Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: by video conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN CYSYLLTIADAU pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau personol na rhai sy’n rhagfarnu ar y pwynt hwn mewn perthynas ag unrhyw rai o’r eitemau busnes sydd i’w trafod.  Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn ystod y drafodaeth gydag eitem fusnes 5, fel perchennog busnesau mewn dwy o drefi’r sir.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi’u codi gyda’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

4.

Cofnodion y cyfarfod diwethaf pdf eicon PDF 399 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Medi  2021 (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021.

 

Materion yn codi –

 

Eitem Fusnes 4 ‘Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd)’ – Dywedodd y Cydlynydd Craffu (CC) y cafwyd gwybodaeth gan CGGSDd yn nodi bod disgwyl i Neuadd Farchnad Rhuthun ar ei newydd wedd ailagor yn ystod pythefnos cyntaf mis Rhagfyr, gyda’r union ddyddiad i’w gadarnhau.  Roedd gwefan newydd CGGSDd wrthi’n cael ei datblygu ac roedd disgwyl iddi gael ei lansio at ddiwedd y flwyddyn.  Byddai’r sefydliad yn cynnal ei Gyfarfod Blynyddol ar 30 Tachwedd 2021, ac roedd gwahoddiad wedi’i anfon i bob budd-ddeiliaid.

 

Eitem fusnes 5 ‘Partneriaeth Diogelwch Cymunedol’ – Atgoffwyd yr aelodau y byddai cynrychiolwyr yr Heddlu yn mynychu sesiwn Friffio’r Sir ym mis Tachwedd 2021 i drafod eu gwaith yn mynd i’r afael â Llinellau Cyffuriau a throseddau eraill sy’n ymwneud â chyffuriau yn Sir Ddinbych.

 

Yn amodol ar yr uchod:

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 fel cofnod cywir.

 

 

5.

CYNLLUN ADFER CANOL TREFI YN DILYN COVID A MENTRAU ARDRETHI ANNOMESTIG CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a’r Pennaeth Cyllid ac Eiddo sy’n darparu gwybodaeth ynghylch cyflwr presennol canol ein trefi, y camau adferol yr ydym wedi'u cymryd hyd yma a mentrau i'r dyfodol i fynd i’r afael â’r heriau y mae busnesau'n eu hwynebu (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, adroddiad ar y Cynllun Adfer Canol Trefi yn dilyn Covid a Mentrau Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (a ddosbarthwyd ymlaen llaw).

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion nifer yr eiddo busnes gwag sydd yna yng Nghanol y Trefi a mentrau Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (NNDR).  Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu’r heriau y mae busnesau canol tref yn eu hwynebu ledled y sir a’r dulliau sy’n cael eu defnyddio i fynd i’r afael â’r rhain.

 

Er bod cyfanswm yr Eiddo Gwag o fewn ardal y Cyngor wedi cynyddu o 267 eiddo (Ebrill 2020) i 294 eiddo (Medi 2021), mae cyfanswm eiddo Ardrethi Busnes hefyd wedi cynyddu o 4,361 eiddo (Ebrill 2020) i 4,455 eiddo (Medi 2021).  Mae’r adeiladau gwag yn cynrychioli 6.7% o’r 4,455 o eiddo Ardrethi Busnes cyffredinol.

 

Mae yna wahanol eithriadau rhag ardrethi eiddo gwag, e.e. y cyfnod eithriad cychwynnol o 3 neu 6 mis, eiddo y mae ei berchennog yn destun achos ansolfedd, eiddo y mae ei werth ardrethol yn is na’r trothwy taladwy, adeiladau rhestredig, tir, mastiau telathrebu ac eiddo y gwaherddir ei feddiannu yn ôl y gyfraith. Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn dangos dadansoddiad o’r eiddo gwag a’r eithriadau cysylltiedig.

 

Roedd yna ddwy fenter allweddol gan Lywodraeth Cymru (LlC) yn cynnig cymorth i ddosbarthiadau penodol o Fusnesau drwy gynlluniau rhyddhad.  Byddai’r mentrau hyn yn cynnig gostyngiad yn yr Ardrethi Busnes neu hyd yn oed yn eu dirymu.

 

Dyma’r ddau gynllun:

·         Y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, sy’n cynnig hyd at 100% o ryddhad i Fusnesau sydd â Gwerth Ardrethol o dan £6,000, a rhyddhad ar raddfa i fusnesau sydd â Gwerth Ardrethol rhwng £6,001  a £12,000.

·         Y Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch, sy’n cynnig gostyngiad o 100% mewn Ardrethi Busnes i Fusnesau cymwys yn 2020/21 a 2021/22.

 

Roedd yna ddewis pellach i Awdurdodau Lleol roi gostyngiad yn yr ardrethi taladwy, gan ddefnyddio’r grymoedd a roddwyd o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011.  Byddai’n gwneud hyn drwy ddyfarnu rhyddhad yn ôl disgresiwn. Fodd bynnag, byddai cost lawn unrhyw ddyfarniad a roddwyd o dan y cynllun hwn yn cael ei dalu gan y Cyngor.

 

Problem arall gyda dyfarniad o dan y Ddeddf Lleoliaeth oedd y gallai Busnesau eraill hawlio bod y Cyngor wedi creu amgylchedd gwrth-gystadleuol am ei fod yn rhoi cymhorthdal i rai trethdalwyr, gan roi eraill dan anfantais drwy wneud hynny.

 

Er bod cynlluniau rhyddhad ar gael, roedd siopau wedi cau yn lleol ac yn genedlaethol, a arweiniodd at nifer o eiddo gwag.  Roedd pedwar rheswm dros hyn:

·         Er bod yr Ardrethi Busnes wedi’u gostwng, ni welwyd gostyngiad cyfwerth mewn rhenti eiddo ac mewn nifer o achosion, nid oedd y landlordiaid wedi cynnig gostyngiad mewn rhent.

·         Roedd rhai cwmnïau mawr wedi symud siopau unigol i eiddo mwy, e.e. bu i Carphone Warehouse gau eu siopau ym Mharc Manwerthu Prestatyn ac yn y Rhyl, a’u cynnwys yn yr eiddo mwy ym Mharc Manwerthu Clwyd yn y Rhyl.

·         Roedd unedau siopau eraill hefyd wedi cau ac wedi’u cynnwys mewn siopau eraill, fel Argos yn siop Sainsbury’s neu Costa Coffee yn rhan o garej.

·         Mae’r newid i siopa ar-lein wedi cynyddu ymhellach yn sgil Covid-19.  Mae nifer o fusnesau, banciau yn enwedig, wedi cau nifer o ganghennau am fod pobl yn defnyddio gwasanaethau ar-lein.

Yn ogystal, mae cwsmeriaid bellach yn gwneud llawer mwy o ddefnydd o siopau manwerthu fel mannau casglu neu ollwng, ar ôl archebu’r nwyddau ar y rhyngrwyd.

 

Mae data ar nifer yr ymwelwyr i’r trefi i’w weld yn Atodiad 3.  Mae’r data’n dangos yr effaith negyddol amlwg y mae Covid-19 wedi’i gael ar ganol  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

EGWYL – 11:35 - 11.45

Dogfennau ychwanegol:

6.

CYNLLUNIAU CYNLLUN TEITHIO LLESOL COVID-19 pdf eicon PDF 220 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd i gynnig diweddariad pellach ar ganfyddiadau’r prosiect (copi ynghlwm).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd aelod o'r cyhoedd, Mr Stuart Davies, wedi gofyn am gael cyfarch y Pwyllgor, a chytunwyd iddo gael siarad ar ôl yr aelodau a'r swyddogion.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Brian Jones, adroddiad ar y Cynllun Teithio Llesol.  Roedd yr adroddiad yn rhoi manylion am y cynlluniau teithio llesol dros dro a roddwyd ar waith yn nifer o ganol trefi Sir Ddinbych ddiwedd 2020, ac oedd bellach wedi cael eu dileu.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig diweddariad pellach ar ganfyddiadau’r prosiect fel dilyniant i adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau ym mis Rhagfyr 2020 ac oedd wedi’i gynnwys yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Cafwyd crynodeb gan y Rheolwr Traffig, Parcio a Diogelwch ar y Ffyrdd ar gefndir y cynllun gwreiddiol.   Roedd cynlluniau wedi cael eu datblygu ar gyfer canol trefi Dinbych, Llangollen, y Rhyl a Rhuthun.  Cafodd y rhain gyllid gan LlC ym mis Mehefin 2020, ac eithrio Dinbych, a dynnwyd yn ôl.  Roedd adroddiad Rhagfyr 2020, sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad A, yn darparu mwy o fanylion am y grant a’r broses a ddilynwyd.

 

Yn dilyn oedi ar y cychwyn yn sgil argaeledd contractwr a phrinder deunyddiau, rhoddwyd cynlluniau Llangollen, y Rhyl a Rhuthun ar waith ym mis Tachwedd 2020.

 

Cynllun Rhuthun - Cafodd y cynllun yn Rhuthun broblemau cychwynnol y deliwyd a nhw'n bennaf drwy wneud mân addasiadau i’r cynllun. Cafwyd cwynion gan nifer o fusnesau a effeithiwyd yn uniongyrchol gan y mesurau am golli mannau parcio a llwytho y tu allan i’w heiddo. Er fod rhai mesurau lliniaru ar gyfer y colledion hynny wedi’u cynnwys o fewn y cynllun cyffredinol, ni ystyriwyd hyn yn ddigon gan rai perchnogion busnes. Yng ngoleuni’r pryderon hyn, cynhaliwyd cyfarfodydd gyda GAA Rhuthun a arweiniodd at i’r Aelod Arweiniol benderfynu tynnu’r cynllun yn ôl, a digwyddodd hyn ym mis Chwefror 2021.

 

Cynllun Llangollen ­- Ychydig iawn o adborth a gafwyd i gychwyn mewn ymateb i’r cynllun yn Llangollen yn dilyn ei gyflwyno yn gynnar ym mis Tachwedd 2020. Fodd bynnag, o fis Mawrth 2021 ymlaen, gwelwyd nifer o achosion o gerddwyr yn baglu dros sylfaeni’r pyst dros dro a osodwyd. Wrth i’r achosion hyn barhau, cafodd y pyst eu disodli gyda photiau plannu blodau cul a lwyddodd i roi diwedd ar yr achosion o faglu. Roedd y cynllun dros dro hefyd wedi arwain at gynnydd mewn cerbydau mawr yn gyrru ar y palmant er mwyn gallu mynd heibio rhwystrau a achoswyd gan y lôn draffig wrthwynebol.

 

Er gwaethaf y pryderon, roedd GAA Dyffryn Dyfrdwy yn awyddus i gadw’r cynllun dros dro gan fod y palmant ychwanegol a grëwyd yn ddefnyddiol iawn ar gyfer y nifer fawr o gerddwyr yn Llangollen. Roedd y farn hon hefyd wedi’i seilio ar yr adborth a gafwyd o ymgynghoriad ar-lein dilynol. Er y cafwyd safbwyntiau cymysg am y cynllun dros dro, nododd o leiaf 60% o’r ymatebwyr eu bod yn teimlo y dylai’r cynllun barhau oherwydd ei fod yn gweithio’n dda, neu oherwydd eu bod yn teimlo ei bod yn rhy gynnar i lunio casgliadau i’r gwrthwyneb. Nododd sylwadau gan swyddogion ar y safle fod digon o ddefnydd yn cael ei wneud o’r palmentydd ehangach, hyd yn oed y tu allan i’r cyfnodau brig, megis ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol.

 

Yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid Llywodraeth Cymru yng nghanol mis Awst 2021, ac ar ôl symud i Lefel Rhybudd 0, penderfynodd yr Aelod Arweiniol Gwastraff, Cludiant a'r Amgylchedd ddileu’r cynllun dros dro yn dilyn trafodaeth gydag aelodau lleol.

 

Cynllun y Rhyl - Ar ôl ei roi ar waith, ychydig iawn o adborth a gafwyd gan drigolion am y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Waith Archwilio pdf eicon PDF 240 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) a oedd yn gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor, a chyflwynodd y wybodaeth ddiweddaraf am faterion perthnasol.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y dylen nhw ddefnyddio’r Ffurflen Cynnig Testun Craffu os oedd ganddyn nhw bwnc yr hoffen nhw iddo fod yn destun craffu.

 

Teimlai’r aelodau y bu’r sesiwn gynllunio busnes cyn y cyfarfod a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol yn hynod fuddiol, gan ofyn am gael cynnal un tebyg cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD: - yn amodol ar y sylwadau uchod –

(i)            cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; a

(ii)          chynnal sesiwn friffio rithiol cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 12.48 PM