Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: by video conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Gareth Davies a’r Cynghorydd Pat Jones.

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Rachel Flynn i’w chyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor.  Roedd y Cynghorydd Flynn wedi’i phenodi gan y Grŵp Ceidwadwyr fel un o’u cynrychiolwyr ar y Pwyllgor yn lle’r Cynghorydd Hugh Irving.  Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Irving am ei gyfraniad i waith y Pwyllgor yn ystod ei gyfnod fel aelod.

2.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd.

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganwyd y cysylltiadau personol canlynol o ran yr eitemau a nodir:

 

Eitem 5, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd):  Y Cynghorydd Rhys Thomas fel Ymddiriedolwr Banc Bwyd Dyffryn Clwyd.

 

Eitem 6, Partneriaeth Diogelwch Cymunedol:  Y Cynghorydd Emrys Wynne, oherwydd ei fod yn gwasanaethu fel Ynad Heddwch.

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai’n amrywio trefn yr eitemau er mwyn rhoi digon o amser i’r Aelodau drafod ei weledigaeth ar gyfer dyfodol y sefydliad gyda Phrif Swyddog newydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd).  Byddai’n rhaid i’r Prif Swyddog adael y cyfarfod erbyn 11am oherwydd roedd ganddo gyfarfod arall i’w fynychu.

4.

CYNGOR GWASANAETHAU GWIRFODDOL SIR DDINBYCH (DVSC)

Cyflwyniad gan Brif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, yn amlinellu:

 (i)        ei weledigaeth ar gyfer y sefydliad;

 (ii)       y berthynas waith rhwng Cyngor Sir Ddinbych a DVSC, sut y bu i’r ddau sefydliad gydweithio yn ystod pandemig COVID-19 a chynigion ar gyfer trefniadau gwaith y  dyfodol; a

 (iii)      sut mae DVSC yn gweithio gyda chyrff a mudiadau gwirfoddol ledled y sir, yn blaenoriaethu cyllid a ddyrennir i grwpiau gwirfoddol ac yn gwerthuso effeithiolrwydd y defnydd o’r cyllid a ddyrennir.

10:10 – 11:00

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, y Prif Swyddog a benodwyd yn ddiweddar ar gyfer Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd), Tom Barham, i’r Pwyllgor.

 

Rhoddodd Prif Swyddog CGGSDd gyflwyniad i’r Pwyllgor yn amlinellu rôl CGGSDd, sut roedd wedi gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) dros y blynyddoedd, a’i weledigaeth er mwyn cryfhau’r Trydydd Sector a’r effaith roedd yn ei chael ar breswylwyr Sir Ddinbych.

 

Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd nodau CGGSDd i gefnogi, sbarduno, amlygu a herio’r Trydydd Sector yn Sir Ddinbych:

·         Cefnogi – roedd CGGSDd yn gweithio mewn partneriaeth â Cefnogi Trydydd Sector Cymru i ddarparu cyngor, canllawiau, hyfforddiant a chyllid.

·         Sbarduno – dod â sefydliadau’r Trydydd Sector ynghyd i lunio partneriaethau, rhannu arfer da a darparu gwasanaethau newydd.

·         Amlygu – Helpu’r Trydydd Sector i fod â llais yn Sir Ddinbych gyda gwasanaethau cyhoeddus, cyllidwyr a chomisiynwyr.

·         Herio – Bod yn llais annibynnol i gefnogi sefydliadau annibynnol os nad ydynt yn cael eu clywed a hyrwyddo rhagoriaeth Trydydd Sector o ran safonau gwasanaeth a bod yn broffesiynol.

 

Agwedd bwysig i’r Trydydd Sector oedd hyrwyddo cyfranogiad wrth wella lles mewn cymunedau. Yn draddodiadol, roedd y Trydydd Sector yn darparu gwasanaethau mewn ardaloedd lle mae tlodi bwyd a phroblemau iechyd meddwl. Roedd CGGSDd wedi recriwtio Tîm Lles newydd yn ddiweddar i weithio ar y cyd â’r Trydydd Sector, CSDd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r gymuned.

 

Roedd gan CGGSDd uwch swyddog a oedd yn awyddus i weithio gyda menter gymdeithasol ac entrepreneuriaid ar draws y Sir i greu canolbwyntiau cymunedol i hyrwyddo cynhyrchwyr bwyd lleol, caffis lles ac archfarchnadoedd cymdeithasol.

 

Roedd y bartneriaeth rhwng CGGSDd a CSDd trwy gydol pandemig Covid-19 wedi bod yn gadarnhaol. Roedd CGGSDd wedi lleoli Gwirfoddolwyr gyda:

·         CSDd

·         Deialu a Theithio

·         Forget Me Not

·         Cyngor Tref Prestatyn ac

·         Ymatebwyr Cymunedol 4x4 ymhlith eraill.

 

Wrth symud ymlaen, roedd adroddiad wedi’i gomisiynu i nodi angen a chadernid yn y Trydydd Sector yn Sir Ddinbych. Byddai’r adroddiad yn cael ei gwblhau ym mis Ionawr 2022. Byddai Fforwm Trydydd Sector yn cael ei sefydlu er mwyn ymgysylltu â CSDd a BIPBC i wella cyfathrebu a chydweithio ar ddarparu a datblygu gwasanaethau.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, dywedodd y Prif Swyddog:

·         Roedd Pwyntiau Siarad, I CAN a Llyw-wyr Cymunedol i gyd yn gyfeirbwyntiau defnyddiol yn y gymuned. Roedd Covid-19 wedi effeithio ar ymgysylltiad, ond roedd yn bwysig ailsefydlu cyfathrebu yn y gymuned.

·         Rhagwelwyd y byddai Neuadd Marchnad Rhuthun yn ailagor rhyw dro ym mis Hydref.

·         Roedd porthol gwirfoddolwyr yn cael ei ddefnyddio a’i reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

·         Byddai cyfarfod cyffredinol blynyddol nesaf CGGSDd yn cael ei gynnal ym mis Tachwedd 2021 a byddai’n cynnwys cymeradwyo’r cyfrifon blynyddol.

·         Roedd cyllid ychwanegol i helpu i gefnogi gwaith cefnogi sy’n ymwneud â COVID-19 wedi dod i law trwy Grantiau Argyfwng Sector Gwirfoddol Llywodraeth Cymru (LlC) a gan Comic Relief.

·         CGGC oedd yn berchen ar adeilad Neuadd y Morfa ar Stryd yr Eglwys yn y Rhyl, nid CGGSDd. Byddai’r Prif Swyddog yn trafod y cynigion ar gyfer yr adeilad a’r posibilrwydd ar gyfer canolfan les gyda’u Prif Weithredwr, Ruth Marks.

·         Roedd gwefan newydd CGGSDd yn cael ei hadeiladu, a byddai’n cael ei rhyddhau fis Hydref.

·         Roedd gan CGGSDd swyddog oedd â rôl yn helpu grwpiau newydd i dyfu, cael cyfansoddiad, sefydlu trefniadau llywodraethu, a denu cyllid cynaliadwy.

·         Byddai’r newyddlen yn cael ei hadolygu a’i hailwampio yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a bydd Blogiau ac ati'n cael eu cyflwyno o bosibl.

·         Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi i adolygu’r gystadleuaeth Pentref Taclusaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Brif Swyddog CGGSDd a gofynnodd iddo  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y byddai’n trafod yr eitem fusnes ganlynol yn ei swyddogaeth fel Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anhrefn dynodedig y Cyngor yn unol â Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006, adrannau 19 a 20.

 

5.

PARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL pdf eicon PDF 229 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Diogelwch Cymunedol (copi ynghlwm), sy’n ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar lwyddiant y Gyd-bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i gyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2020-21, a’i chynnydd hyd yma wrth gyflawni ei chynllun gweithredu ar gyfer 2021-22. 

11:15 – 11:45

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel, y Cynghorydd Mark Young, yr adroddiad (dosbarthwyd eisoes). Er fod rhaid newid y ffordd roedd y Bartneriaeth yn gweithio oherwydd y pandemig, dywedodd eu bod wedi llwyddo i wasanaethu cymuned Sir Ddinbych trwy gydweithio – bob dydd gyda chydweithwyr yr heddlu – i ragweld problemau, delio â throseddau a monitro tueddiadau. Roedd cyllid ychwanegol wedi’i sicrhau ar gyfer sefydliadau’r Trydydd Sector sy’n gweithio dan ragor o alw.

 

Roedd tri ar ddeg o feysydd trosedd allweddol wedi’u monitro yn ystod y pandemig. Gwelwyd gostyngiad o ran niferoedd mewn deg maes, ond bu cynnydd mewn tri maes. Sef:

1.    Stelcio ac Aflonyddu;

2.    Cam-Drin Domestig ac

3.    Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol, Sian Taylor, at yr adroddiad ar y prif bwyntiau a oedd wedi’i gynnwys yn atodiad 1, a’r tri maes blaenoriaeth:

 

Blaenoriaeth 1 – Lleihau Trosedd ac Anrhefn yn Sir Ddinbych trwy weithio mewn partneriaeth.

 

Roedd y statws perfformiad wedi’i osod fel ‘derbyniol’ yn unig, oherwydd roedd yn cwmpasu stelcian ac aflonyddu a cham-drin domestig, a oedd wedi cynyddu dros y cyfnod clo.

 

Roedd y Bartneriaeth wedi parhau i gydweithio gyda’r Gwasanaeth Tân ac Achub, yr Heddlu, Iechyd a rhwydweithiau’r Trydydd Sector i rannu gwybodaeth yn ystod y pandemig. Roedd nifer o ddatganiadau i’r wasg wedi’u dosbarthu hefyd.

 

Roedd yr holl waith prosiect/gweithgareddau sy’n gysylltiedig â blaenoriaeth un wedi parhau, er bod hyn ar-lein a thros y ffôn yn hytrach nag wyneb i wyneb, ac aseswyd bod ei gynnydd yn ‘dda’.

 

Roedd Byrddau Rhanbarthol wedi cwrdd, ac roedd aelodaeth rhai wedi newid yn ystod y pandemig.  Aelod Arweiniol Cynllunio, Diogelu’r Cyhoedd a Chymunedau Mwy Diogel oedd Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Strategol Gogledd Cymru Mwy Diogel, ac roedd uwch swyddogion Sir Ddinbych yn mynychu’r cyfarfodydd. Roedd cyfarfodydd yr amryw Fyrddau yn cael eu cynnal yn rheolaidd, ac roedd cyfarfodydd rhannu gwybodaeth yn cael eu cynnal bob chwarter gyda staff Partneriaethau Diogelwch Cymunedol am safle Sir Ddinbych o ran perfformiad a materion eraill.  Yna gellid rhannu gwybodaeth o’r cyfarfodydd hyn gyda staff Sir Ddinbych pan fo angen.

 

Blaenoriaeth 2 – Lleihau achosion o aildroseddu.

 

Roedd perfformiad wedi’i osod fel ‘da’ oherwydd bu lleihad o ran troseddau gan oedolion ac ieuenctid, er bod cydnabyddiaeth nad oedd hi’n flwyddyn arferol.

 

Roedd y rhaglenni rheoli troseddwyr integredig wedi parhau, gan weithio mewn partneriaeth er mwyn nodi troseddwyr ieuenctid mynych sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Felly, roedd y diweddariad gweithgarwch prosiect wedi’i osod fel ‘da’ hefyd.

 

Blaenoriaeth 3 – Blaenoriaethau Lleol

 

Bu cynnydd bach o ran adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ffurf anghydfodau rhwng cymdogion yn ystod y pandemig, ond yn gyffredinol, roedd y perfformiad wedi’i osod fel ‘da’.

 

Roedd y gweithgareddau prosiect sy’n gysylltiedig â blaenoriaeth 3 yn ‘dda’ hefyd. Roedd cyfarfodydd wedi’u cynnal i fonitro ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd gwaith yn parhau i godi ymwybyddiaeth o’r Bwrdd Camfanteisio a Bregusrwydd Rhanbarthol o ran:

·         Cam-drin domestig

·         Caethwasiaeth Fodern a

·         Llinellau Sirol.

 

Gan gyfeirio at y data ystadegol (tudalen 26 a 27), ymhelaethodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar y tri maes lle gwelwyd cynnydd dros y flwyddyn a'r troseddau a oedd yn llunio pob un o'r categorïau hynny.

 

Stelcian ar-lein oedd y cynnydd mwyaf, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol. Cynghorwyd dioddefwyr i sicrhau bod eu proffiliau cyhoeddus yn breifat, er mwyn atal troseddwyr.

 

Roedd achosion o atgyfeirio at yr Uned Gwasanaeth Cam-Drin Domestig (DASU) wedi mwy na dyblu dros y 12 mis diwethaf. Roedd cyllid wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r anghenion mwy cymhleth a achoswyd gan ragor o ynysu a diffyg rhyngweithio cymdeithasol. Roedd y Bartneriaeth yn hyrwyddo llinell gymorth Byw Heb Ofn ac  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 304 KB

Derbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2021 (copi ynghlwm).

10:05 – 10:10

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2021.  Felly:

 

Penderfynwyd: - cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2021 fel cofnod cywir o’r trafodion.

 

Ni chodwyd unrhyw faterion o ran cywirdeb y cofnodion nac o ran unrhyw fater a adroddwyd ynddynt.

 

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

11:45 – 12:00

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cydlynydd Craffu at yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn gofyn i’r Aelodau adolygu rhaglen waith y Pwyllgor a rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol.

 

Roedd swyddogion yn parhau i ddisgwyl am gadarnhad gan y Bwrdd Iechyd ynglŷn â phryd fyddai ei gynrychiolwyr mewn sefyllfa i ddod i gyfarfod i drafod ei gynlluniau ar gyfer gwasanaethau yn Sir Ddinbych, gan gynnwys Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych a phrosiectau cyfalaf eraill yn y sir.

 

Roedd 4 eitem ar raglen y cyfarfod nesaf ar 4 Tachwedd 2021, gan gynnwys adroddiad perfformiad Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer chwarter 2. Byddai adroddiad chwarter 1 yn cael ei ddosbarthu cyn hir er gwybodaeth, ac i baratoi ar gyfer cyfarfod mis Tachwedd.

 

Yn gynharach yn y cyfarfod, roedd y Pwyllgor wedi awgrymu gwahodd Prif Swyddog CGGSDd yn ôl i roi’r wybodaeth ddiweddaraf. Cytunwyd y byddai chwe mis yn amserlen addas.

 

Roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi dyrannu'r eitem am Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru i’r Pwyllgor ei hystyried ar 16 Rhagfyr.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y dylid defnyddio’r Ffurflen Cynnig Testun Craffu pe bai ganddynt bwnc yr hoffent iddo fod yn destun craffu.

 

Felly:

 

Penderfynwyd:  - yn amodol ar y sylwadau a chynnwys yr uchod –

 

(i)           cadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor; a

(ii) chynnal sesiwn friffio rhag-gyfarfod dros y we ddydd Mercher, 3 Tachwedd 2021, am 10am.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

12:00 – 12:15

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Rhys Thomas wedi mynychu’r sesiwn Her Craffu Addysg a Gwasanaethau Plant ar 6 Gorffennaf 2021 a soniodd am y cadernid roedd y Gwasanaeth wedi’i ddangos dros y 12 mis diwethaf.

 

Dywedodd y Cynghorydd Christine Marston wrth aelodau y byddai hi’n mynychu cyfarfod Grŵp Cyfeirio Budd-ddeiliad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos ganlynol.  Roedd hi i fod i fynychu cyfarfod Bwrdd Prosiect Canolfan Asesu Plant Is-Ranbarthol Conwy a Sir Ddinbych yr wythnos ganlynol hefyd, lle disgwyliwyd y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa’r prosiect yn dilyn ymarfer ail-dendro diweddar ar ôl i’r cwmni gwreiddiol a benodwyd i adeiladu’r cyfleuster fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.  Cytunodd y Cynghorydd Marston y byddai’n adrodd yn ôl wrth aelodau am ganlyniad y cyfarfod hwnnw.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r cynrychiolwyr am adrodd yn ôl am weithgareddau a phenderfyniadau a wnaed mewn amryw fyrddau a Grwpiau yr oeddent yn cynrychioli’r Pwyllgor arnynt.  Felly:

 

Penderfynwyd:  - derbyn a nodi’r diweddariadau a gafwyd gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau, yn amodol ar ddarparu’r wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani, pan fydd ar gael.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.55am