Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: COUNCIL CHAMBER, COUNTY HALL, RUTHIN and BY VIDEO CONFERENCE

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones.

 

Hysbyswyd yr Aelodau bod cynrychiolydd yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Nicola Stubbins, wedi anfon ei hymddiheuriadau.  Roedd Gary Williams, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd yn bresennol i roi cefnogaeth gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth. 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy’n rhagfanu ynglŷn ag unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Kelly Clewett ac Elfed Williams gysylltiad personol gydag eitem 8 ar y rhaglen ‘Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych’.   Y Cynghorydd Clewett fel cyflogai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a’r Cynghorydd Williams fel cyfarwyddwr Gwasanaeth Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych.

 

Cynghorwyd y ddau gynghorydd i gwblhau'r Ffurflenni Datgan Diddordeb gofynnol a'u cyflwyno i'r Gwasanaethau Democrataidd.

 

3.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 182 KB

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022/23 (copi o Ddisgrifiad Rôl Aelod Craffu, Cadeirydd/Is-gadeirydd ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ceisiwyd enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer blwyddyn y cyngor 2022/23. Enwebwyd y Cynghorydd Peter Scott ar gyfer y rôl gan y Cynghorydd Terry Mendies ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Bobby Feeley. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.   

 

Penderfynodd y Pwyllgor felly:

 

Ethol y Cynghorydd Peter Scott yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer blwyddyn gyngor 2022/23.

 

Diolchodd y Cynghorydd Peter Scott i’r aelodau Pwyllgor am eu cefnogaeth ac am ymddiried tymor yn Is-gadeirydd y Pwyllgor iddo.

 

 

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 237 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022 eu cyflwyno.

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor ei bod yn bresennol yn y cyfarfod a chynnig bod y cofnodion yn gofnod cywir.

 

Materion yn codi - Holodd y Cynghorydd Peter Scott a oedd unrhyw ddatblygiadau pellach neu wybodaeth ynglŷn â’r newid i’r plaladdwr a ddefnyddir. 

Eglurodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor bod y gwasanaeth wedi ad-alw’r plaladdwr oedd yn cael ei ddefnyddio a’i ddisodli gyda darparwyr gyda phlaladdwr cemegol gwahanol a oedd yn fwy effeithiol.  Cymeradwywyd hyn gan y Pwyllgor.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror 2022 fel cofnod cywir.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU 2021/22 pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Elen Heaton, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar ran yr Arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd. Clywodd yr aelodau mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi crynodeb i’r aelodau o berfformiad blynyddol a chwarterol y gwaith yr oedd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru’n ei wneud (BUEGC). Cyflwynodd swyddogion o BUEGC a oedd yn bresennol i roi cyflwyniad i’r aelodau ac i ateb cwestiynau’r Pwyllgor.

 

Diolchodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i’r Cynghorydd Heaton am gyflwyno’r adroddiad. Darparodd swyddogion BUEGC rywfaint o gefndir ynglŷn â’r fargen dwf a phrif benawdau’r adroddiad blynyddol i’r aelodau. Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am y prosiectau oedd ym mhob rhaglen yn y fargen dwf. Roedd yr adroddiad hefyd yn darparu canllawiau am lywodraethu’r fargen dwf. Pwysleisiwyd bod swyddogion Cyngor Sir Ddinbych ynghlwm â’r prosiectau. Roedd swyddogion yn mynd i gyfarfodydd byrddau prosiect i gyflwyno safbwynt Sir Ddinbych ar y prosiect dan sylw.  

 

Gwnaeth Hedd Vaughan Evans, Pennaeth Gweithrediadau ar gyfer Swyddfa Rheoli Portffolio Uchelgais Gogledd Cymru, gyflwyniad PowerPoint i’r aelodau. Cyflwynodd Stuart Whitfield, Rheolwr y Rhaglen Ddigidol, a David Matthews, Rheolwr Rhaglen Tir ac Eiddo, i’r Pwyllgor.

 

Darparwyd gwybodaeth gefndir i’r aelodau am y Bwrdd a dywedwyd wrthynt bod y Swyddfa Rhaglenni’n uniongyrchol atebol i’r Bwrdd, a oedd yn pennu cyfeiriad y gwaith ac yn gwneud unrhyw benderfyniadau angenrheidiol. Roedd BUEGC wedi bodoli ers 2016, yn gosod gweledigaeth ar gyfer Gogledd Cymru. Roedd Cytundeb Penawdau'r Telerau ar gyfer y Fargen Dwf wedi’i lofnodi yn 2019 yn dilyn llawer o waith a thrafodaethau rhwng amryw swyddogion. Cafodd Swyddfa’r Portffolio ei chreu wedyn ym mis Ionawr 2020. Clywodd yr aelodau fod y Bwrdd wedi llofnodi a sicrhau’r fargen gyda’r ddwy Lywodraeth erbyn diwedd 2020, gan sicrhau buddsoddiad o £240m i Ogledd Cymru. Rhoddwyd cadarnhad bod gan y fargen dwf amcanion clir wedi’u cynnwys yn rhan o’r fargen gyda’r llywodraeth.

 

Cytunwyd ar fargen dwf Gogledd Cymru ar sail portffolio o 5 rhaglen; Bwyd-amaeth a Thwristiaeth, Rhaglen Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel, Ynni Carbon Isel, Tir ac Eiddo a Chysylltedd Digidol. Cyflwynwyd detholiad i’r aelodau a oedd yn crynhoi’r cynnydd ar bob un o’r prosiectau. Fe wnaeth y cynrychiolwyr arwain yr aelodau drwy bob prosiect gan ddarparu rhagor o fanylion am y gwaith a wnaed a’r gwaith oedd yn cael ei wneud.

 

Roedd yr adroddiad blynyddol wedi’i gynnwys yn y papurau a oedd yn amlygu rhai o uchafbwyntiau gweithgareddau Uchelgais Gogledd Cymru. Clywodd yr aelodau fod dros £1 miliwn o refeniw ychwanegol wedi’i sicrhau i ariannu gweithgareddau penodol a oedd yn ategu’r fargen dwf. Roedd hyn yn cynnwys grant arloesi o £500,000 mewn partneriaeth â Choleg Cambria Llysfasi i edrych ar brosiectau peilot i helpu’r sector amaeth i ddatgarboneiddio. Roedd strategaeth ynni hefyd wedi’i mabwysiadu ar gyfer Gogledd Cymru, yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru.  Amlygwyd i’r aelodau bod prosiect y rhwydwaith ffeibr llawn wedi’i gyflawni’n llwyddiannus, a oedd yn brosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU. Roedd y prosiect yn darparu cysylltiad ffeibr llawn ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Ngogledd Cymru. Cyrhaeddwyd dros 300 o safleoedd, gan wella ansawdd a gwytnwch y cysylltiad i’r gwasanaethau’n sylweddol. Roedd 65 o safleoedd wedi’u cysylltu yn Sir Ddinbych. Clywodd yr aelodau mai un elfen o’r prosiect oedd cefnogi ardaloedd gwledig â chysylltedd. Y gobaith, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, oedd ehangu cwmpas y prosiect i 28 o safleoedd eraill yn y rhanbarth. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am y cyflwyniad ac am ymuno â’r cyfarfod dros y we i gyflwyno’r adroddiad. Trafodwyd yr elfennau canlynol yn fwy manwl:

·         Safle strategol allweddol Bodelwyddan – roedd gwaith  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

GWASANAETHAU DIGARTREFEDD A CHYMORTH TAI pdf eicon PDF 227 KB

Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Gwasanaeth, Cymorth i Fusnesau a Chymunedau, Uwch Archwilydd a Rheolwr Rhaglen - Datblygu Tai (copi ynghlwm) ar effeithiolrwydd y gwasanaeth digartrefedd amlddisgyblaethol a weithredwyd yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai ym mis Ebrill 2021.

 

 11.00 – 11.45 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, adroddiad y Gwasanaethau Digartrefedd a Chymorth Tai (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). Roedd yr adroddiad ar waith y Gwasanaeth Digartrefedd yn cynnwys adroddiad cynnydd ar ddarpariaeth y gwasanaeth yn Atodiad 1, wedi’i gyflwyno ar ran adran Archwilio Mewnol y Cyngor. Atgoffodd yr Aelod Arweiniol yr aelodau bod digartrefedd wedi bod ac yn parhau i fod yn fater heriol i bob awdurdod lleol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw am ddulliau newydd o weithredu.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Cymorth Cymunedol wrth yr aelodau fod yr adroddiad yn un dilynol i adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor tua diwedd y llynedd. Pwysleisiwyd bod y Gwasanaeth Digartrefedd wedi mynd drwy newidiadau sylweddol yn 2021. Roedd tîm amlddisgyblaethol wedi’i sefydlu i gefnogi’r Tîm Digartrefedd. Ar ôl cyflwyno’r drefn newydd, roedd y Gwasanaeth wedi symud yn nes at weithredu drwy’r dull y dymunai Llywodraeth Cymru ei weld gan awdurdodau lleol. Roedd y dull hwn yn edrych ar fynd i’r afael ag effaith ehangach digartrefedd yn ogystal â cheisio sicrhau llety parhaol i bobl digartref.

Roedd y niferoedd mewn llety brys a thros dro’n parhau i fod oddeutu 180 aelwyd. Roedd y ffigwr hwn yn cynnwys pobl sengl neu deuluoedd. Roedd y nifer yn parhau’n gyson gan fod aelwydydd yn cael eu cefnogi. Clywodd yr aelodau mai’r pryder mwyaf i’r Gwasanaeth oedd nifer y bobl sengl dan 35 oed a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref. Her arall oedd wedi wynebu’r tîm oedd dod o hyd i dai ar gyfer teuluoedd mwy. Yn ystod y 12–18 mis diwethaf, drwy gydweithio’n agos gyda’r Tîm Tai Cymunedol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, roedd y Gwasanaeth wedi lleoli 99 o aelwydydd mewn tenantiaethau parhaol mewn tai cymdeithasol.

Roedd gweithio gyda’r sector rhentu preifat i sefydlu cynllun sector rhentu preifat wedi bod yn her, oherwydd y newid yn y farchnad dai gyda’r cynnydd mewn galw am eiddo rhent. Roedd Llywodraeth Cymru wedyn wedi newid y cynllun yr oedd y Tîm Digartrefedd wrthi’n ei gyflwyno.

Dywedwyd wrth yr aelodau bod gofyn i swyddogion ddatblygu dull ailgartrefu cyflym. Roedd gwaith wedi dechrau i ddatblygu cynllun cychwynnol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Roedd ailgartrefu cyflym yn golygu unigolyn a fyddai’n dod i mewn i’r system ddigartrefedd, yn cael ei asesu, wedyn byddai tenantiaeth yn cael ei chanfod ar ei gyfer a byddai’r Gwasanaeth yn sicrhau bod yr holl gymorth angenrheidiol ar gael i’r unigolyn. Y gobaith oedd y byddai hyn yn lleihau’r ddibyniaeth ar ddefnyddio llety brys.

 

Roedd contract wedi’i ddyfarnu’n ddiweddar i ddarparu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal. Drwy gyllid y grant cymorth tai, roedd y Gwasanaeth wedi caffael contract a oedd wedi’i ffurfio o gytundeb partneriaeth i gefnogi unigolion ac atal pobl rhag mynd yn ddigartref. Roedd y contract wedi’i ddyfarnu ym mis Ebrill 2022 ac roedd ar fin dod yn weithredol.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau bod niferoedd y rhai oedd yn cysgu allan yn Sir Ddinbych yn gymharol isel. Roedd y swyddogion yn ymwybodol o’r unigolion hynny a oedd yn dewis cysgu allan, felly roedd pob ymdrech yn cael ei gwneud i gefnogi a rheoli’r bobl hynny a oedd yn cadw cysylltiad â phob unigolyn. Roedd aelwydydd oedd yn dod at y Gwasanaeth Digartrefedd fel arfer yn gwneud hynny o ganlyniad i golli tenantiaeth ar eiddo. 

 

Cadarnhaodd yr Uwch Archwilydd fod yr archwiliad gwreiddiol o ddarpariaeth llety digartrefedd wedi dod i ben fis Mawrth 2020 ac roedd yn nodi 7 risg a phroblem, a 2 o’r rheiny’n risgiau mawr. Codwyd y sgôr sicrwydd isel oherwydd y risgiau sylweddol a nodwyd. Cynhaliwyd yr adolygiad archwilio dilynol cyntaf a bu ger bron y Pwyllgor  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH pdf eicon PDF 313 KB

Ystyried adroddiad perfformiad blynyddol y Rheolwr Tîm, Gwasanaeth Diogelu Oedolion (copi ynghlwm) ar effaith trefniadau ac arferion Diogelu Lleol ac adolygu'r cynnydd a wnaed yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

 

11.55 a.m – 12.40 p.m.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yr Adroddiad Blynyddol ar Ddiogelu Oedolion yn Sir Ddinbych (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) i’r aelodau. Roedd yr adroddiad yn trafod y cyfnod o fis Ebrill 2021 tan fis Mawrth 2022. Yn ei barn hi, roedd yr adroddiad yn adlewyrchu’r gwaith caled a oedd wedi’i fuddsoddi i gynnal y gwelliant i ansawdd a chysondeb gwaith diogelu yn Sir Ddinbych. Canmolodd y staff am eu gwaith a’u cyflawniadau. 

 

Fe wnaeth y Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaeth Arbenigol arwain yr aelodau drwy’r adroddiad. Rhoddodd drosolwg o berfformiad y tîm dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd yr adroddiad yn manylu ar weithgareddau’r Tîm gan ganolbwyntio ar gynnal gwelliannau o ran cysondeb ansawdd y gwaith diogelu, gan gynnwys perfformiad o ran dangosydd perfformiad Llywodraeth Cymru i gwblhau ymholiadau o fewn 7 diwrnod gwaith. Roedd swyddogion yn falch o roi gwybod i’r Pwyllgor bod perfformiad Sir Ddinbych ar y dangosydd hwn yn parhau i fod yn uchel, ar 99.7% dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos sut roedd y tîm wedi bod yn cyflwyno gweithdrefnau Diogelu Cymru’n llawn, oedd yn cynnwys adroddiadau neu atgyfeiriadau oedd yn ymwneud ag unigolion mewn swyddi o ymddiriedaeth. Arweiniwyd yr aelodau i atodiad 2 ynghlwm wrth yr adroddiad, oedd yn rhoi mwy o fanylion ar ffurf astudiaeth achos o atgyfeiriad Unigolyn mewn Swydd o Ymddiriedaeth a dderbyniwyd. Roedd atodiad 3 yn darparu manylion i’r Pwyllgor ar ‘Adran 5: Canllaw Ymarfer Honiadau/Pryderon Diogelu am Ymarferwyr a’r Rhai mewn Swyddi o Ymddiriedaeth’. Pwysleisiwyd bod gweithredu’r maes hwn o ddiogelu’n gymharol newydd o fewn gweithdrefnau Cymru ac roedd ar adegau wedi bod yn heriol i’r Tîm Diogelu.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu data i’r aelodau, yn cynnwys nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd dros y 3 blynedd ddiwethaf. Nodwyd bod nifer yr atgyfeiriadau wedi gostwng ers y pandemig COVID ond nid oedd yn achosi pryder i swyddogion. Roedd patrymau tebyg wedi bod mewn awdurdodau cyfagos. Roedd y Tîm wedi derbyn nifer o alwadau gan ddarparwyr gwasanaeth a gweithwyr proffesiynol eraill yn gofyn am gyngor ac arweiniad.

 

Roedd gwybodaeth yn cael ei darparu am y Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. Darparwyd ystadegau i’r aelodau’n dangos cynnydd yn nifer y galwadau a gafwyd yn y maes hwn. Roedd y ceisiadau’n dod yn bennaf gan gartrefi gofal a chartrefi nyrsio ac roeddent yn bennaf yn ymwneud ag unigolion a oedd heb y gallu i wneud penderfyniad i fyw mewn cartref gofal. Felly, roedd angen asesiad i sicrhau bod y lleoliad er budd pennaf yr unigolyn. Arweiniwyd yr aelodau drwy’r prif gyflawniadau dros y 12 mis fel y nodai’r adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth, trafodwyd y pwyntiau canlynol yn fwy manwl:

·         Roedd y ffigyrau am atgyfeiriadau o gam-drin mewn cartrefi gofal yn uchel gan fod yr unigolion yn y sefydliadau hyn yn fregus. Roedd dyletswydd ar staff i roi gwybod am unrhyw arwydd o gam-drin tybiedig. Nid oedd nifer yr atgyfeiriadau’n golygu bod mwy o gam-drin ynddynt nag mewn sefydliadau eraill. Roedd y data’n ymwneud â nifer yr atgyfeiriadau ac nid oedd bob amser yn golygu bod camdriniaeth.

·         Cadarnhaodd y swyddogion fod rhestr aros i geisiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid oedd yn cael eu derbyn. Roedd y galw’n uchel ac roedd y rhestr aros yn cael ei hadolygu’n gyson a’i rheoli gan y Tîm Diogelu.

·         Cadarnhawyd bod dau Asesydd Budd Pennaf wedi’u recriwtio dros dro i geisio lleihau’r rhestr aros wrth baratoi at gyflwyno’r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid yn 2023.

·         Roedd ymarfer adolygu ac ailfodelu’r Tîm yn cael ei wneud ar hyn o bryd. Byddai rhan o’r adolygiad hwnnw’n edrych ar ba adnoddau y byddai’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

9.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 237 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi'n amgaeëdig) sy'n gofyn i'r Pwyllgor adolygu ei raglen waith i'r dyfodol ac yn diweddaru'r aelodau ar faterion perthnasol.

 

12.40 – 12.55 p.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r

aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor. Dywedwyd wrth yr aelodau mai pwrpas yr adroddiad oedd adolygu gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl eitemau roedd yr aelodau wedi gwneud cais i’w trafod.

 

Roedd ffurflen gais am fater Craffu wedi’i gynnwys gyda’r adroddiad yn atodiad 2. Eglurodd y Cydlynydd Craffu y dylai’r aelodau lenwi’r ffurflen gais os oedd ganddynt eitem yr hoffent iddi gael ei thrafod. Byddai’r ffurflen wedyn yn cael ei hadolygu gan Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu a benderfynai a oedd y pwnc yn un addas i Bwyllgor Craffu neu fforwm arall. Roedd cyfarfod nesaf Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu wedi’i drefnu at 28 Gorffennaf 2022.

 

Roedd y rhaglen gyfredol o waith i’r dyfodol (atodiad 1) wedi’i derbyn gan y pwyllgor blaenorol. Wedi’i gynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol ar gyfer y cyfarfod ar 15 Medi oedd Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar ei weithgareddau. Clywodd yr Aelodau fod y Pwyllgor wedi’i ddynodi fel Pwyllgor Craffu’r Cyngor ar gyfer trosedd ac anhrefn ac roedd yn derbyn yr adroddiad yn flynyddol. Hefyd ar raglen waith mis Medi oedd adroddiad ar Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych – disgwylid am gadarnhad i ddweud y byddent yn y cyfarfod. Roedd y Pwyllgor blaenorol wedi derbyn adroddiad ac wedi gofyn i adroddiad diweddaru gael ei ddarparu i aelodau er gwybodaeth. Roedd y Cadeirydd yn meddwl y byddai’n fuddiol derbyn adroddiad diweddaru, a chytunai’r aelodau.

 

Roedd rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cabinet wedi’i chynnwys yn atodiad 3 er gwybodaeth i’r aelodau.

 

Dywedodd y Cydlynydd Craffu wrth yr aelodau nad oedd eitem sefydlog Adborth gan Gynrychiolwyr Pwyllgorau ar Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor wedi’i chynnwys ar y rhaglen ar gyfer y cyfarfod gan nad oedd unrhyw gynrychiolwyr wedi’u penodi hyd yma i wasanaethu ar unrhyw Fyrddau na Grwpiau. Pwrpas yr eitem honno oedd rhoi cyfle i aelodau adrodd yn ôl o’r cyfarfodydd roeddent yn mynd iddynt.

 

Clywodd yr aelodau y byddai’r Pwyllgor yn cynnal rhag-gyfarfod cynllunio cyn cyfarfodydd ffurfiol y Pwyllgor yn y cyfnod cyn Covid. Byddai’r rhain yn caniatáu i’r aelodau amlygu a thrafod pryderon roeddent yn dymuno eu codi yn y cyfarfod. Awgrymodd y Cydlynydd Craffu, os oedd yr aelodau’n meddwl y byddai’r rhain yn fuddiol, y gellid trefnu cyfarfod rhithiol ar gyfer aelodau’r pwyllgor ddiwrnod neu ddau cyn y cyfarfod. Diolchodd yr aelodau i’r Cydlynydd Craffu ac roeddent yn meddwl y byddai rhag-gyfarfod yn fuddiol i’r aelodau, yn enwedig rhai oedd yn newydd i Graffu.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelodau, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democrataidd ei bod yn rhaid cynnal unrhyw gyfarfodydd cyhoeddus oedd angen cael eu gwe-ddarlledu o Siambr y Cyngor yn Rhuthun gan mai dyna’r unig safle oedd â’r cyfarpar angenrheidiol. Atgoffodd yr aelodau mai’r broses a fabwysiadodd y Cyngor Llawn oedd i aelodau a swyddogion fynychu cyfarfodydd o’r lleoliad mwyaf addas ar gyfer eu llwyth gwaith nhw – dros y we neu wyneb yn wyneb. Felly:

 

Penderfynwyd: gan ystyried yr uchod –

(i)   y dylid cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol ddrafft y Pwyllgor, fel yr oedd yn atodiad 1 i’r adroddiad; a

(ii) threfnu rhag-gyfarfod cynllunio i holl aelodau’r Pwyllgor cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Medi 2022.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm