Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy cyfrwng fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT SYLW

Dywedodd y Cadeirydd, mewn ymateb i gais gan swyddogion, ei bod wedi cytuno i amrywio trefn y busnes ar y rhaglen a bod Eitem 6 - cynnal a chadw lleiniau glas a llwyni ar ymyl priffyrdd, wedi’i dwyn ymlaen i’w hystyried cyn Eitem 5 - Asesiad Rhanbarthol o Anghenion y Boblogaeth 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorwyr Ann Davies, Christine Marston, Melvyn Mile a David Williams

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol na chysylltiad a oedd yn rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 352 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr, 2021 (copi ynghlwm).

10.05 am – 10.10 am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2021 eu rhoi gerbron.

 

PENDERFYNWYD - y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021 fel cofnod cywir.

 

5.

CYNNAL A CHADW LLEINIAU GLAS A LLWYNI AR YMYL PRIFFYRDD. pdf eicon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (copi ynghlwm) ar bolisi’r Cyngor o ran cynnal a chadw ymylon ffyrdd/ perthi a gwasgaru plaladdwyr.

10.55 am – 11.25 am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[Cafodd yr eitem hon ei dwyn ymlaen gyda chydsyniad y Cadeirydd]

 

Cyflwynwyd yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Phennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol ar bolisi’r Cyngor ar gynnal a chadw lleiniau glas a llwyni a’r defnydd o blaladdwyr.  Gwnaeth y Pwyllgor gais am adroddiad ar ôl ystyried y mater yn flaenorol ym mis Chwefror 2021.

                         

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r atodiadau er mwyn galluogi’r Pwyllgor i drafod y polisi a’r ymdriniaeth bresennol cyn dechrau’r flwyddyn ariannol newydd.  Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at yr atodiadau a oedd yn rhoi manylion am y polisi ar gynnal lleiniau gwyrdd ar ymyl priffyrdd ynghyd â’r sefyllfa o ran y defnydd o blaladdwyr i ddibenion rheoli chwyn, ac roedd yn  cynnwys Nodyn Gwybodaeth Llywodraeth Cymru ar y defnydd o gynnyrch sy’n cynnwys glyffosad y mae safbwynt y cyngor wedi’i alinio ag ef. Cyfeiriwyd at y newid yn yr hinsawdd ac uchelgeisiau ecolegol y Cyngor ac er nad oes ar hyn o bryd ddewis amgen ymarferol yn lle defnyddio plaladdwyr i gael gwared â chwyn, mae gwaith y parhau er mwyn ceisio dod o hyd i ddulliau eraill o ladd chwyn ac i symud tuag at wireddu’r uchelgeisiau ecolegol hyn.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd yr aelodau nifer o faterion gyda’r Aelod Arweiniol, y Pennaeth Gwasanaeth a Rheolwr yr Uned Waith, a chafwyd yr atebion canlynol:

 

·         er nad yn uniongyrchol gysylltiedig â’r adroddiad, ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth i faterion a godwyd gan y Cynghorwyr Emrys Wynne a Bobby Feeley yn ymwneud â phryderon ynghylch llwybr ar hyd yr A525 rhwng Fferm Cantaba a Lôn Jericho, Rhuthun.  Dywedodd nad oedd unrhyw waith arwyddocaol wedi’i wneud pan oedd y lleoliad hwn yn cael ei hystyried fel llwybr teithiol llesol posibl.  Fodd bynnag, yn dilyn y penderfyniad na fyddai’n addas ar gyfer teithio llesol, gwnaed cynlluniau i wella’r sefyllfa.  Crybwyllodd hefyd yr heriau a wynebir o ran blaenoriaethu’r adnoddau ariannol sydd ar gael i ymateb yn y ffordd orau bosibl i’r galwadau ar draws y rhwydwaith priffyrdd a’r llwybrau troed perthnasol, a chadarnhaodd y bydd ef a’r swyddogion perthnasol yn barod i drafod y materion hyn ymhellach, naill ai drwy’r Grŵp Aelodau Ardal, y broses graffu neu fforwm arall priodol.

·         dywedodd unwaith eto nad oes unrhyw ddewis ymarferol amgen yn lle defnyddio cemegau i drin chwyn ar y rhwydwaith priffyrdd ond bod gwaith yn parhau i geisio dod o hyd i ateb.  Mae trafodaethau ar y gweill gyda chontractwr presennol y Cyngor sy’n arbrofi â dulliau amgen posibl ar ran awdurdod lleol yn Lloegr er mwyn dileu’r pwyslais a’r ddibyniaeth ar lyffosad, ac mae gwaith yn mynd yn ei flaen gyda’r Gwasanaethau Cefn Gwlad i geisio dod o hyd i safleoedd yn y sir lle gellid treialu sylwedd addas amgen posibl, megis asid asetig

·         mae triniaethau chwistrellu chwyn wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf o bedair gwaith y blwyddyn i ddwywaith y flwyddyn gyda’r rhan fwyaf o chwistrellu wedi’i gyfyngu i ardaloedd trefol mewn parthau 30mya a chedwir yn llym at grynodiadau glyffosad o 300ml fesul litr.  Mae’r defnydd o lyffosad wedi’i gymeradwyo ac mae chwistrellu chwyn yn digwydd yn unol â’r canllawiau a’r cyfyngiadau presennol.  Nodwyd bod awdurdodau cyfagos yn defnyddio glyffosad i drin chwyn.

·         cafwyd trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru eisoes mewn perthynas â’r defnydd o gemegau a’r effaith ar gyrsiau dŵr ac ni chodwyd unrhyw bryderon gan fod y Cyngor yn cydymffurfio â’r canllawiau sy’n rheoli’r defnydd hwn.

·         nodwyd problemau a brofwyd yn y gorffennol mewn rhai ardaloedd trefol lle’r oedd chwyn wedi gordyfu gan gyfeirio’n benodol at Princes Street, y Rhyl a rhoddwyd eglurhad  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

ASESIAD O ANGHENION Y BOBLOGAETH 2020 pdf eicon PDF 225 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro, Gwasanaethau Cymorth Busnes (copi ynghlwm), sy’n ceisio barn aelodau ynglŷn â’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022 a chefnogaeth i’w gyhoeddi.

10.10 am – 10.55 am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorwyr Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd a oedd â chyd-gyfrifoldeb dros yr eitem hon.  Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, Pennaeth Gwasanaeth Dros-dro, Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau a’r Prif Reolwr hefyd yn bresennol

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn ceisio barn aelodau ar yr Asesiad o Anghenion Poblogaeth Gogledd Cymru (AAB) a chefnogaeth i gyhoeddi’r adroddiad.  Rhoddodd drosolwg cyffredinol, yn gryno -

                

·         mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i ddatblygu cyd-asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth ranbarthol ar draws Cymru bob 5 mlynedd a defnyddiwyd yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth (AAB) cyntaf a gyhoeddwyd yn 2017 fel sail i’r ddogfen ddiweddaraf.

·         cyhoeddwyd yr AAB gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru fel ymarfer ar y cyd yn cynnwys y chwe awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda’r ddogfen wedi’i rhannu’n wahanol benodau thematig

·         Bydd blaenoriaethau Sir Ddinbych wedi’u cynnwys yn y fersiwn terfynol o’r AAB ynghyd â dogfen debyg ar gyfer pob un o’r awdurdodau lleol a BIPBC.

·         roedd yr AAB yn anelu at wella dealltwriaeth o’r boblogaeth ar draws Gogledd Cymru a sut y bydd eu hanghenion yn esblygu ac yn newid dros y blynyddoedd i ddod.  Mae hwn wedi bod yn ddarn mawr o waith sydd wedi ystyried barn y boblogaeth gydag amrywiaeth eang o ymgynghoriadau wedi digwydd gyda sefydliadau a phartneriaid, a thua 350 o unigolion wedi cymryd rhan mewn arolwg rhanbarthol i hysbysu’r AAB

·         tynnodd sylw at y camau nesaf pan fydd yr AAB yn mynd drwy brosesau cymeradwy’r pum awdurdod lleol arall a BIPBC cyn eu cymeradwyo’n ffurfiol gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth.

 

Diolchodd y Cynghorydd Feeley i bawb a oedd yn rhan o gynhyrchu’r ddogfen sylweddol hon.  Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaeth Dros-dro, Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau, y byddai’r negeseuon a’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer Sir Ddinbych yn rhan o’r AAB.

 

Gan ymateb i gwestiynau, adroddodd yr Aelodau Arweiniol, y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, y Pennaeth Gwasanaeth Dros-dro, Gwasanaeth Cymorth i Fusnesau a’r Prif Reolwr

 

·         ar yr amrywiaeth o ddarpariaeth gymunedol sydd ar gael i blant wireddu eu deilliannau personol, gyda darpariaeth wedi’i theilwra ar gyfer plant ag anghenion mwy cymhleth, a rhoddwyd enghreifftiau darluniadol o’r gwasanaethau wedi’u comisiynu a gwaith gyda’r trydydd sector a phartneriaid i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau yn Sir Ddinbych.

·         cafwyd sicrwydd bod plant sy’n derbyn gofal yn cael eu lleoli’n lleol ble bynnag bosibl ac y byddai lleoliadau’n cael eu gwneud y tu allan i’r sir dim ond pe bai hynny er lles gorau’r plentyn, er enghraifft gyda gofalwr sy’n berthynas, yn unol â chyfarwyddyd y Llysoedd neu i gael mynediad at ddarpariaeth arbenigol nad yw ar gael o fewn y sir

·         gallai nifer o ffactorau fod wedi cyfrannu at y cynnydd mewn oedolion yr adroddwyd bod amheuaeth eu bod mewn perygl posibl ar draws y rhanbarth o 2016/17 i 2018/19, gyda phobl yn cael eu hannog yn rhagweithiol i roi gwybod am eu hamheuon, y newidiadau deddfwriaethol a ddigwyddodd tua’r adeg honno ac ail-lansiad gweithdrefnau diogelu Cymru.

·         derbynnir bod darlun cymysg ar draws y rhanbarth o nifer y plant sydd ar y gofrestr diogelu plant ond mae’r niferoedd yn Sir Ddinbych wedi aros yn gyson rhwng 75-90 o blant ar y gofrestr bob blwyddyn, a gellid trafod yn fwy manwl y rhesymau y tu ôl i’r amrywiadau hyn yn y Fforwm Rhianta Corfforaethol, cafwyd sicrwydd nad yw plant yn cael eu cofrestru oni bai bod hynny’n wirioneddol angenrheidiol ac  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 238 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

11.25 am – 11.40 am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) yn gofyn i’r aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol.

 

Cafwyd trafodaeth ar y materion canlynol:-

 

·         roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi penderfynu yn flaenorol na ddylid cynnal unrhyw gyfarfodydd pwyllgor ar ôl i’r cyfnod cyn-etholiad (18 Mawrth) gychwyn oni bai bod busnes brys y golygu bod yn rhaid cynnal cyfarfod, felly roedd cyfarfod nesaf y cyfarfod ar 7 Ebrill wedi’i ganslo heb unrhyw gyfarfodydd pellach wedi’u trefnu yn ystod tymor y Cyngor presennol.

·         roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi clustnodi eitem i’w hystyried gan y Pwyllgor newydd yn eu cyfarfod ym mis Hydref 2022 yn ymwneud â gwaith partneriaeth mewn perthynas ag iechyd meddwl.

·         Awgrymodd y Cynghorydd Joan Butterfield Ysbyty Brenhinol Alexandra, y Rhyl fel pwnc ar gyfer craffu gan y Cyngor newydd yng  ngoleuni’r diffyg cynnydd gyda’r prosiect a’r angen i gadw’r mater dan adolygiad agos.  Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at y broses ar gyfer  clustnodi eitemau posibl ar gyfer craffu drwy’r Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu drwy lenwi a chyflwyno ffurflen gynigion sydd wedi’i hatodi i’r adroddiad hwn.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor fel y’i gwelir yn Atodiad 1 yr adroddiad i’w chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau newydd ar ôl etholiadau’r awdurdod lleol ym mis Mai 2022 er mwyn iddynt ei symud ymlaen a’i datblygu

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor am wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

11.40 am

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor yn nhymor y Cyngor presennol, diolchodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau, ar ran y swyddogion, i Gadeirydd y Pwyllgor am y craffu a’r herio rhagorol a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwnnw.  Diolchodd y Cadeirydd hefyd i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth a’u gwaith craffu a mynegodd ei dymuniadau gorau i’r rhai a oedd yn sefyll am ail-etholiad.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.50 am.