Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd David Williams ac Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, Y Cynghorydd Julie Matthews.

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 199 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Gareth Sandilands gysylltiad personol gydag eitem 6 gan ei fod yn un o’r cynrychiolwyr a benodwyd gan y Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni thynnwyd sylw’r Cadeirydd at unrhyw eitemau brys cyn dechrau’r cyfarfod.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 315 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2024 (copi ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2024.  Felly:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2024 fel cofnod gwir a chywir o'r gweithrediadau.

 

Materion yn codi:  Roedd eitem fusnes 5, ‘Adroddiad Ymchwiliad Llifogydd Adran 19 – Storm Babet’: copi o’r ohebiaeth a anfonwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru i’r Cynghorydd Arwel Roberts mewn ymateb i’w ymholiad ar derfynau amser yr ymchwiliad ar gyfer y byndiau ar hyd afon Clwyd yn ardaloedd Rhuddlan a’r Rhyl wedi ei gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor er gwybodaeth fel rhan o’r ddogfen ‘Briff Gwybodaeth’ cyn y cyfarfod.  

 

 

 

5.

STATWS BANER LAS I DRAETHAU SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 247 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd (copi ynghlwm) gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Yr Amgylchedd a’r Economi ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda sefydliadau partner mewn ymgais i dderbyn achrediad statws baner las ar gyfer cynifer o draethau’r sir â phosibl.

 

10.05am – 11.30am

 

EGWYL 11.30am – 11.45am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r aelodau.  Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i’r cyfarfod i gyfrannu at y drafodaeth ac ateb cwestiynau’r Aelodau.  Diolchodd yr Aelod Arweiniol i swyddogion am eu presenoldeb yn y cyfarfod.

 

Roedd yr adroddiad yn galluogi Aelodau i graffu ar y gwaith sy’n cael ei wneud gyda sefydliadau partner mewn cais i ennill achrediad statws Baner Las ar gyfer cynifer ag sy’n bosibl o draethau’r sir. Pwysleisiwyd y byddai’n anodd iawn i’r Rhyl gael statws Baner Las gan ei fod mor agos i aber afon Clwyd ac effeithiau’r llanw sy’n dod i mewn.  Cafodd y rhwystrau a’r heriau sy’n wynebu’r Rhyl o ganlyniad i hyn eu hamlinellu yn y cyflwyniadau a roddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru fel y rhesymau pam roedd traethau Prestatyn wedi symud o ansawdd dŵr rhagorol i ansawdd dŵr da gan arwain at dynnu ei statws Baner Las.

 

Arweiniodd yr Uwch Swyddog: Dulliau Rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru aelodau drwy gyflwyniad ar Statws y Faner Las ar gyfer Traethau Sir Ddinbych. Arweiniwyd Aelodau drwy’r broses ddosbarthu a ddefnyddir i benderfynu ansawdd y dŵr ar draethau.

 

Yn 2015 fe ddaeth y broses ar gyfer profi ansawdd dŵr yn fwy llym gyda samplau yn cael eu hasesu ar gyfer bacteria E Coli ysgarthol ac Enterococci Perfeddol. Dangoswyd graffiau manwl i Aelodau yn cynnwys y canrannau o facteria a oedd wedi eu darganfod mewn dŵr dros y blynyddoedd blaenorol. Os oedd y data Darogan a Thynnu yn cofnodi mwy na dau ddiwrnod dilynol o ansawdd dŵr gwael yna nodwyd fod y dŵr yn anaddas i ymdrochi ynddo.  Mewn achosion o’r fath byddai Cyngor Sir Ddinbych yn gosod arwyddion erbyn 10am yn rhybuddio’r cyhoedd fod y dŵr wedi ei ddosbarthu fel dŵr anaddas ar gyfer ymdrochi.

 

Eglurwyd yr effeithiau ar ansawdd dŵr yn Y Rhyl gan gynnwys gwaith carthffosiaeth, gorsafoedd pwmpio a charthffos yn gorlifo ynghyd ag effeithiau amaethyddol fel da byw yn cael at nentydd a thaenu ar y tir a oedd i gyd wedi arwain at oblygiadau o ran ansawdd y dŵr ar draethau’r Rhyl.

 

O ran y dyfodol roedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru nifer o gynlluniau mewn grym i geisio gostwng y bacteria amaethyddol sy’n arllwys i’r system ddŵr, sef y rheoleiddio parhaus o ran gollyngiadau a ganiateir, Canllaw dosbarthu Gorlif Storm a’r sylw parhaus a roddir i leihau ffynonellau bacteria amaethyddol. Cafodd datrysiadau mwy hirdymor eu hamlinellu a’u hegluro.  Fodd bynnag byddai angen cynnydd sylweddol mewn cyllid gan y llywodraeth ganolog ar gyfer cynlluniau amaethyddol er mwyn darparu anogaeth i ffermwyr i osod cynlluniau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Uwch Swyddog: Dulliau Rheoleiddio am gyflwyniad Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Arweiniodd Swyddog Cyswllt Ansawdd Afonydd o Dŵr Cymru yr Aelodau drwy gyflwyniad ar ansawdd dŵr ymdrochi.

 

Roedd Dŵr Cymru yn diheintio’r garthffrwd ger dyfroedd ymdrochi, ond nid dyma’r drefn arferol ar gyfer afonydd. Roedd hyn yn helpu i gynnal yr ansawdd ar gyfer ymdrochi. Roedd gwaith trin dŵr gwastraff Dinbych, Dyserth, Llanelwy a Llanasa i gyd yn derbyn triniaeth UV. Roedd Dŵr Cymru yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud rhagor o welliannau a lle nodwyd y rhain byddent yn dod yn rhan o’u cynlluniau buddsoddi pum mlynedd. Hefyd cynhaliodd Dŵr Cymru ymchwiliadau i ansawdd dŵr ymdrochi mewn ardaloedd lle gall eu hasedau gyfrannu at leoliadau statws gwaeth.

 

Rhoddwyd manylion i Aelodau ar orlif dŵr yn ardal traethau’r Rhyl a Phrestatyn. Dros y tymor ymdrochi roedd  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL GWASANAETHAU CYNLLUNIO AT ARGYFWNG RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2023/24 pdf eicon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Bennaeth y Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol: Pobl yn cyflwyno Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cynllunio At Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru 2023/24.

 

11.45am - 12.15pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru 2023/24 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i Aelodau.

 

Diben yr adroddiad oedd i hyrwyddo Adroddiad Blynyddol Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru a rhoi hyder i Aelodau fod Sir Ddinbych yn barod pe byddai yna argyfwng. Sicrhaodd Gwasanaeth Cynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru fod trefniadau sylweddol ar waith mewn perthynas â chynllunio rhag argyfwng o fewn y Cyngor ac mae’r adroddiad yn nodi’n benodol: 

·       Sut mae’r gwasanaeth rhanbarthol yn cyfrannu at wytnwch a diogelwch cymunedau yn Sir Ddinbych.

·       Rhaglen waith bresennol y Gwasanaeth.

·       Y strwythur yng Nghyngor Sir Ddinbych i ymateb i argyfwng neu achos brys.

·       Darpariaeth cynllunio rhag argyfwng y tu allan i oriau.

·       Hyfforddiant a Datblygu i staff mewn rolau Cynllunio Rhag Argyfwng.

 

Mae Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cydweithio mewn partneriaeth ers sefydlu Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru yn 2014.

 

Mae’r Gwasanaeth yn ymgymryd â swyddogaethau’r Cynghorau o ran argyfyngau sifil posibl ac mae’n atebol i Fwrdd Gweithredol sy’n cynnwys uwch swyddogion o’r Cynghorau hynny. Mae Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru yn darparu gwasanaeth i sicrhau fod Awdurdodau Lleol yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ganlynol:

 

·       Deddf Argyfyngau Sifil Posibl, 2004

·       Rheoliadau Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr, 2015

·       Rheoliadau Diogelwch Piblinellau, 1996

·       Rheoliadau Ymbelydredd (Parodrwydd am Argyfwng a Gwybodaeth i’r Cyhoedd), 2019

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn nodi’r gwaith y mae Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes am yr adroddiad a chroesawyd cwestiynau gan yr Aelodau.

Wrth ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd fod disgwyl i adroddiad Grŵp Cau Pontydd Afon Menai fod ar gael erbyn diwedd y flwyddyn adrodd bresennol.  Hefyd amlinellodd ran Gwasanaeth Cynllunio rhag Argyfwng Rhanbarthol Gogledd Cymru yn y broses o reoli traffig wedi i borthladd Caergybi gau yn annisgwyl o ganlyniad i’r difrod a achoswyd gan Storm Darragh.

Holodd Aelodau a ddylai’r Cyngor fod yn monitro bygythiadau a oedd yn digwydd o amgylch y byd a gofynnwyd a oedd y broses gynllunio ar gyfer argyfyngau posibl yn ymgorffori’r bygythiadau newydd hyn wrth i’r byd ddod yn fwy ansefydlog.

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes fod yna Gofrestr Risg ac Asesiad ar gyfer y DU a Chymru gyfan a oedd yn nodi’r holl gynlluniau sydd mewn grym ar hyn o bryd. Roedd cynlluniau mewn grym ar gyfer ymosodiadau seibr posibl ac argyfyngau’n ymwneud â newid hinsawdd. Eglurodd y Swyddog Cynllunio Rhag Argyfwng ymhellach fod y tîm yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a oedd wedyn yn hysbysu’r Fforwm Cydnerthedd Aml-Asiantaeth a oedd yn edrych ar sut roedd risgiau i ddod yn cael eu lliniaru’n rhanbarthol.  Roedd cynllunio ar gyfer sefyllfaoedd o argyfwng yn llawer mwy na dim ond ymagwedd ranbarthol a lleol, roedd yna hierarchaeth cynllunio rhag argyfwng mewn grym.  Yn ddibynnol ar natur y risg byddai Llywodraeth y DU a/neu Llywodraeth Cymru yn nodi’r risgiau a mesurau lliniaru cenedlaethol. Byddai hyn wedyn yn cael ei fwydo i wasanaethau cynllunio rhag argyfwng rhanbarthol i lunio mwy o fesurau lliniaru lleol a chynlluniau lleol i ymateb i’r argyfyngau amrywiol os ydynt yn digwydd.  Mae’r cofrestrau risg rhanbarthol yn cynnwys risgiau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol.  Roedd disgwyl i Gofrestr Risg Gogledd Cymru gael ei chyhoeddi ar wefan Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn y dyfodol.

Gofynnodd Aelodau a oedd y Cyngor yn barod ar gyfer unrhyw argyfyngau mewn perthynas â’r adnoddau oedd ar gael yn yr hinsawdd ariannol bresennol a holwyd sut y gallai Aelodau  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 243 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

12.15pm – 12.30pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Archwilio’r adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen waith.

 

Dywedwyd wrth Aelodau fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cadarnhau y byddant yn anfon cynrychiolwyr i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 13 Chwefror 2025 i roi’r cyfle i Aelodau i ofyn cwestiynau ar y cynnydd hyd yma gyda Phrosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych.  Yn ychwanegol byddai’r adroddiad ar Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Cyngor, a ohiriwyd o gyfarfod mis Hydref 2024 hefyd yn cael ei gyflwyno.

 

Yng nghyfarfod mis Tachwedd o Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu roedd adroddiad Archwilio Cymru o’r enw ‘Gofal Brys ac Argyfwng - Llif Allan o’r Ysbyty’ wedi ei gyfeirio at y Pwyllgor ar gyfer ystyriaeth bellach.  Tra roedd hon yn astudiaeth genedlaethol, roedd ganddi oblygiadau lleol a rhanbarthol ac felly roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu o’r farn y byddai’n ddefnyddiol pe gallai’r pwyllgor ystyried y cynnydd a wnaed hyd yma mewn gweithredu argymhellion yr astudiaeth.  Gan mai amcan yr argymhellion oedd fod yr holl bartneriaid yn cydweithio’n effeithiol er budd y preswylwyr, byddai’n synhwyrol i gael cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd, y Cyngor a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’n bresennol ar gyfer y drafodaeth.  Roedd yr eitem felly wedi ei gosod yn rhaglen waith y Pwyllgor ar gyfer ei gyfarfod yn Ebrill 2025. 

 

Gan fod Sir Ddinbych yn gweithredu Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar y cyd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion wedi penderfynu y byddai o fudd cynnal cyfarfod anffurfiol ar y cyd o Bwyllgor Craffu Partneriaethau Sir Ddinbych a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Conwy er mwyn archwilio’r cynnig a wnaed hyd yma gan yr holl bartneriaid o ran gweithredu’r argymhellion o ganlyniad i archwiliad Arolygiaeth Prawf EF o’r gwasanaeth.  I’r diben hwn, roedd cyfarfod anffurfiol ar y cyd o’r ddau Bwyllgor wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth 18 Mawrth 2025.  Byddai’n cael ei gynnal o bell drwy fideo gynadledda gyda’r cofnodion yn cael eu cyflwyno i bwyllgor ffurfiol priodol pob Cyngor ar gyfer eu cadarnhau.

 

Dywedwyd wrth Aelodau fod cyfarfod nesaf Grŵp y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion i’w gynnal ar 20 Ionawr 2025 a thynnwyd eu sylw at Atodiad 2 a oedd yn cynnwys ffurflen Gynnig Archwilio’r Aelodau a oedd i’w chwblhau a’i dychwelyd erbyn dechrau Ionawr os oedd gan Aelodau unrhyw bynciau yr hoffent iddynt gael eu hystyried ar gyfer eu cynnwys yn rhaglen waith y pwyllgor archwilio yn y dyfodol.

 

Felly:

 

penderfynodd y Pwyllgor: yn ddibynnol ar yr uchod gadarnhau ei raglen waith fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Bobby Feeley drosolwg o’r cynnydd a wnaed hyd yma gyda Chanolfan Asesu Plant Is-ranbarthol Bwthyn y Ddôl ym Mae Colwyn.   Hyd yma roedd cofrestriad Arolygiaeth Gofal Cymru wedi ei roi ar gyfer canolfan 4 gwely.  Roedd angen gwaith ychwanegol a llenwi dwy swydd arall cyn y gellid caniatáu cofrestru unrhyw welyau eraill.  Roedd yr holl faterion a oedd yn weddill nawr wedi eu huwchgyfeirio i sylw’r Prif Weithredwr ac roedd disgwyl iddynt gael eu datrys yn y dyfodol agos.  Felly:  

 

penderfynodd yr Aelodau: dderbyn y wybodaeth a ddarparwyd.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 1.30pm