Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN A THRWY GYSWLLT FIDEO

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorwyr Peter Scott a Raj Metri.

 

Estynnodd y Cadeirydd a’r aelodau eu cydymdeimlad diffuant â’r Cynghorydd Peter Scott yn dilyn marwolaeth ei wraig, Mrs Susan Scott. Gofynnwyd am i’w cydymdeimlad dwys gael ei fynegi i’r Cynghorydd Scott a’i deulu. 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Kelly Clewett  gysylltiad personol ag eitemau 5 a 6 gan ei bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel matrion brys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni thynnwyd sylw'r Cadeirydd na’r Cydlynydd Craffu at unrhyw faterion brys cyn y cyfarfod.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 418 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023 (copy ynghlwm).

 

10.05am – 10.15am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023.  Felly:

 

Penderfynwyd: y dylai’r Pwyllgor dderbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir.

 

Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chywirdeb na chynnwys y cofnodion.

 

5.

PROSIECT YSBYTY CYMUNEDOL GOGLEDD SIR DDINBYCH

Trafodaeth gyda chynrychiolydd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas â chyflawni'r prosiect hwn.

 

10.15am – 10.45am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton y wybodaeth ddiweddaraf am Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych.

 

Dywedodd wrth yr aelodau, er mai prosiect gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yw Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych, roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i gefnogi’r prosiect hanfodol hwn.  

 

Eglurwyd bod y Prosiect yn hanfodol oherwydd y pwysau a’r galw cynyddol ar Uned Frys a Damweiniau Ysbyty Glan Clwyd.

 

Eglurodd yr Aelod Arweiniol fod Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi gorfod drafftio eu Cynllun Cyfalaf Strategol 10 mlynedd cyntaf, oedd bellach wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd datblygu Ysbyty Brenhinol Alexandra yn un o dri phrosiect blaenoriaeth a gyflwynwyd oedd o fewn ffiniau Cyngor Sir Ddinbych.

 

Roedd ceisiadau Ffurflenni Sero wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol erbyn hyn, ond er ei fod yn cynnig sicrwydd, dywedwyd y byddai hyn ond yn cyfri am 20% o gyfanswm cyllid y prosiect.  Hefyd dim ond cam cyntaf y cais oedd hwn ac nid oedd yn warant o unrhyw gyllid. 

 

Ym mis Awst 2023, cyfarfu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, yr Arweinydd a’r Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol â Chadeirydd dros dro a Phrif Weithredwr BIPBC. Roedd hwn yn gyfarfod buddiol iawn oedd yn canolbwyntio ar ddatblygiad prosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych. Pwysleisiwyd bod BIPBC wedi ymrwymo i barhau â’r prosiect hyd y pen a’u bod yn parhau i gysylltu â Llywodraeth Cymru er mwyn cyflymu datblygiad y prosiect.  

 

Mynegodd yr Aelod Arweiniol yr angen diymwad i gwblhau’r prosiect hwn, ond bod angen cadw mewn cof y sefyllfa ariannol anodd sy’n ein hwynebu.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y broses a’r amserlenni ymhellach fel a ganlyn:

·       Roedd y Ffurflen Sero (ffurflen gais) bellach wedi cael ei chyflwyno a’i chymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

·       Bydd Prosiectau Gogledd Cymru sydd wedi cael eu cymeradwyo ar lefel Ffurflen Sero yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac yna eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd y wybodaeth ddiweddaraf a roddwyd i’r Pwyllgor yn y cyfarfod yn gam arwyddocaol ymlaen yn y prosiect, ond nid oedd y cyllid wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru eto.

 

Rhestrodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau’r Gymuned Iechyd Integredig y mathau o wasanaethau fyddai yn safle Ysbyty Brenhinol Alexandra a’r disgwyliadau, fel a ganlyn:

 

·       Ail gomisiynu gwelyau cymunedol

·       Parthau triniaeth uwch

·       Iechyd Rhywiol Lefel 1-3

·       Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol

·       Iechyd Meddwl Pobl Hŷn

·       Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS)

·       Symud y Tîm Un Pwynt Mynediad

·       Uned Mân Anafiadau

·       Gwasanaethau Amlddisgyblaethol

·       Awdioleg

·       Radioleg Uwch

·       Gwasanaethau cynghori ataliol e.e. rhoi’r gorau i ysmygu ac ati

·       Lleoedd i’r sector gwirfoddol

 

Pwysleisiwyd eto ei bod yn hinsawdd ariannol anodd iawn a bod costau’r prosiect wedi newid yn sylweddol.  Roedd ar y prosiect cyfalaf angen adolygu’r costau refeniw a dynodi ffynonellau i gau unrhyw fylchau ariannol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a’r Swyddogion am eu diweddariad cynhwysfawr a chroesawyd cwestiynau gan y Pwyllgor.

 

Diolchodd yr Aelodau i’r Swyddogion am eu gwaith ar y Prosiect, ond gan fynegi eu siom bod y prosiect hwn wedi cael ei addo i’r gymuned ers cymaint o amser a gofynnwyd am eglurhad am amserlenni’r Prosiect o hyn ymlaen. 

 

Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn deall rhwystredigaeth y Pwyllgor ond dywedodd nad oedd amserlen ar hyn o bryd o ran pryd fyddai Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r Ffurflen Sero y byddai Cyngor Sir Ddinbych yn ei chyflwyno iddynt. Llywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol am bennu dyddiad ar gyfer ystyried y cais wedi iddynt ei dderbyn.

 

Holodd yr Aelodau pam na chafodd y Pwyllgor adroddiad cyn y cyfarfod, a bod Achos Busnes wedi’i gyflwyno ond nad oedd y Pwyllgor wedi’i weld.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2022 I 2023 pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru ar ei weithgareddau yn ystod 2022/23 (copi ynghlwm) a chyflwyno sylwadau ar ei gynnwys ac ar waith y Bwrdd.

 

10.45am – 11.30am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC)

 

Sefydlwyd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel rhan o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Roedd gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ddau nod craidd:

Gwella lles y boblogaeth.

Gwella’r ffordd y darperir Gwasanaethau Iechyd a Gofal yn y rhanbarth.

 

Bob blwyddyn, roedd gofyn i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru lunio adroddiad a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Roedd yr adroddiad ar gyfer 2022-2023 (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o gyflawniadau ac ymdrechion cyfathrebu ac ymgysylltu yn ogystal â gwybodaeth am flaenoriaethau’r BPRhGC i’r dyfodol.

 

Oherwydd maint yr adroddiad, gofynnodd yr Aelod Arweiniol a fyddai’n bosibl i’r drafodaeth gael ei hagor i’r Aelodau gyda chymeradwyaeth y Cadeirydd. 

 

Croeswyd cwestiynau gan Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelodau at y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a amlinellwyd yn yr adroddiad.  Roedd prosiectau oedd yn cefnogi gofalwyr yn uniongyrchol yn bwysig, fodd bynnag nododd yr adroddiad bod y cyllid hwn wedi ei roi hyd at 2027. Holodd yr Aelodau a fyddai’r cyllid yn parhau ar ôl y dyddiad hwn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg, cyn cyflwyno’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol bod Cronfa Gofal Integredig, a ddyrannwyd fesul blwyddyn. Ar hyn o bryd, roedd ymrwymiad o 5 mlynedd i’r cyllid, ond Llywodraeth Cymru fyddai’n penderfynu a fyddai hyn yn parhau ar ôl 2027.

 

Holodd yr Aelodau am nifer y Byrddau oedd yn gweithredu yn y BPRhGC a’u swyddogaethau.  Mynegwyd pryderon am ba mor fawr roedd y BPRhGC yn tyfu. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y BPRhGC yn amgylchedd prysur iawn a bod rheoli cyfarfodydd ac amser cydweithwyr yn cael ei drefnu mor effeithlon â phosibl. Roedd llawer o’r byrddau a’r cyfarfodydd yn ofynnol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a roddwyd mwy o gyfrifoldeb ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae Swyddogion yn ystyriol bob amser bod Sir Ddinbych a phreswylwyr Sir Ddinbych yn cael y gwerth gorau bosibl o’u cyfranogiad yn y BPRhGC. Roedd elfen statudol i’r Bwrdd Partneriaeth a’r Byrddau sydd ynddo. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol wrth yr Aelodau mai adroddiad rhanbarthol oedd yr adroddiad a bod y gofynion o ran sut oedd yn cael ei lunio’n cael eu diffinio gan Lywodraeth Cymru. Felly, nid oedd yr adroddiad mor fanwl am Sir Ddinbych ag yr hoffai Aelodau iddo fod. Os oedd meysydd yn yr adroddiad yr hoffai Aelodau gael mwy o fanylion amdanynt, dywedwyd wrthynt am roi gwybod i swyddogion ac efallai y gellir rhoi’r manylder hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.  

 

Cyfeiriodd Aelodau at y Gronfa Tai â Gofal. Pwrpas y Gronfa oedd cefnogi byw’n annibynnol yn y gymuned i bobl ag anghenion gofal a chymorth, ac i ddarparu safleoedd gofal canolradd yn y gymuned fel y gallai pobl sydd angen gofal, cymorth ac adsefydlu fynd yn ôl i fyw’n annibynnol neu barhau yr un mor annibynnol. Roedd hon yn rhaglen ariannu 4 blynedd oedd yn ariannu cynlluniau dan 3 amcan.

 

Holodd yr Aelodau am amcan 1 - Cynyddu’r stoc tai â gofal presennol yn sylweddol, gan ofyn os oedd diweddariad ar hyn yn Sir Ddinbych. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol mai ychydig o gynnydd a fu gydag amcan 1 ar hyn o bryd, ond bod hyn yn cael ei adolygu'n barhaus.  Roedd prosiectau dan amcanion 2 a 3 o’r adroddiad ar hyn o bryd (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd Sir Ddinbych yn defnyddio eu dyraniad ac yn symud ymlaen gyda’r Gronfa Tai â Gofal.

 

Holodd yr Aelodau os oedd gwerthusiad o lwyddiant y Byrddau a chanlyniadau’r gwaith oedd ar y gweill. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod y Byrddau’n  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

11.30am – 11.50am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad ac atodiadau (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol.

 

Roedd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi’i drefnu ar gyfer 26 Hydref.  Rhestrwyd dwy eitem sylweddol ar gyfer y cyfarfod nesaf:

·       Gosod Lefelau Rhent Fforddiadwy

·       Partneriaeth Diogelwch Cymunedol (Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anhrefn)

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth yr Aelodau fod y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi cytuno yn ei gyfarfod diweddar i ofyn i’r Pwyllgor gynnwys adroddiad ar Statws Baner Las traethau Sir Ddinbych, oedd yn codi o Rybudd o Gynnig i’r Cyngor Sir, ar ei raglen gwaith i'r dyfodol. Mae hyn wedi’i roi ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor ar gyfer mis Tachwedd 2024.

 

Trefnwyd cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu ar gyfer 3 Hydref 2023 ac anogwyd yr Aelodau i lenwi’r ffurflen berthnasol ynghlwm os oedd unrhyw eitemau oeddent yn dymuno cael eu hystyried yn y cyfarfod.

 

Atodiad 3 oedd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet er gwybodaeth i Aelodau. Roedd Atodiad 4 yn rhoi mwy o wybodaeth i’r Pwyllgor am yr argymhellion o’r cyfarfod diwethaf. 

 

 

Ar ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd: yn amodol ar gynnwys adroddiad cynnydd ar Brosiect Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych pan fydd ar gael, bod y Pwyllgor yn cadarnhau ei raglen gwaith i'r dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar amrywiol Fyrddau a Grwpiau y Cyngor.

 

11.50am – 12pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12pm.