Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: by video conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Kelly Clewett.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfanu ynglŷn ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylidym marn y Cadeiryddeu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 481 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022 (copi ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022. 

 

Materion yn codi:

Darpariaeth Contract Gwasanaethau Gorfodi Amgylcheddol (argymhelliad ii tudalen 8) – Gofynnodd y Cadeirydd a oedd yr argymhelliad wedi’i weithredu? Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod y Gwasanaeth wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu â’r Tîm Cyfathrebu, gyda’r bwriad o lunio cynllun cyfathrebu i hysbysu preswylwyr, busnesau, cynghorau dinas, tref a chymuned am y newidiadau arfaethedig.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022 fel cofnod cywir o’r trafodion.

 

Cyn dechrau trafod yr eitem fusnes ganlynol, dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau y byddai’r Pwyllgor yn trafod eitem fusnes 5, yn ei swyddogaeth fel Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn dynodedig y Cyngor, yn unol â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006, adrannau 19 a 20.

 

5.

PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm), sy’n manylu ar gyflawniad y Bartneriaeth o ran cyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2021/22 a’i chynnydd hyd yma o ran cyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2022/23.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau yr adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw). Atgoffodd y Pwyllgor mai dyma adroddiad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol - mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022. 

 

Eglurodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio bod Diogelwch Cymunedol yn cael ei reoli o fewn y gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio, ond eu bod yn gweithio’n agos â nifer o adrannau eraill, gan gynnwys Gwasanaethau Ieuenctid, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a Diogelu ac ati. 

 

Roedd cynllun gweithredu Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych yn rhan o gynllun rhanbarthol a ddatblygwyd ar draws Gogledd Cymru, dan arweiniad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. Lluniwyd cynllun ar sail dadansoddiadau blynyddol. Yn lleol, roedd y cynllun yn cael ei reoli gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol at yr Adroddiad Cryno Perfformiad (atodiad 1), gan amlygu:

 

Blaenoriaeth 1: Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn Sir Ddinbych trwy weithio mewn Partneriaeth - roedd y statws perfformiad ar ddiwedd 2021/22 yn dderbyniol;

Blaenoriaeth 2: Lleihau aildroseddu - roedd y statws perfformiad ar ddiwedd 2021/22 yn dderbyniol; a

Blaenoriaeth 3: Blaenoriaethau Lleol – roedd y statws perfformiad ar ddiwedd 2021/22 yn dda.

 

Gwelwyd newid ers y cyfnod adrodd blaenorol yn sgil y cynnydd mewn troseddu ieuenctid a cham-drin/stelcian domestig.

 

Roedd Blaenoriaeth 1 yn ymwneud â chydweithio â phartneriaid e.e. Awdurdod Gwasanaethau Tân ac Achub Gogledd Cymru, yr Heddlu, Gwasanaethau Prawf, Iechyd, gyda’r nod o:

 

·       Lleihau troseddau sy’n seiliedig ar y dioddefwr;

·       Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol;  

·       Lleihau cam–drin domestig a thrais rhywiol a

·       gweithio gyda chydweithwyr ar gynadleddau ac asesiadau risg aml asiantaeth i reoli troseddwyr ailadroddus.

 

Blaenoriaeth 2 – y nod oedd lleihau aildroseddu trwy weithio gyda’r:

·       Gwasanaeth Prawf (oedolion yn aildroseddu);

·                                 Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc / Gwasanaethau Ieuenctid; a

·       chydweithio i atal troseddau cyfundrefnol.

 

Blaenoriaeth 3 - Tynnwyd sylw at flaenoriaethau Lleol a Rhanbarthol yn aml gan aelodau etholedig neu Heddlu Gogledd Cymru, wrth iddynt dderbyn nifer o alwadau e.e. yn ymwneud ag eiddo trwyddedig, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ati.

 

Blaenoriaeth 1 – Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn Sir Ddinbych trwy weithio mewn Partneriaeth.

 

Yn gyffredinol, roedd perfformiad y Bartneriaeth yn dderbyniol  oherwydd y cynnydd parhaus yn y nifer o ddioddefwyr cam-drin, stelcian ac aflonyddu domestig a adroddodd am ddigwyddiadau o’r fath. Er bod y cynnydd canrannol yn ymddangos yn uchel, roedd yr union niferoedd yn isel. Roedd enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth ar gyfer ymdrin â’r flaenoriaeth hon yn cynnwys ymgymryd â’r mesurau canlynol:

 

·       Codi ymwybyddiaeth am droseddau sy’n seiliedig ar y dioddefwr trwy’r cyfryngau cymdeithasol, mynychu digwyddiadau a sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar wefannau partner.

·       Arolygon cartref a busnes a gynhelir gan gynghorwyr lleihau trosedd a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu er mwyn helpu atal lladradau.

·       Darparu offer gwella diogelwch a chyngor atal trosedd (Cloeon/barrau drysau ac ati).

·       Cymryd rhan yng nghyfarfodydd Cynhadledd misol Asesiad Risg Amlasiantaeth, gan adolygu achosion dioddefwyr cam-drin domestig a gweithredu cynlluniau gweithredu.

·       Anfonodd Sir Ddinbych nifer o ddatganiadau i’r wasg ynghylch cam-drin domestig trwy gydol y flwyddyn a newidiwyd lliw Pont y Ddraig i ddynodi cefnogaeth yr Awdurdod Lleol ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn ar 25 Tachwedd 2021. Cynhaliwyd gwylnos gyda phartneriaid yn yr arena ddigwyddiadau yn y Rhyl i ddangos cefnogaeth o ran atal trais. 

·       Hyrwyddwyd llinell gymorth Byw Heb Ofn Cymru Gyfan, a dderbyniodd 192 galwad gan breswylwyr Sir Ddinbych. 

 

Roedd cyfarfodydd gweithgarwch prosiect gydag asiantaethau partner yn trafod:

·       Caethwasiaeth Fodern;

·       Llinellau Sirol;

·       Rheoli Troseddwyr Integredig;

·       Cam-Drin Domestig; ac 

·       Ymgyrchoedd Drinkaware.

 

Blaenoriaeth 2 – Lleihau achosion o aildroseddu.

 

Gwelwyd gostyngiad mewn pobl dros 18 oed yn troseddu, ond cynnydd o ran pobl ifanc. Bu  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYNGOR GWASANAETHAU GWIRFODDOL SIR DDINBYCH (CGGSDD)

Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r Pwyllgor ynghylch y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gwireddu gweledigaeth CGGSDd, gan wella ei berthynas waith â’r Cyngor a sefydliadau gwirfoddol yn Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth Gorfforaethol, Tom Barham, Prif Swyddog Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd), gan wneud sylwadau ar bwysigrwydd y gefnogaeth a’r berthynas waith gyda phartneriaid Trydydd Sector er mwyn cyflawni amcanion ar y cyd.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddogion adroddiad diweddaru ar waith CGGSDd dros y 12 mis diwethaf, wrth iddo symud ymlaen yn dilyn heriau Pandemig y Covid a’r Argyfwng Costau Byw. 

 

Yn ddiweddar, lluniodd CGGSDd ddatganiad i egluro pwrpas cynghorau gwirfoddol:

 

 ‘Mae CGGSDd yn galluogi elusennau a grwpiau cymunedol (Trydydd Sector) i fod yn fwy effeithiol a chysylltu’n well, gan gydweithio i ddatblygu Sir Ddinbych sy’n gryf a bywiog’.

 

Dywedodd bod CGGSDd yn elusen annibynnol sy’n gweithio orau mewn partneriaeth â’r Trydydd Sector a Chyngor Sir Ddinbych (CSDd), i wella cymunedau Sir Ddinbych fel galluogwyr sy’n cynghori, hwyluso, ariannu a hyrwyddo’r sector gwirfoddol. 

 

Roedd gan breswylwyr Sir Ddinbych ystod o anghenion a gafodd eu diwallu yn rhannol gan weithgareddau’r Trydydd Sector. Cefnogodd CGGSDd grwpiau cymunedol ag anghenion o ran:

·       sefydlu, 

·       twf,  

·       llywodraethu da, 

·       partneriaeth,  

·       rhwydweithio a dylanwadu, 

·       recriwtio staff a gwirfoddolwyr, 

·       cael gafael ar gyllid, 

·       sgiliau a 

·       gallu ymateb yn effeithiol i newid.

 

Roedd y CGGSDd yn rhan o rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gydag ystod o adnoddau ar-lein sy’n annog gwaith ar draws y 4 piler: gwirfoddoli, llywodraethu da, cyllid cynaliadwy ac ymgysylltu a dylanwadu. Canolbwyntir o’r newydd ar wirfoddoli dros y misoedd nesaf.

 

Caiff y gwaith o asesu a dyrannu rhaglenni grant gyda CSDd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd hefyd ei reoli gan CGGSDd. Cafodd bron i 0.25 miliwn o bunnoedd o gyllid, 87 grant eu dyrannu yn Sir Ddinbych y llynedd.

 

Roedd Llywodraethu yn elfen bwysig o rôl CGGSDd, wrth iddo ddarparu hyfforddiant, ymgynghoriaeth a chyngor uniongyrchol i grwpiau Trydydd Sector, gan helpu ffurfio 18 menter gymdeithasol newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Gyda chymorth cyllid gan CSDd, cyflawnwyd prosiect gan CGGSDd yn 2022 i ganfod gwytnwch sefydliadau Trydydd Sector ar ôl y Covid.

 

Roedd Adroddiad Ymchwil y Trydydd Sector, Ebrill 2022 yn amlygu:

·       bod 2450 sefydliad Trydydd Sector yn Sir Ddinbych

·       bod 10% o’r holl swyddi yn Sir Ddinbych yn y Trydydd Sector

·       mai Sir Ddinbych oedd â’r drydedd lefel gwirfoddoli uchaf yng Nghymru, sy’n cynrychioli 4,700,000 o oriau gwirfoddol

·       bod y sefydliadau hyn wedi dangos gwytnwch yn ystod Covid, ond eu bod bellach o dan fygythiad oherwydd cynnydd yn y galw, cyllid tymor byr a chostau gweithredu uwch

·       bod problemau o ran recriwtio, bylchau mewn sgiliau, technoleg a data. Roedd 52% yn credu y byddai eu sefydliad yn ehangu, ond dim ond 54% oedd o’r farn eu bod nhw’n gynaliadwy.

 

Gweithiodd CGGSDd gydag ystod o sefydliadau (tua 250), yn bennaf sefydliadau bach, newydd a rhai sy’n ehangu. Gellid darparu cefnogaeth wyneb yn wyneb neu trwy eu cyfeirio at adnoddau cenedlaethol ynghylch ariannu ac ati.

 

Roedd CGGSDd yn gweithio gyda CSDd yn ôl y Gronfa Ffyniant Gyffredin i wella sut mae awdurdodau lleol yn comisiynu a chaffael gwasanaethau o’r Trydydd Sector, a cheisio lleihau rhwystrau caffael sy’n pryderu sefydliadau llai, gan ganolbwyntio ar yr elfen gwerth cymdeithasol.

 

Roedd ymchwil CGGSDd yn dangos:

·       posibilrwydd o ran gwella perthynas waith â Chyngor Sir Ddinbych ac

·       awydd ar bob ochr am bartneriaeth, rhwydweithio a phontio’r bwlch, yn enwedig o ran yr argyfwng costau byw.

 

Dyma enghreifftiau ymarferol o CGGSDd yn gweithio gyda CSDd:

·       Sefydlu Grŵp Cyswllt Trydydd Sector newydd.

·       Menter Croeso Cynnes / Warm Welcome a

·       Cydweithio ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin / Cyfleoedd Trydydd Sector, gan greu rhwydweithiau cymorth  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 235 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwmyn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor. Dywedwyd wrth yr Aelodau mai pwrpas yr adroddiad oedd adolygu gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol, er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl eitemau a ofynnwyd amdanynt gan yr Aelodau.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Partneriaethau wedi’i drefnu ar gyfer 9 Chwefror 2023. Cyflwynwyd dwy eitem allweddol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

       I.          Gweithio mewn Partneriaeth mewn perthynas ag Iechyd Meddwl  

     II.          Prosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych.

 

Roedd cyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu wedi’i drefnu ar gyfer 19 Ionawr 2023. Atgoffwyd Aelodau i lenwi’r Ffurflen Cynnig Testun Craffu (atodiad 2), os oedd ganddynt unrhyw eitemau i’w cyflwyno i’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu i’w hadolygu ac/neu eu dyrannu ar gyfer rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor craffu.

 

Gofynnodd y Pwyllgor i nodyn atgoffa gael ei ddosbarthu i aelodau ynghylch sut i gynnig eitemau craffu.

 

Penderfynodd y Pwyllgor: yn amodol ar y sylwadau uchod

 

(i)    gadarnhau ei raglen gwaith i’r dyfodol fel y nodir yn Atodiad 1 yn yr adroddiad; a

(ii)  gofynnodd bod yr holl gynghorwyr yn cael eu hatgoffa o’r broses i’w dilyn ar gyfer cynnig eitem ar gyfer craffu yn y dyfodol.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mynychodd y Cynghorydd Bobby Feeley gyfarfod cyntaf Bwrdd Prosiect Bwthyn y Ddôl, prif fenter canolfan asesu plant mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

 

Yn anffodus, roedd y prosiect yn cael ei gynnal o lety dros dro ym Mae Colwyn oherwydd bod y contractwr a benodwyd yn wreiddiol wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Yn dilyn trafodaeth faith, cafodd contractwr dibynadwy ei nodi, rhagwelwyd y byddent yn cael eu penodi, wrth aros am gasgliad gwerthusiad llwyddiannus, ddiwedd yr wythnos ac y byddai’r gwaith adeiladu’n cychwyn yn y flwyddyn newydd.

 

Penderfynodd y Pwyllgor:

 

dderbyn yr adroddiad ar lafar a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Bobby Feeley ynghylch y trafodaethau a gafwyd yng nghyfarfod diweddar Bwrdd Prosiect Bwthyn y Ddôl.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.15pm