Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd David Williams ac Aelod Arweiniol
Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, Y Cynghorydd Julie Matthews. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd
Gareth Sandilands gysylltiad personol gydag eitem 6 gan ei fod yn un o’r
cynrychiolwyr a benodwyd gan y Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni thynnwyd
sylw’r Cadeirydd at unrhyw eitemau brys cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2024.
Felly: PENDERFYNODD y Pwyllgor: y dylid derbyn a chymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2024 fel cofnod gwir a
chywir o'r gweithrediadau. Materion yn
codi: Roedd eitem fusnes 5, ‘Adroddiad Ymchwiliad
Llifogydd Adran 19 – Storm Babet’: copi o’r ohebiaeth a anfonwyd gan Gyfoeth
Naturiol Cymru i’r Cynghorydd Arwel Roberts mewn ymateb i’w ymholiad ar
derfynau amser yr ymchwiliad ar gyfer y byndiau ar hyd afon Clwyd yn ardaloedd
Rhuddlan a’r Rhyl wedi ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor er gwybodaeth fel
rhan o’r ddogfen ‘Briff Gwybodaeth’ cyn y cyfarfod. |
|
STATWS BANER LAS I DRAETHAU SIR DDINBYCH Ystyried adroddiad ar y cyd (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Priffyrdd a
Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r
Economi ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda sefydliadau partner mewn ymgais i
dderbyn achrediad statws baner las ar gyfer cynifer o draethau’r sir â phosibl.
10.05am – 11.30am EGWYL 11.30am – 11.45am Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen
llaw) i’r aelodau. Croesawodd y
Cadeirydd gynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i’r cyfarfod
i gyfrannu at y drafodaeth ac ateb cwestiynau’r Aelodau. Diolchodd yr Aelod Arweiniol i swyddogion am
eu presenoldeb yn y cyfarfod. Roedd yr adroddiad yn
galluogi Aelodau i graffu ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda sefydliadau
partner mewn cais i ennill achrediad statws Baner Las ar gyfer cynifer ag sy’n
bosibl o draethau’r sir. Pwysleisiwyd y byddai’n anodd iawn i’r Rhyl gael statws
Baner Las gan ei fod mor agos i aber afon Clwyd ac effeithiau’r llanw sy’n dod
i mewn. Cafodd y rhwystrau a’r heriau
sy’n wynebu’r Rhyl o ganlyniad i hyn eu hamlinellu yn y cyflwyniadau a roddwyd
gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru fel y rhesymau pam roedd traethau
Prestatyn wedi symud o ansawdd dŵr rhagorol i ansawdd dŵr da gan
arwain at dynnu ei statws Baner Las. Arweiniodd
yr Uwch Swyddog: Dulliau Rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru aelodau drwy
gyflwyniad ar Statws y Faner Las ar gyfer Traethau Sir Ddinbych. Arweiniwyd
Aelodau drwy’r broses ddosbarthu a ddefnyddir i benderfynu ansawdd y dŵr
ar draethau. Yn 2015 fe ddaeth
y broses ar gyfer profi ansawdd dŵr yn fwy llym gyda samplau yn cael eu
hasesu ar gyfer bacteria E Coli ysgarthol ac Enterococci Perfeddol. Dangoswyd
graffiau manwl i Aelodau yn cynnwys y canrannau o facteria a oedd wedi eu
darganfod mewn dŵr dros y blynyddoedd blaenorol. Os oedd y data Darogan a Thynnu yn cofnodi mwy na dau ddiwrnod dilynol o
ansawdd dŵr gwael yna nodwyd fod y dŵr yn anaddas i ymdrochi
ynddo. Mewn achosion o’r fath byddai
Cyngor Sir Ddinbych yn gosod arwyddion erbyn 10am yn rhybuddio’r cyhoedd fod y
dŵr wedi ei ddosbarthu fel dŵr anaddas ar gyfer ymdrochi. Eglurwyd yr
effeithiau ar ansawdd dŵr yn Y Rhyl gan gynnwys gwaith carthffosiaeth,
gorsafoedd pwmpio a charthffos yn gorlifo ynghyd ag effeithiau amaethyddol fel
da byw yn cael at nentydd a thaenu ar y tir a oedd i gyd wedi arwain at
oblygiadau o ran ansawdd y dŵr ar draethau’r Rhyl. O ran y
dyfodol roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru nifer o gynlluniau mewn grym i geisio
gostwng y bacteria amaethyddol sy’n arllwys i’r system ddŵr, sef y
rheoleiddio parhaus o ran gollyngiadau a ganiateir, Canllaw dosbarthu Gorlif
Storm a’r sylw parhaus a roddir i leihau ffynonellau bacteria amaethyddol.
Cafodd datrysiadau mwy hirdymor eu hamlinellu a’u
hegluro. Fodd bynnag byddai angen
cynnydd sylweddol mewn cyllid gan y llywodraeth ganolog ar gyfer cynlluniau
amaethyddol er mwyn darparu anogaeth i ffermwyr i osod cynlluniau. Diolchodd y Cadeirydd
i’r Uwch Swyddog: Dulliau Rheoleiddio am gyflwyniad Cyfoeth Naturiol Cymru. Arweiniodd Swyddog
Cyswllt Ansawdd Afonydd o Dŵr Cymru yr Aelodau drwy gyflwyniad ar ansawdd
dŵr ymdrochi. Roedd Dŵr Cymru yn
diheintio’r garthffrwd ger dyfroedd ymdrochi, ond nid dyma’r drefn arferol ar
gyfer afonydd. Roedd hyn yn helpu i gynnal yr ansawdd ar gyfer ymdrochi. Roedd
gwaith trin dŵr gwastraff Dinbych, Dyserth, Llanelwy a Llanasa i gyd yn
derbyn triniaeth UV. Roedd Dŵr Cymru yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol
Cymru i wneud rhagor o welliannau a lle nodwyd y rhain byddent yn dod yn rhan
o’u cynlluniau buddsoddi pum mlynedd. Hefyd cynhaliodd Dŵr Cymru
ymchwiliadau i ansawdd dŵr ymdrochi mewn ardaloedd lle gall eu hasedau
gyfrannu at leoliadau statws gwaeth. Rhoddwyd manylion i Aelodau ar orlif dŵr yn ardal traethau’r Rhyl a Phrestatyn. Dros y tymor ymdrochi roedd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GWASANAETHAU CYNLLUNIO AT ARGYFWNG RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2023/24 Ystyried adroddiad
(copi ynghlwm) gan Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl yn
cyflwyno Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cynllunio At Argyfwng Rhanbarthol
Gogledd Cymru 2023/24. 11.45am - 12.15pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio
Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru 2023/24 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i
Aelodau. Diben yr adroddiad oedd
i hyrwyddo Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau
Gogledd Cymru a rhoi hyder i Aelodau fod Sir Ddinbych yn barod pe byddai yna
argyfwng. Sicrhaodd Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru
fod trefniadau sylweddol ar waith mewn perthynas â chynllunio rhag argyfwng o
fewn y Cyngor ac mae’r adroddiad yn nodi’n benodol: ·
Sut mae’r gwasanaeth
rhanbarthol yn cyfrannu at wytnwch a diogelwch cymunedau yn Sir Ddinbych. ·
Rhaglen waith bresennol
y Gwasanaeth. ·
Y strwythur yng Nghyngor
Sir Ddinbych i ymateb i argyfwng neu achos brys. ·
Darpariaeth cynllunio
rhag argyfwng y tu allan i oriau. ·
Hyfforddiant a Datblygu
i staff mewn rolau Cynllunio Rhag Argyfwng. Mae Cyngor Sir Ynys Môn,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a
Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cydweithio mewn partneriaeth ers sefydlu
Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru yn 2014. Mae’r Gwasanaeth yn
ymgymryd â swyddogaethau’r Cynghorau o ran argyfyngau sifil posibl ac mae’n
atebol i Fwrdd Gweithredol sy’n cynnwys uwch swyddogion o’r Cynghorau hynny.
Mae Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru yn darparu
gwasanaeth i sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth
ganlynol: ·
Deddf Argyfyngau Sifil
Posibl, 2004 ·
Rheoliadau Rheoli
Peryglon Damweiniau Mawr, 2015 ·
Rheoliadau Diogelwch
Piblinellau, 1996 ·
Rheoliadau Ymbelydredd
(Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i’r Cyhoedd), 2019 Mae’r Adroddiad Blynyddol yn nodi’r gwaith y mae Gwasanaeth
Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i wneud dros y flwyddyn
ddiwethaf. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau
gan yr Aelodau. Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd fod disgwyl i
adroddiad Grŵp Cau Pontydd Afon Menai fod ar gael erbyn diwedd y flwyddyn
adrodd bresennol. Hefyd amlinellodd ran
Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru yn y broses o
reoli traffig wedi i borthladd Caergybi gau yn annisgwyl o ganlyniad i’r difrod
a achoswyd gan Storm Darragh. Holodd Aelodau a ddylai’r Cyngor fod yn monitro
bygythiadau a oedd yn digwydd o amgylch y byd a gofynnwyd a oedd y broses
gynllunio ar gyfer argyfyngau posibl yn ymgorffori’r bygythiadau newydd hyn
wrth i’r byd ddod yn fwy ansefydlog. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a
Busnes fod yna Gofrestr Risg ac Asesiad ar gyfer y DU a Chymru gyfan a oedd yn
nodi’r holl gynlluniau sydd mewn grym ar hyn o bryd. Roedd cynlluniau mewn grym
ar gyfer ymosodiadau seibr posibl ac argyfyngau’n ymwneud â newid hinsawdd.
Eglurodd y Swyddog Cynllunio Rhag Argyfwng ymhellach fod y tîm yn gweithio’n
agos gyda Llywodraeth Cymru a oedd wedyn yn hysbysu’r Fforwm Cydnerthedd
Aml-Asiantaeth a oedd yn edrych ar sut roedd risgiau i ddod yn cael eu lliniaru’n
rhanbarthol. Roedd cynllunio ar gyfer
sefyllfaoedd o argyfwng yn llawer mwy na dim ond ymagwedd ranbarthol a lleol,
roedd yna hierarchaeth cynllunio rhag argyfwng mewn grym. Yn ddibynnol ar natur y risg byddai
Llywodraeth y DU a/neu Llywodraeth Cymru yn nodi’r risgiau a mesurau lliniaru
cenedlaethol. Byddai hyn wedyn yn cael ei fwydo i wasanaethau cynllunio rhag
argyfwng rhanbarthol i lunio mwy o fesurau lliniaru lleol a chynlluniau lleol i
ymateb i’r argyfyngau amrywiol os ydynt yn digwydd. Mae’r cofrestrau risg rhanbarthol yn cynnwys
risgiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.
Roedd disgwyl i Gofrestr Risg Gogledd Cymru gael ei chyhoeddi ar wefan
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn y dyfodol. Gofynnodd Aelodau a oedd y Cyngor yn barod ar gyfer unrhyw argyfyngau mewn perthynas â’r adnoddau oedd ar gael yn yr hinsawdd ariannol bresennol a holwyd sut y gallai Aelodau ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen
waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion
perthnasol. 12.15pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Archwilio’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a
oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith. Dywedwyd wrth
Aelodau fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau y byddant yn
anfon cynrychiolwyr i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Chwefror 2025 i roi’r
cyfle i Aelodau i ofyn cwestiynau ar y cynnydd hyd yma gyda Phrosiect Ysbyty
Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych. Yn
ychwanegol byddai’r adroddiad ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y
Cyngor, a ohiriwyd o gyfarfod mis Hydref 2024 hefyd yn cael ei gyflwyno. Yng nghyfarfod mis
Tachwedd o Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu roedd adroddiad
Archwilio Cymru o’r enw ‘Gofal Brys ac Argyfwng - Llif Allan o’r Ysbyty’ wedi
ei gyfeirio at y Pwyllgor ar gyfer ystyriaeth bellach. Tra roedd hon yn astudiaeth genedlaethol,
roedd ganddi oblygiadau lleol a rhanbarthol ac felly roedd Grŵp
Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu o’r farn y byddai’n ddefnyddiol pe
gallai’r pwyllgor ystyried y cynnydd a wnaed hyd yma mewn gweithredu argymhellion
yr astudiaeth. Gan mai amcan yr argymhellion
oedd fod yr holl bartneriaid yn cydweithio’n effeithiol er budd y preswylwyr,
byddai’n synhwyrol i gael cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd, y Cyngor a Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’n bresennol ar gyfer y drafodaeth. Roedd yr eitem felly wedi ei gosod yn rhaglen
waith y Pwyllgor ar gyfer ei gyfarfod yn Ebrill 2025. Gan fod Sir
Ddinbych yn gweithredu Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar y cyd gyda Chyngor
Bwrdeistref Sirol Conwy roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion wedi
penderfynu y byddai o fudd cynnal cyfarfod anffurfiol ar y cyd o Bwyllgor
Craffu Partneriaethau Sir Ddinbych a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal
Cymdeithasol ac Iechyd Conwy er mwyn archwilio’r cynnig a wnaed hyd yma gan yr
holl bartneriaid o ran gweithredu’r argymhellion o ganlyniad i archwiliad
Arolygiaeth Prawf EF o’r gwasanaeth. I’r
diben hwn, roedd cyfarfod anffurfiol ar y cyd o’r ddau Bwyllgor wedi ei drefnu
ar gyfer dydd Mawrth 18 Mawrth 2025.
Byddai’n cael ei gynnal o bell drwy fideo gynadledda gyda’r cofnodion yn
cael eu cyflwyno i bwyllgor ffurfiol priodol pob Cyngor ar gyfer eu cadarnhau. Dywedwyd wrth
Aelodau fod cyfarfod nesaf Grŵp y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion i’w
gynnal ar 20 Ionawr 2025 a thynnwyd eu sylw at Atodiad 2 a oedd yn cynnwys
ffurflen Gynnig Archwilio’r Aelodau a oedd i’w chwblhau a’i dychwelyd erbyn
dechrau Ionawr os oedd gan Aelodau unrhyw bynciau yr hoffent iddynt gael eu
hystyried ar gyfer eu cynnwys yn rhaglen waith y pwyllgor archwilio yn y
dyfodol. Felly: penderfynodd
y Pwyllgor:
yn ddibynnol ar yr uchod gadarnhau ei raglen waith fel y nodir yn Atodiad 1 yr
adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y
Cynghorydd Bobby Feeley drosolwg o’r cynnydd a wnaed hyd yma gyda Chanolfan
Asesu Plant Is-ranbarthol Bwthyn y Ddôl ym Mae Colwyn. Hyd yma roedd cofrestriad Arolygiaeth Gofal
Cymru wedi ei roi ar gyfer canolfan 4 gwely.
Roedd angen gwaith ychwanegol a llenwi dwy swydd arall cyn y gellid
caniatáu cofrestru unrhyw welyau eraill.
Roedd yr holl faterion a oedd yn weddill nawr wedi eu huwchgyfeirio i
sylw’r Prif Weithredwr ac roedd disgwyl iddynt gael eu datrys yn y dyfodol
agos. Felly: penderfynodd
yr Aelodau:
dderbyn y wybodaeth a ddarparwyd. Daeth y cyfarfod
i ben am 1.30pm |