Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, Ruthin and by Video Conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth y Cynghorwyr Brian Jones, Raj Metri, Arwel Roberts a David Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 199 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu ag unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Kelly Clewett gysylltiad personol ag eitem rhif 6 ar y rhaglen, ‘Gosod Lefelau Rhent Fforddiadwy’, gan ei bod yn berchennog ar eiddo a rentir yn breifat nad ydynt yn destun rhent cymdeithasol na rhent canolradd.

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 182 KB

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor am weddill y flwyddyn ddinesig 2023/24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Peter Scott o’r Pwyllgor wedi ei benodiad yn Gadeirydd y Cyngor Sir, daeth rôl Is-gadeirydd y Pwyllgor yn wag.

 

Enwebwyd y Cynghorydd Pauline Edwards gan y Cynghorydd Bobby Feeley i gymryd rôl Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Partneriaethau.  Eiliwyd enwebu’r Cynghorydd Edwards gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.  Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill ac felly yr oedd y Pwyllgor yn unfrydol:

 

Penderfynwyd: penodi’r Cynghorydd Pauline Edwards yn Is-gadeirydd ar gyfer gweddill blwyddyn 2023/24 y Cyngor.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw eitemau brys gyda’r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 404 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023 (copi’n amgaeedig).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023.

 

PENDERFYNWYD: derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2023 fel cofnod cywir.

 

Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y cofnodion.

 

6.

GOSOD LEFELAU RHENT FFORDDIADWY pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried Adroddiad gan yr Uwch Swyddog Strategaeth - Cynllunio Strategol a Thai, ar Osod Lefelau Rhent Fforddiadwy.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Swyddogion a’r Aelod Arweiniol, y Cynghorydd Rhys Thomas, i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Gwasanaethau Cefn Gwlad adroddiad i’r Pwyllgor ynglŷn â gosod Rhenti Tai Fforddiadwy. Nododd y Swyddogion fod yna berthynas aeddfed a chynhyrchiol gyda Chymdeithasau Tai yn y sir. Yr oedd Cymdeithasau Tai a’r Cyngor yn gweithio’n agos â’i gilydd i ddiwallu’r angen am dai yn y sir.

 

Arweiniodd Rheolwr Cynllunio Strategol a Thai yr Aelodau drwy’r adroddiad.

 

Rhennid Rhent Fforddiadwy yn ddau gategori – rhent cymdeithasol a rhent canolradd. Rhent cymdeithasol oedd y math isaf o rent fforddiadwy ac mae’r rhan fwyaf o eiddo’r Cyngor a Chymdeithasau Tai (Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) wedi gosod rhent ar y lefel hon. Yr oedd yn ofynnol i bob awdurdod tai lleol a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yng Nghymru gydymffurfio â Safon Rhent a Thâl Gwasanaeth Tai Cymdeithasol. Cyflwynwyd y Safon yn rhan o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

 

Yr oedd yr adroddiad a gyflwynwyd yn ymwneud â rhent canolradd.  Pennwyd diffiniad Rhent Canolradd gan Lywodraeth Cymru (LlC) fel rhent sy’n cael ei osod naill ai ar gyfradd y Lwfans Tai Lleol (a bennir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio i fod y traean isaf o renti’r farchnad agored), i fyny i uchafswm o 80% o rent y farchnad; yr oedd y ffigur yn cynnwys taliadau gwasanaeth. Yr oedd Rhent Canolradd yn cael ei arwain gan y farchnad yn hytrach nag incwm ac, felly, yr oedd y codiadau rhent a welwyd yn ddiweddar yn y sector rhentu preifat yn effeithio arno.

 

Yr oedd Rhent Canolradd yn opsiwn a oedd ar gael i ddatblygwyr preifat ochr yn ochr â pherchnogaeth cartref â chymorth, wrth ystyried rhwymedigaethau cynllunio ar safleoedd datblygu newydd. Yn Sir Ddinbych yr oedd 15 o anheddau yn eiddo i 3 datblygwr preifat gwahanol, a oedd yn cael eu rhentu fel eiddo canolradd.

 

Yr oedd Tai Fforddiadwy yn y sir ar gael drwy gofrestr Tai Teg a weithredid gan Grŵp Cynefin. Yr oedd 960 o ymgeiswyr ar hyn o bryd yn gwneud cais am Lety Rhent Canolradd, sydd wedi cynyddu’n sylweddol. Gellid egluro’r cynnydd yn y galw oherwydd yr ansicrwydd yn y farchnad swyddi, Brexit a Covid, ac yr oedd prisiau eiddo wedi bod yn cynyddu’n aruthrol hefyd.

 

Yr oedd problemau wedi bod yn ymwneud â chynnwys taliadau gwasanaeth mewn rhent canolradd, a chynhaliwyd nifer o gyfarfodydd gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a swyddogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn. Canlyniad y cyfarfodydd hyn oedd y cytunwyd bod canllawiau Llywodraeth Cymru ychydig yn aneglur, ac felly cyhoeddwyd llythyr (a ddosbarthwyd ymlaen llaw, sef Atodiad (iv) yr adroddiad) i egluro unrhyw bryderon gan nodi y dylai Rhent Canolradd gynnwys unrhyw daliadau gwasanaeth.

 

Yr oedd yna ymrwymiad pellach gan Lywodraeth Cymru i adolygu lefelau Rhent Canolradd yn rhan o bolisi yn y dyfodol; fodd bynnag, nid oedd unrhyw amserlen ar gyfer hynny ar hyn o bryd.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr Cynllunio Strategol a Thai am yr adroddiad a chroesawu cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y taliadau gwasanaeth a holi a oedd hyn yn ffordd gan y datblygwyr o gynyddu rhent. Dywedodd Pennaeth Tai Fforddiadwy (Clwyd Alyn) fod rhai ardaloedd cymunedol yn cael eu cynnal a chadw gan y datblygwr, yr oedd tâl blynyddol ar gyfer pob eiddo a drosglwyddid i’r preswylwyr fel tâl gwasanaeth.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd y Cymdeithasau Tai’n gallu addasu’r rhent a thaliadau gwasanaeth pe bai tenant yn cael anawsterau ariannol. Dywedodd Cynrychiolydd Clwyd Alyn eu bod yn archwilio ffyrdd o gynorthwyo tenantiaid i dalu eu rhent drwy roi talebau bwyd ac ynni – yr oedd ganddynt Gronfa i Breswylwyr  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 241 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu yr adroddiad a’r atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Trefnwyd cyfarfod nesaf Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer 8 Chwefror 2024. Nodwyd un eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf:

 

·       Prosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych – hysbyswyd yr Aelodau bod yr eitem wedi ei gohirio dros dro tan gyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth 2024.

Trefnwyd cyfarfod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar gyfer 29 Ionawr, ac anogwyd yr Aelodau i lenwi’r ffurflen berthnasol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) os oedd unrhyw eitemau yr oedd Aelodau eisiau eu hystyried yn y cyfarfod. Nid ychwanegwyd unrhyw eitemau i raglen waith y Pwyllgor yng nghyfarfod diwethaf Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu.

 

Atodiad 3 oedd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet er gwybodaeth i’r Aelodau. Yr oedd Atodiad 4 yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor ynglŷn ag argymhellion o’r cyfarfod blaenorol.

 

Amlygodd y Cydlynydd Craffu ei bod yn ofynnol i’r Pwyllgor enwebu dirprwy gynrychiolydd newydd ar gyfer Grŵp Craffu Cyfalaf yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Peter Scott.

 

Gofynnwyd am enwebiadau gan yr Aelodau. Enwebodd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones ei hun. Gan na chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, cynigiwyd ac eiliwyd bod y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones yn cael ei phenodi’n ddirprwy gynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Craffu Cyfalaf.

 

Bu i’r Pwyllgor:

 

Benderfynu: 

 

(i)             cadarnhau ei raglen gwaith i’r dyfodol fel y’i nodir yn Atodiad 1, yn amodol ar aildrefnu eitem Prosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych dros dro ar gyfer cyfarfod ym mis Mawrth 2024 yn lle cyfarfod ym mis Chwefror 2024; a

(ii)           phenodi’r Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones i wasanaethu fel dirprwy gynrychiolydd y Pwyllgor ar Grŵp Craffu Cyfalaf, i ddirprwyo yn absenoldeb cynrychiolydd penodedig y Pwyllgor yn ôl yr angen.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Canolfan Asesu Plant Bwthyn y Ddôl:  Dywedodd y Cynghorydd Bobby Feeley, cynrychiolydd Pwyllgorau Craffu Cyngor Sir Ddinbych ar Fwrdd Prosiect y cyfleuster hwn, fod y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo’n dda ac ymddengys fod popeth ar y trywydd iawn o ran amser.  Dywedodd hefyd fod Pennaeth Gwasanaethau Plant y Cyngor yn awyddus i ddarparu adroddiad am y prosiect i’r Aelodau yn y dyfodol agos.

 

Herio Gwasanaeth – Gwasanaeth Perfformiad, Digidol ac Asedau: Hysbyswyd yr Aelodau gan yr Is-gadeirydd, cynrychiolydd y Pwyllgor ar y Grŵp Herio Gwasanaeth hwn, fod y cyfarfod Herio Gwasanaeth ar gyfer y Gwasanaeth hwn i fod i gael ei gynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd.  Anogodd Aelodau a oedd â chwestiynau neu bryderon yn ymwneud â’r Gwasanaeth hwn i’w hanfon ymlaen iddi cyn gynted â phosibl, er mwyn iddi allu eu codi yn y cyfarfod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelodau am eu presenoldeb yn y cyfarfod a therfynwyd y cyfarfod.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.20am.