Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: trwy gynhadledd fideo

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Ann Davies a Christine Marston.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau. Gweithredodd Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a’r Parth Cyhoeddus fel dirprwy yn ystod y cyfarfod.

 

2.

PENODI IS-GADEIRYDD pdf eicon PDF 50 KB

Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2021/2022 (gweler ynghlwm gopi o ddisgrifiad swydd ar gyfer Aelod Craffu a Chadeirydd / Isgadeirydd).

 

10.00 – 10.10 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer swydd Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn gyngor 2021/22.  Enwebwyd y Cynghorydd Emrys Wynne gan y Cynghorydd J Chamberlain-Jones a’i eilio gan y Cynghorydd David Williams.  Ni chyflwynwyd unrhyw enwebiadau eraill.   

 

Penderfynodd y Pwyllgor felly:

 

Ethol y Cynghorydd Emrys Wynne yn Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer blwyddyn gyngor 2021/22.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Wynne am ei gefnogaeth iddi dros y flwyddyn ddiwethaf, a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.  Diolchodd y Cynghorydd Wynne i’r aelodau am eu cefnogaeth ac am ymddiried tymor arall yn Is-gadeirydd y Pwyllgor iddo.

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 32 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

10.10 – 10.15 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

4.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

5.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 284 KB

Derbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021 (copi ynghlwm).

 

10.15 – 10.25 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau, a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021.  

 

Cynghorwyd yr aelodau yr ychwanegid rhagor o wybodaeth dan eitem fusnes 7 ar yr agenda, Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor, mewn perthynas â’r pwynt a godwyd ynghylch cynnal sesiynau briffio cyn cyfarfodydd y Pwyllgor.  Felly:

 

Penderfynwyd: - cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021 fel cofnod cywir o’r trafodion.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD UCHELGAIS ECONOMAIDD GOGLEDD CYMRU 2020/21 pdf eicon PDF 38 KB

Ystyried Adroddiad Chwarter4/Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar ei waith a'i gynnydd yn ystod 2020-21. (Adroddiad i ddilyn)

 

10.25 – 11.10 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Arweinydd, Aelod Arweiniol yr Economi a Llywodraethu Corfforaethol. Cyflwynodd yr Arweinydd y swyddogion oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem hon ar yr agenda: Alwen Williams – Cyfarwyddwr y Portffolio, a Hedd Vaughan-Evans – Rheolwr Gweithrediadau o Fwrdd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB), ynghyd â swyddogion o’r awdurdod. Clywodd aelodau am bwysigrwydd cyfarfodydd chwarterol a fynychid gan swyddogion er mwyn gweithio gyda thîm rheoli’r portffolio er mwyn deall, a dylanwadu ar, y gwaith rhanbarthol sy’n cael ei wneud.  

 

Eglurwyd bod yr adroddiad yn ddiweddariad ar y Fargen Dwf y cytunwyd arni gan y Cyngor Llawn. Eglurwyd bod y gwaith wedi dechrau ar gam darparu’r rhaglen waith. Rhan o’r cytundeb oedd adrodd i’r pwyllgor Craffu ddwywaith y flwyddyn er mwyn rhoi gwybod i’r aelodau am y cynnydd a wnaed. Eglurodd yr Arweinydd i’r aelodau lefel y gwaith a'r manylion sy’n angenrheidiol mewn perthynas â'r prosiectau cyn cyflwyno'r achosion busnes.

 

Arweiniodd Alwen Williams, Cyfarwyddwr y Portffolio, yr aelodau drwy gyflwyniad byr oedd yn darparu gwybodaeth gefndir. Eglurwyd mai bwriad y Fargen Dwf oedd darparu economi fwy bywiog, cynaliadwy a chadarn yng ngogledd Cymru. Adeiladau ar gryfderau sy’n bodoli eisoes er mwyn cynyddu cynhyrchiant a mynd i’r afael â heriau a rhwystrau economaidd hirdymor.  Eglurwyd bod tair amcan wario wedi’u nodi yn yr achos busnes. Nodwyd mai creu swyddi, Gwerth Ychwanegol Gros (GVA), a buddsoddi oedd y rhain. Clywodd aelodau mai’r amcan oedd creu hyd at 4,200 o swyddi.

Seiliwyd y Fargen Dwf ar ddarparu un ar hugain o brosiectau trawsffurfiol ar draws pum rhaglen (a ddiffinnir fel naill ai rhaglenni twf uchel neu raglenni galluogi).  Roedd dwy raglen yn canolbwyntio ar alluogi’r rhanbarth, a rhaglenni cysylltedd digidol, a thir ac eiddo, oedd y rhain. Ariannwyd y rhaglenni hyn gan y fargen dwf. Gobeithid y byddai cyflawni yn y sectorau hyn yn galluogi busnesau i fuddsoddi yn y rhanbarth a’r farchnad lafur er mwyn manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth newydd. Pwysleisiwyd bod y gwaith partneriaeth ar draws gogledd Cymru’n gydlynus ac yn effeithlon.

 

Darparodd Cyfarwyddwr y Portffolio ganllawiau pellach ynghylch cysylltedd digidol. Eglurwyd mai gwella cysylltedd digidol oedd y nod.  Roedd y prosiect yn mynd i’r afael ag anghenion cwsmeriaid a dinasyddion. Roedd y rhaglen ddigidol wedi nodi’r angen i gydbwyso buddsoddiad, isadeiledd a thechnoleg drwy fand eang sefydlog mewn safleoedd allweddol ac ardaloedd gwledig.  Eglurwyd bod dwy brif gydran wedi’u cynnwys yn y rhaglen ddigidol. Y cydrannau a gynhwyswyd oedd prosiect cysylltedd digidol a phrosiect arloesi gyda Phrifysgol Bangor.

 

Darparwyd gwybodaeth ynghylch y Rhaglen Tir ac Eiddo. Nododd y rhaglen fod diffyg tir ac eiddo addas i fusnesau eu datblygu. Clywodd aelodau fod sawl prosiect allweddol wedi’u setlo, yn cynnwys Porth Caergybi, safle Porth Gorllewinol Wrecsam, safle strategol allweddol ym Modelwyddan, Safle Strategol Bryn Cegin ym Mangor, hen safle Ysbyty Gogledd Cymru yn Ninbych, a Neuadd Warren yn Sir y Fflint.  

 

Roedd y tair rhaglen arall yn canolbwyntio ar gryfderau allweddol yn y sectorau gwerth uchel yn y rhanbarth. Nod y rhaglenni oedd cynyddu gwerth ac effaith y sector twf uchel. Y rhaglen gyntaf oedd un ynni carbon isel gyda’r nod o ddatgloi buddion economaidd prosiectau ynni carbon isel trawsffurfiol. Roedd y prosiectau oedd yn rhan o’r rhaglen ynni carbon isel yn cynnwys Morlais, prosiect ynni morol, Gorsaf Bŵer Trawsfynydd, canolfan ragoriaeth carbon isel yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor, ynni lleol clyfar a datgarboneiddio cludiant.

 

Roedd y Rhaglen Arloesi Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yn ceisio cadarnhau safle presennol gogledd Cymru fel clwstwr gweithgynhyrchu arloesol, gwerth uchel. Y bwriad oedd adeiladu ar arbenigeddau sefydledig yr ardal a datblygu arbenigedd er mwyn creu sail economaidd fwy amrywiol er  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 48 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

11.10 – 11.25 a.m.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) oedd yn gofyn i’r aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion perthnasol.

 

Bu trafodaeth ynghylch y materion canlynol:

·         Roedd atodiad un yn rhestru’r cyfarfodydd sydd i ddod a’r adroddiadau a gynigiwyd.

Adroddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch cynlluniau cyfalaf ar gyfer gwasanaethau yn Sir Ddinbych. Gwnaed cais i'r Cadeirydd ohirio'r eitem, gan fod y swyddogion iechyd yn aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cynllun busnes. Byddai’r eitem yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor ar y cyfle cyntaf unwaith y byddid wedi derbyn adborth gan Lywodraeth Cymru.

·         Nid oedd unrhyw eitemau wedi’u hychwanegu at y RhGD yn dilyn cyfarfod Grŵp y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion.

·         Cadarnhaodd y Cydlynydd Craffu bod gan y cyfarfod nesaf ar 8 Gorffennaf dri adroddiad arfaethedig, gyda’r posibilrwydd o ychwanegu adroddiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ato.

·         Cafodd aelodau wybod am yr anhawster cyfredol wrth weinyddu sesiwn friffio cyn cyfarfodydd.

Petai aelodau'n teimlo bod angen cynnal cyfarfod briffio cyn cyfarfod, dylent gysylltu â’r Cadeirydd a Chydlynydd Craffu i drafod hynny. Ar hyn o bryd, nid fyddid yn trefnu cyfarfod briffio ar gyfer pob cyfarfod.

·         Teimlai aelodau y byddai sesiynau briffio cyn cyfarfodydd yn fuddiol cyn derbyn adroddiadau'r Bwrdd Iechyd.

·         Pwysleisiodd aelodau bwysigrwydd derbyn adroddiad Cynlluniau Cyfalaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn gynted â phosibl, yn enwedig er mwyn mynd i’r afael â hen safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl. 

Deellid mai etholiadau’r Senedd oedd yn gyfrifol am yr oedi cyn derbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Bu i’r Pwyllgor:

 

Benderfynu: - yn amodol ar y sylwadau a’r arsylwadau uchod –

 

(i)           gadarnhau rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor (Atodiad 1); a

(ii)          petai hynny’n angenrheidiol, cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor i drafod cynlluniau cyfalaf y Bwrdd Iechyd yn Sir Ddinbych unwaith y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi derbyn ymateb gan Lywodraeth Cymru i’w achos busnes diweddaraf ar gyfer cyfleuster Ysbyty Cymunedol newydd yng ngogledd Sir Ddinbych.

 

8.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar wahanol Fyrddau a Grwpiau’r Cyngor.

 

11.25 – 11.30 a.m.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Cydlynydd Craffu wedi derbyn adroddiad gan y Cynghorydd Christine Marston ar ôl iddi fynd i gyfarfodydd dau grŵp lle roedd hi’n cynrychioli’r Pwyllgor. Darparodd y Cydlynydd Craffu’r adborth i’r Pwyllgor fel a ganlyn.

 

Y cyfarfod cyntaf yr aeth y Cynghorydd Marston iddo oedd Grŵp Cyfeirio Budd-ddeiliaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021. Eglurwyd i'r aelodau bod cynllun tair blynedd y Bwrdd Iechyd wedi'i ohirio oherwydd Covid. Eglurwyd y byddid yn mynd i'r afael â'r ôl-groniad pan fyddai'r cam adfer yn dechrau. O ran gofal wedi'i gynllunio roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gobeithio creu lleoedd.  Clywodd yr aelodau mai’r nod oedd creu ffenestr 6-8 wythnos o hyd ar gyfer ail ddos Brechlyn Covid, gyda’r gobaith na fyddai angen y canolfannau brechu ar ôl mis Gorffennaf.

 

Roedd gwaith ymgysylltu’r strategaeth ddigidol wedi dechrau ond roedd cyfyngiadau oherwydd Covid. Y bwriad oedd sefydlu un cofnod digidol i gleifion.  Cyflwynwyd Fframwaith Gwella Ymyriad wedi’i Dargedu (TIIF) er mwyn archwilio gwelliannau i sut roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gweithredu gyda’r bwriad o wella perfformiad. 

 

 

Roedd y Cynghorydd Marston hefyd wedi bod i gyfarfod Bwrdd Prosiect yr Uned Breswyl ar gyfer Plant, a gynhaliwyd ar 18 Mai 2021.  Cadarnhawyd mai enw’r uned newydd fyddai Bwthyn y Ddôl, ac y byddai wedi’i lleoli rhwng Pencadlys yr Heddlu a Pharc Eirias ym Mae Colwyn.  Gwariant presennol y prosiect oedd £2.6miliwn. Mae’r gwaith adeiladu ar y safle i fod i ddechrau ym mis Mehefin 2021, a’r dyddiad cwblhau arfaethedig yw mis Mai 2022.  Mae’r uned wedi’i dylunio i letya plant o Gonwy a Sir Ddinbych er mwyn iddynt gael triniaethau therapiwtig dwys. Byddai tair ardal yn y cyfleuster: - gofal wedi’i gynllunio ar gyfer cleifion mewnol, gofal heb ei gynllunio i gleifion mewnol, ac ardal asesu. 

 

Cadarnhawyd bod aelodau tîm amlddisgyblaethol eisoes yn eu lle. Roedd cynlluniau dros dro wedi’u llunio er mwyn lletya plant sydd angen gofal ar hyn o bryd, gyda llety dros dro ym Mae Colwyn. Roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud ar gostau cynnal parhaus yr uned hon yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cydlynydd Craffu am yr adroddiad ar sail presenoldeb y Cynghorydd Marston yn y cyfarfodydd.

 

Felly:

 

Penderfynwyd: - derbyn adroddiad y Cynghorydd Marston ynghylch trafodaethau diweddar yn Grŵp Cyfeirio Budd-ddeiliad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Prosiect yr Uned Asesu Breswyl Is-ranbarthol ar gyfer Plant.

 

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.40am