Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: by video conference

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Estynnodd y Cadeirydd ddymuniadau gorau’r Pwyllgor i’r Is-gadeirydd y Cynghorydd Emrys Wynne am adferiad llawn a buan ar ôl ei lawdriniaeth ddiweddar

4.

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF pdf eicon PDF 398 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio Perfformiad a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr, 2020 (copi ynghlwm).

 

10.05am – 10.10am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2020.

 

Ni chafodd unrhyw fater ei godi mewn cysylltiad â chynnwys y cofnodion.

 

Penderfynwyd: - derbyn cofnodion y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2020 a’u cymeradwyo fel cofnod cywir o’r cyfarfod.

 

5.

POLISÏAU’R CYNGOR A'R ASIANTAETH CEFNFFYRDD AR GYFER CYNNAL A CHADW YMYLON FFYRDD A PHERTHI A GWASGARU PLALADDWYR pdf eicon PDF 230 KB

I drafod ac ystyried adroddiad gan Bennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol ar bolisi’r Cyngor o ran cynnal a chadw ymylon ffyrdd/ perthi a gwasgaru plaladdwyr (copi ynghlwm).

 

 

10.10am – 11am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Tony Thomas - Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau a Phennaeth Priffyrdd, Cyfleusterau a Gwasanaethau Amgylcheddol gwybodaeth gefndir i’r aelodau am bolisi cynnal a chadw ymylon ffyrdd a pherthi a gwasgaru plaladdwyr yr adran Priffyrdd. Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn dilyn adroddiad blaenorol a gafodd ei drafod.

 

Codwyd y pwyntiau canlynol yn ystod y drafodaeth –

 

Atebodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd, Cyfleusterau ac Amgylcheddol a’r Rheolwr Uned Waith a Gwasanaethau Stryd gwestiynau’r aelodau mewn perthynas ag agweddau amrywiol o’r polisïau. Trafodwyd y pwyntiau canlynol mewn mwy o fanylder:

  • Cafwyd cadarnhad bod ymchwil wedi’i gynnal i’r plaladdwyr gwahanol sy’n cael eu defnyddio yn y sir. Fe wynebwyd heriau dros y blynyddoedd blaenorol ynglŷn â defnyddio plaladdwyr. Pwysleisiwyd wrth yr aelodau am y gofyniad i reoli chwyn gan ddefnyddio’r dull sydd â’r effaith lleiaf ar fioamrywiaeth ac ecoleg. Roeddynt wedi edrych ar ddatrysiadau i ddefnyddio plaladdwyr ac roeddynt yn parhau i ymchwilio iddynt yn flynyddol. Cafodd yr aelodau wybod eu bod wedi gofyn am ganllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwaith y mae’r awdurdod wedi’i gwblhau yn unol â’r Polisi Cenedlaethol.
  • Bu gweithio agos gyda’r grŵp cenedlaethol – Amenity Forum i edrych ar y ffyrdd gorau o ddelio â bioamrywiaeth tra’n rheoli twf chwyn yn effeithiol.
  • Cadarnhawyd bod 21 safle peilot wedi cael eu nodi fel safleoedd bioamrywiaeth man agored arbrofol.  Dewiswyd y safleoedd yma yn seiliedig ar eu maeth cyfoethog ac oherwydd eu potensial ar gyfer bioamrywiaeth anifeiliaid.  Y gobaith yw ymestyn nifer y safleoedd yn y dyfodol. Mae’r safleoedd wedi cael eu dewis gan y Gwasanaeth Cefn Gwlad fel y rhai mwyaf addas i annog bioamrywiaeth. Fe gadarnhawyd i ddechrau bod 97 safle wedi cael eu dewis fel safleoedd posibl. Mae gwaith wedi dechrau ar 21 safle a bydd 2 safle pellach yn cael eu datblygu dros y tymor sydd i ddod. Mae’r safleoedd posibl wedi cael eu sefydlu ar draws y sir pa unai ydynt o fewn ardal ddynodedig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) neu beidio.
  • Roedd Gwasanaethau Stryd yn gweithio’n agos gyda’r Gwasanaeth Cefn Gwlad i ddewis safleoedd posibl ar gyfer bioamrywiaeth yn y dyfodol.  Mae Sir Ddinbych yn cael ei ystyried yn arweinydd cenedlaethol yn y maes yma o waith.
  • Cadarnhawyd y byddai ymgynghoriad gydag aelodau lleol ynglŷn â safleoedd ychwanegol yn cael ei gynnal.
  • Roedd y Cyngor wrthi’n prynu offer torri a chasglu gwair newydd i’r Gwasanaethau Stryd ei ddefnyddio ar y cyd â'r Gwasanaeth Cefn Gwlad.    Mae'r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi llwyddo i gael arian grant tuag at gost yr offer.
  • Roedd aelodau eisiau diolch i swyddogion am ychwanegu biniau halen melyn yn ardal Llangollen, gan fod hyn yn lleihau’r halen rhag llithro o domenni o halen a’i effaith andwyol ar fioamrywiaeth ac ecoleg yr ardal.
  • Roedd hi’n anodd mabwysiadau un dull cyffredin i bawb ar draws y sir. Cymerir gofal wrth ddefnyddio plaladdwyr yng nghefn gwlad. Cafodd yr aelodau wybod bod cost y plaladdwyr yn ddrud ac felly dim ond pan mae ei angen y mae’n cael ei ddefnyddio. Er mwyn lleihau difrod amgylcheddol posibl, dim ond y swm isafswm o blaladdwyr sydd ei angen i fod yn effeithiol sy’n cael ei ddefnyddio i gwblhau’r gwaith. Cafodd aelodau eu cyfeirio at ddatganiad dull sydd wedi’i gynnwys ym mhecyn yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol).
  • Cadarnhawyd mai cyfrifoldeb y perchennog tir yn gyffredinol oedd cynnal a chadw canghennau a gwrychoedd sy’n hongian drosodd. Yr Awdurdod sy’n gyfrifol os ydynt yn hongian dros y briffordd. Mewn ardaloedd gwledig, roedd torri ymylon ffordd yn unol â’r polisi bioamrywiaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

RHAGLEN WAITH ARCHWILIO pdf eicon PDF 239 KB

Ystyried adroddiad gan y Cydlynydd Craffu  (copi wedi’i amgáu) yn gofyn am adolygiad o raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor a rhoi’r diweddaraf i’r aelodau ar faterion perthnasol.

 

11.15am – 11.30am

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar faterion perthnasol. 

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol –

·         Cytunodd yr aelodau i ohirio'r eitem busnes ar Gynlluniau Cyfalaf y Bwrdd Iechyd ar gyfer gwasanaethau yn Sir Ddinbych tan fis Mai 2021.

·         Byddai Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion yn cyfarfod yn y dyfodol agos ac fe allent ychwanegu adroddiadau pellach i raglen gwaith i'r dyfodol i'r Pwyllgor eu hystyried. Rhoddwyd cadarnhad bod dau adroddiad oedd yn ymwneud â Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych a Digartrefedd wedi cael eu cynnwys ar y RhGD gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Craffu, i’r Pwyllgor yn nes ymlaen eleni.

·         Nid oedd adroddiad ar gyfer cyfarfod y pwyllgor ym mis Ebrill ar hyn o bryd, cytunodd yr aelodau i gadw'r cyfarfod yn y dyddiadur. Os nad oedd unrhyw beth wedi llenwi’r rhaglen waith erbyn hynny, yna gellir ei ganslo’n agosach at ddyddiad y cyfarfod. 

 

Atgoffodd y Cydlynydd Craffu aelodau am y ffurflen cynnig craffu (Atodiad 2 a ddosbarthwyd eisoes) a dywedodd y dylid anfon unrhyw gynigion yn uniongyrchol ati hi fel eu bod yn cael eu hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Craffu er mwyn eu cynnwys ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 

7.

ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGORAU

Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a Grwpiau amrywiol y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cynghorydd Christine Marston wrth yr aelodau ei bod wedi mynychu cyfarfod o Fwrdd Prosiect Canolfan Asesu Gofal Plant Is-ranbarthol.

 

Rhoddodd ddiweddariad byr i’r Pwyllgor. Clywodd yr aelodau bod y grŵp cydweithredol yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe sefydlwyd y grŵp er mwyn goruchwylio trefniadau i ddatblygu uned arbenigol i asesu lleoliad plant. Fe eglurwyd mai Conwy fyddai’n arwain y prosiect gyda’r gobaith o greu’r uned yn Hen Golwyn. Yr enw arfaethedig ar y ganolfan oedd Bwthyn y Ddôl.  Byddai tîm amlddisgyblaethol yn cael ei leoli ar y safle i weithio gyda theuluoedd er mwyn atal pethau rhag gwaethygu a mynd mewn i ofal. Byddai angen gweithio gyda’r teulu cyfan, nid yr unigolyn yn unig.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau ei bod hi’n ddyddiau cynnar ar y prosiect a byddai'n fuddiol petai’r Pwyllgor yn derbyn adroddiad am y prosiect yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Cadeirydd y byddai’n ddiddorol gweld y prosiect yn datblygu a byddai’n croesawu adroddiad am y prosiect yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion ac aelodau am gymryd rhan yn y cyfarfod.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 10.55 a.m.

Dogfennau ychwanegol: