Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cynghorydd Hugh Irving wedi dweud wrth y Cadeirydd y byddai’n hwyr yn ymuno â’r cyfarfod, oherwydd ymrwymiad cynharach.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ann Davies gysylltiad personol ag eitem 5 ar y rhaglen gan fod perthynas iddi’n gweithio i’r Bwrdd Iechyd.

 

Datganodd y Cynghorydd Joan Butterfield gysylltiad personol ag eitem 6 ar y rhaglen gan fod perthynas iddi’n gweithio i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys wedi eu codi gyda’r Cadeirydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rhys Thomas i’r Cadeirydd pam nad oedd y mater o gynnal rhag-gyfarfodydd, a godwyd ganddo fo yn y cyfarfod diwethaf, wedi’i gynnwys fel Mater Brys.  Dywedodd y Cydlynydd Craffu fod eitemau oedd yn cael eu codi fel 'Materion Brys' wedi'u diffinio mewn deddfwriaeth a'i bod yn rhaid iddynt felly gydymffurfio â'r diffiniad cyfreithiol i gael eu trin fel ‘Materion Brys’.  Cyfeiriwyd y Cynghorydd Thomas at eitem 7 yng nghofnodion y cyfarfod diwethaf a oedd yn cyfeirio at y cwestiynau a godwyd ganddo yn y cyfarfod a'r atebion a roddwyd.

 

O ran y posibilrwydd o gynnal rhag-gyfarfodydd eto, atebodd y Cadeirydd gan ddweud, yn unol â'r cyngor a gafwyd yn y cyfarfod diwethaf, ei bod yn teimlo nad oedd y busnes ar raglen y cyfarfod y diwrnod hwnnw’n gofyn am gynnal rhag-gyfarfod ac nid oedd unrhyw aelod wedi cysylltu â hi’n gofyn am un.  Fodd bynnag, pe bai mater ar y rhaglen yn y dyfodol lle byddai angen rhag-gyfarfod, byddai un yn cael ei drefnu.  Os oedd aelod yn teimlo y byddai rhag-gyfarfod o fudd, dylent gysylltu â'r Cadeirydd cyn gynted â phosib i ofyn am un.

 

 

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 387 KB

Derbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021 (copi ynghlwm).

10:05am – 10:15am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021 eu cyflwyno.

 

Penderfynwyd: - cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021 fel cofnod cywir o’r trafodion.

 

 

5.

BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BETSI CADWALADR GWASANAETHAU METHIANT Y GALON BIPBC YN SIR DDINBYCH A'I EFFAITH AR WASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL Y CYNGOR pdf eicon PDF 207 KB

Derbyn gwybodaeth ar statws cyfredol Gwasanaethau Methiant y Galon BIPBC a ddarperir yn Sir Ddinbych a ledled Gogledd Cymru (copi ynghlwm).

 

10:15 – 11:00am

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Dr Gary Francis, Cyfarwyddwr Meddygol Gofal Eilaidd (Dros Dro) yr adroddiad ar y cyd a baratowyd gan Phil Gilroy a Helen Wilkinson (wedi'i rannu ymlaen llaw) a oedd yn rhoi gwybodaeth am sefyllfa bresennol Gwasanaethau Methiant y Galon Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd yn cael eu darparu yn Sir Ddinbych ac ar draws Gogledd Cymru.

 

Eglurodd Dr Francis fod rhai agweddau ar Wasanaethau Methiant y Galon BIPBC yn y gorffennol wedi bod yn dibynnu ar ffynonellau cyllid dros dro; roedd hyn wedi achosi peth ansicrwydd i’r cyhoedd ynglŷn â darpariaeth y gwasanaethau hyn yn y dyfodol ac roedd wedi arwain at gais i'r Pwyllgor Craffu ystyried ymarferoldeb y Gwasanaethau yn y dyfodol a'r effaith bosib' o ddod â nhw i ben ar wasanaethau gofal cymdeithasol y Cyngor.  Cadarnhaodd Dr Francis fod y Bwrdd Iechyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau methiant y galon o fis Ebrill 2020 hyd y gellir rhagweld.

 

Roedd BIPBC yn llwyr gydnabod gwerth Gwasanaethau Methiant y Galon ledled Gogledd Cymru, a byddent yn parhau i gefnogi eu datblygiad heb unrhyw gynlluniau i leihau’r ddarpariaeth bresennol.  Roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod rôl allweddol gwasanaethau iechyd yn y gymuned i gefnogi iechyd a lles ar draws y rhanbarth, ac roedd yn eu cyfrif yn rhan greiddiol o ddarpariaeth eu gwasanaeth.  Roedd hefyd yn cydnabod bod angen ariannu gwasanaethau o’r fath yn ddigonol, a darparu sicrwydd tymor byr i ganolig iddynt y byddai cyllid yn cael ei ddarparu.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

·         O ran yr heriau oedd yn deillio o ofal yn y gymuned, gofynnwyd a allai mwy o wybodaeth gael ei rhannu gyda gofalwyr pan oedd cleifion yn cael eu rhyddhau o ysbytai.  Roedd BIPBC yn cydnabod yr heriau wrth ddarparu gofal yn y gymuned.  Roedd ar hyn o bryd yn gweithio ar welliannau gyda gwasanaethau gofal yn y gymuned ac roedd yn awyddus i glywed barn gofalwyr ynglŷn â sut y gallai'r gwasanaethau gael eu gwella.

·         Roedd y Bwrdd Iechyd yn cydnabod bod rhai achosion o oedi cyn rhyddhau cleifion o ysbytai, ond roedd yn gweithio'n galed i fynd i'r afael ag unrhyw oedi, ond y flaenoriaeth fwyaf fyddai sicrhau diogelwch a lles y claf/unigolyn dan sylw.

·         Gofynnwyd faint o gyllid fyddai ar gael ar gyfer Gwasanaeth Methiant y Galon ac am ba hyd y byddai’r cyllid ar gael.  Dywedodd cynrychiolwyr BIPBC y byddai’r cyllid ar gael cyhyd ag oedd y gwasanaethau oedd yn cael eu darparu’n diwallu anghenion y gymuned a'u bod y ffordd orau oedd ar gael i ddarparu'r gwasanaethau hynny'n ymarferol.  Gallai datblygiadau meddygol yn y dyfodol olygu bod angen adolygu a newid y ffordd o ddarparu'r gwasanaethau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr BIPBC am ddod i’r cyfarfod.  Cadarnhaodd fod y manylion oedd wedi'u darparu yn yr adroddiad ac wedi'u cyflwyno gan gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd yn y cyfarfod wedi lleddfu pryderon a godwyd yn flaenorol pan ofynnwyd am graffu ar y mater.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn y wybodaeth a ddarparwyd a

 

(i)   chroesawu’r sicrwydd a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn perthynas â'r cyllid presennol a thymor canolig ar gyfer Gwasanaethau Methiant y Galon yn Sir Ddinbych; a

(ii)  chydnabyddiaeth y Bwrdd Iechyd i bwysigrwydd gwasanaethau iechyd yn y gymuned a’r angen am eu hariannu a’u cefnogi’n ddigonol. 

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR DDIOGELU OEDOLION YN SIR DDINBYCH 1 EBRILL 2020 – 31 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 298 KB

Ystyried adroddiad gan Reolwr Tîm Gwasanaethau Diogelu Gweithredol (copi ynghlwm) sydd am i’r Pwyllgor adolygu cynnydd y Cyngor o ran trefniadau ac arferion diogelu lleol yn ystod y cyfnod uchod, a’u heffaith ar oedolion diamddiffyn yn y sir.

 

11:15am – 12:00pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth a Phennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol adroddiad (wedi’i rannu ymlaen llaw) oedd yn ceisio rhoi trosolwg i’r aelodau am effaith trefniadau ac ymarfer Diogelu lleol.  Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu cynnydd yn y maes gwaith allweddol hwn dros y deuddeng mis diwethaf trwy archwilio'r data oedd wedi’i gyflwyno gan yr Awdurdod Lleol i Uned Ddata Llywodraeth Cymru.

 

Er gwaethaf y pwysau oherwydd y pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau a osodwyd ar unigolion a sefydliadau gan yr argyfwng, roedd perfformiad y Cyngor o ran diogelu oedolion wedi parhau’n gryf, gyda gwelliannau mewn sawl maes, fel perfformiad yn ôl dangosydd perfformiad Llywodraeth Cymru ar ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 diwrnod gwaith.

 

Ar y cyfan, roedd gostyngiad sylweddol (40%) wedi bod yn nifer yr adroddiadau diogelu a dderbyniwyd o gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Fodd bynnag, roedd cynnydd wedi bod yn nifer y galwadau ffôn i’r tîm Diogelu i drafod materion diogelu.  Roedd hyn yn rhoi peth sicrwydd ei fod yn parhau i fod yn fater roedd darparwyr ac asiantaethau eraill yn canolbwyntio arno er y gostyngiad yn nifer yr adroddiadau.

 

Er derbyn llai o adroddiadau yn ystod blwyddyn 2020-21, nid oedd y Cyngor wedi gweld cynnydd mewn achosion oedd angen mynd ymlaen i gyfarfodydd strategaeth, a oedd yn debyg i dueddiadau’r blynyddoedd diwethaf.  Roedd ymholiadau adran 126 wedi dod yn rhan amlycach o ymarfer diogelu ar draws pob asiantaeth ac roedd y Cyngor yn parhau i weld mai dim ond yr honiadau mwy difrifol o gamdriniaeth neu esgeulustod oedd yn mynd ymlaen i gyfarfodydd strategaeth.  Roedd y camau ataliol i leihau unrhyw berygl o niwed pellach yn parhau i fod wrth wraidd y cam ymholiadau, gyda’r pwyslais ar ganlyniadau personol yr unigolyn yn ganolog i’r broses ddiogelu.

 

Roedd y Cyngor wedi parhau i gynnal ei berfformiad yn ôl dangosydd perfformiad Llywodraeth Cymru, wrth gwblhau 99% o ymholiadau o fewn y terfyn amser o 7 diwrnod gwaith ar gyfer 2020/2021.

 

Trafododd y Pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

·         p'un a oedd data ar gael ar gyfer y nifer o gwynion diogelu oedd wedi’u profi, gan mai nifer honedig yr achosion yn unig yr oedd yr adroddiad yn cyfeirio ato.  Oherwydd problemau cysylltiad technegol, cytunodd y swyddogion i ddarparu'r data i'r aelodau'n ysgrifenedig.  Fe wnaethant hefyd gadarnhau y byddai'r data am y nifer o honiadau â sail iddynt yn cael ei gynnwys mewn adroddiadau Diogelu yn y dyfodol.

·         Cadarnhawyd bod gostyngiad o 40% wedi bod yn nifer y bobl a oedd yn penderfynu preswylio mewn cartrefi gofal yn ystod y pandemig Coronafeirws.  Fodd bynnag, roedd cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr ymholiadau roedd Gwasanaeth yr Un Pwynt Mynediad yn eu derbyn yn ystod yr un cyfnod.

·         Byddai gosod cyfarpar teledu cylch caeedig yn ystafelloedd gwely preswylwyr mewn cartrefi gofal yn ddewis personol i’r unigolyn neu ei deulu/theulu.  Ni allai’r Cyngor osod cyfarpar teledu cylch caeedig yn ystafelloedd preifat pobl.

·         Roedd ansawdd gofal a diogelu’n ddau fater ar wahân.  Er y gallai fod rywfaint o bryderon ynglŷn ag ansawdd gofal mewn sefydliad, nid oedd hynny ynddo'i hun yn bodloni'r meini prawf neu'r trothwy statudol i gychwyn ymchwiliad Diogelu.

·         Roedd gan unrhyw unigolyn hawl i fynegi pryderon am ddiogelu a gallai'r rhain gael eu codi gyda nifer o wahanol unigolion neu sefydliadau.  Byddent i gyd yn y pen draw'n cael eu hystyried gan Banel Diogelu Corfforaethol y Cyngor.

·         Roedd darparu Adroddiad Diogelu Oedolion Blynyddol yn ofynnol yn statudol i bob awdurdod lleol yng Nghymru.  Roedd yn fodd o roi sicrwydd i breswylwyr bod diogelwch trigolion diamddiffyn y sir yn cael  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

12:00pm – 12:15pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (wedi’i rannu ymlaen llaw) yn gofyn i’r aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol.

 

·         Roedd swyddogion yn parhau i ddisgwyl am gadarnhad gan y Bwrdd Iechyd ynglŷn â phryd fyddai ei gynrychiolwyr mewn sefyllfa i ddod i gyfarfod i drafod ei gynlluniau ar gyfer gwasanaethau yn Sir Ddinbych.  Roedd y Bwrdd Iechyd yn disgwyl am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phrosiect Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych.

·         Cyfarfod 16 Medi 2021 – byddai Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gael i graffu arno.  Hefyd, roedd gan Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych Brif Weithredwr newydd oedd wedi dweud y byddai’n croesawu cyfle i drafod ei weledigaeth a’i gynlluniau ar gyfer y Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol gyda’r Pwyllgor, ynghyd ag unrhyw gyfleoedd i weithio gyda’r Cyngor yn y dyfodol.

·         Roedd Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu wedi mynegi ei fod yn dymuno i’r Pwyllgor drafod Ardrethi Annomestig Cenedlaethol a’u heffaith bosib’ ar ymarferoldeb manwerthu yng nghanol y dref.  Roedd rhagor o wybodaeth yn cael ei chasglu mewn perthynas â'r pwnc hwn cyn gallu ei roi ar raglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y sylwadau a'r pethau i’w cynnwys uchod, cymeradwyo rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.

 

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

12:15pm – 12:25pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd cynrychiolwyr canlynol y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau ddiweddariad am gyfarfodydd roeddent wedi bod ynddynt yn ddiweddar:

 

·      Roedd y Cynghorydd Jeanette Chamberlain-Jones wedi bod yng nghyfarfod herio Cymunedau a Gwasanaeth Cwsmeriaid lle’r oedd pryderon wedi’u mynegi ynglŷn ag ansawdd stoc dai Sir Ddinbych.  Roedd swyddogion wedi cytuno i ymchwilio i’r pryderon a mynd i'r afael â nhw.  Roeddent hefyd wedi dweud nad oedd Swyddogion Tai wedi gallu cynnal ymweliadau archwilio arferol â’r stoc dai oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

·         Roedd y Cynghorydd Hugh Irving a’r Cynghorydd Melvyn Mile wedi mynd i gyfarfod herio’r gwasanaeth Gwella Busnes a Moderneiddio.  Fe gytunodd y ddau y byddent yn anfon rhestr o’r canfyddiadau at y Cydlynydd Craffu i’w rhannu.

·      Roedd y Cynghorydd Irving hefyd wedi bod yng nghyfarfod Gweithgor Prosiect Adeilad Queen’s.  Oherwydd natur sensitif y materion a drafodwyd, byddai’n holi mewn cyfarfod yn y dyfodol pa wybodaeth y gallai ei rhannu gyda phwyllgorau eraill.

 

Felly:

 

Penderfynwyd:- derbyn a nodi’r diweddariadau a gafwyd gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.25am