Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: by video conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Aelodau’r Pwyllgor sef y Cynghorwyr Joan Butterfield, Rachel Flynn, Melvyn Mile a  David Williams, Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans a Graham Boase, y Prif Weithredwr.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol sy’n rhagfarnu.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cadeirydd, mewn ymateb i gais gan swyddogion, ei bod wedi cytuno i amrywio trefn y busnes ar y rhaglen.  Bydd trafodaeth ar eitem busnes 6 ‘Gwasanaethau Cynnal Digartrefedd a Thai’ ac eitem 7 ‘Adroddiad Blynyddol ar y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru’ yn newid, bydd eitem 7 yn cael ei gyflwyno cyn eitem 6.

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 439 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar  4 Tachwedd 2021 (copi i ddilyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021.

 

Nid oedd unrhyw fater yn codi.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021 fel cofnod cywir.

 

5.

BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 208 KB

I ystyried adroddiad gan y Prif Weithredwr ar adroddiad Chwarter 2 y Bwrdd ar ei berfformiad, gwaith a chynnydd mewn cyflenwi ei brosiectau yn ystod 2021-22 (copi ynghlwm).

10:10 – 10:45

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd adroddiad Chwarter 2 Bwrdd Uchelgais Economaidd (y Bwrdd) (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) ar ran yr Arweinydd a Prif Weithredwr. Atgoffodd y Pwyllgor bod yr adroddiadau ar gyfer chwarter 1 a 3 wedi eu dosbarthu i aelodau er gwybodaeth, tra roedd adroddiadau ar gyfer chwarteri 2 a 4 wedi'u cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu i'w trafod.

 

Eglurodd y HoPPP bod y Bwrdd yn brosiect 20 mlynedd ac yn cynnwys nifer o fyrddau rhaglen gan gynnwys:

·         Digidol

·         Ynni Carbon Isel

·         Tir ac Eiddo

·         Amaethyddiaeth, bwyd a thwristiaeth ac

·         Arloesi o fewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel

 

Roedd cynrychiolwyr Sir Ddinbych o bob Bwrdd Rhaglen yn cyfarfod bob chwarter i rannu gwybodaeth ar draws y Byrddau.

 

Amlygodd yr HoPPP bod atodiad yr adroddiad yn fanwl iawn a byddai cyfle i drafod ymhellach pan fydd y Swyddog Portffolio yn mynychu ar gyfer adroddiad chwarter 4. Cafodd aelodau o’r Pwyllgor eu sicrhau os na fydd unrhyw gwestiynau yn gallu cael eu hateb yn llawn yn y cyfarfod, yna bydd ymatebion manwl yn cael eu dosbarthu yn ddiweddarach.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor , dywedodd Hop:

·         Bydd gwybodaeth mewn perthynas â phroses caffael y Bwrdd yn cael eu canfod a’u dosbarthu i’r Pwyllgor.

·         Mae’r swyddfa Portffolio’r Bwrdd wedi cyflawni proses recriwtio ar gyfradd fawr. Roedd nifer o benodiadau Rheolwyr Rhaglen a Swyddog Cludiant Rhanbarthol wedi cael eu gwneud yn llwyddiannus.

·         Roedd y fethodoleg a gyflawnwyd ar gyfer achos busnes prosiect yn broses manwl a hir. Er yr oedd yn ymddangos nad oedd unrhyw achosion busnes llawn wedi cwblhau nifer o achosion wedi clirio camau 1 a 2 o ddatblygiad, ac yn datblygu’n dda drwy’r cam achos busnes amlinellol – yn arbennig Canolbwynt Busnes Bwyd Rhanbarthol ar safle Grŵp Llandrillo Menai Coleg Glynllifon.

·         Roedd y Swyddog Partneriaeth Sgiliau yn mynd i’r afael â’r ychwanegiad diweddar o’r risg bwlch sgiliau ym mhob un Bwrdd Rhaglen i nodi anghenion a risgiau ac i helpu  i gydlynu camau gweithredu i fynd i’r afael â gofynion sgiliau yn y dyfodol.

·         Bydd y sefyllfa o ran rheolwyr Prosiect newydd Prifysgol Bangor ar gyfer y Canolfan Ragoriaeth Carbon Isel a Rhaglenni Gweithgynhyrchu Gwerthu Uwch, yn cael eu hymchwilio a byddai ceisio sicrwydd eu bod wedi ymrwymo i ddarparu prosiectau sydd wedi eu dyrannu atynt.

·         Bydd gofyn i’r Swyddog Arweiniol Sir Ddinbych ymateb i bryderon ynghylch cysylltedd digidol ar gyfer:

o   Ffeibr llawn mewn safleoedd allweddol phrosiectau Campysau Cysylltiedig a

o   darpariaeth ardal wledig a

·         Ceisir cadarnhad gan y Swyddog Arweiniol ac Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu'r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel ar y cyfrifoldebau priodol y Bwrdd a Chyngor Sir Ddinbych o ran datblygiad yn y dyfodol o’r safle strategol allweddol ym Modelwyddan.

·         Nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i’r Bwrdd gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU, i ddigolledu ar gyfer oedi datblygiad prosiect oherwydd y pandemig.  Fodd bynnag, byddai prosiectau yn edrych ar gyfleoedd cyllid posibl sydd ar gael gyda’r bwriad o wella eu heffaith economaidd ar y rhanbarth.

 

Gofynnodd y Cadeirydd os byddai modd i’r briff a gyflwynwyd yn flaenorol i aelodau ar nodau ac amcanion y Bwrdd gael ei gynnig eto ar ôl etholiadau awdurdod lleol mis Mai 2022.

 

Bydd y Pwyllgor:

 

Penderfynwyd:  yn amodol ar y sylwadau uchod a darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn ystod y trafodaeth, i

 

(i)   dderbyn adroddiad Chwarter 2 2021-22 ar y gwaith a gyflawnwyd a’r cynnydd a wnaethpwyd gan y Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (Bwrdd);

(ii) cais bod sesiwn briffio yn cael ei drefnu ar gyfer pob swydd cynghorydd sirol yn etholiadau awdurdod lleol mis Mai 2022 ar weledigaeth, nodau ac amcanion y Bwrdd;  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

NEWID I DREFN Y BUSNES

Ar yr adeg hon, cytunodd y Cadeirydd i newid trefn y busnes i gynnwys swyddogion cyflwyno a oedd ynghlwm â chyfarfodydd eraill.

Dogfennau ychwanegol:

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RANBARTHOL GOGLEDD CYMRU pdf eicon PDF 227 KB

I ystyried adroddiad ar weithgareddau’r Bwrdd Partneriaethau Rhanbarthol yn ystod 2020/21 a’i feysydd o flaenoriaeth ar gyfer 2021/22 (copi ynghlwm).

 

11:45 – 12:15

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedol (CC:C) y Pennaeth Cydweithredfa Gwelliant Lles a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru (NWSSIC) i aelodau a chroesawyd hi i’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn egluro ei fod yn adroddiad statudol a ddarparwyd yn flynyddol yn unol â  Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Roedd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (Bwrdd) yn cynnwys 6 awdurdodau lleol Gogledd Cymru ac yn gweithio ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cyrff cyhoeddus eraill a gwasanaethau sector gwirfoddol i wella canlyniadau lles preswylwyr Gogledd Cymru.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr drosolwg o un o brosiectau’r Bartneriaeth - Rhaglen Drawsnewid Plant a Phobl Ifanc y mae’r Cyfarwyddwr yn ei arwain. Un o’r prosiectau a oedd yn ffurfio rhan o’r Rhaglen hon oedd Canolfan Asesu Preswyl Plant Bwthyn y Ddôl.  Cynrychiolwyr Sir Ddinbych ar y bwrdd prosiect y Ganolfan hon oedd Aelod Arweiniol Addysg, Gwasanaethau Plant ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd ynghyd â’r Cynghorydd Christine Marston, cynrychiolydd Craffu.  Er bod anawsterau wedi codi yn y prosiect gan fod y contractwr a benodwyd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, mae cynlluniau mewn lle i’r tendr dylunio ac adeiladu gael ei hysbysebu yn ystod mis Rhagfyr 2022. Roedd y Rhaglen Drawsnewid Plant wedi arwain at ddatblygiadau arwyddocaol ledled y rhanbarth. Datblygu tîm aml-asiantaeth a gwella mynediad a gwybodaeth ynghylch iechyd, lles a chadernid.

 

Roedd pedair rhaglen ranbarthol a oedd yn rhan o’r trawsnewid yn ogystal â nifer o weithgorau a oedd wedi cyflawni cynnydd sylweddol o ran integreiddio a gwella gwasanaeth drwy’r Byrddau Comisiynu Rhanbarthol a Gweithlu Rhanbarthol.

 

Eglurodd cynrychiolydd y NWSSIC bod cannoedd o brosiectau yn barhaus yn rhanbarthol ac yn lleol, ond nid oedd fformat yr adroddiad yn caniatáu i’w cynnwys. Roeddynt yn cynnig dosbarthu rhestr o brosiectau a gyflawnir gan y Bwrdd a oedd yn amlygu’r hyn a oedd wedi'i gyflawni’n lleol i breswylwyr Sir Ddinbych.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedwyd wrth yr aelodau:

·         Bod y Bwrdd yn fwrdd strategol nad oedd yn dod yn rhan ar lefel gweithredol, er enghraifft gyda gweithwyr gofal Sir Ddinbych yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, roedd gwaith gofal yn faes â blaenoriaeth ar lefel strategol, a roedd dull rhanbarthol yn cael ei ystyried i wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer gofalwyr.

·         Roedd y Bwrdd wedi bod yn hyblyg drwy’r pandemig, dysgu gwersi a newid dull o weithio. Mae fforwm wedi’i sefydlu i ddarparu cymorth cydfuddiannol a chymorth, dyfeisio datrysiadau ynghyd ag adnabod gwersi a ddysgwyd.

·         Roedd y Bwrdd wedi rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Gwasanaeth Cynllunio At Argyfwng Rhanbarthol yn ystod y pandemig yn unol â’r Ddeddf Argyfyngau Sifil o ran effaith Covid ar y gweithlu, darpariaeth gofal preswyl a chartref, ac iechyd meddwl a lles plant ayyb.

·         Roedd enghreifftiau o ble oedd rhaglenni trawsnewid y Bwrdd wedi addasu eu cynlluniau i fodloni anghenion eu grŵp poblogaeth o ran Covid yn cynnwys:

o   Sefydlu grwpiau cefnogi i bobl gydag anableddau dysgu sy’n ynysu

o   Darparu iPads mewn cartrefi gofal i breswylwyr i gyfathrebu gyda’u teuluoedd a ffrindiau.

·         Gallai’r Pwyllgor wahodd unrhyw Fyrddau i gyfarfodydd y dyfodol o’r pwyllgor craffu i ddarparu enghraifft o astudiaethau achos, yn anffodus nid oedd modd ychwanegu enghreifftiau o astudiaethau achos yn yr Adroddiad Blynyddol gan mai Llywodraeth Cymru sydd yn penderfynu ar ei fformat.

·         Roedd cynlluniau ar droed i wella cyfathrebiad rhwng y Bwrdd a’i bartneriaid ar gyfer gwybodaeth fwy rheolaidd a phenodol i ardal.

·         Roedd y Grŵp Llywio Gwerth Cymdeithasol wedi ailddechrau gydag un o’r cyfarwyddwyr yn camu i mewn i’r swydd Cadeirydd.

·         Yn hanesyddol roedd 6 awdurdod lleol wedi cyfuno cyllid i gefnogi gweithio’n  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

GWASANAETHAU CEFNOGI ATAL DIGARTREFEDD A CHYSYLLTIEDIG Â THAI pdf eicon PDF 238 KB

I ystyried adroddiad yn edrych ar effeithiolrwydd y gwasanaeth amlddisgyblaethol wrth gyflenwi gwasanaethau digartrefedd yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cefnogi atal digartrefedd a chysylltiedig â thai; ac adolygu’r camau gweithredu sy’n codi o’r Archwilio Mewnol o ‘Ddarpariaeth Llety i’r Digartref’ yn unol â’r atgyfeiriad gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn Ionawr 2021 (copi ynghlwm).

10:45 – 11:30

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i’w gyfarfod diwethaf cyn y bydd yn ymddeol. Diolchodd y Cadeirydd am ei wasanaeth a dymunwyd yn dda iddo yn ei ymddeoliad.

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gwahodd aelodau i edrych ar effeithiolrwydd gwasanaeth wedi’i ailstrwythuro, i’w weithredu ym mis Ebrill 2021, a gyflawnwyd gyda gweledigaeth Llywodraeth Cymru i gefnogaeth ddigartrefedd a thai. Mabwysiadu traws-wasanaeth/ dull corfforaethol y pwyslais yn cael ei roi ar ymyrraeth ac ataliaeth digartrefedd.

 

Adolygiad Archwilio Mewnol o Ddarpariaeth Llety ar gyfer bobl ddigartref wedi’i gwblhau ym mis Mawrth 2020 a roddodd raddfa sicrwydd isel. Mae’r adroddiad dilynol Archwilio Mewnol yn dangos fod chwech o gamau gweithredu wedi eu cwblhau, a deg cam sy’n weddill yn y broses o gael eu trin. Mi wnaeth Adran Archwilio gydnabod bod datblygiad wedi'i wneud ond ar hyn o bryd, roedd y graddfa sicrwydd isel yn parhau. Canmolodd yr Aelod Arweiniol y staff gwasanaeth am eu holl waith dan bwysau y pandemig.

 

Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro, o ganlyniad i ailstrwythuro roedd tîm amlddisgyblaethol wedi ei roi ar waith. Roedd adnoddau cynyddol yn golygu bod gan y tîm eu cyfranogwyr iechyd meddwl eu hunain, cwnselydd, gweithwyr cymdeithasol a chyfranogwyr cefnogi pobl digartref i ddarparu cefnogaeth mwy cyfannol. Roeddynt yn aros am swyddog proffesiynol iechyd meddwl cam-drin sylweddau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar secondiad i gwblhau’r tîm.

 

Roedd disgwyliad bod y nifer o bobl mewn llety argyfwng dros dro yn aros yn statig ar hyn o bryd – 150 – 180 aelwyd. Roedd lleihad wedi bod yn y nifer o deuluoedd yn cael eu cyflwyno a oedd yn ymddangos yn dilyn Llywodraeth Cymru yn stopio troi pobl allan, a nid yw’r broses Llys wedi dal i fyny gydag ôl-groniad o achosion. Roedd disgwyl iddynt gynyddu. Roedd cynnydd yn y nifer o bobl dan 35 oed yn sy'n datgan eu bod yn ddigartref.

 

Gan weithio ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Tai, roeddynt wedi gallu sicrhau 99 tenantiaeth aelwyd drwy brydlesi uniongyrchol gan Dai Cymunedol Sir Ddinbych a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill.

 

Roedd cyllid wedi cael ei ddarparu ar gyfer Gweithwyr Cefnogi Tenantiaeth, yn ffocysu ar ataliaeth ac ymyrraeth er mwyn arafu nifer o aelwydydd sydd yn dod yn ddigartref. Roedd cyllid wedi’i sicrhau gan y Grant Cymorth Tai i dendro darpariaeth i hyrwyddo ymgysylltiad â aelwydydd gyda phroblemau megis dyledion, ôl-ddyledion rhent neu anghydfod rhwng cymdogion ac ymyrraeth gynnar i atal dod yn ddigartref.

 

Roedd llety argyfwng gwell ansawdd yn cael ei geisio ond roedd y rhwystr o ddim eiddo ar gael yn parhau. Roedd llai o eiddo rhent ar gael a roedd y rhai hynny oedd ar gael yn costio gormod.

 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd y swyddog:

·         Bod gweithredu ailstrwythuro a chreu dilynol o’r tîm amlddisgyblaethol wedi cael effaith cadarnhaol ar gefnogi dinasyddion, er y cymhlethdodau oedd yn codi gyda’r pandemig.

·         Roedd Sir Ddinbych ar flaen y gad o ran newidiadau rheoleiddiol Llywodraeth Cymru – model ailgartrefu cyflym – o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill.

·         Nid oedd toriad wedi bod yn y gyllideb graidd i'r Gwasanaeth. Ni allai’r Grant Cymorth Tai gael ei ddefnyddio’n gyfreithiol i ategu’r Cyllideb Craidd a oedd yn cyflenwi’r gwasanaethau statudol a ddarparwyd.

·         Nid oedd rhent yn cael ei dalu gan yr Awdurdod ar eiddo a oedd yn cael eu rhentu gan y portffolio Tai Cymunedol. Cyfrifoldeb yr deiliad tŷ oedd talu’r rhent.

·         Yn gorfforaethol roedd y Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi sefydlu is-grŵp Digartrefedd i edrych yn benodol ar faterion llety, i wella ansawdd ac argaeledd llety mewn argyfwng a llety parhaol.

·         Dylai cyfleuster llety dros  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

12:15 – 12:30

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol.

 

Bydd gan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ddwy eitem ar ei raglen ar 10 Chwefror 2022:

     I.        Polisïau ar gyfer cynnal a chadw ymylon ffyrdd a pherthi a chais i wasgaru plaladdwyr (adroddiad blynyddol) a

    II.        Asesiad O Anghenion Poblogaeth 2022 a fydd yn cael ei adolygu gan bob awdurdodau lleol Gogledd Cymru.

 

Yn gynharach yn y cyfarfod roedd y Pwyllgor wedi cytuno i ychwanegu diweddariad ar Ddigartrefedd a Thai mewn perthynas â Gwasanaethau Cynnal i raglen cyfarfod y pwyllgor ar 7 Gorffennaf.

 

Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi penderfynu yn eu cyfarfod ym mis Tachwedd i beidio cynnal unrhyw gyfarfodydd pwyllgor craffu (oni bai bod brys) yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad rhwng canol mis Mawrth a mis Mai 2022. Roedd gan y pwyllgor craffu Partneriaethau un eitem ar ei raglen gwaith ar gyfer y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 7 Ebrill - diweddariad gan y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych - a ellir cael ei ohirio tan y cyfarfod ar 7 Gorffennaf.

 

Atgoffwyd yr aelodau i ddefnyddio'r Ffurflen Cynnig Craffu os oes ganddynt unrhyw beth yr hoffent gael ei graffu. Y tebygolrwydd oedd y byddai unrhyw gynigion a fydd yn dod i law yn cael ei graffu yn ystod tymor y Cyngor newydd.

 

Penderfynwyd:  cadarnhau’r rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor yn amodol ar y newidiadau uchod

 

9.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Christine Marston:

 

Bu i'r bwrdd prosiect Uned Asesu Preswyl Plant gyfarfod ar 16 Tachwedd gyda diweddariad.

 

·         Bu i’r broses ail-dendro ddechrau ar 30 Tachwedd gyda’r ymchwiliad tir yn parhau.

·         Cafodd materion ffin eu datrys rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

·         Datblygiad ar Ingleside (llety dros dro i blant dan fygythiad) yn Rydal/ Penrhos yn parhau. Rhagwelwyd y byddai’n cael ei gwblhau erbyn diwedd y gwanwyn.

·         Recriwtio staff yn parhau.

 

Bu i’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfarfod ar 6 Rhagfyr:

·         Trafodwyd strategaeth glinigol a lluniwyd yr egwyddorion.

·         Codwyd statws Ysbyty Royal Alexandra. Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn dal i aros am gadarnhad o gyllid Llywodraeth Cymru.

·         Roedd materion ynghylch lefelau staffio yn golygu bod cleifion yn aros am becynnau gofal cyn gallu cael eu rhyddhau.

·         Roedd cynllun yn cael ei ddatblygu ar gyfer 2022 - 2025 yn cynnwys her Sir Ddinbych o gyfran well i boblogaeth dros 65 oed.

·         Diweddariad gofal sylfaenol yn edrych ar wasanaethau Meddyg Teulu a Deintyddol.

·         Cynllun gwella wedi’i dargedu i weithredu fel yr oedd Bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dod allan o’r mesurau argyfwng.

·         Byddai Dyletswyddau Economaidd Cymdeithasol yn cael eu gweithredu o fis Mawrth 2022.

 

Penderfynwyd: - derbyn yr adborth a gafwyd gan y Cynghorydd Marston ar y trafodaethau a gweithgareddau’r Grŵp a’r Bwrdd y mae’n gwasanaethau arnynt.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:30pm