, awdioleg ac orthoteg (yn dibynnu ar gyfyngiadau dylunio ac ariannol).

 

Cafodd y Pwyllgor wybod beth oedd dyddiadau allweddol dangosol datblygu a darparu’r prosiect:

 

·       Ionawr – Ebrill 2025: Caffael (roedd y cam hwn ar y gweill yn barod)

·       Mawrth – Awst 2025: Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer y safle

·       Mai 2025: Bwrdd BIPBC yn cymeradwyo dyluniad yr adeilad newydd a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru

·       Gorffennaf 2025: Bwrdd BIPBC yn cymeradwyo’r adeilad presennol a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru

·       Awst 2025: Diweddariad ar ddyluniad a chostau’r adeilad presennol (RIBA 3)

·       Chwarter 1 2026: Dechrau cam adeiladu’r adeilad newydd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNLLUN CLUDIANT RHANBARTHOL DRAFFT pdf eicon PDF 224 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Trafnidiaeth a Thrafnidiaeth (copi ynghlwm) yn rhoi trosolwg o’r Cynllun Cludiant Rhanbarthol Drafft sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac fel rhan o’r ymgynghoriad sy’n ceisio barn y Pwyllgor ar ei gynnwys.

 

11:15am – 12:00pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Traffig a Chludiant, ynghyd â’r Prif Beiriannydd - Diogelwch ar y Ffyrdd a Theithio Llesol a’r Rheolwr Cludiant Gweithredol y Cynllun Cludiant Rhanbarthol Drafft (dosbarthwyd ymlaen llaw).

Roedd yr adroddiad yn sôn am ddatblygiad parhaus Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru, fyddai’n disodli Cyd Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru 2015.  Cydnabu’r swyddogion bryderon aelodau’r Pwyllgor am faint yr adroddiad a’i gymhlethdod, gan bwysleisio ei fod yn gynllun lefel uchel fyddai rhwng y cynllun cludiant cenedlaethol a’r cynlluniau cludiant lleol.

Yng Nghymru, roedd gofyn i bob un o’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig lunio Cynllun Cludiant Rhanbarthol (CCRh) ar gyfer eu rhanbarth. Roedd yr adroddiad hwn yn amlinellu datblygiad Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru, sy’n cael ei ddatblygu gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru ar y cyd â chwe awdurdod lleol Gogledd Cymru. Roedd y Cynllun wedi’i lunio gan Is-bwyllgor Cludiant y Cyd-bwyllgor Corfforedig, a chynrychiolydd Cyngor Sir Ddinbych arno oedd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant. Byddai Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru yn disodli Cyd Gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru 2015 yn y pen draw. Er hynny, bydd y Cynllun blaenorol yn parhau’n “fyw” nes bydd Cynllun Cludiant Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir i hynny ddigwydd yn haf 2025.

Diben y pedwar Cynllun Cludiant Rhanbarthol oedd helpu i gyflawni’r uchelgeisiau yn Strategaeth Cludiant Cymru, Llwybr Newydd. Byddai Cynllun Cyflawni Cludiant Cenedlaethol yn cefnogi darpariaeth Strategaeth Cludiant Cymru. Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu’r Cynllun Cyflawni Cludiant Cenedlaethol a bydd yn darparu prosiectau cefnffyrdd, prosiectau rheilffyrdd a pholisïau, prosiectau a mentrau cludiant o bwys cenedlaethol. 

Cafodd y Pwyllgor wybod bod ymgynghoriad ar y gweill ar y Cynllun Cludiant Rhanbarthol Drafft a’i fod yn cael ei gynnal ar-lein yn bennaf. Fodd bynnag, byddai copïau papur o’r ymgynghoriad ar gael ar draws y rhanbarth mewn llyfrgelloedd a siopau un alwad.

Yn dilyn y cyflwyniad, trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol ymhellach –

·       Er y croesawyd y cynllun, codwyd cwestiynau am barcio, yn enwedig parcio ar ymyl y palmant, gan fod Llywodraeth Cymru yn cynnig gwahardd yr arfer hwn. Eglurodd y swyddogion fod hwn yn fater cymhleth, oedd yn cael ei gymhlethu ymhellach gan y ffaith bod pobl ifanc yn parhau i fyw gartref yn hirach oedd yn golygu bod mwy o geir ym mhob cartref. Nid oedd cyllid ar gael ar hyn o bryd i ddatblygu meysydd parcio preswylwyr. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynnig symud ymlaen i wahardd pacio ar droedffyrdd pan oedd y terfyn cyflymder 20 mya wedi’i roi ar waith yn llawn, roedd hyd yn oed wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cludiant Cenedlaethol ond nid oedd wedi nodi y dylid ei gynnwys yn y cynlluniau rhanbarthol. Fodd bynnag, nid oes cynnig cadarn wedi’i gyflwyno ar gyfer ei orfodi hyd yma. Gellid trafod y mater hwn drwy’r Cydbwyllgorau Corfforedig pe bai’r aelodau’n gofyn iddo gael ei uwchgyfeirio atynt.

·       Yr heriau o ran teithio llesol, yn enwedig yn ardaloedd gwledig y sir.

·       Datblygiadau tai a’r angen i sicrhau bod digon o gyfleusterau parcio ar gael.   Roedd yr aelodau’n teimlo y dylid amlygu’r broblem hon yn ymateb yr Awdurdod i’r ymgynghoriad. Cadarnhaodd y swyddogion ei bod yn anodd weithiau dod o hyd i gydbwysedd priodol rhwng digon o ddarpariaeth parcio mewn datblygiadau newydd wrth annog teithio llesol hefyd.

·       Roedd parcio mewn rhai ardaloedd trefol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn peri problemau mawr yn ystod y prif dymor gwyliau. Roedd yr aelodau’n credu’n gryf bod angen dod o hyd i atebion ymarferol. 

·       Oherwydd maint y cynllun cludiant a’i gymhlethdodau, roedd yr aelodau’n teimlo y byddai o fudd i’r prosiectau a amlinellir yn Atodiad B fynd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

12:00pm – 12:20pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith.

 

Cafodd yr aelodau wybod y byddai cyfarfod anffurfiol ar y cyd rhwng y Pwyllgor â Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 18 Mawrth i drafod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Conwy a Sir Ddinbych ar y cyd. Roedd adroddiad archwilio’r Gwasanaeth wedi cael ei drafod gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Sir Ddinbych, oedd wedi awgrymu y dylai’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau fonitro ei Gynllun Cyflawni. Gan fod hwn yn wasanaeth ar y cyd rhwng Conwy a Sir Ddinbych, penderfynwyd cynnal cyfarfod ar y cyd at y dibenion hyn. Roedd yr adroddiad archwilio gwreiddiol wedi cael ei ddosbarthu i aelodau’r Pwyllgor fel rhan o’r ddogfen Briff Gwybodaeth yn gynharach yn yr wythnos ac fe’i hanogwyd i’w darllen cyn y cyfarfod ar y cyd.

 

Byddai’r cyfarfod nesaf ym mis Ebrill yn cynnwys dwy eitem: diweddariad ar gynnydd o ran adroddiad Archwilio Cymru ar ‘Ofal Brys ac Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty’ ac adroddiad yn adolygu rheoli’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref. Cafodd yr aelodau wybod nad oedd yr eitem hon yn gysylltiedig â’r model gwastraff newydd.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu hefyd fod dwy eitem wedi cael eu cyfeirio at y Pwyllgor o gyfarfod diwethaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu (GCIGC). Roedd un wedi cael ei thrafod yn y cyfarfod hwn, sef y Cynllun Cludiant Rhanbarthol. Roedd y llall yn ymwneud â dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal.  Roedd y GCIGC wedi ystyried adroddiad gwybodaeth am y pwnc hwn ac roeddent yn fodlon bod gan y Cyngor afael gadarn ar ffyrdd o ymdrin â’r newidiadau arfaethedig ar hyn o bryd. Er hyn, gan fod canllawiau Llywodraeth Cymru wrthi’n cael eu datblygu, teimlwyd y byddai’n ddoeth i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau archwilio’r mater yn fanwl yn y cyfarfod ddechrau 2026.

 

Cafodd yr aelodau wybod bod cyfarfod nesaf y GCIGC wedi’i drefnu ar gyfer 10 Mawrth 2025. Tynnwyd eu sylw at Atodiad 2, oedd yn cynnwys ffurflen Cynnig Craffu’r Aelodau. Roedd angen llenwi a dychwelyd y ffurflen hon os oedd gan aelodau unrhyw bynciau yr hoffent iddynt gael eu cynnwys ar raglen waith y Pwyllgor Craffu yn y dyfodol.   Felly:

 

Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol ar gynnwys adroddiad ar gynnydd datblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra i’w gyflwyno i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ym mis Medi 2025, cadarnhau ei raglen waith fel y nodir yn Atodiad 1  yr adroddiad.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd y Cynghorydd Feeley, y cynrychiolydd Craffu ar Fwrdd Prosiect Bwthyn y Ddôl, y Ganolfan Is-ranbarthol Asesu Plant wedi gallu aros drwy gydol y cyfarfod.   Yn ei habsenoldeb, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y prosiect.   Roedd Bwthyn y Ddôl bellach ar agor. Roedd y ddarpariaeth 4 gwely (arhosiad byr therapiwtig) wedi cael cymeradwyaeth Arolygiaeth Gofal Cymru ac roedd bellach wedi’i gofrestru i ddarparu gwasanaeth. Bu’n rhaid gwneud gwaith ychwanegol o ran y ddarpariaeth frys 2 wely er mwyn iddo fodloni’r meini prawf ar gyfer cymeradwyaeth yr Arolygiaeth. Roedd hyn wedi’i gwblhau erbyn hyn a rhagwelwyd y byddai’r Arolygiaeth yn cymeradwyo’r cofrestriad gyda hyn. O’r herwydd, gan fod y gwaith o gyflawni’r prosiect yn tynnu tua’r terfyn, roedd y Bwrdd Prosiect wedi camu i lawr.  

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am  12.15pm